Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

HEREWARD YB OLAF O'R SAESON.

News
Cite
Share

HEREWARD YB OLAF O'R SAESON. PENOD XXIX. 'H fr oedd dy wyr di wedi dianc, o gwrs ?" ebe y Brenin William." Yr oedd pob un o honynt yn farw neu yn glwyfedig, gyda'r ei-bhriad o Richard, ac yr oedd efe yn ymladd gyda Sais, tra y safodd y chwech arall i edrych." j; Ie Yna hwy a ymladdasant yn deg? ebe William. Mor deg a phe buasent yn Ffrancod, ac nid Saeson. Fel yr elem i lawr ar hyd y clawdd, daeth un byr o honynt rhwng dan, gan daraw i lawr ein cledd- yfau fel pe yn ddwy frwynen. Wedi gorphen aeth ef a'i wyr i lawr at y dwfr." Gan adael Richard yn ddyogel?" Wedi ei glwyfo ychydig, ond yn eithaf dyogel." Ae yna?" II Canlynasom hwynt at eu cwch mor gyflymed ag y gallasom daliasom un o honynt, a lladdasom y llall." Wedi ei gyflawni yn farchogol," a rhoddodd William reg, "ac yn deilwng o Ffrancwyr. Y mae y Baeson hyn yn rhoddi i chwi esiampl trwy adael Ïch cyfaill ymladd ei frwydr yn deg, yn lie ymosod arno oil; a'r ad-daliad a wnaeth- och chwithau oedd eu canlyn fel gwaed- gwn, a hyny am na feiddiai neb o honoch fyned o hyd cyrhaedd cleddyf gwell dynion na chwi. Ewcb, y mae arnaf gywilydd o honoch. Na, safwch, pa le y mae eich carcharor ? Conya y maeyn gicr y dylwn ei anfon yn ol yn gyfnewid am Dade, er dangos iddynt fod William o Rouen yn deall cyfreithiau rhyfel fel hwythau." "Y carcharor, sir," ebe y marchog dan gryniu Nid ydych wedi ei lofruddio?" Nac ydym, ond "Efe a. dorodd ei gadwynau ac a ddi&ngodd, y mae yn debyg? Yn ol pob tebyg, efe a gnodd y oadwynau, ac a ddiangodd yn ystod y tywyllwch." "A ddywedodd efe ddim wrthych cyn dymuno boreu da i chwi ?" "Efe a roddodd enwau yr oil. Yr hwn a darawodd gleddyfau y ddau oedd Hereward ei hun." Yr oeddwn yn meddwl mai e. Pa bryd y caf y gwron hwnw wrth fy ochr?" Yr hwn a ymladdodd a Richard oedd un Wenoch." "Yr ydwyf wedi clywed am dano yntau." "Yr hwn a laddasom oedd Siward, mynach." Mwyaf oil eich cywilydd." A'r hwn a gymerasom yn garcharor oedd Ayer yr Hardy—mynach o Nicole —Licole"—nis gallai y Normaniaid byth ddweyd Lincoln. Y lleill oedd- ynt Thurstan yr ieuangaf, Leofric y diacon, caniedydd Hereward, a Boter, mynach bradychlyd St. Edmunds."

PENOD XXX.

Y CHWILLYS PABYDDOL.

0 NEWYDIADURON CYMREIG AMERICANAIDD.

Advertising

.'.... EISTEDDFOD ABEBAFON.