Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
AT ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN.
AT ETHOLWYR SIR GAERFYRDDIN. FONEDDIGION,-Y mae y Mesur Diwyg- iadol mawreddog a ddygwyd i mewn mor hynod ac mor anghyson gan y Weinyddiaeth Doriaidd wedi dyfod yn Gyfraith, ac fe'i dygir cyn hir i weithrediad. Bydded i ni fod yn ddiolchgar am y rbagorfreintiau ychwanegol a sicrhawyd drwyddo i bobl y wlad hon, gan adael y blaid Doriaidd i gysoni eu hymddyg- iadau oreu y gallont, gyda chywirdeb a chyd- wybodolrwydd gwleidyddol. Etholwyr Sir Gaerfyrddin! o dan yr hen gyfundrefn y mae y Toriaid hyd yn hyn wedi cadw iddynt eu hunain, mewn gorphwysdra tawel a digyffro, yr anrhydedd o'ch cynrych- ioli chwi yn y Senedd. Yr wyf fi yn awr yn dyfod yn mlaen yn y gobaith y bydd i chwi, o dan y gyfundrefn newydd, dori trwy yr ar- feriad hynafol hon, ac ethol o leiaf un aelod Rhyddfrydol dros y Sir. Os bydd i mi lwyddo i gyrhaedd yr anrhydedd o'ch cyn- rycbioli chwi, ymdxechaf brofi fy bun yn deilwng o'ch ymddiried, drwy fy ymlyniad diwyro wrth egwyddorion mawrion rhyddid gwladol a chrefyddol, pa rai ydynt wedi bod yn fywyd ac enaid derchafiad y deyrnas hon i'w mawredd presenol; a barnwyf fod ymar- feriad pellaeh o'r egwyddorion. hyn, hyd nes byddo pob llyfFethair ar grefydd wedi ei sy- mud, yn hanfodol i'n llwyddiant dyfodol. Braidd y mae yn angenrheidiol i mi eich adgofio y bydd i un pwnc o bwysigrwydd neillduol lyncu i fyny sylw y Senedd ddyfod- ol, hyny yw—yr Eglwys Wyddelig. Ar y pwnc hwnw, Foneddigion, gannad beth fyddo anhawsderau ymarferol y mater-a pha fesur pwysig sydd heb ei wrthwynebiadau i'w gorch- fygu?—er ei bod yn ofidus genym orfod dolur- io teimladau rhai o'n brodyr Protestanaidd yn yr Iwerddon-y mae yn ymddangos i mi nas gall dyn cyftawn goleddu ond un syniad, sef, nad oes gan eglwys y lleiafrif un haw I i gynal- iaeth oddiwrth fwyafrif y bobl. Yr wyf gan hyny yn barod, er pob aberth, pa mor boenus bynag, i bleidleiso dros osod Pabyddiaeth a Phrotestaniaeth yn yr Iwerddon ar dir hollol gydradd. Y mae yr Ysgrif Ddiwygiadol newydd wedi gosod ar bwnc mawr Addysgiaeth bwysig- rwydd anferthol ac arbenig. Y mae dosbarth- iadau newyddion o etholwyr wedi eu galw i fodolaeth. Pa fwyaf addysgedig y byddont, goreu oil y medrant gyflawni eu dyledswydd bwysig, ac y deuant i ddeall y eyfrifoldeb mawr perthynol iddi. Ond yn ein holl ym- drechion i gefnogi Addysg y Werin, fy nghred gadarn I ydyw, fod yn rhaid bod yn ofalus iawn i osgoi pob rhith o ymyraeth a chredoau" cre- fyddol y gwahanol enwadau Cristionogol i ba rai y mae y wlad hon yn rhanedig. Nis gallaf fi ddeall egwyddorion "rhyddid crefyddol" mewn unrhyw ffordd arall. Wrth derfynu, goddefwch i mi ychwanegu, os caf fy ethol, y bydd i mi ymgyflwyno yn ddifrifol i ystyried llesiant y Sir hon, adnodd- au naturiol pa un nid ydynt yn gofyn ond dadblygiad llawn, er ei gwneud mewn amser dyfodol yn un o'r rhanau mwyaf llwyddianus 3m y Deyrnas Gyfnnol. Ydwyf, Foneddigion, Eich ffyddlonaf was, EDWARD JOHN SARTORIS. 9, Park Place, St. James's, Llundodn, Gorph. 15fed, 1868.
Tsjroldj Brytanaidd Hirwaiin…
Tsjroldj Brytanaidd Hirwaiin CYNELIR EISTEDDFOD TN Y LLE VCHOD, Dan nawdd Budd-gymdeithas Hirwaun," DYDD NADOLIG, 1868. CEBDDOBIAETH. £ a. C. I'r Cor o'r un gynulleidfa, ddim dan 30 o rif, a gano yn oreu "Mawr a Rhyfedd," o'r Gyfres Gerddorol, rhif 21 .800 I'r Cor o'r un Gynulleidfa, ddim dan 30 o rif, a gano yn oreu "Y Nos," o Geinciau'r Gerdd, gan Alaw Ddu 3 0 0 I'r Cor o'r un Gynulleidfa, ddim dan 20 o rif, a gano yn oreu Ewing;" gwel rhif 106, Llyfr Tonau Cynulleidfaol gan StephenaJonea —1 0 0 I r Cor a gano yn oreu "Daughters of Jerusalem," Musical Times, No. 290 0 15 0 I'r deg a gano yn oreu Sigh no more Ladies," Novello's Standard Glee Book 0 10 0 I'r wyth a gano yn oreu CI Ciliodd ftwii" Gwyddonydd Cerddorol. Rhan 4 0 10 0 I'r pump a gano yn oreu Y Chwarel- wr." Cerddor Cymreig, Medi 1868 0 8 0 I'r tri a gano yn oreu cc How merrily we Lire," Novello's Standard Glee Book 0 6 0 I'r ferch a gano yn oreu unrhyw Gan Foesol-yn Gymaeg nen Saesneg 0 3 0 I'r gwryw a gano yn oreu unrhyw Gan Poesol—yn Gymraeg neu Saesneg 0 3 0 ADRODDIADAU. I'r ferch dan 16 oed, a adroddo yn oreu M Trueni gwraig y Meddwyn" 0 2 0 gr Fr mab dan 12 oed, a adroddo yn oreu "Myned i'r Beudy" 0 1 6 I'r mab neu'r ferch dan 16 oed, a adroddo yn orea "Bedd Y Dyn TyJawd" 0 2 6 I'r mab dan 18 oed, a adroddo yn oreu "Dowch i'r Eisteddfod" 0 2 6 I'r un a ddarlleno yn oreu ddarn a roddir ar y pryd 0 16 Yr adroddiadau i ymddangos yn y GWLAD- GABWB am Medi 26, neu gellir eu cael trwy yr Ysgrifenydd, trwy anfon dau stamp. Eeirpiad y Gerddoriaeth—Mr John Thomas, Blaenanerch. Y cystadleuwyr i anfon eu henwau i'r Ysgrifen- ydd erbyn Rhagfyr IK, 1868. Mynediad i mewn trwy docynau Is. yr un. Plant dan 15 oed, 6c. yr un. Y cyfarfodydd i ddeohreu am 10, 2, a 6 o'r gloch. M. J. RBES, Station-street, Ysgrifenydd.
Advertising
Cwmafon Boys" School-room. CYNELIR EISTEDDFOD FAWREDDOG YN Y LLE UCHOD, ITADOLIO- 1868. Llywydd-Mr J. Jenkins, Cwmafon Office- Cadeirydd-Mr W. Lewis, House Agent. Try- sorydd—Mr T. Williams, Gower Street. Beirniad y Traethodau, y Farddoniaeth, y Dar- lnniau, yr adrodd a'r areithio, Mr. R. Morgan, (Rhydderchab Morgan.) Beirniad y Ganiadaeth a'r Gerddoriaeth, Mr R. Beynon (Asaph Glan Taf.) Y PRlF DDABNAU. "Y Gwanwyn." o'r Cerddor Cymreig, £10. Marwolaeth y Cyfiawn," o'r Gyfres Gerddorol Gymreig, £4. Rhaid i'r cor fod o'r un gynulleidfa, a dim dan 40 o niier; ond caniateir dewisiad arweinydd. Y Programme, yn cynwys yr holl destynau, amodau, a'r darnau adroddiadol, i'w gael am ddau stamp gan yr Ysgrifenydd,— EVAN HAVABD, 8, Engine Row,rjCwmafon, Near Taibach. LEWIS Cabinet Maker, Uphols- terer, 4c. 4, Canon Street, Aberdar. A ddymuna hysbysu i'r cyhoedd yn gyffredinol ei fod wedi agor. Ystorfa o Gelfineu Ddodrefn Tai 0 bob math yn y He uchod, He y gobeithia y bydd iddo dderbyz oyfran o gefnogaeth y cyhoedd. Bydd stock helaeth o Gelfi, o WBeuthuriad cartrefa bob amser ar law, a'r rhai hyay o'r defnyddiau a'r gwnoa- thnriad goreu. CYARPETS AND FLOOR CLOTHS OF THE BEST QUALITIES. q- Cyflawnir pob archeb gyda'r gofal mwyaf. Cyfeiriad, -Lewis Thomas, 4, Canon Street, Aberda r. O. JOIEI, 34, High Street, Aberdare, ADDYMUNA hysbysu y cyhoedd fod ganddo eithaf cerbyd a cheffyl, yn barod bob amser at unrhyw Anghladd neu daith Gellir eu cael am bris rhesymol ar Hir, ond rhoddi ychydig orian o rybydd yn mlaen llaw. MUSIC HALL ABERTAWY. CYNELIR EISTEDDFOD yn y lie uchod, DYDD LLUN, HYDREF 5, 1868, yn lie yr hon oedd i'w chynal Gorphenaf 6. PRIF DESTYNAU. £ s. c. CERDDORIAEHI. 1. I'r cor o'r un gynnlleidfa, ddim dan 43 o rif, a gano yn oreu Marwolaeth y Cyfiawn," o'r Gyfres Gerddorol, gan J. A. Lloyd. 10 0 0 2. I'r Brass.. Band a chwareuo oreu "The Heavens are Telling," Novello's Edition. 7 0 0 Beirniad y Gerddoriaith,—Eos Rhondda. Caniateir i'r Corau ddewis Arweinydd. Bydd programme o'r holl destynau i'w gael ond anfon dwy stamp at yr Ysgrifenydd, John Daniel, Grocer, Pentre Estyll, Swansea. W A |-p-Fn"NTSJ General Insurance Agent, Collector of Rents, &c. REPRESENTS the Royal Insurance Com- pany, Fire & Life Capital £2,000,000, Sterling. Insurances taken up to any amount on most advantageous terms. Farm Stock at 5s. per cent. He also effects Insurances in the following de- partments :-Annuities & Endowments for Accid- ental Deaths; and all kinds of Accident, includ- ing Railway Accidents; Weekly Compensation in case of Personal Injury; or Weekly Allowance in case of Sickness and Death- Also a Funeral Fund for Children and Old Age. Plate Glass Insurance. Address :—W. WATKINS, 16, Commercial-street, Mountain Ash. T V7. JOISTIES BEGS respectfully to announce to the in- habitants of Aberdare that he has com- menced business aa AUCTIONEER, HOUSE, and GENERAL COMMISSION AGENT, and trusts that by careful attention to all favours with which he may be entrusted to merit a share of patronsge and support. Advances made on all descriptions of Furniture consigned for sale, Rents collected, Accounts promptly settled. 20, Commercial-street, Aberdare.
BWRDD Y GOLYGYDD.
BWRDD Y GOLYGYDD. DAFYDD JOHN.—Yn sior, nid yw y peth yn werth i ni ail ymgymeryd ag ef eto. WIL O'R CwM.—Hae y cyfaill yma yn cyd-olygu a syniadau Deryn Du, yr wythnos fiaenorol, am ragoriaethau Cymdeithas Gydweithredol Cwm. aman, ac yn teimlo dyddordeb neillduol yn ei llwyddiant. THOMAS THOMAS, TWYN-YB.ODYN. Teimla y cyfaill hwn yn awyddus iawn am eglurhad gan Carwr Cyfiawnder, (er mwyn tangnefedd fw fynwes ei hunan,) pa un o eglwysi y Bed- yddwyr yn Merthyr sydd wedi bod yn def- nyddio y screw mor galed ? Fe allai y bydd Carwr Cyfiawnder mor garedig ag anfon llythyr cyfrinachol iddo yn egluro hyn. R. WimAMS.—Yr oedd beirniad wedi ei neillduo gan y cyfarfod llenyddol. a chan mai efe a osod- wyd, ei fam ef, beth bynag fuasai, oedd i sefyll. Os oedd bai yn rhywle, ei neillduo yn y cychwyn oedd yn feius. Nid ydym yn bwr- iadu agor y drws i ail feirniad heb drwydded, ond yn unig ei farn ei hun i ruthro arno. W. WYN.—Daeth yr Ymweliad i law. Caiff ym- ddangos mor fuan ag y bo modd. Y mae pethau pwysicach yn hawlio lie yn ein colofn- au yr adeg yma. Anmhosibl yw i ni gy. hoeddi pob peth a anfonir atom. CARWR RHYDDID.—Gwnaethom ein goreu i ddarllen eich hysgrif. Yr oeddem yn credu, pe gallasem fyned trwyddi, ei bod yn dda. Ond yn anffortunus, cyn ein bod yn y canol, darfyddodd ein hamynedd, a gorfu i ni ei rhoi o'n dwylaw. Y mae eich sillebiaeth mor hynod ganolig, fel na fedrem yn ein byw wneud dim 0 honi. OCHENAID.- Yr ydym wedi anfon eich llythyr i Dewi Wyn o Essyllt ar unwaith. LLWYNOG 0 HIBWAUN.—Yn wir, gyfaill, nid oes dim yn yr ysgrif yn rhoddi teilyngdod i'w chyhoeddL Cedwchyn eich cof duedd ac am- can newyddiadur. Rhaid i chwi dreio eto, a threiwn ninau gael He i chwi.
TALIADAU.
TALIADAU. J. H. C., Caerdydd. D. M., Penycoed. J. E. I., Pontypridd. 1. H., Merthyr. H. W., Ys- tradgynlais. J. J., Cwmtwrch.
■MLJ^JDOGr LLWYD
■MLJ^JDOGr LLWYD Sef Nofel Filwrol a Charwriaethol, seil- iedig ar ffeithiau hanesyddol cysylltiedig ag helyntion Owain Glyndwr a'i wyr.
[No title]
Trwy fod y Nofel uchod i ddechreu yn y GWLADGARWR am yr wythnos gyntaf yn Hydref, dymunir i'r dosbarthwyr alw sylw ein derbynwyr at hyn, a bod yn brydlawn f anfon i mewn, os bydd unrhyw gyfnewidiad yn nifer y derbynwyr.
[No title]
Cyfeiri'er y GOHEBIAETHAU, a'r ADOLYGIADAU —"To the Editor of the Gwladgarwr, Canon-street, Aberdare." Pob Archebion a Thaliadau i'w gwneud i "Walter Lloyd, GWLADGARWR Office, Aberdar."
MR. H. RICHARD A'R ETHOLWYRT
MR. H. RICHARD A'R ETHOLWYRT Yr ydym yn'llawenhau yn ddirfawr am fod ein cydwladwr haeddbarch, Mr. H. Richard, wedi cyfarfod a'r fath dderbyniad croesawgar yn yr holl leoedd y bu efe yn ymweled a hwynt; ac fod yr etholwyr wedi rhoddi y fath arwyddion diamheuol o'u hymlyniad wrth egwyddorion rhyddfrydig. Nid oes dim bellach, ond eisiau gweithio yr egwyddorion a broffesir allan, na cheir buddugoliaeth lwyr. O'r holl anerchiadau a ddarllenasom, y rhai a draddodwyd gan hen aelodau, a chan ymgeis- wyr newyddion, nid ydym wedi cael neb yn myned i'r byw fel y mae Mr. Richard. Y mae efe yn agor pethau i'r gwraidd ac yn mynegu, yn ddidderbyn wyneb. y gwastraff cywilyddus sydd yn cael ei arfer gydag arian y wlad yr hon sydd yn gruddfan dan feich- iau gorthrymus y trethi. Dyna un o'r prif bynciau a ddylai gael ei ddal 0 flaen y deyr- nas sef, y naw a dimai o bob swllt, neu, yr un swllt ar bymtheg 0 bob punt,- a werir yn achosion rhyfel; mewn gair, y can gini bob mynyd, ddydd a nos, a werir at gynal sefydl- iadau milwrol a llyngesol! Nid ydyw y bobl gyffredin wedi meddwl haner digon yn nghylch y mater yma ac yn wir y mae y mater yn cael ei gadw yn ormodol o'r golwg, hyd yn nod gan rai Seneddwyr a broffesant egwyddorion rhyddid. Rhyw faldordd di- synwyr a geir gan y rhan fwyaf o honynt; megis a geir gan y Toriaid a son am yr Eg- lwys; ac, er eu bod hwy yn Eglwyswyr eu bod am ganiatau rhyddid i'r Ymneillduwyr. Diolch yn fawr iddynt am eu hewyllys da, ar ol helpu eu hunain hyd eithaf dymuniad eu calonau, am daflu ambell asgwrn i'r Anghyd- ffurfwyr. Nid peth fel hyn sydd arnom ni eisiau; ond dynion gonest am gyfiawnder i bawb fel eu gilydd ac os gwneir hyny gor- fydd i'r Eglwys gynal ei hachos ei hun, fel rhyw sect arall, yn lie gorfodogi estroniaid nad ydynt yn cael dim oddiar ei llaw, trwy fin y cleddyf, i roddi o'u meddianau at ei chyual. Yr ydym ni wedi synu mwy at haerllugrwydd y Toriaid, yn ddiweddar, nag a synasom erioed o'r blaen, fod ganddynt wyneb i ofyn am bleidlais Ymneillduwr oblegid y mae ypeth mor wrthun a direswm. Yr un peth fyddai iddynt ddweyd, "Rhoddwch eich pleidlais ini, a gwnawn ein goreu i'ch gwrthwynebu ac i'ch gorthrymu chwi a'ch crefydd; dodwn arnoch ieichiau na fuont amoch erioed o'r blaen, os gallwn cauwn ddrysau Rhydychain a Chaergrawnt yn eich erbyn am byth; gwnawn 1 chwi a'ch hiliogaeth dalu at gynal yr Eglwys yn oes oesoedd trethwn chwi i'r byw, fel y caffom ddigon o arian i gynal Byddin a Llynges i adeiladu llongau mawr rhyfel, ac i'w tynu yn dipiau i roddi byw- ioliaethau breision yn nghyraedd ein plant a'n hwyron a'n perthynasau hyd y nawfed ach am wneuthur dim! Caiff cefn John Bull deimlo ein pwysau nes y bydd ei gluniau yn gwegian dano gan y baich, os anfonwch chwi ni i'r Senedd. Cwtogwn eich rhyddid i addoli fel y mynoch, yn y man y mynoch, drwy beidio rhoddi modfedd 0 dir i chwi byth i adeiladu capel arno a'r hen amoiau rwymau (leases) sydd ar gapeli, pan ddelont i fyny, ni chant eu hadnewyddu caiff yr hen adeiladau cysegredig, lie bu sain can a moliant, fyned yn gytiau own hela, neu yn drigfa adar bwn a dylluanod. Ie, gwnawn ein goreu i geisio di- wreiddio Ymneillduaeth o'r tir, drwy godi rhenti tiroedd i grogbris nad all un Ymneill- duwr dalu am danynt." Y mae hyn yma, a llawer iawn mwy, yn anian Toriaeth; ond bod ei phleidwyr yn rhy lwfr a gwan galon i ddadgan eu hegwyddorion ac eto ceir gwyl- anod (gulls) 0 Ymneillduwyr yn ddigon meddal i bleidio y fath orthrymwyr, ac i gy- meryd coler am eu gyddfau. Gwell fyddai gan y Toriaid gael y byd megis yr oedd yn y dechreu, heb neb yn deall dim am ei hawl, nao, Fod o'r diwedd y plant bach Yn ddoethach na henafgwyr," megis y maent yn dyfod yr oes hon. Fel y cynyddo addysg a gwybodaeth, fe dderfydd Toriaeth 0 ran ei hawdurdod. Ni fydd dyn- ion wedi eu goleuo mor hawdd eu marchog- aeth ag y mae trigolion Cymru wedi bod. Y maent wedi dysgu llawer 0 bethau na wyddent o'r blaen, yn ymweliad Mr. H. Richard y tro hwn, a deuant i wybod llawer 0 bethau eto.
CYNRYCHIOLYDD HEB DDYWEYD…
CYNRYCHIOLYDD HEB DDYWEYD EI GREDO. "Mwyaf fyddo dyn byw mwyaf a wel ac a glyw." Yr ydym ninau wedi cael byw i weled llawer etholiad cyn yr un presenol ac i glyw- ed pa beth oedd ymgeiswyr yn arfer ddyweyd wrth y rhai a'u hanfonent. Yr ydym wedi cael clywed pa beth yw golygiadau y tri ym- geisydd sydd am gael cynrychioli Merthyr ac Aberdar, a llawer ereill; ond nid ydym wedi gweled neb eto ond Mr Pugh, sir Gaer, yn gwrthod mynegu pa beth yw ei olygiadau gwladol; ond sydd yn dewis cael bod yn rhydd i wneud fel y myno neu mewn geiriau ereill, i gael bod yn hollol annibynol." Rhaid fod gwr fel hyn yn tybio fod y bobl yn wirion iawn, os ydyw yn dysgwyl cael ei ethol gan- ddynt oblegyd os ydyw am fod yn annibynol, ny eled i'r Senedd yn annibynol: pa beth y mae efe yn gesiio gan yr etholwyr ? Ond os ydyw yn dibynu ar yr etholwyr, ac os oes angen cael barn yr etholwyr arno, a'u pleidlais drosto, ai annheg yw i'r etholwyr ofyn pa beth yw ei farn'a'i olygiadau yntau, fel y deallont i ba dclyben y maent yn ei ethol ? Pan fyddir yn rhoddi galwacl i weinidog, y peth cyntaf a ofynir yw yn nghylch ei gredo nid oes un Eglwys drwy Gymru na Lloegr mor hurt a rhoddi galwad i weinidog heb wybod yn gyntaf pa beth sydd i'w ddysgwyl oddiwrtho. Nid oes neb yn dewis gwas na morwyn, na gor- uchwyliwr, heb wybod yn lied dda pa beth a allant wneuthur, a pha beth allant ddysgwyl oddiwrthynt; ac a oes rhyw rheswm i fwr- deisdref, neu sir, ethol cynrychiolwr am saith mlynedd, na wyddant ar wyneb y ddaiar pa fodd y bydd yn debyg 0 bleidleisio yn eu henwau. Gan nad oes fodd i gynrychiolwr fyned i'r Senedd heb y bobl, teg yw i'r bobl gael gwybod, cyn cychwyn, pa beth y mae efe yn fwriadu wneuthur drostynt; ac nid ei adael yn greadur penrhydd, i bori 0 bob tu i'r pawl, fel y byddo ei gyfleusdra ef ei hun yn caniatau. Na myner cael allan 0 bob un pa beth y mae yn feddwl, neu gadawer ef i'w feddyliau a'i fyfyrdodau ei hun, wneud fel y myno. Rhywbeth yw cynrychiolwr fel ysgol feistr i wneuthur gwaith gosodedig dros ereill. Gelw- ir ysgol feistr i ardal am fod yn haws, ac yn rhatach i deuluoedd gyd-dalu iddo ef am addysgu eu plant, na chymeryd y gorchwyl bob yn un arnynt eu hunain a gelwir cyn- rychiolwr i fwrdeisdref, neu sir, am fod yn haws anfon un neu ddau i'r Senedd i gynrych- ioli y miloedd, nag a fyddai i'r miloedd fyned yno eu hunain oblegyd y mae gan bob etholwr, ar ei ben ei hun, hawl i gael ei glyw- ed yn Senedd y bobl oblegyd Ty y Cyffredin y gelwir y Ty isaf. Pe byddai dyn yn myned yno yn bersonol, dywedai ei feddwl drosto ei hun, a dysgwylir i'r cynrychiolwr ddyweyd ei feddwl dros y ewbl oil. Os na fydd cynrych- iolwr o'r un farn a'r etholwyr, ni ddylai ryfygu gofyn iddynt ei anfon i'r Senedd canys ni byddai hyny ond twyll drwy ymddiried; y gwaethaf 0 bob twyll. Nid allwn lai na synu at haerllugrwydd ymgeisydd a ddelo i ymofyn am gael myned yn gynrychiolwr heb fynegu wrth neb i gynrychioli pa beth y bydd yn myned Gwell fyddai addef ar unwaith ei fod yn myned yno naill ai i gynrychioli y tir, oy 11 y tai, yr anifeiliaid, yr ysgyfarnogod, y petris, a'r adar gwylltion ereill, ac nid i gynrychioli dynion a'u golygiadau.
[No title]
TRELYN.—Cynaliwyd cyngherdd ardderch- og yn y lie uchod, Medi 14eg. Cafwyd neuadd y Drill Hall yn rhad i'w gynal. Llywydd y gyngherdd oedd Christopher James, Ysw., a dygid ef yn mlaen dan nawdd Mr E. W. Wil- liams, Maesryddid, a Mr D. Jones, Coed-duon. Yr oedd seindorf pres y Coed-duon yn gwas- anaethu ar yr achlysur. Cawsom gyfarfod tra dyddorol. Yr oedd amean y gyngherdd yma, yn ychwanegiad helaeth at ei deilyngdod, sef cynorthwyo Mr B. B. Edwards, yr hwn sydd drwy anaf yn ffaeledig er's blynyddau i ym- fudo i America. Er ei fod fel yma wedi ei anafu, eto mae yn gerddor gwych, yn lienor galluog, ac yn siaradwr hyawdl—yn feddianol ar feddwl eang a grymus. Bydd yn gaffaeliad i bobl Hyde Park, America, i ddod 0 hyd iddo. Dymunwn iddo hir einioes yn ngwlai Mach- lud HauL-I. W.
BU FARW,-
GANWYD, PaioDWYD, A Bu FARW.-O herwydd y nifer mawr a anfonant benillion, englynion, &c. mewn cy- sylltiad a'r hysbyeiadau hyn, a llawer o honynt yn hynod wael, yr ydym wedi penderfynu na ollyngir o hyn allan un linell ond yr hysbysiad ei hun, heb dalu 3c. am bob llinell ychwanegol.] BU FARW,- Medi 20, Margaret Phillips. Llwydcoed, yn 77 ml. oed. Y dydd Mawrth canlynoJ, hebryngwyd hi i dy ei hir gartref. Medi 22, yn 38 oed, Mr John Thomas, crydd, Trecynon,. Aberdar, gan adael gweddw ar ei ol. Awst 19, yn 55 oed, Mr. William Jones, Cotiawilym,, ger Cwmllynfell. Claddwyd ef y dydd Gwener caniynolr a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. R. Pryse, y gweiniaog. PELENI HOLLOWAY.—Rheol Bywyd.-Y presenol yw Y cyfle mwyaf cymhwys i sylwi ar y pegynau ac mae iechya pawb yn goiphwys amynt. Mae yn rhaid can allan o'r cyfansoddiad yr holl anmhureddau ar eu hymddangosiad. cyntaf. Mae gwisgoedd a bwydydd yr hwn a dreulir yn dda yn y cyfansoddiad dynol, yn rhwym 0 gyfoethogi j gwaed a'i elfenau meithrinol. Mae rhinweddau y cyr- newidiad graddol a weithir gan BeleniPuredig Hol.oway yn ateb yn gywir i'r angenrheidiau hyn, ac y maent yn cryfhan y giau ac yn adfer cylchrediad y gwaedi'w le vn drefnas a rheolaidd. Mae y Peleni rhagorol hyn yn cadw rhanau naturiol y corff mewn fath gyfartaledd, fel y maent yn a tai poen yn y pen o bob math, y beil, twymynau, y clefyd rhydd, (diarhoea,) a phob anhwylderau cyfFelyb.