Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Y GWRTHRYFEL YN SPAIN.

News
Cite
Share

Y GWRTHRYFEL YN SPAIN. Y mae y newyddion o'r wlad derfysglyd hon yn dyfod yn fwy dyddorol, a phendant yn erbyn y llywodraeth y naill ddydd ar ol y llall. Y mae arafwch y gwrthryfelwyr yn eithaf esboniadwy a rhesymol, canys nid ydynt am ruthro i gyfarfod a milwyr prof- edig y llywodraeth heb gael rhyw ychydig o hyfforddiant, ac y mae hyn yn arddangos doethineb mawr yn eu harweinwyr. Ond eu bod hwy yn gallu ymgadw hyd yn hyn heb gael eu gorfodi i ymladd, a arddengys wendid mawr yn y rhai sydd i'w gwrth- wynebu. Nis gall swyddogion y Frenhines enill dim trwy oedi. Y mae eu dynion hwy eisioes yn filwyr, ac y mae yn amlwg mai eu doethineb, os gallant hefyd, ydyw ymegnio i atal y gwethryfelwyr, y rhai sydd eisioes mewn nifer yn lluosocach na hwy, rhag dyfod yn gorff trefnus ac arfog- lawn. Dywedir fod gallu o lestri rhyfel yn agos i Carthagena ddydd Llun diweddaf, a bernid fod Prim ar fwrdd un o honynt. Yr ydym yn cael hefyd fod gwrthdaraw- iad ebrwydd rhwng Novaliches a Serrano yn sicr, ac y bydd i hyny gael effaithiau pwysig. Yn wir, y mae y ddwy blaid yn Spain fel wedi rhoddi i fyny pob gweith- garwch, ac yn dal eu hanadl, nes y bydd i ganlyniad y frwydr hon ddyfod yn hysbys. Y mae y parotoi sydd yn myned yn mlaen am ryfel yn Guadalquiver yn ddigyffelyb. Yno y mae dwy fyddin yn cynrychioli y ddau achos, y rhai, am y dyddiau diweddaf sydd wedi bod yn dynesu yn nes at eu gil- ydd, ac yn derbyn adgyfnerthion. Y mae yr arafwch sydd wedi cael ei ddangos gan yr arafwch sydd wedi cael ei ddangos gan y Llywodraeth, mewn parotoi i gyfarfod a'r gelyn, yn destyn sylw cyffredin, a chasgliad- au tra anffafriol w3di eu tynu oddiwrth hyny. Yn mhellach na hyn, y mae yn cael ei hysbysu yn awr fod Cadfridog y llywodraeth wedi ymosod a'i fod wedi cael ei orchfygu. Er fod hyn wedi ei gyhoeddi mewn amryw newyddiaduron, eto dylai gael ei dderbyn gydag amheuaeth. Y mae hysbysiad pwysicach na hyny wedi ymddangos, h.y.; fod Gweinidog Blaenaf y Frenhines, Jose Concha, a'i frawd, y cadfridog, wedi ei gadael, mewn canlyniad i'w bod hi yn gomedd gollwng ymaith ei chyfaill Mafori, a bod cabinet newydd wedi cael ei orchymyn i ymffurfio. Dywed hysbysiad o Paris dydd Mawrth diweddaf fod y newydd fod y Cadfridog Novaliches yn encilio wedi ei gadarnhau: Dywedid hefyd fod y gwrthryfel wedi tori allan yn Madrid, a bod y Frenhines wedi ymadael o Spain. Yn ddiweddarach, yr ydym yn cael fod y "Cadfridog Novaliches wedi ei orchfygu gan y gwrthryfelwyr, wedi ei glwyfo, ac wedi dychwelyd i Madrid. Dywedir hefyd fod y ddinas wedi codi, a bod y milwyr wedi ymuno a'r trigolion yn y waedd "I lawr a'r Bourbons," a "Byw yn hir y byddo penaduriaeth y bobl." Y mae yr arwyddlun brenhinol wedi cael ei symud gan y bobl oddiar bob adeilad cvhoeddus. Yn ddiweddarach eto, yr ydym yn cael fod y Cadfridog Novaliches wedi tori i fyny ei fyddin, a bod Marshal Serrano vn myned rhagddo tua Madrid heb un gwrthwyneb- iad. Y mae y Frenhines wedi ffoi, canys yr ydym yn cael fod cynrychiolydd Spain yn Bayonne, yn Ffrainc, wedi derbyn hys- bysiad y byddai iddi fyned drwy y dref hono ddydd Mawrth diweddaf. Mewn hysbysiad arall yr ydym yn cael fod y pwyllgor llywodraethol yn Madrid yn unfrydol, wedi ymwrthod a Gwerin- lywodraeth. Y mae y wlad oil wedi codi -y Frenhines wedi dianc, ac alltudedigion y llywodraeth yn dychwelyd i gael rhan o'r gorfoledd cyffredinol sydd yn bodoli.

MANYLION Y DDAEARGRYN YN PERU.

Advertising