Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

T mmi MDMB.

News
Cite
Share

T mmi MDMB. [ Byddai yn ddagan y Golygrdd dderbyn, i'w rhoi i Tewn, o dan y pen uchod, unrhyw Ddarnau byrion—gwreiddiol neu ddethol- edig—un ai mewn rhyddiaith neu farddoniaeth, a brofent yn ddyddorol neu adeiladol i'r Dsrllenydd cyffredin Cymreig.J DYCHYMYG. Pa beth yw'r gwrthddrych hynod, sydd 'nawr a'i dad yn tyw 1 Ca'dd rhai fod hebddo unwaith am bechu'n erbyn Duw; Mae gradd o hono 'r awrhon o fewn i'th gorff o glai; Cyflymach yw na'r haulwen, na dim ond meddwl chwai; Mae hwn o fewn i'r nefoedd, nid yw yn uffern drist, Na dim o hono, cofia, mewn un man lie bu Crist. 'Rwy'n gofyn, pa greadur a welwyd lawr is nen, Ni feddai ddim na rheswm, na synwyr yn ei ben; Ni fedrai rhoddi cyngor, er hyny, yn ddible, Bu mwy na gwerth y bydoeda yn gorphwys arno fe. -Irpeel. ENGLYNION I'R FUWCH. Mammaeth yn rho'i llaeth er lies ydyw'r fuwch, Drwy fod yn feithrines; I nychlyd y mae'n achles, Ac i'r iach y dug hi wres.Llaethwr. Y fuwch ddof iach i ddyn-yw arglwyddes Ryglyddawl pob tyddyn; Mwyniant llaeth ac ymenyn, lachus faeth, a chaws a fyn.— Tyddynwr. Ceinwech iawn yn cnoi ei chil-ydywlr fuwch, Dry faeth i ami eiddil ArUwys mae er lies mil, Ddigonedd yn ddigynil.—hwr. Y CYMRODOR. Yn gwawrio ar ein goror-mae Ueuer,* Mwy llewych i lenor A fydd,-egyr DYDD t ei dor, Mynegwn, mae yn agor! Amreded y Cymrodor Yn rhydd, dros fynydd, dros for. Barddoniaeth o bur ddawnau,-a thriniad Athroniaeth gwybodau, Alawon i lawenhau- Ddylunia ei ddalenau. Aed ei glod hyd y gwledydd, Brysied, ymdaened fel dydd! Mawr fydd clod ei Draethodau,-rhagorol, A'i gywrain Ffugdraethau, Gan ddynion o gain ddoniau— Penaf awduron ein pau. Dylanwad ei oleuni, Yro'r aos o'n goror ni. Rhinau doeth Feirniadaethau, oddifewn Iddo fydd, a gemau; Er maeth i ragoriaethau, Chwilia'r gwir a chwala'r gau. Merthyr. Tydfylyn. A luminary. t The goddess of light. ENGLYNION I'R GLEC (Buddygol.) Y Glee, yw arogl hoced, anochel, Sy'n nychu ymddiried, Awdwr craith, a bradwr cred, Diwreiddio yw ei drwydded. Anadl dig andwyol dan,-arfysgethr, Derfysga holl anian; Y dieflig dafod aflan, Haera-i gloi y gwir gIan.IeuanFerddig. ENGLYNION I'R DIOGYN (Buddygol.) Diogyn llwyd ei agwedd,-afradus Hwyrfrydig ei fuchedd; Ceintachlyd, wywllyd ei wedd, A'i gilwg ddiymgeledd. Hudolus blethwr dwylaw,—yn agor Ei gegen a chwynaw; "Y mae Hew drwg ymhell draw, Ar ei awydd yn rhuaw." Un hynod yw am anaf,—a rhyw raib, A rhyw Rhy o'r gweithaf; Mae rhyw hln rhy dwym yr haf, Rhy giaidd oer y geuat. A rhyw anferth ddull rhy ynfyd,—yw cun Amcanion ei fywyd Ofer, balch sy'n difa'r byd, A gorwedd mewn segurydFerddyg. PENNILLION Ar Briodas Mr. T. H. Williams, Hong Kong, Mer- thyr, a Miss Williams, Penyradwy. Fe wawriocU^jpraom ddydd, Dedwydd iawn, dedwydd iawn, i Mawr son attfdano sydd, Dedwydd iawn; Dydd gafodd ei goroni, Am idao i briodi, Y Rhosyn hardd a'r Lili, Dedwydd iawn, dedwydd iawn. Goreuon ein hoff wlad, Dedwydd iawn, dedwydd iawn, A unwyd er gwellhad, Dedwydd iawn; Ein Williams ddewr a bywiog, A'i ddoeth gydmares enwog, Mae'r ddau o radd gyfoethog, Dedwydd iawn, dedwydd iawn. Ni unwyd dau erioed, Dedwydd iawn, dedwydd iawn, Mwy dillyn uwch dwy troed, Dedwydd iawn; Mae Williams mor haelionus, Wr diwyd a llafurus, M ae ganddo le cysurus, Dedwydd iawn, dedwydd iawn. A'r Lili fwyndeg Ion, Dedwydd iawn, dedwydd iawn, A lanaf geir ar don, Dedwydd iawn; Ac mae hi yn feddianol Ar bob peth anghenrheidiol, I wneuthur Gicraig Rvnweddol, .Dedwydd iawn, ded- wydd iawn. Boed iddynt hir-faith oes, Yn eu gwlad, yn eu gwlad, Heb gwrdd ag unrhyw groes, Yn eu gwlad; Gwir lwyddiant a phur iechyd F'o iddynt trwy eu bywyd, A gras o'r Nefoedd hefyd, Yn eu gwlad, yn eu gwlad. 0 boed i'r teulu syw, Oil mewn hedd, oil mewn hedd, I fod dan fendith Duw, Oil mewn hedd; A phan b'o'u hoes yn darfod, Arweinier gan y Duwdod, I'r Nefi gydgyfarfod, Oil mewn hedd, oil mewn hedd. Dewi Morlais. CAN Y CHWAIN, A aflowyddasant y Pregethwr "yn nghymydogaeth y llwch, y baw, a'r difaterwch." "Chwain, chwain, Yn fwy eu rhif na haid o frain, Sy'n tyllu'm croen fel pigau drain; Yn mhell bo rhai'n! 'rwyf yma'n troi Ar htd y nos mewn dirfawr boen, Yn einfulr croen, a'm cwsg yn ffoi. Blacks! Blacks! Yn sugno fel yr Income Tax, Nes gwneud y croen i gyd yn rags; Bwytewch, y Jacks, enwi giwed gas, Rho'wch lonydd i bregethwr tlawd, A phrofwch gnawd rhyw ddyn diras. "O! O! Na chawn bob chwanen yn yfro Rhwng morthwyl dur ac eingion go', Gwnai hyn y tro—cawn fwrw'm llid, Gwnawn chwain y byd yn chwilfriw man, Yn fwyd i'r tan caent fyn'd i gyd." Taw taw, Rho chwareu teg i deulu'r "baw," A thro dy lid oddiwrthynt draw; Na chabla'r blacks," a'u "pigau drain," Ond beia'r gwragedd budron sy Yn gwneud eu ty yn Hety chwain.

[No title]

THE TAFF VALE RAILWAY DISPUTE.…

Advertising

NOTES BY A RAMBLER, No. V.

[No title]

MERTHYR POLICE COURT.

[No title]

RAILWAY TIME TABLES.