Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

Y BARNWR CHANNELL A'RI GENEDL…

News
Cite
Share

Y BARNWR CHANNELL A'R I GENEDL GYMREIG, NAILL ai yn fwriadol, neu anfwriadol, darfu i'r Barnwr CHANNELL-, mewn brawdd- eg ffer a ddefnyddiwyd ganddo yn mrawdlys sir Ddinbyeb, dydd Mawrth daflu sarh&d ac anfri ar y genedl Gymreig na ddylid ei adael yn ddi sylw. Gan fod eraill o farnwyr yr Uchel Lys, tra ar eu hymdaith trwy siroedd Cymru i brofi carcharorion, wedi syrthio i'r un camwedd, mae'n llawn bryd, dybygwn ni, i wrth- dystiad cryf a phendant gael ei wneyd yn erbyn y duedd hon o eiddo y barnwyr hyn. Cyn gwneyd unrhyw sylwadau cyffrodinol ar y mater, fodd bynag, goddefer i ni al w sylw at ymddygiad hynod ac anesgusodol y Barnwr OHANNELL. Yn y frawdlys dan sylw, neillduwyd rheithwyr deuddeg mewn nifer-i brofi achos gtfr o'r enw HENRY GILLAM, brodor o gyffiniau Gwree. sam, a'r hwn a osodwyd ar ei brawf dan am- gylcbiadau tra anghyflredin. Un noswaith yn niwedd Rhagfyr, cafwyd GILLAM ar ei led orwedd mewn gwely gwraig o'r enw ANNE TITTLE, yr hon a breswyliai yn Rossett. Cysgai GILLAM yn drwm ar y pryd; ac yn yr un gwely, gorweddai y wraig TITTLE. Ymchwiliad pellach o eiddo y cymmydogion a ddangosai fod y wraig- yr hon oedd yn 76ain mlwydd oed-wedi marw. Pan ddeffrowyd GIBLAM, rhedodd allan o'r ty a phan ddaeth yr achos ger bron y trengholydd, gwadodd yn bendant mai efe oedd y dyn a ganfyddwyd yn yr iii wely a chorph marw y wraig oedranus LF. Rhybuddiwyd ef gan y trenghol- ydd, ond parhaai GILLAM i wadu mai efe oedd y dyn. Yn wyneb fod amryw dyst- ion, y rhai oedd yn ei adnabod yn dda, yn tyngu ar 1* mai efe, a neb arall, a ganfuwyd ganddynt ar y gwely, gwysiwyd GILLAM am dyngu anudon, a bwriwyd ei achos o flaen y frawdle. Dyna'r cam cyntaf yn yr hanes. Pan ddaeth GILLAM o flaen y Barnwr CHANNELL, ddydd Mawrth, dygwyd yr un- rhyw dystiolaethau i'w erbyn. Wedi ym- gynghoriad byr, cafodd y rheithwyr ef yn ddi-euog o'r trosedd a ddygid i'w erbyn- anudoniaeth. Nid cynt y gwnaeth blaenor y rheithwyr y rheithfarn yn hysbys nag y trodd y barnwr atynt, a chyda digofaint yn fflachio o'i lygaid, ceryddodd hwynt yn y geiriau a ganlyn :— Nis gwn yn iawn a yw hyn yna yn peidio bod gymmaint o anudoniaeth a'r llall. Yr unig reithfarn briodol yw euog.' Profwyd hyny mor glir ag unrhyw aohos a ddaeth erioed i lys barn. Y mae genyf gywilydd o reithwyr Cymreig. Y mae hyn yn warth ar weinyddiad j oyfiawnder. Cymmeraeoch ht i benderfynu yu unol A'r dystiolaoth, ond tybiaf nad ydych yn rnaddwl dim o hyny.' I'r Oymro gwladgarol, y mae colyn y geiriau brathog uchod yn y rhai hyny o honynt lie y mae y barawr yn cywilyddio droa 'reithwyr Cymreig;" A pha amryfus. edd bynag a gyflawnwyd gan y rheithwyr wrth ddi-euogi GILLAM o anudoniaetb, an- turiwn ddyweyd fod yr amryfusedd y syrthiodd y barnwr iddo yn fwy, ac o'r bron yn anfaddeuol. Rhoddi i'r carcharor fan- tais o'r ammheuaeth a wnaeth y rheithwyr; sarhau, a chymmeryd yn ofer enw y genedl Gymreig wnaeth y barnwr. Par un o'r ddau yw y mwyaf trosedd, tybed I Y mae yn amlwg ddigon nad oedd y barnwr yn cyt- tuno a'r rheithfarn, a hyny a'i cythruddodd. Ni fynem ni yma geisio cyfiawnhau y rheithwyr am a wnaethant; ac ni fynem, chwaith, ddyweyd fod eu rheithfarn yn un ammhriodol dan yr amgylchiadau. Dywed- wn, er hyny, fod ganddynt reswm cryf dros beidio condemnio GILLAM. Ond nid dyna'r pwngc. Y cwestiwn yn awr ydyw, i ba raddau y gellir cyfiawnhau y barnwr am ei ymosodiad ar y genedl Gymreig.' Pe yr ymosodasai efe ar y rheithwyr fel y cyfryw, ni roddasai achos i ni g*yno; ond pan y mynodd wneyd ensyniad yn ein herbyn fel cenedl, a hyny heb reswm, na gronyn o sail i'r hyn a ddywedodd, yna meiddiwn gon- demnio hyd yn oed tfr o'i safle ef am ei ymddygiad anesboniadwy. Yr oedd gan y rheithwyr gymmaint hawl ag yntau i ffurfio barn ar achos GILLAM yn wir, hwynt-hwy, ac nid efe, yn ol y gyfraith, oedd yn meddu hawl i'w farnu. Gwaith ei arglwyddiaeth, yn ol darpariadau Deddf Troseddau, oedd cynnorthwyo y rheithwyr yn ffurfiad eu barn; ac os oeddynt yn anghyttuno fig af, prin y credwn y dylasai efe golli ei dymmer yn y dull y gwnaeth, ac anghofio ei hun i'r fath raddau fel ag i ddwyn ensyniad mor dra athrodus yn erbyn y Cymry fel cenedl. Camgymmeriad mawr y Barnwr CHAN- viml ar yr achlysur hwn oedd neidio i'r casgliad fod pob dyn sydd yn byw yn Nghymru yn Gymro o ran gwaed, iaith, a theimlad; ond anturiwn ddyweyd nad oedd ganddo yr esgus lleiaf am ei bechod. Fel mater o ffaith, yr oedd wyth allan o'r deu- ddeg rheithwyr o waedoliaeth amgen na gwaedoliaeth Gymreig; a phe gwrandawsai ei arglwyddiaeth ar glerc y frawdle yn galw y cyfryw reithwyr i'r bocs, fe ddeall- asai ar unwaith, oddi wrth eu henwau, nad oedd y mwyafrif o honynt yn Gymry. Yn wir, nid oedd ond ptdwar o honynt yn Gymry; a pha un bynag ai Saeson, Gwydd- elod, ai luddewon oedd y gweddill, y mae yn sefyll i Nswra na ddylasai g&r hir-ben, dysgedig, fel y barnwr hwn ddiystyru y Cymry am gamwedd (yn ol bryd ei argl- wyddiaeth) a gyflawnwyd gan rai nad ydynt Gymry. Nid aur yw pob peth melyn,' ac nid Cymro yw pob un a drig yn y Dywys- ogaeth; a phurion peth fyddai i'r Barnwr CHANNELL, a'i frodyr ar y faingc farnol, ddeall hyn, rhag na bo iddynt syrthio i amryfusedd eyffelyb yn y dyfodol. Y mae Cymru a'i phobl eisoes wedi dioddef gormod trahi oddi ar law rhai sydd mewn uchel swyddi. Nid oes odid wlad arall dan haul sydd wedi dioddef mwy na hi o herwydd mai iaith ddyeithr yw iaith ei llysoedd barn; a phaham, attolwg, y rhaid i ni ddioddef yr ensyniad brwnt a diweddaf hwn o eiddo un o farnwyr ei Mawrhydi ar ein hurddaa a'n gonestrwydd fel cenedl. Pe sail i'r fath ensyniad, yna ni feddem le i g*yno o her- wydd ymddygiad y barnwr; ond nid oedd iddo sail, a dylai ei arglwyddiaeth ymddi- heuro yn anrhydeddus trwy alw yn ol y geiriau a ddefnyddiodd yn Rhuthyn. Nid teg na chyfiawn athrodi'r Cymry tra'r cam- wedd wrth ddrws corph o bob], mwyafrif pa rai a berthyn i genedloedd eraill. Deallwn fod y barnwr, wedi ei alw i gyfrif gan wyr o ddylanwad, wedi ceiaio iliniaru peth ar chwerwedd ei eiriau, trwy ddyweyd nad oedd efe yn cyfeirio at reithwyr Cym- reig yn gyffredinol, eithr lit y deuddeg rheithwyr oedd ger ei fron ar y pryd, pa rai y tybiai oeddynt yn Gymry. Rhyw yraddi heurad hynod o fag'og ydyw hwn, ac nid yw yn gwneyd y digwyddiad nemawr mwy Hapus a haws i gyd-ddwyn dg ef. Disgwyl- iwn y bydd y Barnwr CHANNELL, a'i frodyr, yn fwy gwyliadwrus yn y dyfodol. Ar ol i ni ysgrifenu yr uchod, gwelwn fod y Barnwr CHANNELL wedi ceisio gwneyd eglurhad, 1100, i fesur, ymddiheurad, am ei araeth ryfedd yn Rhuthyn. Gweler ei sylwadau mewn colofn arall o'r rhifyn hwn. I'n tyb ni, nid ydyw y sylwadau a wnaeth y barnwr yh Wyddgrug ond yn gwneyd y drwg yn waeth. Cyfaddefa fod ei sylw- adau yn gymmhwys at reithwyr siroedd nad ydynt yn Nghym'u; ond a yn mlaen i ddadgan ei ofid fod cenedl y Cymry mor chwannog i anudoniaeth Nid awn, ar hyn o bryd, i sylwi chwaneg ar y sylwadau ang- haredig, anghyfiawn, ac anghywir hyn.

EIN H4CH0SI0N CREFYDDOLI A…

.IC,Ipthpr X'Iunbain.

IBRlWDLYS SIR -FFLINT.

I MACHYNLLETH.

IYR YSBYTTY CYMREIG I FAES…

T R A M O B