Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
YMADAWIAD MILWYR I DDEHEUDIR…
YMADAWIAD MILWYR I DDEHEUDIR AFFRICA. C YOHWYN ODD nifer o gartreflu air Gaer, a 100 o wyr o Fyddin Frenhinol y Medical Corps, o Aldershot heddyw boreu (ddydd Iau), ar eu taith i Ddeheudir Affrica, er cymmeryd rhan yn y jbyfel.
TELERAU AM HYSBYSIADAU.
TELERAU AM HYSBYSIADAU. T raw am Tlygbysiadau Masnachol, Tsgolion, BUteddfodan, Cyfarfodydd Cyhoeodus, Uyfrau, Ac., fydd yn ol 3s. y fod- fedd-gan fosur i lawr y golofn. Am llysbysladall o 'T'M.EMMM.'&o., yn eynnwya 18 o Eirlan nenIal, codir 6c. an yn ol lc. am bob tri gair dros hyny, cs fcalir yn mlaen Haw: neu 4c. T ilinall. os na wneir hyny
TYWYSOG CYMRU A CHAND CYMRAEG.
TYWYSOG CYMRU A CHAND CYMRAEG. DERBYNIODD Syr George Newnes, yr A S, dros Abertawe, awgrym oddi wrth Syr Arthur fiigge, ysgrifcnydd preifat Tywysog Cymru, i'r perwyl y carai eu hnchelderau brenhinol, Tywysog a Thywyeogeg Cymru, glywed canu Cymraeg gan gor Abort&we, yr hwn a ganodd ar achlysur ym weliad Arglwydd Rosebery &'r dref rhyw fis yn ol, a'r rhai a roddant gyngherdd yn Neuadd y Fren. hines, Llundain, Mawrth lOfed. Ni wyddis yn sicr pa un a fydd y dyddiad hwnw yn gyflsuB i'w huchelderau brenhinol i anrhydeddu y cyngherdd á,'a preacnnoldeb, ond gobeithia Syr Arthur Bigge fod yna bcsjiblrwydd iddynt wneyd hyny. Os bydd i'r c6r gael gorchymyn i ymddangoa o flaen y teulu brenhinol, cynnygia Syr George Newnea dala y costau.
ANGHYDWELEDIAD CHWAREL Y PENRHYN.
ANGHYDWELEDIAD CHWAREL Y PENRHYN. ADR )DDIA D AM DERFYSG YN TREGARTH. DYWEIUR i derfysg difrifol dori allan, nos Fercher, yn Trega-, tli-pencailys y chwarelwyr sydd wedi myned yn ol at eu gwaith yn y chwarel. Yn oi adroddiad a dderbyniwyd yn Mangor, nos Fercher, cyfarfyddwyd nifer o ddynion oedd yn testhio gyda'r trêa pum munyd ar hugain wedi saith o Fangor, gyda'r rhai yr oedd merched a phlant, yn ngorsaf Tregarth, gan dorf fawr o ddynion, ac i ymladdfeydd gymmeryd lie yn union, yn yatod pa un yr hyrddiwyd amryw ddynion a merched ar y llinell rhwng y cerbydau, a derbyniodd un ferch doriad Ityrn ar ei phen. Cicient a dyrnent eu gilydd, ac nia gallai yr heddgeidwaid gael trefn arnynt. Cadwyd y trên am ugain munyd cyn i'r llinell gael ei chlirio. Gan tod dydd Mercher yn terfynu mis y chwarel-adeg bwysig bob amser mewn amseroedd o anghydwelediad; a rhag y gallai terfysgoedd pellach ddigwydd, aeth swydd. ogioa yr Hussars, pencadlys pa rai sydd yu Mangor, i Bethesda nos Fercher, i gymmeryd gofal o'r adran sydd yn gorsafu yno yn barhaua.
[No title]
CyQtwcir 5,540 o lofraddiaethau yn Ewrop bob blwyddyn. Y mae mwnwr yn cael ei ladd am bob 1,060,000 o dynelli o Id a godir. Padforhvyd 480,9^6 o dynelli o rew, gwerth 269,897p., i'r wlad hOD, Y mae y bil cenedlaethol am ddiodydd dros 162 o Sliycau yn y flwyddyn. Aiiforir 16 o dynelli allan o bob 100 o Jo Pryd- einig sydd yn cael ei godi. Y mae gan Eglwya Broteatanaidd yr Iwerddon 12 o ea^'obion, ac 820 o glerigwyr. Oes ceff/1 ydyw 27 o flynyddoedd, ond y mae y llaw a'r cornel yn cyrhaedd yr oedran o 40. Y mae brenin Yepaen i gael ei goroni yn Mai, pan y cwHhâ. oi unfed flwydd ar bymtheg. 12,000,000p. yw cytalaf y ffordd haiarn newydd rhwng Llundain a Brighton. Ffordd wefr a fydd hi. Aafonodd ymherawdwr Japan bed war march ysblenydd yn anrheg i'r Brenin Iorwerth ar ei esgyniad i'r Uraedd. 11 Y mae Canada wedi cyttuco i fabwysiadu pell. ebyr di-wifrau Mr. Marconi. Gosodir gorsaf i fyny yn Louisburg, Ynys Cape Breton, er anfon negesau i Loegr. GELLIR ymddired yn Cocoa, Cadhury bob amser am ei burdeb. Y mae cocoas wedi eu llygru yn berygiua, a dylid eu gochel. Y mae Cocoa Cad- bury yn llesol iawn i'r ieuaingc a'r hen, yr egwan a'r cryf; cynnwysa ho'l rin maethlawn y cocoa lean. Cocoa ydyw, a thocoa yn unig. (2) (
YMREOLAETH I GYMRU.
YMREOLAETH I GYMRU. YR oedd y ddadl yn Nhy y Cyfffedin, nos Wener, yr wythnos ddiweddaf, ar bender- fyniad Mr. HERBERT LEWIS, yn sicr, yn un wir ddyddorol. Caiff ein darllenwyr adeiladaetb, yn ddiau, wrth ddarllen yr adroddiad maith o honi a geir mown colofn- au eraill. Gweiliant ar yr anercbiad mewn attebiad i'r araeth o'r orsedd ydoedd y cynnygiad a ddygid yn miaen gan yr aelod anrhydeddus a galluog drcs fwrdeis diet sir Fflint. Ceir y penderfyniad yn yr adroddiad yr ydym wedi cyfeirio ato. Ni ddadleuai Mr. LEWIS, wrth gwrs, dros unrhyw ymwabaniad oddi wrth yr ymher- cdraeth, nac annibyniaeth ceoedkethol i'w wlad. Hyd yn oed ni ofynai am yr byn a olygir yn gyffreiin a gynnwysir yn y gair I ymreolaeth sef, cael senedd, a hawl i drafod yr holl amgylchiadau a bertbyn i'r wlad. Yr oil a ofynai efe, yn ei bea- derfyniad doeth a cbymmedro), ydoedd cael awdurdod i drafod rbyw yehydig nifer pennodol o'r cwestiynau a boithyn i Gymru. Eagbreifftiau o'r materion y mynai Mr. HERBERT LEWIS gael chwaneg o awdurdod ycg'yn a hwynt ydynt:— ifarfiad amgueddfa genedlaethol Gymreig mewn man canolog (gyda Haw, pwngc ag y mae y bonwr rhadlawn wedi talu sylw arbenig iddo); ad ymuniad cyflawnach nag sydd yn bod yn awr rhwng y colegau cenedlaetbol au gilydd; awdurdod amgen- ach ynglyn a ll nellau ein ffyrdd haiarn, ac yn enwedig y dosbarth a elwir y llinellau ysgeifn: y cyfryw, ac eraill cydryw, y mycai efe, a'i gydaelodau Rhyddfrydig, gael gan y senedd ganiatau mwy o reol- eiddiad arnynt nag sydd ganddi yn awr i I Gymru fecban dlawd.' Afreidiol hollol ydyw chwanegu mai gwrthod y cais bych- an, rhesymol, hwn a wnaed. Pa beth arali oedd i'w ddisgwyl oddi wrth tenedd mor dra Thoiiaidd a hon. Y r unig beth sydd yn ein synu ni ydyw, na buasai y mwyafrif gwrthwynebol yn rbifo llawer chwaneg nag ydoedd. Saith a devigain yn unig ydoedd. Pabam na buasai yn mhell dros gant, gan weiDyddiaeth a ymffrostia yn barhaus yn ei chant a deg ar hugain o fwyafrH 1 Paham, hefyd 1 Yn y rbaniad a ddigwyddasai yn uniongyrchol o flaen hwn, tynasid ei mwyafrif Ilethol i lawr hyd yn oed i ddeg ar hugain Dechreu y senedd-dymmor yn ddrwg, a dyweyd y lleiaf. Yr ydym yn dyfalu fod y prifwein- idog wedi mynu cyfleusdra i ddyweyd ei feddwl yn bur ddf-gwmpas-fel y medr efe —wrth I y cbwipiau' am y drefn, ceu yn hytracb, yr annhrefn hon ar bethau. Fel y dywedasom, beth ond gJrthrechiad oedd i'w ddisgwyl ar fater Cymreig o fath hwn ? Yr oedd ei fod yn fater Cymreig o gwbl, ynddo ei hun, yn ddigon i filwrio yn ei erbyn gyda'r weinyddiaeth fondigrybwyll hon. Gwnaed hyny yn hysbys yn ei gwyneb gan siaradwr ar ol siaradwr, Codent y naill ar ol y llall, a dannodent iddi, yn ddi-gel a di-ofn, mai cospi Cymru a diystyru ei dyheadau, ydyw gwladwein- iaeth Arglwydd SALISBURY a'i gydweioid- ogion ar hyd y chwe biynedd sydd wedi myned heibio er pan aethant, trwy drais a chelwydd, i Bwydd. Yn yr araeth fren- hinol ddiweddaf nid oes y cyfeiriad lleiaf at Dywysogaeth Cymru, fel yr edliwiodd Mr. HERBERT LEWIS yn nechreu ei araetb. A pbaham y teimla y Llywodraeth mor ddygasog tuag at ein gwlad, gan ei chospi hyd y gallant, yn mbob dull a modd ? Nid oes ond un attebiad i'w roddi i'r cwestiwn, nac ond un esboniad ar y pabam? Ei Rhyddfrydiaeth ydyw pechod anfaddauol Oymru yn ngolwg y boblach Do?i*\dd hyn. Nid oes dim i'w wneyd a gwlad sydd yn anfon wyth ar hugain o Ryddfryd- wyr, allan o bedwar ar ddeg ar hugain o aelodau possibl, i'w cbynnrychioli hi yn Nby y Oyffredin ond ei chospi. Estyn bendithion, a rhoddi iddi ei dyheadau, na wnawn bytb, medd pob Tori cywirgalon. Ceisiodd Mr. WALTER LONG, llywydd Bwrdd y Llywodraeth Leol, dori min yr edliwiaeth ynghylch y pall am gyfeiriad at Gymru yn yr araeth o'r orsedd, trwy ddy- weyd fod pob cyfeiriad at Loegr yn cyn- nwys cyfeiriad at Gymru, am y golygid fod y naill yn cael ei chymmeryd i mewn yn y llall. Gwyddai pawb hyny. Ond, y mae Cymru yn llefain ac yn dyheu am bethau nad oes gan Saeson Lloogr eisieu mo honynb. Yr ydym ni mewn anghenion nad ydynt yn anghenion-teimladwy, a dy- wayd y lleiaf—y tu hwnt i Glawdd Offa. Gofyn am ddeddfwriaeth bennodol i Gymru, ac ar wahan i bob rhan arall o'r Deyrnas Gyfunol, y mae seneddwyr Rhydd- frydig Cymru. A gommedd hyn ydyw y cospi yr ydym yn son am dano. A maint y gosp a fesurir gan gymmedrolder y gofyn. Er gofyn yn y modd mwyaf cymmedrol, gommeddir y cwbl. Ni chawn ddim. Cospir ni am ein Rhyddfrydiaetb
CHWAREU TEG ETTO I'R PLANT.
CHWAREU TEG ETTO I'R PLANT. EDRYCHWN ar dydd LIun diweddaf fe diwrnod hynod ffafriol i ragolygon deddf- wrJaefch dda gogyfer a'n plant-plant y iosbarfchiadau gweithiol yn arbenig; yn fwy manwl fyth, y plant sydd yn gorfod gweithio pan y bo eu horiau i fod o dan addysg wedi darfod. Dyma y diwrnod yr oedd cyfrinach balot yr aelodau preifat yn Nby y Cyflredin yn troi yn ffafriol iddynt ar y pwngc a rodwyd. Bwriadai Mr. FRANK EDWARDS, yr aelod Rhyddfrydig hynaws dros sir Faesyfed, ddwyn Mesur y Plant hyn i mewn, os ennillai le ffafriol yn y balot, ac os byddai ei gydaehdau Cymreig yn cydsynio. Ar hyny ychydig iawn o ammheuaeth a allai fod. Ni toddai dim fwy o foddhâd i'r holl frawdoliaeth. A bu yntau yn fwy ffodus yn mwriad y coelbren nag yr oedd yn ei funyd mwyaf aiddgar wedi disgwyl y buasai. Cafodd y trydydd lie; ac ystyrir hwnw yn un tra ffafriol. Ac nid dyma y cwbl. Yn mron yn union- gyrchol wedi hyny, wele yr Ysgrifenydd Cartrefol yn gwneyd addewid bwysig a gwir foddhaol ar ran y Llywodraeth. Mown attebiad i gwestiwn a ofynwyd iddo gan y Dr. MACNAMARA, y gir sydd wedi gweithio mor ddyfal am cyhyd o amser ar ran y rhai bach, dywedodd Mr. RITCHIE nad oedd y Llywodraeth wedi colli golwg ar argymmhelliadau y pwyllgor fu yn gwneyd ymchwiliad i gwestiwn plant yr ysgolion dyddiol a gweithio, a'i fod yntau, mown gwirionedd, yn parotoi mesur ar y pwogc, yr hwn y mawr obeithiai gael cyfleusdra i'w ddwyn i mewn yn ystod y secedd-dymmor presennol. Yn wyneb yr ymrwymiad pwysig hWD, yr ydym yn deall Dad ydyw Mr FRANK EDWARDS am fyned yn mlaen gyda'i fesur ef. Ond, yn hytracb, y cymmer fantais ar ei safle ffafriol i ddwyn mesur i mewn yn amcanu cauiatau i Gymru bawl Ilywodraethiad lleol yrglyn a chwestiynau Cymreig union- gyrchol a nodweddiadol. Testyn o lawenydd digymmysg, yn ddi- ammheu, ydyw fod yr Ysgrifenydd Cartrefol yn cymmeryd y mater hwn i'w law ei hun,, o berwydd, trwy hyny, sicrheir boll nerth y Llywodraeth o'i blaid. Os bydd y mesur addawedig yn cynnwys argymmhelliadau y pwyllgor y cyfeiriwyd ato, fel y rhoddir ar ddeill y bydd, diiu na byddai yn ormod ynom i ddisgwyl iddo gael at basio yn gyfraith gydag unfrydedd o du y ddwy blaid yn y ty. Yr ydym yn credu fod barn y cyhoedd yn aeddfed i ddeddfwriaeth ar y cwestiwn hwn. Arwyddai y mwyafrif llethol a pha uu y pasiodd Mr. ROBSON fe3ur 'Siarter Plant yr Hanner-Amser 'fod y wlad yn gryf yn erbyn y gwartbrndd o osod y plant mown oedran tyner i Meithio, pan y dylenfc, ar bob cyfrif, fod o daD adlysg. A daeth y teimlad hwn i'r,golwg yn grvfach fyth y flwyddyn ganlyno', pm oadd Syr CHARLES yn llywio ei fosuryutau ar Fecbgyn y Pyllau' trwy y senedd, ac yn gwnoyd hyny, yn vmarferol, heb fod bron neb yn ceisio glVrthwynebu dim arno Ar ol i'r ddau fesur hyn gael ou gwneyd yn gjfreithiau y tir, wele adroddiad y pwyll- gor yn cael ei gyhoeddi, a hwnw yu cadarnhau yr oil o'r pethau ofnadwy oedd eisoes wedi eu dadguddio yughylch drygau peri i blant weitbio allan o oriau yr yagol, o dan ammodau a ddinystrient eu cyrph a'u heneidiau. Dan yr amgylchiadau hyn nid ydyw o gwbl yn debygol y gwelir mwy nag uo neu ddau o aelodau Ty y Cyffredin yü meddu digon o haerllugrwydd a diffyg chwaeth dda i wrthwynebu yr hyn a gyn- cygir gan y Llywodraeth-hyny yw, oa bydd hwnw y path y rhagdybir yn awr a fydd. Am nas gellir rhoddi ond yehydig ymddiried yn y weinyddiaeth bresenuol, nac yn y ffyddloniaid sydd yn ei chanlyn y mae yn amlwg mai durparu ar gyter y gwaethaf, rhag cfn iddo ddigwydd, a ddylai y Rhyddfrydwyr. Un ffordd i sicrbau llwyddiant y mesur hwn, fel pob mesur arall, ydyw fod nifer fawr o'r etholwyr yn ysgrifenu ilythyrau yn uniongyrchol at eu cynnrychiolwyr seneddol i ddyu:uno, ïa, j hawlio arnynt i rcddi eu cefuogaeth wresocaf i fesur sydd ag amcan mur ddaionus iddo-rhyddfreiniad ein hosl blant oddi wrth beth sydd, mewn llawer o enghreifftiau, yn waeth na cbaetbwasiaeth ei hun. Dylid rhoddi ar ddeall yn ben- dant iddynt ein bod yn disgwyl i'r mesur hwn gael ei basio yn gyfraith cyn diwedd y senedd-dymmor presennol Nid oes dim Hai na thri chan mil o'r I gweithwyr' bychain ac ieuangaidd hyn-o saith i ddou- ddeng mlwydd oed-yn llafurio cyn ac 1 i wedi C3 oriau yr ysgol, a'u caledwaith yn pwyso yn drwm arnynt Gwelir felly mai nid un bychan ydyw y diwyg;ad y ceisir ymgyrhaedd am dano.
.T UNOL DALAETHAU YR AMERICA…
T UNOL DALAETHAU YR AMERICA A PHRYDAIN FAWR. DA y gwnaeth Mr. HENRY NORMAN yn dirwyn allan o'r Llywodraeth, dydd Mawrth, hanes trafodaeth sydd, mae'n wir, yn mysg y pethau a fu er's blynyddoedd ond, er hyny, a barha i fod yn elfen gref ya nghyfeillgarwch Unol Dalaethau yr America a Phrydain Fawr. Pan cedd y weriniaeth yn cario ei rhyfel ag Yepaen yn mlaen, gwrthododd y Llywodraeth Bryd- einig yn y modd mwyaf pendant ymyraeth er cael gan yr Americaniaid attal eu llaw. Taer gymmhellwyd hi gan Alluoedd eraill Ewrop i ymuno a hwy i'r amcan hwn. Yr ydys yn gwybod pa effaith a gafodd y gwrtbodiad hwn ar feddwl y cyhoedd yn yr Unol Dalaethau. I hyn, heb os nac oni bae, yr ydym i ddiolch na fuasai Llyw- odraeth y Weriniaeth wedi gwrandaw ar daer geisiadau pleidwyr y B^riaid i yrnyr- aeth a Phrydain yn ei rhyfel hithau yn yr Affrig, Rhoddwyd hanes y drafodaeth gyda'r Galluoedd, a'r modd y gwrthodwyd j] pob cais ac erfyniad yn Nby y Cyffredin, | nos Fawrtb, gan yr is-ysgrifenydd tramor | mewn attebiad i Mr. NORMAN a diau fod I! Arglwydd CRANBORNE wedi myned yn fwriadol i mewn i fanylion nad oeddynt yn wy bydd us o'r hlasn. Wedi i hyn gael ei wneyd yn y senadd Brydeinig, weiey wein-1 yddiaeth Amov.canaidd, trwy y newydd- |j mduron. yn rhoddi chwaneg fyrh o fanvlion, [ er mwyn gwcey 1 yr hanes vn iyflr-»n, maen debyg. Modd bycag, dyna yr Ii effaith. j Wrth gyfuno y ddau hanes yr ydym yn | cael fod Gallucedd Ewrop wedi ymohebu ddwy waith a'r Llywcdraeth Brydeinig gyda'r amcan neillduol o gyfryngu er attal y rhyfel rhwng Unol Dalaethau yr America ag Yspaen. Ar yr acblvsur cyntaf y 1 gwnaethpwyd hyny, y ddadl a ddefnyddidj ydoedd yr angenrheidrwydd am wIleydi rbywbeth i sicrhau heddwch. Awgrymid y gallai gwaith yr oil o'r Galluoedd mewn undeb a'u gilydd fod yn effeithiol i ddwyn penderfyniad heddycblawn ar y cweryl (j rhwrig v ddwy wlad, Wedi cael sicrwydxl 'j yn gyntaf ne." byddai Nodyn o'r fath yn f. anr.erbyniol gan Lywod-raeth y Weriniaeth, ¡ cydsyniodd v Llywodraeth Brydeinig i, ymuno. Ond, ar hyny, wela ail gais yn cael ei wnevd. Llywodraeth Awatria oedd [i yn gwneyd byn, Gwyr pawb am y • berthynas agos yn 01 y cnawd sydd :f rhwng teyrnach vmberodrol Awatria, a llinach frenhinol Yspaen a hvn, yn ddnu, ydoedd y rheswm paham y cymmerai y i; Llywodraeth Awstriaidd y flaenoriaeth yn f; yr ail drafodaeth hon. Yr hyn a awgrym- j id yn yr ail drafodaetih ydoedd fod Prydain yn ymuno a'r Galluoedd i ofyn i'r werin- | iaeth beidio parhau i ryfela yn erbyn j Yspaen. Pe buasai 'Nodyn o'r nodwedd hwn yn cael ei anfon i Washington, a'r weriniaeth yn gommedd gwrandaw arno, y j golygiad, wrth gwrs, ydoedd y byddai yr j holl AIluoedd drachefn yn ymuno i'w gorfodi i stopio'r chwareu.' i Mae'n wir pad oedd dim o'r fath yn cael I ei fygwth yn ffurfiol. Ni phroffesai jr hyn a ge;sid ar ei wyneb fod yn ddim amgen J na phrotest cryf a phl6 dros gylafaredd- I iad.' Ond, yn yr Unol Dalaethau pa beth I ond bygythiad o dan len gudd y buasid yn j edrych arno ? Folly yr edrychodd Argl- I wydd SALISBURY, hefyd. arno, canys efe, ar y pryd, ydoeid ein Gweinidog Tramor. I Am hyny, mewn modd pendant, ond; parchus a moesgar, efe a wrtho^odd gyd- s synio a'r cais na chymmeryd unrhyw ran j vn mhellach yn y drafodaoth. Canlyniad hvny, yn anocheladwy, ydoedd i'r holl gyrtllun Isyithio drwodd.' Awstrid, yr Almaen, Ffraingc, a Rwssia, oaddynt eithaf boddlawn i wneyd yr oil a fyddai yn ang- enrheidiol, trwy deg, neu trwy hagr, i attal y werin iaeth fawr Americanaidd i dorfynyglu gormes Yspaen yn Cuba, Ynys- oedd y Philippiniaid, a manau eraill. Ond. gan nad oadd Prydain yn foddlawn myned gyda hwy at y gorchwyl, penderfynasant; mai diogelwch ydoedd 'llyngcu aullid. | Nid ydym yn aicr nad oeddynfc hwy wedi jael ar ddeall. pa buasent hwy yn myned yn mlaen eu hunaiu i geisio gwneyd y, gwaith, v buasai y ilynges Brydeinig yn cael ei hanfon allan yn tu herbyn hwy, ac 1 o blaid y rbai yr arfaethid eu gorfodogi. j Mcdd bynag, am hvny, bu yn wiw gan- ddynt i dynu eu cyrn a^ynt/ a gadael i'r weriniaeth wneyd terfyn tragyfyth ar yr ormes Yspaeaig. A rhyfedd iawn, os ydys i gredu yr hanes } a adroddir gan Syr WEMYSS REID, yn un 1 o'r cylchgronau Saesnig, cafodd Unol Dal- aethau yr America gyfleusdra i dalu yr jj echwyn adref mewn caredigrwydd cydryw. Dywed Syr WEMYSS REID fod cynnygiad hollol gyffelyb wedi ei anfon i Washington { gan yr un Galluoedd mewn perthynas a'r rhyfel pres.ennol yn Neheubarth Affrica; ac mai gwrthodiad pendant a roddodd y Weinyddiaeth Americanaidd i'r cais. j Gwnaed hyn pan yr oedd yrArlywydd Mc' KINLEY yn fyw, meddir ond pe y gwneid un cyffelyb etto, diau genym mai ymddwyn yn gyffelyb a wnai yr Arlywydd ROOSE- VELT.
MARWOLAETH ARGLWYDDESi PULESTON.:
MARWOLAETH ARGLWYDDES PULESTON. BYDD i Gymry o bob gradd gydymdeimlo & Syr John Puleston, yn ngwyneb y brofedig- aeth sydd wedi ei oddiweddyd,trwy farwolaeth yr Arglwyddes Puleston. Trefnid i gladdu y foneddigesdrangcadig. yr hon sydd yn frodor o Ddyffryn Clwyd, yn Llanfair, ger Rhuthyn dydd Iau (heddyw). Yr oedd Syr John Puleston i lywyddu, nos Fawrth diweddaf, fel yr oedd wedi arfer gwneyd er's dros chwarter canrif, yn y tret blynyddol a ddarperir ganddo, ar ei gost ei hun, i Gymry tlawd Dwyreinbarth Llundain. 0 dan yr amgylchiadau yr oedd y cynnulliad hwnw yn un ditrifol a thrist.
SIR ABERTEIFI.
SIR ABERTEIFI. CYBIIAEDDODD y Barnwr Kennedy i Lanbedr. pont-Stephan dydd Gwener. Aeth ei argl- wyddiaeth i eglwys St. Luke, dydd Sadwrn ac wedi hyny agorodd y commisiwn. Wrth anerch yr uchelreithwyr, dywedodd y Barnwr Kennedy fod yn dda ganddo na byddai eu presennoldeb yno, er cyflawni gwasanaeth cyhoeddus, gael ei ddilyn ag unrhyw ymchwil iad i droseddau a gyflawnwyd yn y sir. Yr oedd yn teimlo yn faleh iawn fod yr un peth wedi digwydd yn awr ag a ddigwyddodd pan dalodd ymweliad o'r blaen ^'r sir. Nid oedd un rhan o'r wlad wedi anfon milwyr mwy gwrolfrydig i ymladd dros eu gwlad, ac yr oedd yn sicr ei fod yn falchder iddynt hwy ennill yr anrhydedd o fod yn ddynion heddych- ola gonest. Yr oedd yn llongyfarch y sir, trwyddynt hwy ar ei sefyllfa foddhaol.
[No title]
Tybia fiferyllydd o Paria ddarfod iddo ddargan fod cynllun i anadlu heb awyr. Oxylithe' y gelwir y ddyf&is.
Y G O O L E D D
Y G O O L E D D Hysbysir fod eglwys Gymreig Witton Square, Llundain, wedi penderfynu rhoddi galwad i Mr. Gwilym H. Havard, o Goleg Duwinyddol y Bala. Yn ystod gwrandawiad achosion o feddwdod yn Ngwrecsam, dydd Lluu, galwyd sylw at y ffaith nad oedd yna un cartref i jfeddwon wedi <'Cae ei godi yn Ngugledd Cymru,ac at yrangen ,mawr oedd am setydliad o'r fath. Ffurfir cor gan Mr. Sandford Jones, yr hwn :a weithredoedd, fel ysgrifenydcl cyffredinol yn .Eisteddfod Genedlaethol ddiweddar Bangor, i ymgystadlu am y brif wobr gorawl yn yr Eia. teddfod Genedlaethol nesaf yn Mangor. Derbyniodd Mr. J. Parry Jones, maer Croes- logwallt, awgrymu oddi wrth Syr Dighton Probyn fed y brenin wedi derbyn copi o The Story qf Oswestry Castle,' a'i fod wedi rhoddi arno i ddiolch i'r maer am daneu Mewn cyfarfod o Bwyllgor Heddgeidwaid sir "F6n, dydd Iau, etholwyd Mr. Bice Roberts, Beaumaris i lenwi y swydd o glere a aeth yn wag trwy farwolaeth Mr. J. Lloyd Griffith. Penderfynwyd chwanegu heddgeidwad at heddlu Caergybi. Trefllir i gynnal cynnadledd bwysig yn Neuadd Coleg Prifysgol Bangor, prydnawn dydd Sadwrn (heddyw). er cymmeryd y Mesur Addysg sydd i gael ei osod ger bron y senedd o dan ystyriaeth, Bydd y gynnadledd yn agored i'r cyhoedd. Daeth yr achos cyntaf yn Ngogledd Cymru o ,dan y gyfraith yn gwahardd gwerthu diodydd meddwol i^blant ger b, on yr ynadon yn Llan. dudno dydd Llun Cafodd y diffynydd. yr hwn a blediai ei anwybodaeth o'r gyfraith, ei ,ddirwyo i 6c. a'r costau. Yn llys yr ynadon yn Nghaergybi, dydd JJIUU, cyhnddid James Gaine, o Fynydd Caergybi, o adael ei wraiga'i blant. Cymmer. wyd y cyhuddedig i fyny yn Bath, lie yr oedd ,efe wedi cymmeryd yr enw Davies. Dedfryd- -wyd y carcharor i dri mis o lafur caled. Y mae Cynghor Gwledig Lleyn wedi pender. Jynu gwneyd cais am gopiau Cymraeg o'r .gyfraith newydd sydd yn rheoleiddioffactrioedd a siopau gweithio, &c ar yr egwyddor, oa ydyw cyfreithiau seneddol i gael eu cario allan, y dylent gael eu cyhoeddi yn iaith y bobl. Yr oedd Mr. Bircham, arolygydd Bwrdd y Llywodraeth Leol, yn bresennol yn nghyfarfod Hwrdd Gwarcheidwaid Treffynnon, dydd Gwener, a gwnaeth adroddiad am sefyllfa tlodi yn yr undeb hwnw, yn gystal ag yn Ngogledd Cymru. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i ,Mr. Bircham am ei adroddiad. CyfeirioddyProffeswr White, o Goleg Prif. ysgol Gogledd Cymtu, wrth sia.rad yn Mangor, nos Wener, at y gwaith oedd y coleg wedi ei wneyd er dadblygu y pysgodfeydd Cymreig a dywedodd, yn mysg yr amcanion oedd gan y oColeg mewn golwg, yr oedd yr un o drefnu ar. ddangosfa o bysgodfeydd Cymreig. Yn Eglwys wen, sir Amwythig, dydd Gwener, cafodd Mr. G. R. Clegg Hill a Chwmni Ffordd Haiarn y Cambrian eu cospi, ar ddau gyhudd- iad o symmud 493 o ddefaid, mewn modd anghyfreithlawn, o Porthmadog i Eglwys wen. Dirwywyd Mr. Hill i 25p. a'r costau ynmhobun o'r achosion, a'r cwmni i 5p. a'r costau, mewn un achos, a 25p. a'r costau yn y llall. Mewn a ttebiad ilwahoddiad y Milwr. Wynne Edwards, penaeth Bataliwn laf y Gwirfoddol- wyr Cymreig. cynnaliwyd cyfarfod llioeog o'r gwlrfoddolwyr yn Ngwrecsam, nos Fawrth, er cael allan pa nifer o'r bataliwn a wnai gynnyg myned allan i'r ffrynt yn Neheudir Affrica. Dywedai y milwriad ei fod ef yn bwriadu myned, a bod mwy o swyddogion wedi amlygu eu parodrwydd i fyned nag oedd eisieu. Yr oil oedd ganddynt eisieu yn awr ydoedd, i'r milwyr cyffredin wneyd yr un peth. Ym- ddengys i gryn lawer amlygu eu parodrwydd i fyned; a chredir y llwyddir i gael y nifer gofynol.
? OEHE
? OEHE Nos Sadwrn bu furw Edwin Caswell, dyn canol oed, mewn modd sydyn, yn bar Gwestty y Three Elms, Caerdydd. Trefnir i godi cofadail yn Merthyr i'r dyn- ion o'r dref hono a gollasant eu bywydau yn y rhyfel yn Neheudir Affrica. Cynnaliwyd cenhadaeth ddirwestol yn yr Ystrad yr wythnos ddiweddaf. Cymmerodd 160 o bersonau yr ardystiad yn ystod y cyiar- fodydd. Nos Wener bu farw Mr. Thomas Griffiths, Aelydon, clerc cyfl eithiwr, Aberystwyth, yn dra sydyn. Caed ef yn eistedd yn ei gadair adret wedi marw. Mewn araeth a draddodwyd yn Pontllan- fraith, nos Sadwrn, darfu i'r ]for Herbert feirniadu mewn modd llym wladlywiaeth gar. 1 refol a thramdr y Llywodraeth. Agorodd y BarmVl Kennedy y frawdlys yn Aberteifi, dydd Sadwrn a chafodd y pleser o longyfarch yr uchelreithwyr ar y ffaith nad oedd yna un achos i ddyfod o dan eu sylw. Derbyniodd yr Henadur W. Powell, Pencoed, lOOp. oddi wrth foneddwr nad ydyw am i'w enw gael ei wneyd yn hysbys o Ogledd Cymru, tuag at glirio dyled capel y Methodistiaid Calfiuaidd yn Pencoed. Nid oedd yna ddim achosion newyddion o'r frech wen wedi tori allan yn Ystalyfera, yn ddi- weddar, ac y mae y ewyddog meddygol iechyd yn gobeithio y bydd i'r afieehyd ddarfod yn mhen rhyw ychydig ddyddiau. Darfu i bwyllgor gweithiol Cymdeithas Ryddfrydig sir Frycheiniog basio penderfyn- iad, dydd Gwener, yn dadgan fod Arglwydd Rosebery yn Chesterfield yn tueddu at gefnogi heddwch yn Affrica, ac undeb y blaid Rydd- frydig. Achoswyd dychryn mawr yn Pontypridd a'r cylch, dydd Llun, mewn canlyniad i adroddiad a ledaenwyd fod yna ffrwydrad wedi cymmer- yd lie yn un o'r pyllau gift lleol; ond wedi gwneyd ymchwiliad, caed nad oedd yna un sail o gwbl i'r fath sibrwd, Dychwelodd Mr. Brynmor Jones o'i daith i'r Aipht mewn pryd i gymmeryd rhan yn yr ym- raniad yn Nh$y Cyffredin nos Fawrth. Rhoddodd ei bleidlais o'r un ochr a'r lleiafrif yn ffafr gweiliant Mr. Cayley ar yr Anerchiad. Yn ystod ei daith treuliodd awr neu ddwy yn nghwmni Mr. Cecil Rhodes. Y Sabbath diweddaf awgrymodd y Parch. William Harris, gweinidog y Bedyddwyr yn Trecynnon, el fwriad i roddi i fyny ofal gweinidogaethol eglwys y Bedyddwyr yn Heol. y felin, lie yr oedd wedi bod yn gweinicfogaethu am ddeugain mlynedd. Ganwyd Mr. Harries, yr hwn sydd yn 71ain mlwydd oed, yn Llan- ymddyfri. Tua hanner can mlynedd yn ol dechreuodd bregethu ac ar ol bod yn derbyn ei addysg yn Ngholeg Hwlffordd, cafodd e ur- deinio yn 1855, yn Pantycelyn. Symmudodd wedi hyny i Cwmbachj a "gadawodd y lie
ETHOLIAD DEWSBURY.
ETHOLIAD DEWSBURY. CAFODD y Mfi. Runciman (Rhyddfrydwr), Haley (Ceidw&dwr), a Qaelch (Sosialydd), ea henwi heddyw (ddydd Iau), yn ymgeiswyr yn etholiad Pewsbury.
TBLBRAU Y 'FANES.
TBLBRAU Y 'FANES. '&IS argraphlad dydd 8adwrn ydyw lr. yr un ond ei phrla am chwartor, yn rhad drwy y post, ydyw la. Sir., ond tala yn mlaen, n«u 2s. os na wneir hyny. Anfoair 2 gfopi drwy y post »m 2g. 9c. y chwarter, ond talu yn mlaen, neu 9i. 01 na wneir hyny. Hefyd, anfonir 4, 6, neu unrhyw jynnifer, yn ddi-draul drwy y post gan y Cyhoeddwyr yn of 19. yr urn. Via argraphiad dydd Marcher ydyw 2tj. 1111 phris am ohwarter, yn rhad drwy'r post, os oymmerir 2, neu unrhyw nifer mwy dan yr un amlen, yw yn ol 2s. 2g. yr un, ond talu yn mlaen neu 29. 6c. os na wneir hyny. Ei phria wedi ei gampio ydyw 21., neu 2s. 9c. y chwarter, ond talu talu yn mlaen; a 3s. os na wneir hyny. T mae y chwarteri yn terfynu ddiwedd Mawrth, Mehefin, Medi, a Rhagfyr. Yn mhob amgylchiad, anfonir hi yn mlaen hyd nea v celr rhybudd i attal. VNOL "DALAETTIAtJ TR AMERICA.Anfonir y ddwy FANES am y piiaiau cnnlynol yn ddi-draul i'r Unol Dal. sethau BAXEK dydd Mercher yn ol 3s. 3c. y chwarter a BAKER dydd Sadwrn yn 2s. 2g. y chwarter ond yn mhob amgylchiad y mae yn rhald talu yn mlaen, ac attclir hi pan y bydd yr arian wedi eu treulio. Oellir anfon tnvy ddrafft ar fange. neu ar rhyw dt masnachol parchus diozal arall vn Llocgr a gwell hyn na tlialu trwy bapyrau dollars yr Unol Dalaethau, gan fod eu gwerth hwy yn g.rfuewidiol yn y wlad hon. Ghvyr pawb, hefyd, pa bryd y te>"fyna. BATtDDOJTIAETH.—T mae ami un o'r beirdd, wrth anfon y cyfansoddiadau i ni, yn pwyso arnom eu cyhoeddi 'yr wythnos nesaf.' Dymunwn hysbysu y cyfryw fod yn ainmhossibl i ni gyflawni eu caia ond fel hyobyaiadau, Os bydd rhyw rai yn dymuno hyny wrth anfon llinellau ar farwolaef.liau, priodasau. neu enedigaothau, &c., dealler y bydd yn angenrheidiol iddynt anfon 3a. am bob llinell a gynn wypa y cyfansoddiadau, Cant felly ymddangoa yn ein" ncsaf;' ond ni byddwn yn gyfrifol am en rhagoroldeb fel cyfansoddiadau. Os na wneir hyn, bydd yn angen- rheidiol i ni anfon y cyfansoddiadar at olygydd y Fardd- oaiaeth a cliymmer folly rai wythnosan cyn ymddangoa yn ol swm y Farddouiaeth fydd mewn llaw.
[No title]
'plane.' Yn uniongyrchol ar ol byny wele yr Y sgrifenydd Caitrefol yn addaw cymmeryd "y mesur i'w law ei bun, a'i ddwyn i mewn yn enw y Llywodraeth.