Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
CYFLAFAN YN AMLWCH.
CYFLAFAN YN AMLWCH. BONIAD 0 LGFRUDDIAETH HEN WB. EI FAB WEDI EI GYMMERYD I FFNY. Y TRENCIIOLIAD, RHEITHFARN 0 DDYNLADDIAD.' TAFLWYD trigolion Amlwch a'r cylch i ddychryn dirfawr nos Sadwrn, pan ledaenwyd y ncwydd fod mab wedi ymosod ar ei dad, a bod yr hen wr wedi cyfarfod a'i ddiwedd yn mheu ychydig funydau ar ol yr ymosodiad hoaedig. C, Cymmerodd y gyfiafan le mewn llanerch digon di-olwg, lie y mae hofelydd gweigion a thai bychain yn gymmysgedigatbai gwycb, y rhai, y mae yn amlwg, oedd wedi caeleu darparu ar gyfer bod yn lletty-dai, ar waelod troed Mynydd Parys, tr y., oehr O^ledd-ddwyrain o lanau Mon. Yma, ar ffc-i-dd Llanelian, y mae ri-ioi o dai un uchder, pardduog, wedi eu gwyngalchu, llawer o ba rai, modd bynag, er eu hamgylchoedd anffafr- iol, sydd, y mae yn ymddaugos, yn gartrefi i bObIlâu a pbarchus. Y mae tax rhifedi 54 a 56 yu cael eu perchenogi (yr oedd y ddau dy mewn gwirianedd wedi csel eu gwneyd yn uo), gan deulu o'r enw Williams ac yn ol pob banes, ymddengys fod yno lawer tlmvgwd amiedwydd wedi cymmeryd lie yno ac yn y if dwbl yma, fe ddywedir, y dechreuodd y ffrwgwd a droid yn angeuol nos Sadwrn. Dyma yr ystori a ddywedadd y Rhingyll Williams, Amlwch ac hwyrach mai gwell ei rhoddi yn ei eiriau ei hun '— Y II hwyr nos Sad- wrn, tua 11*15/ meddai y, rhingyll, 'bysbyswyd fi gan ddyn fod corph yr hen George Williams, 57, Ffordd Llaneliau, yn gorwedd yu y ffordd, gyforbyn a'i gaitref. Nis gallai y dyn ddyweyd p% un a oedd y corph yn fyw ai rnarw, Aethum i lawr gyda'r dyn, gan alw yn ngorsat' yr hedd- geidwaid am fy lamp ac wedi i mi gyrbaedd y llanerch, gwnaethum archwiliad ar y corph, a gwelais fod Williams yn holloi f,irvv. Yr oedd yna archoll ar y talcen, yn mron uwch ben y Ilygad cbwith, tua modfedd a banner. Aufouais am Dr. Jones, Bodhyfryd ac wedi byny aeth- um i d £ y trangcedig i chwilio am olion gwaei, ond methais a gweled dim yr adeg hono. Yr oedd gwraig y trangeedig yn ei gwely, a gofynais iddi a oedd hi yn gwybod fod ei gwr yn gorwedd yn farw ar Ffordd Llanelian. Dywedod,j hithau, Ydwyf, yr wyf newydd ddyfod oddi wrtho. Y mae wedi bod yn angharedig iawn wrth fy mhlant ar hyd ei oes. Y mae ei enaid heno yn uffern.' Cynghorais hi i beidio siarad felly ond am iddi godi, a gwneyd lie i dderbyn y oorph ond attebodd hithau, Na, y mae'n rhaid i chwi beidio ei ddwyn yma.' We), i ba le yr wyf i'w gymmeryd V gofynais inuau. Attebodd hithau, 'Gellwch ei gymmeryd lie y mynweh ond y mae'u rhaid i chwi beidio ei ddwyn yma.' Dywedais innau, Mi a'i dygaf yma.' Yr oedd Evan Williams, mab i'r trangeedig, yn eistedd ar yr adeg wrth ymyl y tan, a gofyna's iddo a oedd yn gwybod fod ei dad yn gorwadd yn farw ar y brif-ffordd. Nid oedd yu feddw, ond yr oedd wedi cael diod. Ei atteb i'm ewestiwn ydbedd, Nid wyf yn gofalu.' Darfu i mi ar hyn wneyd archwiliad ar ei ddwylaw ond ni welais ystaeniau nac olion gwaed. Gwelais ysmotyn coch ar ei lodrau, a gofynais iddo beth ydoedd. Attebodd yntau mai paeafc oedd oddi wrth y gweithiau paent. Dywedais wrtho am ddyfod gyda mi i gyrcbu corph y trangeedig i'r tf. Attebodd yntau, 'Na ddof.' Dywedais innau, 'Gorfodaf ubwi i ddyfod, ac arosaf o'r tu allan i'ch disgwyl. Aethum yn ol at y corph, a dy chwelais at y t £ pan y cyfarfyddais Evan Williams ac yna cyhuddais ef, ar ddrwgdyb- iaeth, o achosi mavwolaoth ei da:l, a rhoddais of ar ei wyliadwriaeth yn y ftordd fir-ferol. Atteb- odd yntau, £ Ni ddarfu i mi gyffvmld fy nbacl.' Cymmeraia ef i orsaf yr heddgeidwaid, a gwelais waed yma a thraw ar ei ddillad. Gadewais fy mab i gymmeryd gofal o hono, ac aethum i lawr at y He yr oedd y corph, Yr oedd y corph erbyn hyn wedi cael ei symmud, trwy orchymyu Dr. Jones, i dj>- ei wraig. Gofynais yno i "Elizabeth Williams, Gwyddeles, gwraig George, mab arall i'r trangeedig, i ddyweyd yr hanes wrthyf. Dy- Wedodd hithau,4 Mi ddywedaf v gwir wrtbych. Daeth Evan i'r ty tua deg o'r gloch. Yr oedd y swper ar y bwrdd, gyda bacwn ar un plat. Oymmerodd Evan afael yn y plat, a tbaflodd ef a'r llestri t6 o gwmpas. Yna, symmudais y llestri te i fwrdd arall; ond rhoddodd Evan hwy yn ol drachefn. Yna codorid yr hen wr o'r gacian-. Wedi hyny codt.dd Evan oddi ar y settle,' wrth ochr y tan, a rhoddodd y ddynltvd gyntaf i'r hen wr. Tynodd yr hen wr ei g6t ymaith ac amddiffyuodd ei hun am ryw ychyd- ig, ac yna gwnaeth am ddrws y ffrynt, lie yr oedd careg a ddefnyddid i gadw y drws yu agoi- ed, a gwnaeth gais i daraw Evan a'r gareg.' Nid oedd hi yn gwybod a ddarfu iddo lwyddo ai peidio ond cymmerodd Evan afael ar hyny o'r procer, a tharawodd ei dad yn ei ben kg ef. Wedi hyny cymmerodd Evan gadair, a dyrn- odd ei dad a hi nes ei gwueyd YEt ddrylliau. Wedi hyny ciciodd yr hen ,h pan yr oedd efe ar lawr, a neidiodd arno, gau ei satbru o dan ei draed. Y n ddilynol i hyn cododd yr hen WI' i fyny, ac aeth allan, a cherddodd am ryw gant a hanner o latheni, pryd y cwympodd i lawr, ac y bu farw. Gan fyned yn mlaeu, dywedodd y Rhingyll Williams Gofynais iddi wed'yn & oedd hi, neu rywun arall, wedi golchi y llawr wedi i'r hen W1' fyned ymaith, a chyu i mi ddyfod yno. Attebodd hithau ei bod hi wedi ei olchi, am fod yno lyu o waed yn ymyl y drws. Wedi hyny gwnaethum ymchwiliad drachefn, a chefais y gadair yn cbwech o ddarnau wedi ei chuddio o dan wely yr hen wraig; ac yna gofynais i Elizabeth Williams pwy oedd wedi peri iddi hi oichi y llawr, ac atte'bodd hitbau, Evan berodd i mi wneyd.' Gofynais wedi hyny pwy guddiodd y gadair o dan v gwelv, pryd yr attebodd hithau, Fi ddaru, am fod Evan yn peri i mi.' Yna rhoddodd y llhingyll Williams adrodd- iad o'r hyn a ddywedasai Jokn Parry, o fferrn y Ty Pobty. Yr hyn a ddywedodd Parry ydoedd, ei fod ef, pan yn pasio, wedi clywed swn ffrwgwd yn uby y trangcedig, a'i fod wedi sefyll i wrandaw ac yn mhen tua phum munyd, gwel- odd yr hen wr, George Williams, yn dyfod allan, yn orchuddiedig gan waed. Yr oedd y gwaed yn pistyllio o ben yr hen wr, fel pe buasai yn cael ei bympio allan o hono ac er ei fod ef tua llathen oddi wrtbo, cyrhaeddodd y gwaed hyd ato ef, gan ddisgyn ar ei wyneb. Owen Williams, o Pont-ihyd-talog, gweithiwr mewn fferyllfa, a gadarnhaodd yr hyn a ddy- wedasid gan Parry. Gofynodd y llhingyll Williams i Owen Williams a oedd efe wedi bod yn nghwmni Parry cyn i Parry weled yr hen iftr, ac attebodd 0. Williams yn gadarnhaol a dywedodd iddo weled Parry yn y goleuni, ac nal oedd dim gwaed arno. Yna gofynodd y rhingyll i Owen Williams a oedd efe wedi gweled y corpb, ac attebodd yntau ei fod, a bod y breichiau, pan welodd efe of, yu gorwedd gydag ystlysau y corph, fel pe buasent wedi cael eu gosod yn yr ystum hwnw gan rywun. Credai pe buasai y trangeedig wedi gorwedd fel y syithiodd na fuasai ei freichiau yn y sefyllfa hono. Dyna yr hanea dychrynllyd a adroddwyd gan y rhingyll, a dyna yr hams a adroddwyd ganddo hefyd i gynnulleidfa ddychrynedig yn yr hcdd- lys a gynrialiwyd yn ngwestty y Dinorben Arms, o flaen Mr. John Matthews, Mr. Lewis Hugbes, ac ynadon eraill. Dyn ieuangc, naw mhvydd ar hugain oed, ydyw Evan Williams, y cyhuddedig a clywedir mai cymmeriad dryg- ionus sydd iddo, a'i fod wedi syrthio amryw weithiau i ddwylaw yr heddgeidwaid ar gy- huddiadau o feddwdod ac ymosodiad. Rboddir iddo y cymmeriad o fod yn llercyn segurllyd. Yr oedd ei dad, y trangcedig, yn ddeng mlwydd a thrigain oed, ac o fewn y blynyddoedd di- weddaf yn meddu cymmeriad da am ddiwyd- rwydd. Canlyniad y gweithrediadau yn llys yr ynadon dydd LInD ydoedd gohirio yr ym- chwiliad am wythnos. Dydd Mawrth (heddyw) yr oedd y trengholiad yn cael ei gynnal o flaen crwner y sir.
[No title]
DYDD Mawrth agorodd Mr. Jones Roberts, crvvner sir Fon, y trengholiad yn Ysgol y Plant Bach yn Mhorth Ainlwch, ar gorph George Williams, 70ain mlwydd oed, llafurwr, o 56, Ffordd Llanelian, yr hwn a fu farw o dan yr amtjylchiadau a gofnodir uchod. Yr oedd yr ysgoldy yn orlawn, Cynnwysai y rheithwyr naw o gadbeniaid ar y mor. Yr oedd Evan Williams, mab y trangeedig, yr hwn a gyhudd ir, ar ddrwgdybiaeth, o tod wedi achosi marw- olaeth ei dad, yn bresennol, ac o dan ofal heddgeidwad. Y mae yn ddyn ieuangc byw- ieg, ac ymddangosai yn holloi hnnan-feddiannol yn y llys. Yr oedd y darn cadair gyda pha un y dywedid yr oedd y carcharor wedi ymos- od ar ei dad yn gorwedd o dan y bwrdd, ynghyd 4 dillad neillduol. Amlygodd y rheithwyr eu dymuniad am gymmeryd y ffurf Ysgotaidd o 1w; ac ar ol hyny, aethant o'r ystafell i weled y corph ac yna torodd y carcharor i wylo, a pharhaodd felly am rhyw gymmaint o amser. Elizabeth Williams, chwaer-yn nghyfraith y cyhuddedig, oedd y dyst gyntaf, ac ail adrodd odd y dystiolaeth oedd weai ei rhoddi yn flaen- orol. Dywedodd, ar ol i'r carcharor daraw ei thad-yn-nghyfraith, darfa i'r trangcedig ei daraw yn ol i'i ddwrn. Y carcharor—' Na, gyda cbareg, syr.' Y tr.ngholydd—4 Y mae'n rhaid i chwi fod yn dawel yn awr.' Y carcharor (yn wresog)—' Na, gadewch i mi ga.el chwarcu teg, ac y mae'n rhaid i minnau ei gael.' Dywedodd y trengholydd wrth y carcharor y byddai yn rhaid iddo fod yn llonydd, neu y cawsai ei droi allan o'r ystafell. Yn nghwrs y dystiolaeth dangoswyd y procer yr hanid y darfu i'r carcharc,r daraw y trangcedig ag ef. Nid oedd ond procer bycban, teneu, ac nid oedd yn ymdClango3 yn un per- yglus. Ar ol bod am awr a hanner o dan arholiad, cymmerwyd y tyst o'r ystafell mewn eyflwr llQfsmeiriol; ac amlygodd y rheithwyr ddymun- iad am i fam y carcharor gael ei galw fel tyst. Yna gofynwyd i Dr. Jones fyned i wneyd ar- chwiliad ar Mrs. Williams, ac iddo ddwyn ei adroddiad pa un a oedd hi mewn cyflwr cym mhwys i roddi ei thystiolaeth ai peidio. Ar ol bod allan yn yr awyr agored am hanner awr, dychwelodd y tyst, a chatodd ei chroesholi gan y carcharor, ond ni ddarfu iddo lwyddo i newid dim ar ei thystiolaeth. Dychwelodd Dr. Jones, a dywedodd fod mam y carcharor mewn eyflwr cyffrous iawn; a dywedodd, pe buasai hi yn dyfod yno, nis gallai hi roddi unrhyw dystiolaeth o bwys. Dywedodd y Rhingyll Williams, hefyd, na ddywedai hi ddim ond dywedodd y trenghol- ydd, gyda golwg ar hyny, yr anfonai ef hi i garchar os oedd hi yn alluog i roddi ei thyst- iolaeth, a hithau yn gwybod. Wedi i John Parry, ifermwr, Mynydd Madyn, roddi ei dYbtiolaeth, gohiriwyd yr ymchwiliad er cael te. Rhoddodd amryw dystion eu tystiolaeth ar ol te yn lied faith. Croesholai y carcharor hwy yn llithrig yn Gymraeg a Sae&neg. Rhoddoaa IIr. Thomas Jones, Amlwch, adroddiad o La ilyniad yr archwiliad meddygol oedd wedi ei wneyd ar gorph y trangcedig y boreu hwnw. Catudd ddau archoll ar y talcen a'r penglog, a dau archoll o'r tu ol i'r pen. Yr oedd y ddau archoll cyntaf yn cyrbae.id yr BHiwrn, tra nad oeJd y ddau ddiweddaf ond | atcholliou ar groen y pen. Yr oedd yna amryw gleisiau, hefyd, ar y corph. Daeth o hyd i dolchen o waed yn gwasgu ar yr ymenydd, yr hwn oedd yn rhwygiedfg, yr byn oedd yn ganlyniad ffyrnigrwydd. Yr archoll a achosodd farwolaeth, yn ei farn ef, ydoedd yr un ar y penglog. Yr oedd yr oil o'r niweidiau yn gyfryw ag a allasent gael eu. hachosi gan erfyn tniniog. IDygwyd y tystiolaethau i derfyniadlam saith o'r gloch. Pan ofynwyd i'r carcharor a oedd ganddo rywbeth i'w ddyweyd, cydnabyddodd iddo daraw ei dad A chadair, ar ol i'w dad ei daraw ef A chareg. Nid oedd yn gwybod iddo daraw ei dad ft phrocer. Nid oedd erioed wedi bwr- iadu gwneyd un niwed i'w dad. Yna symiodd V trengholydd i fyny yn gryf yn ffafr rheithfarn o Udynladdiad.' Ar ol bod o'r neilldu am ychydig amser, dychwelodd y rheithwyr reithfa.rn o 'Ddyn- laddiad; a cbwanegasant fod ymddygiad caled ac annynol gwraig y trangeedig yn haeddu y coademniad cryfaf. Yr oedd y carcharor wedi cael ei symmud cyn i'r rheithfarn gael ei rh)ddi, er myned i Gaernarfon gyda'r tren olaf. Yr oedd o dan ofal dau heddgeidwad. Ymgynnullodd tyrfa fawr i orsaf Amlwch i'w weled yn cychwyn; ac fel yr oedd y tr6n yn cychwyn, codasant eu lief o aughymmeradwyaeth. Ymgasglodd cyrfa o amgylch y cerbyd lie yr oedd y carcharor; ond cadwodd yr heddgeidwaid ef o'r golwg gymmaint ag oedd yn bossibl. Yr oedd y car- charor yn ymddangos yn eithaf tawel yn ystod yr holl amser.
PORTHMADOG.
PORTHMADOG. LLYS METHDALIAD. YN y llys hwn, dydd Mawrth, ger bron v Cof- restrydd Jones, daeth Edward Edwards, Bron. hyfryd, Harlech, paentiwr, &c., i fyny i gael ei holi yn gyhoeddus. Darfu i'r dyledwr, dros yr hwn yr ymddangosai Mr. Morris -Jones, Porthmadog, ddychwelyd ei ddyled yn 166p 17s., a'i holi 61-eiddo yn 15/J. 13s. Yr achosion hbnedig o'i fethiant ydoedd diffyg busnes yn y gauaf, a cholledion. Dywedai y methdalwr fod ei wraig yn hawlio yr boll ddodretn, gyda'r eithriad o werth tua 6ft. ond cydnabyddodd, mewn attebiad i gwestiynau gan Mr. W. G. Williams, un o swyddogion y llys, fod ei arian ef wedi myned i dalu am y dodrefn, a bod y biliau wedi cael eu gwneyd allan yn ei enw ef. Dygwyd yr arholiad i derfyniad. Bu William Williams Dobson, Railway Stores, Pwllheli, chwegnwyddwr, o dan arholiad pell- ach gan y Derbynydd Swyddogol Cynnorthwy- ol, mewn perthynas i'w drafodaeth a Mr. Wells (benfchyciwr arian). Mewn attebiad i gwestiyn- au, dywedai y methdalwr iddo ef fenthyca 60p. gan Mr. Wells rhyw dair wythnos cyn iddo fyned i lys methdaliad, ac iddo arwyddo pro- missory note am 90p. Nid oedd wedi talu dim yn ol. Mewn Uythyr a ysgrifenwyd at Mr. vVellsgan gefnder, ar ei ran, dywedid fod ei dderbyniadau yn ei fusnes yn 30p. yn yr wyth- nos, ac nad oedd yna ond tir-wystl o 500p. yn unig ar ei eiddo. Yr oedd y naill a'r hall o'r mynegiadau hyn yn anghywir, ac yr oeddynt i'w priodoli i gamgymmeriad o eiddo ei gefn- der, ond darfu iddo ef (y methdalwr) eu cywiro ar ol hyny mewn ymgoma gafodd ftchynnrych iolwr Mr. Wells. Os dywedai yr olaf yn wa. hanol, nid oedd hyny yn wirionedd. Yn yr eisteddiad diweddaf holwyd y methdalwr o berthynas i dderbynebau neillduol, y rhai, yn ol fel yr hbnid, yr oedd efe wedi ymyryd ft hwy, a dangoswyd y derbynebau hyny yn awr. Cydnabyddodd y methdalwr, mewn derbyneb oddi wrth Gwmni Melinau North Shone am 16p., i'r ffigiwr '9' gael ei chwanegu ar ol y 16p., gyda phensil o liw ychydig yn wahanoli'r un oedd yn nghorph y dderbyneb, ac yr oedd 60. wedi cael ei newid yr un modd i tywbeth fel 59 J., ond tyngodd yn bendant nad eedd wedi ymyryd a'r derbynebau hyn mewn un modd. Dygwyd yr arholiad i derfyniad ar y dealltwr- iaeth fod y notes yn cael en harwyddo.
.YSCEIFIOG.
YSCEIFIOG. Marwolaeth a Chladdedigaeth Mr. John Du t ies, Llwyndrain.—Mae yn ofidus genym orfod croniclo marwolaeth un o flaenoriaid hynaf dosbarth Tre- ffynnon, a'r aelod hynaf o'r eglwys hynaf yn air Fflint, sef y Berthen, yn mherson y diweddar Mr. John Davies. Ba farw yn ddisymwth, ar y 14sg cynaol, ar ol ond ychydig ddyddiau o gystudd, yn 67ain mlwydd oed. Ganwyd Mr. Davies yn y Pentre. Bu yn aelod o eglwys y Berthen ar hyd ei oes; a bu larw o fewn ychydig gannoedd o latheni i'r lie y ganwyd ef. Dewiswyd ef yn flaenor o ddeutu 37ain mlynedd yn ol, a llanwodd y swydd bwysig hon gyda tel a brwdfrydedd. Yr oedd yn wr o ddaliadau uchel a barn addfed. Bu yn aelod o Gynghor Dosbarth Treffyanon dros y plwyf uchod am ysbaid o saith mlynedd, ae yn aelod o'r Cynghor Plwyf am rai blynyddoedd ar ol sefydliad y ddeddf. Yr oedd, hefyd, yn aelod o Bwyllgor Ysgoldy Brytanaidd Licswm. Anfyn- yoh y gwelir y geiriau, 'Nid oes i brophwyd an. rhydedd yn ei wlad ei hun yn cael eu gwrthbrofi i'r fath raddau ag y gwelwyd hwynt dydd Gwener diweddaf, sef yr 17eg, yn nghladdedigaeth Mr. Davies. Cafodd ei angladd ei chario allan o dan ddeddf 1880.1 Wrth y ty darllenodd Mr. Ban jimin Pritchard, Acerfair, ran o'r Ysgrythyr, ac arweiniwyd mewn gweddi gan y Parch. J. Ernest Jones. Treffynnon. Wedi hyny aed a chorph yr ymadawedig i'r cipel, pryd y darllenwyd yn mhsllach gan y Parch. Thomas Jones. Coedllai, a gweddiodd y PArch. William Williams, Bagillt. Siaradodd y brodyr caulynol mewn porthynas i gymmeriad Mr. Daviea; sef, y Parch. J. E. Divies, Treffynnon y Mri. Robert Jones, Rhyd. y-mwyn Joseph Ames (yn nesaf ato y blaenor hynaf yn y Berthen), a William Thomas, Pias- nowydd a gweddudd y Parch. Edward Pierce, Tre!ogan, yn deimladwy iawn, ar ran y teulu, yr eglwys, a'r gymmydogaeth oedd mewn profedig- aeth. Yr oadd yr orymdaith yn y drefn ganlynol: —Gweinidogion a phregethwyr, swyddogion eglwyaig, yr elor-gerbyd, y teutu, sef Mrs. Davies (gweddw), y Mri. K. T., J. E a Samuel Davies (meibion), Misses M. H. a Cisaie Davies (merched), y oyhoedd. Wrth y bedd darllenodd Mr Evan Davies, Cileain, y gwasanaeth. Gweddïodd y Parch H. Uwohllyn Jones (i.), Rhesyoae; a rhoddwyd yr emyn Bydd myrdd o ryfeddodau allan gan Mr. John Fox (B ), Nanneroh Y mae yn ffaith nodedig na chladdwyd neb o dan y drefn newydd yn y plwyf hwn hyd o ddeutu uaw mis yn ol; ac er yr ainger hwnw y mae tri wedi cym meryd mantais o'r ddeddf—a r 011 i gladdu rhai oedd yn aelodau o'r un eglwys. Y gyntaf oedd Mrs, Jones, mam y Parch. Thomas Jones, Coed- llai; yr ail, Mrs. Eva!). ,fh.rni3dd. wen fawr; trydydd, Mr, Jobs Davies, Gobeithio y bydd j Ymneillduwyr y gymmydogaeth barhau i gym- meryd meddiant o'u hawlian.—Gohebydd.
[No title]
Yn Ffraingo y mae 148,000 o deuluoadd gyda saith o blant bob un. Yn "I oyfraith Fframgo y mae y cyfryw bonau teuluoedd yu cael eu rhydd- han oddi wrth drethi neillduol. Yr oedd yna lai o aDghydwelediadau masracrot y flwyddyn ddiweddaf nag a fu mena unrhyw Uwy 'ciyu er 18-93 ond yr oeddywt MU dyunudi meithach. Rbifai yr anghydwelediadaa 624 ac eflFeishienfi ar 178,000 o bob!, a chynawy setii golled o 3,931,000 o ddyddiau gweithio.
HEJST KRUGER,
YCHYDIG ia\^n sydd o son y dyddiau hyn am yr HEJST KRUGER, y creadur llwfr, digalon, a diberfedd, yn gadael ei wraig i ymdaraw goreu y gallai, yn gadael ei ffryndiau, ac yn gadael ei wlad -y llwfryn di-ymddiried Fuaswn innau ddim yn son am y ffadist' (gair ydyw hwn yna a arferir gan rai o aelodau Cynghor Urban Treffynnon) oni fuasai fy mod wedi derbyn telegram o WYDDGRUG, yn rhoi hanea rhyw wag oedd yno yr wyth- nos ddiweddaf yn gwerthu 'SOFEENS KRUGER.' Yr oedd gan y chap lon'd hand-board o sofrens melynion, ag y dy wedai mai' sofrens Kruger' oeddynt, a'i fod o wedi dyfod yno i'w gwerthu am geiniog yr un. A dywedai wrth bob prynwr am beidio eu newid ar un cytrit. A gwerthodd gannoedd o lionynt. Ond ni chymmerodd pob prynwr ei gynghor i beidio a'u newid. Ond rhedodd rhai gyda'u sofren i'r siop i geisio nwyddau. Aeth un wraig i siop esgidiau, a phrynodd bar am Is. 10c., a rhoes y'sofren' i dalu, a chafodd y peryn esgidiau, a deunaw swllt a dwy geiniog o newid Dylai yr hen Kruger gael cly wed am y bargeinion y mae pobol y Wyddgrug yn eu cael am ei sofrenau di-werth PRYNU CEFFYL. Dyma i chwi delegram, Arthur, ebe Doctor wrthyf y dydd o'r blaen. Yr oedd swel o chap hunanwybodus yn myn'd i brynu ceffyl. A dyna lie y bu yn teimlo ei goesau, a'i glustiau, a chwilio ei garnau, a'i gynffon. Ac wrth ei wel'd yn crafu ei ben, a chwilota o gwmpas y gyDtfon, ebe y groom wrtho, Please sir, his teeth is at the other-end '-y mae ei ddannedd, syr, yn y pen arall Ond peidiwch chwi, BOYS Y WASG yna, fl chwerthin, a meddwl mai pobl y Wyddgrug, a phrynwyr ceffylau ydyw yr unig rai sydd yn gwneyd camgymmeriadau. Fe welais i, dipyn o amser yn ol, boys y papyrau yma yn hysbysu fod Mr. Hwn a- Hwn wedi marw. A chyn pen yr awr ar ol i'r papur dd'od i oleu dydd, aeth yr hen tVr bonheddig i lawr i'r offis i chware'r diafolo, a thyngu nad oedd o ddim wedi marw Wrth gwr?, 'doedd gan y cyhoeddwr ddim i'w wneyd ond tynu ei gyrn i fewn, a rhoi bai ar y d 1. LLANELWY. Y mae Mr. Lloyd-Price yma wedi bod wrthi, yr wythnos ddiweddaf, yn rhoi heplas lecsiwn yn mrestiau pobl Llanelwy acw o'r esgob i lawr at y clochydd. Ac y mae o yn myn'd i bobi gyda burym hen ffasiwn-bur- ym br&g a hops, ac nid burym wediei wneyd yn Germany. Y mae Mr. Price, er ei gl6d a'i anrhydedd, am godi ei wlad ei hun a i phobl mewn masnach, morwriaeth, mewn celfydd- yd, mewn addysg, a phob gallu derchafol. A dywedai mai y Llywodraeth bresennol a all roi i ni bron bob diwygiad Ond, ai tybed ei fod yn iawn wrth ddyweyd mai gan y Llywodraeth bresennol y gallwn ddisgwyl am y deddfau gwrth-farilol goreu] o bawb. Mae yn wir ein bod wedi cael, gan y Llyw- odraeth bresennol, GYFRAITH Y PEINTIAU dan sel. Dywedodd rhywun yn yr offis yma mai cyfraith ddinystriol i'r tafarnwr ydyw cyfraith y botel beint, y corcyn, a'r sel— nonsense! Cyfraith i orfodi dyn i yfed rhagor ydyw. O'r blaen, gallasai dyn, ar ol dyfod o'i ddiwrnod gwaith, anfon am hanner peint i'r ty. Ond yn awr, rhaid iddo anfon am beint. Ac nid hylaw, bob amser, ydyw i ddyn-na dynes—i gael gafael mewn plentyn 14eg mlwydd oed i fyn'd i nol y' pemt j' ac felly, wrth gwrs, fe aiff y dyn ei hun i'w nol, a deg i un yr aiff yn ol i'w dy heb gael, hwyrach, dri neu bedwar peint, heb eu corcio, na'u selio! Na, 'dyw y tafarnwr ddim yn ddig wrth ddeddf y botel beint. Wrth son am gyfreithiau, fe glywais lawer gwaith fod yn y wlad yma gyfraith i'r cyf- oethog a chyfraith i'r tylawd, ac yr oeddwn i fy hun yn anghredadyn ar y pwngc. Ond erbyn hyn yr wyf wedi fy argyhoeddi fod. A gellwch chwithau wel'd yr un peth, dim ond i chwi edrych ar ymddygiadau YNADON BANGOR. Iddynt hwy ni raid i ardalydd o droseddwr ddim ond d'weyd wrth yr ynadon—trwy ei dwrne—na wna efe ddim troseddu gyda'i motor mwyach, na cliaiff ei ollwng yn rhydd. Ond os digwydd i dipyn o chwarelwr fod o'u blaenau yn yr un cyfarfod a'r g\tr mawr wedi gwneyd tipyn o drosedd, ac yn addaw i'r ynadon na wna yntau droseddu mwyach, mwy na'r gwr mawr, fe gaiff y chwarelwr ei gospi, a'r gwr mawr ei ollwng yn rhydd- Bosh Yn wir, welwch chwi, yr wyf fi yn llwyr gredu y byddai yn well i'n gwlad gael un Stipendiary Magistrate—un ynad taledig—fel barnwr Ilys siro], i fyn'd o gwmpas y wlad, yn lie llenwi ein meingciau ynadol gyda rhyw drapers, grocers, teilwriaid, a chrydd- ion. Wrth son am gryddion, y mae gen i ftys ofnadsen anfon mesur fy nhrocd am bar o ESGIDIAU GWAITH CARTRE' at y brenin, o blegid y mae nhw yn meddwl y gall o wneyd peryn o esgidiau yn y dull hen ffasiwn-lwme made pair—yn rhagorol, ac nid rhyw hen slops wedi eu gwneyd o bapur, fel a wneir yn awr. Buaswn yn leicia yn fy nghalon ei wel'd yn pwytho esgid gref, gydag edau o bedwar plyg-ar- hugam o gywarch! neu, a'r lab done ar ei lin Nid y fo, yn y cyflwr hwnw, fuasai yn stick to the last Wythnos i heno cynnaliwyd cyngherdd yn yr Assembly Hall, gan Gôe Undebol' TREFFYNNON, dan arweiniad Mr. J. E. Pierce. Cymmer- wyd rhan yn y cyngherdd gan -.—Sopranos, Miss Mary Langdon (o gyngherddau Liver- pool a Lluudain), a Miss Garner, Treffyn- non Contralto, Mrs. Gwilym Morris, Tre- n'ynnon tenor, Mr. J. Halton Morris; bass, Mr, John Harrison (o gyngherddau Llundain a'r provincial); offerynwyr, The Mandoline Band—Misses Morris, Treffynnon cyfeil- yddes, Miss Johnson Jones, Pistyll; cyfeil- ydd y cor, Master Gwilym Parry, Treffyn- non. Treuliwyd rhan gyntaf y cyngherdd gyda The Nautical Cantata, The Buildin,g of the Ship,' a'r ail ran gyda'r caneuon canlyn- 01 :-Cydgan, 1 Awake JSolian Lyre,' y Cor Merched. Can, The Last Watch Mr. J. Halton Morris. Can,'Flight of Ages,' Mrs. Gwilym Morris. Unawd, 1 Andante Canta- bile,' Mandoline Band. Can, (a) I The Rose? (b)1 The ThrostleMiss Mary Lan^don. G&n, 4 The DesertMr. J. Harrison. Unawd,1 La Serenata] Mandoline Band. Deuawd, 1 Noon- tide heat,' Miss Langdon a Mr. Harrison. Can, Light in Darkness,' Mrs. G. Morris. Can, '0 Song Divine,' Mr. J. H. Morris. Waltz Song, 'Happy Young HeartMiss M. Langdon. Can, (a) Old Welsh A v\ '.All through the Night,' (b) 'I would 1 were a king] Mr. J. Harrison. Diwedd-gl6, God Save the King.' Cafwyd cynnulliad campus, ac aeth pawb, ar y cyfan, trwy ei waith er boddh&d i'r gynnulleidfa, yn neillduol y rhan olaf o'r cyngherdd. Buasai y cyngherdd yn llawn mor gymmeradwy pe buasai yndd) dipyn o Gymraeg a llai o Ship Building. Bydd yn chwithig, mi wn, gan haws o ddarllenwyr y FANER glywed am farwolaeth sydyn Mr. John Davies, LLWYN DRAIN, LIXWM, yr hyn a gymmerodd le Ionawr 14eg, yn ei 67ain mlwydd oed. Ionawr 17eg, cludwyd ei weddillion gan dyrfa fawr i orphwyso yn hen fynwent Ysceifiog. Gwasanaeth wyd wrth y ty ac yn y fynwent gan y Parchedigion Benjamin Richard, Acerfair J. Ernest Jones, Treffyn- non Evan Davies, Cileain Uwchlyn Jones, Rhesyeae J. E. Davies, Trenynnon a Mr. John Fox, Nannerch. Yr oedd Mr. Davies yn fasnachwr pwysig, ac yn un o'r ffermwyr mwyaf llygad-graff ac adnabyddus yn yr ardal. Bu yn un o Warcheidwaid Undeb Treffynnon dros blwyf Ysceifiog am lawer o flynyddoedd; ac yn un o flaenoriaid hynaf a pharchusaf y Methodistiaid yn y Berthen. A theimlir fod gwagle mawr ar ei ol yn ei gartref, ac yn ei eglwys. Yr eiado^h AUTUUR LLWYD.
COEDPOETH.
COEDPOETH. Yr Ysgol But-Nos Lan cynnaliwyd cyfarfod arbenig yn nghapel Bethel, mswn cyssylltiad ag Ysgolion Sabbothol Methodistiaid Calfinaidd dos- barth Adwv'r C!awdd. Amoan y cyfarfod ydoedd deffro y M. tbodistiaid Caltinaidd i yatyriaeth briodol o'r cyfleusderau gynnygir gan yr Yagol Sabbothol i wir lwyddiant, ae i ad-gofio hywyd hunan aberthol ein tadan, ac i adoewyddu ein peitbynas a'r ysgol, ac i enrill mwy o weithgarwch ar ei rhan. Llywyddwyd gan Mr. R. Hughes, Heiyg Shop, so anercbwyd y cyfarfod gan y PA'ohn. Evao Jones, Bodawen J Garmon Owen, Bwlchgwyn; Mr. J. Davies. (Neifon), Bwlch- gwyn a Mi. Rees Edwards, Nant a chafwyd unawdau gan y Mri. William Jones, Beehive Stores a John Lloyd, Adwy'r Clawdd. Deebren- wyd y cyfarfod gan Mr. D T. Jones, a diwedd- wyd gan Mr. Robert Williams, New Broughton. Diau fod y cyfarfod hwn yo gam da iawn tuag at gvrhaedd yr amcan sef, deffro y rhai sydd yn cypgu, ac y mae peth wmbredd o hoBynt yn y dos. barth yma, yn mhhth pob sect. Damwain — Uydd Gwecer, yr 17eg, cyfarfa William Hooson. Tanyfron, a'iddiweddynNertofa Plaspower, trwy i awm o 16 gwympo arno.-Goheb.
Marwolaeth Y Parch. JOHN ADAMS,…
Marwolaeth Y Parch. JOHN ADAMS, Nannerch. GYDA galar dwys yr ydym yn hysbysu heddyw am farwolaeth y:Pareh. John Adams, Bron Haul, Nannerch, a chyn hyny o Fryn Ibod, Trefnant. Gweinidog yn nghyfundeb y Meth- odistiaid Calfinaidd ydoedd Mr. Adams, o fewn cylch cyfarfod misol sir Fflint. Genedigol ydoedd efe o Cileain, ac yn hauu o un o deulu- oedd parchusaf y fro hono, yn yr hon, gyda llaw, yr oedd iddo gryn lawer o eiddo, yr hyn oedd yn ei osod mewn amgylchiadau hynod o gysurus, Bu yn gwasanaethu yr achos yn Rhuallt ac yn Gronant am rai blynyddoedd, ac yn ffyddlawn a chymmeradwy yn ei gylch, Oddi yno bu*mewn cyssylltiad a'r eglwys yn Nhrefnant, a'i wasanaeth yr un mor gymmer- adwy. Pan y symmudodd efe o Fryn Ibod, ac yr ymgartrefodd yn Bron haul, ger Nannerch, cafodd yr achos bychan yn Mhenyfelin y fan- tais arno, cvhyd ag y daliodd ei nerth. Er's rhai misoedd yr oedd cystudd blin yn ei gaeth- iwo i'w letty, diwedd yr hwn a ddaeth dydd Mawrth diweddaf, tra yr oedd efe, gallem dybio, o 55ain i 60ain mlwydd oed. Yn naturiol, yr oedd y diweddar Mr. Adams yn ddyn o feddwl cryf, ymchwilgar, a chyw- rain. Aradegau pregethai yn nodedig o dda a gafaelgar. Er nad oedd ganddo lais mawr a chryf, etto yr oedd llawer o dreiddgarwch a swyn ynddo a phan y cynnhyrfid ef gan ryw- beth, bydfti nerth anorchfygol yn ei weinidog. aeth. Perthynai i gyfarfod misol bir Fflint, ac o fewn hwnw y treuliodd ei holl oes weinidogaeth- ol. Anfynych yr elai ar grwydriadau pell oddi cartref. 0 herwydd hyny, nid oedd mor adna. byddus a llawer pregethwr llai mewn gallu nag ef. Ei amgylehiadau clyd a chysurus, hefyd, a barent nad oedd gwasanaethu lleoedd bychain, gweiniaid, ond hyfrydwch iddo. Fel dyn yr oedd yn gyfaill cyvilr, a thra charedig. Yr oedd yn un y gellid ynridiried ynddo. Nid oedd dim yn ormod ganddo ei wneyd dros y rhai y byddai rhyngedo gyfeill- garwch a hwy. Gallem ddyweyd am dino yn arbenig, hefyd, mai nid dyn un cylch yn unig ydoedd. Yr oedd cylch ei ddarlleniad yn eang, ac o herwydd hyny yr oedd yn gallu teimlo dyddordeb yn mhyngciau cyffredinol y dydd. Yn mha ardal bynag y byddai ei drigias yn digwydd bod, er enghraifft. byddai yn golofn gadatn 0 dan Ry Idfrydiaeth yn y gymmydog- aeth hoLO. Meddai argyhoedaiadau dyfnion ar gwestiynau rhyddid gwladol a chrefyddol; a safai dros ei egwyddorion ar bob aehlysur yn ëofa. heb brisio am wg na gwên neb. Collodd yr achos Rhyddfrydig yr sir Fflint un o i gefn- ogwyr mwyaf aiddgar. Ni bu erioed yn briod, eithr ar hyd ei oes yn llettya, ond yn mhob man yn gadael argraph ei fod yn ddyn, Cristion, a gweinidog cymmhwys y Testamont Newydd yn ngwir ystyr ymrtd. roddion hyn. Cymmer ei angladd le yn mynwentoCilcain, dydd Gwener nesaf (heddyw). Cychwyna yr orymdaith oddi wrth Fron haul am un o'r gloch yn y prydnawn, a disgwylir cyrhaedd pentref Cilcain erbyn o ddeutu dau o'r gloch, pryd y cynnelir gwasanaeth byr yn y capel. Oddi yno eir i'r fynwent, iddaearu gweddiliion marwol y gwr yr oeddym yn hoff o hono, yn ei fywyd, ac y teinilwn yu chwith a galarus o herwydd ei I golli.
? OEHE
hwnw yn Chwefror, 1882, i ymgymmeryd &'i weinidogaeth bresennol. Rhyw ddeng mlynedd yn ol llanwodd y swydd o lywydd Undeb Bed- yddwyr Cymru. Y mae Mr. Harris yn rhoddi ei weinidogae'.h i fyny ar gyfrif llesgedd a gwendid. Pasiodd Cynghor Sirol sir Fi,yeheiniog ben- derfyniad, dydd Gwenor diweddaf, yn ffatr cynnygiad sir Gaernarfon, y dylai y Llywodr aeth eefydlu un arolygiaeth filwrol dros yr oil o'r Djwysogaeth. Pasiwyd, hefyd i anfon cynnrychioliad at y Postfeistr Cyffredinol ar ilrefniadau diffygiol y llythyrdy yu sir Fry- cheiniog. Wrth siarad mewn cyfarfod o Gorph Llyw. iawdwvr sir Aberteifi, dydd Iau, sylwodd y Prifathraw Roberts, wrth gyfeirio at feirniad- aeth ddiweddar Bwrdd Canolog Cymru, tra yr oedd yn cydnabod y gallai y bwrdd wneyd r hai carugymmeriadau, ei iod wedi gwneyd gwaith o'r gwerth mwyaf i addysg eilraddol yn Nghym- ru. Yr oedd yn gorph oedd yn havvlio parch dysgedigion Saesnig, ac yr oedd gan y Cymry bob rheswm dros deimlo yn falch o hono. Cred- ai ef mewn beirniaid oedd yn aincanu yn onest at syrnmud diffygion; ond ni byddai et yn blaid i unrhyw symnmdiad dinystriolneu anghyfeill- gar yn erbyn Bwrdd Canolog Cymru. CWMFELIN, BEDLIKOCJ.—Ymwehad Ejmgyles. Y Sabbath, lonawr 19eg, cynnaliodd eglwys y Bedyddwyr yn y lie hwn ei chyfarfod preg- ethu blynyddol, pryd y pregethwyd trwy y dydd i gyimulleidfaoedd inawrion dros ben gan yr efengyles dalentog, Mrs. BJaenllecnau Jones, Caernarfon. Y u'.ae Mrs. Jones wedi bod yma amryw droion o'r blaen, ond ni chlywsom hi erioed yn pregethu yn fwy meistrolgar a dylanwadol na'r tro hwn. Dealiwn ei bod yn awr ar y maes er's dros ugain mlynedd; ac, yn ddi ddadJ, y mae yn parhau i ddisgleirio fwy fwy. Caffed hir oes 1 wasanaethu y Meistr mawr. Nos Lun, dra- chefa, bu yn traddodi ei Jariith boblogaidd ar Eirwiredd i gynnulleidfa fawr. Llanwyd y gadiir gan y Cynghorwr J. Edwards, Bedimog. Elai yr ehv at yr achos yn y lie.—Gohebydd.