Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
Hide Articles List
12 articles on this Page
AT EIN GOHEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOHEBWYR. Yn ein nesaf-Verses in memory of Mr T. J. Freme, Glanceirw, &c.
Y BALA.
News
Cite
Share
Y BALA. PERSONOL.—Y mae y Parch Llewelyn Ed- wards, M.A., Llundain, brawd y diweddar Brifathro Edwards, Bala, yn hwylio i'r Amer- ica, lie yr erys flwyddyn. Hwylia Syr Watcyn W. Wynn i Ddeheu Affrica i wella ei iechyd. Bwriada dreulio tri mis yno. CENHADOL —Prydnawn yfory (Iau) bydd y Parch R. J. Williams, Lerpwl (Ysgrifenydd Gymdeithas Genhadol Gymreig y Methodist- iaid) yn traddodi anerchiad i'r chwiorydd yn festri capel Tegid. Yr un noson, am 7, yn yr un lie, bydd Mr Williams a boneddiges yn anerch cyfarfod cyhoeddus. Gwahoddir pawb i'r cyfarfod hwyrol. Ih.RLITH.- Y mae pob argoelion y bydd y ddarlith nos Wener nesaf yn dra phoblogaidd, oblegid deallwn fod y cyfeillion aethant o gwmpas i werthu tocynau wedi cael derbyn- iad siriol yn mhob man. FOOTBALL. Bala Press journeyed to Ruabon on Saturday to play Druids Reserves in the 4th round for the Welsh Amateur Cup. The result was-Bala i goai; Druids 5 goals. The Press suffered their first defeat this sea- son on Saturday, and we sincerely hope it is their last. A match will be played at Bala on Saturday between the Press and Ruthin, Kick-off at 2-30.
;CORWEN:
News
Cite
Share
CORWEN: DIRWEST.-Nos Wener, yn Ysgoldy y M.C, cafwyd noson ddifyr yn nghwmni Plenydd, yr hwn oedd ar ymweliad dros Gymdeithas Ddirwestol yr Alliance, ac nid oes angen dweyd ddarfod iddo roddi araeth dda. Lly- wyddwyd gan y Parch. J. Felix, gan yr hwn, yn nghyd a'r Parchn. John Williams ac L. Davies y cafwyd ychydig eiriau cefnogol i'r ymdrech ddirwestol. CYNGERDD.—Disgwylir y bydd y Cyngerdd nos Wener nesaf-y cyntaf o gyfres a gyn- helir er budd y symudiad i ddwyn Corwen i sylw-yn un llwyddianus iawn. Paratoir yn galonog ar gyfer y cyngerddau hyn.
COLLFARNU ARTHUR LYNCH.
News
Cite
Share
COLLFARNU ARTHUR LYNCH. BRAD AELOD SENEDDOL. Agorwyd prawf Arthur Alfred Lynch, aelod seneddol dros Galway, ar gyhuddiad o deyrn- fradwriaeth drwy gymeryd rhan yn erbyn Llywodraeth Prydain, yn rhyfel y Transvaal, ddydd Mercher, gerbron yr Arglwydd Brif Farnwr, y Barnwr Wills, a'r Barnwr Channel. 2. Gwadai y carcharor y cyhuddiad. r Agorwyd yr achos dros y Goron gan y Pen Twrne, ac ar ol holi llawer o dystion, gohir- iwyd. Parhaodd yr achos ddydd Iau. Wedi gorphen yr aqhos dros y Goron, ag- orodd Mr. Shee, K.C. dros yr amddiffyniad, a dilynwyd ef gan Mr. Avory, K.C. Ymres- ymasant y dylid ystyried dyn a elai o'i fodd yn ddeiliad mewn gwlad dramor, adeg rhyfel, o dan Ddeddf 1870. wedi peidio a bod yn ddeiliad Prydeinig. Ni chytunai y Barnwyr a. hyn. Yn y llys, ddydd Gwener, traddode3 Mr Shee ei anerch- iad dros yr amddiffyniad, a chrynhodd yr Ar- glwydd Brif Farnwr y tystiolaethau. Bwrindd y rhelthwyr ddyfarhiad Ð euog 3 a chyhoeddwyd y gollfarn ar y carcharor gan y Barnwr Wills. Tybir y bydd iddo gael trugaredd.
-----Ymadawiad Iiwfa Mon.
News
Cite
Share
Ymadawiad Iiwfa Mon. Nos Lun diweddaf ymgynullodd tyrfa fawr o Gymry twymngalon Llangollen i'r Pafilion yn y He hwnw i ffarwelio a'r Arch- dderwydd Hwfa Mon ar ei ymadawiad i Rhyl. Llywyddwyd y cyfarfod gan y cynghorwr John Rowlands, a chafwyd anerchiad cynhes iawn gan y Parchn. W. Ffoulkes (M.C.), D. Williams (P.), Rees (B.) Llangollen Llifon, Pedrog, Ficer Pritchard, Rhos, ac amryw eraill. Ar ran gymdeithas lenyddol Gymreig Llangollen cyflwynodd y cadeirydd timepiece hardd i Hwfa fel cydnabyddiaetd fechan trefwyr Llangollen o wasanaeth yr Archdder- wydd hybarch i lenyddiaeth a barddoniaeth y cened!. Diolchodd Hwfa mewn ychydig eiriau. Boreu Mawrth daeth tyrfa fawr i'r orsaf i ffarweiio ac ysgwyd Haw a Brenin Cymru. Hir oes iddo yn ei le newydd.
ERCHYLLWAITH PEASENHALL.
News
Cite
Share
ERCHYLLWAITH PEASENHALL. PRAWF SEITHUG ETO. Dechreuodd ail brawf William Gardiner ar gyhuddiad o ladd morwyn o'r enw Harsent, yn Peasenhali, Mehefin diweddaf, yn Mrawd- lys Suffolk, ddydd Mercher, gerbron y Barn- wr Lawrence Yn y prawf cyntaf methodd y rheithwyr a chytuno. Seiiid yr achos yn hollol ar dystiolaeth am- gylchiadau, Parhawyd y prawf ddydd Iau, Darllenwyd amryw lythyrau di-enw anfonwyd at olygydd newyddiadur o Ipswich, ac at yr heddlu. Honid eu bod yn gyfaddefiadau o'r trosedd ar ran rhyw berson sydd eto'n rhydd. Ddydd Gwener, wedi gorphen yr achos dros y Goron, anerchodd Mr Wild y rheith- wyr dros yr amddiffyniad. Galwodd ar Mrs Gardiner, gwraig y carch- aron, a rhoes dystiolaeth fod y carcharor ar noson y cymerodd y Hofruddiad le gyda hi mewn ty cyn-,ydog hyd haner awr wedi un ac nac aeth o'i dy ei hun ar ol yr awr hono, hyd haner awr wedi wyth yn y boreu. Rhoes Gardiner dystiolaeth ar ei ran ei hun, a dywedodd fod amryw dystion dros yr erlyniad yn dyweyd apwiredd. Terfynwyd y prawf ddydd Sadwrn. An- erchwyd y rheithwyr gan Mr Wild a Mr Dickens (dros y Goron), Ymneillduodd y rheithwyr, ac wedi absenoldeb maith, dych- welasant, a hysbyswyd na chytunasant. Anfonwyd Gardiner yn ol i'w gell i ddisgwyl trydydd prawf yn Bury St. Edmunds yn Me- hefin nesaf.
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
GENEDIGAETHAU. Ionawr 20, yn Ingledene, West Parade, Rhyl, priod y Milwriad C. S. Mainwaring, Bwlchybeudy, Oerrigydruidion, ar ferch-cyntafanedig. Ion. 24ain, priod Mr John Ellis, Arolygydd Cwm- ni Yswiriol y Pearl, Porthmadog, ar ferch—cyntaf- anedig. PRIODASAU. Ion. 19, yn Ystafell Genadol Penllyn, Llangollen, gan y Parch. John Williams, Corwen, yn mhresenol-I deb Mr. James Clarke, Cofrestrydd, Mr. John Evans, Liverpool Cottages, a Miss Mary Hughes. Westbourne Terrace—y ddau o Gorwen. MARWOLAETHAU. Ion, 21, yn 67 mlwydd oed, Mrs. Mary Ann Jones, anwyl briod Mr. John Jones, Pantwyll, Corwen (gynt o Peniarth Farm). Hefyd yr oedd yr ymadawedig yn unig chwaer oedd yn fyw i Mr. Edward Jones, Park Shop. Daeth cynulliad mawr i'r claddedigaeth yr hyn a gymerai le yn Llansantffraid ddydd Sadwrn. Ion. 27, yn 67 mlwydd oed, Mrs Elizabeth Roberts (gweddw y diweddar Barch. E. Roberts, Coedpoeth), Aran View, Bala. Ion. 27, yn 74 mlwydd oed, Mrs. Ellen Jones (gweddw y diweddar Mr John Jones, Gof), Efaily- meusydd, Llandrillo. Cymer y claddedigaeth le yn mynwent newydd Llandrillo ddydd Sadwrn nesaf, am ddau o'r gloch y prydnawn yn brydlon. Yr oedd yr ymadawedig yn wraig dra rhinweddol, a gedy ber- arogl ar ei hoi yn y teulu, yr eglwys Annibynol (lle y bu yn aelod ffyddlon am faith flynyddau), ac yn yr ardal. Bu yn dihoeni am hir amser, ond dyoddefodd yn dawel a dirwgnach. Gadawodd amryw blant mewn galar dwfn ar ei hoi, un 0 ba rai ydyw y Parch. D. Jones, Ruthin, gyda pha rai y mae ein cydym- deimlsd dyfnaf.
-
News
Cite
Share
reu y gauaf wedi eu gV* J ij a. JJ dymuno ar i bawb sy^ uorbyw afe1'"? gwaith o'm digolledu vae f bynfynioloh/.twchllwyraf^ J n y lllolchcrarwch llwyra lip]. yreidd«A 1 I
'"CERRIG-Y- wydd i
News
Cite
Share
CERRIG-Y- wydd i Z/OTM)^-Pan f* Cerrig fod priod y Col y rhoddi genedigaeth i ferch Y" YI drwy y lIe, ddangoswyd Haw^nydd aph a buan y rhoddwyd bane J3\vlchy # dymuno yn dda i deulu cai ■
j FFEIRIAU GOGLEDD ' I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
FFEIRIAU GOGLEDD I RPYOLIWO1* Chwefror 2-Gvn-ecsam, J- a lletb. 3- Llanrwst, W — 4-WyddgrW V* „ 5—Bodedeyi'B, Llang {Qjli C& einion. fo-r Cafirel 6-T«fljnon,L»nKri. wy, Llanerchy«!ea ——^ivved"3 j0cfol
[No title]
News
Cite
Share
Dadorchuddiwyd cofeo Lloyd nawn Gwener yn j°ho Qi Dolgellau. Llywyddai y f rheithor, a thraddodes an ^o\ o # Hefyd, cafwyd sylwada Parch E. T. Watts, Parch Ed Vol^K0 Llanidloes, a Mr J. C. Hug' ma'flyd 0 t yt Y mae Llew Tegid wedi y^n Q00p yn ygwaith enfawr o S^ d^oai G°l U amcan o godi adeiladau oe ? sgltf newydd Prifysgol Bangor. j,20rau 1 dramwy'r tir a sefydlu P J 0(Jd. yn mhob ardal hyd y. bylrfod a derW yma, y mae'r apel wedi cy gwresog a haelionus iawn. dywe Wrth ymddyddan a go e J Mon, yr Archdderwydd, to u perygl parthed Seismgei*3 daDg0sodd Cymreig. Fel engraipht, 0^fejriad 0. anfones rai misoedd yn 0 v j b'Ie^ yddus yn St. Asaph (Llanelwy^ y iodd y llythyr. Wrth farn uu yn cjj. oedd ar y llythyr, ymd^en^r tref yn Ngogledd a Deheudjr Cj^ f reu gyda"Llan. Yna ft dodau ef i Lundain, ac ar ft daith, cyrhaèddodd y Ilythyr I L odaín, ugain milldir o Langollen, drwy
Advertising
Advertising
Cite
Share
BrethynaU y BretliyiiaU'' ARDDANGOSFA YSBLEN Mewn Brethynau at W CHOTIAU UCHA, a k j mlh tume Cloth. ^wneirvhvbtfd y tip-top style, ac yn ol prisiau ^eUJyJ Ganiateir 1/- yn j 60/ 42/ 50/ gwerth o W' Telerau—Ar*a* Cofiwch y cyfeiriad?-' R. DA V! dilladfab O.Y.—Gwneir proof Coat# v