Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
HARLECH A'l OLEU. I
HARLECH A'l OLEU. I Mr Golygydd.-Darlle,nais gwyn yn eich rhifvn diweddaf am oleuadau Harlech yn ystod oriau yr hwyr, a'i goruchwylwyr, wedi ei arwyddo gan Trethdalwr." Hyd y gwelais i nid oes le i'r achwynwr roi ei droed i lawr. Mae y Pwyllgor yn ddiddadl yn gwneyd ei oreu ar ran y plwyf, y dref, a phersonau unigol, ac hefyd mae lie i gredu ar ran yr achwynwr, ond ei fod wedi bod yn rhy brysur gyda'i gyhuddiad disail. Mae genym fel cynrych- iolwyr lawer, o waith wedi ei dori allan, ac os bydd gormod o farnu ar y cyfryw cyn iddo gael ei orphen, yr hyn sydd yn peryglu pob cynllun, 'does dim i'w ddisgwyl ond llongddrylliad. Fel un o BwyLgor y Lampau cefais achwyniad o'r blaen, gan wraig, nad oedd rhyw lampau penodedig wedi eu goleuo ryw dri munyd a'r hugain (23) ar ol machlud haul, ac yr oedd yn noson weddol oleu a chlir, a'r lleuad wedi pasio ei chwarter cyntaf. Yr oedd yn berffaith resymol ar ran y goleuwr i beidio eu goleu ond yn unig iddo gadw y lampau sydd ar y brif- ffordd, yn y man lie mae peryglon, yn oleuedig A wnaiff y trethdalwr,' neu wraig, fod mor garedig a chyfarwyddo y llythyr i Ysgrifenydd y Cynghor Plwyf, oblegid gall gymeryd yn ganiataol y caiff ef neu hi gydymdeimlad llwyraf y Cynghor, ond ar yr un pryd boed iddo fo neu hi ystyried yr oil o'r amgylchiadau cytf rhoddi yr ysgrifbin i lawr. ac arwyddo yr hon ysgrif gyda yr oil o'r doethineb ac y mae yn feddianol aino.—Yr eiddoch jfh ddiffuant, UN O'R CYNGHOR. Mr. Gol-Carwn yn fawr gael cyfran fechan o'ch newyddiadur i geisio rhoddi ychydig o oleuni i'r un a eilw ei hun yn Drethdalwr." Credwn fod arna; llawn cymaint o angen goleuni ar waith Cyngor Plwyf Llandanwg ag ar y lampau dan sylw. Cawn ofyn ychydig o gwestiynau syml i Trethdalwr. 1, Os ydyw yn teimlo y fath ddyddordeb yn Mhlwyf Llan- danwg rhyfedd na fuasai yn ymwybodol o'r ymdrech mae'r Cynghor uchod yn ei wneyd er sicrhau tai, i weithwyr, cadw meddiant o lwybrau gran y mor, a'r ffyrdd sydd yn arwain yno, os na fyn Trethdalwr dalu dimai yn yr wythnos am y RHEDEGYDD er cael report o weithrediadau'r Cyngor eled i'r llyfrgell gyhoeddus a chaiff ei weled yn rhad. 2. Ai o gyfiawnder a r trethdalwyr mae yn ysgrifenu ? Credwn fod y Cyngor yn ceisio gwneyd cyfiawnder a'r trethdalwyr a'r cyme wr. A fuasai gwaith y Cynghor yn fwy bodd- hoddhaol i Trethdalwr pe buasai y tender ucbaf wedi ei dderbyn ? Nid ydym yn honi bod goleu y lampau wedi bod yn foddhaol yr wythnos ddiweddaf ac mae y Cynghor wedi cymeryd camrai er ei gwella. Cofiad nad yw cicio dyn dros y bwrdd heb roddi iddo fair chance yn rhan o bolisi y gwaed newydd y sonia am dano. Nid ydym yn gwarafu i Trethdalwr roddi help Haw i'r Cyngor i edrych ar ol y goleuwr lampau os ydyw yn awyddus am hyny. Ond bydded iddo gofio fod gwahan- iaeth dybryd rhwng Table Lamp ac ordinary Street Lamp, er hyny credwn y byddai yn fwy cydweddol a dignity y rhyw y perthynai Trethdalwr iddi fod yn y ty cyn 10 o'r gloch y nos. GWA-EDNEWYDD. Dear Sir,—In answer to Mr or Mrs Can'tsee preaching in last week's issue alluding to the lamps, I am putting in a word for myself and beg to say that Harlech can boast of a respectable Committee of men who carry out their ideas for duty's sake, and not favourism, as the intruders would have it be. But if the intruders would care to give Mr R. a lesson on lamp-lighting he would be pleased to accept their kind guidance, but myself I think a little more schooling would do them good, and to teach them to behold the mite which is in their own eye; but that would be a hardship I am sure, as their motto is to trouble their head with work that does not concern them. I beg to say that if it would help to easeMrCantsee's mind that Mr R. did not stop putting light to the lamps until October 10th instead of the 7th when the moon was supposed to show itself and the lamps were started to be put out at 10 p.m. by Harlech time and not Greenwich. Now in conclusion to my dear brother and company I hope their views will be met with in the near future, and next week-end instead of carrying the great book under their arm they will take it to their heart and study the 10th Commandment, EVAN ROBERTS.
MASNACH RYDD: PA BETH YW,I…
MASNACH RYDD: PA BETH YW, I A PHA LE Y MAE? Mr. Gol.—Ffurfiais fy ngofyniadau gyda'r unig amcan o ddangos faint o wirionedd oedd yn yr haeriad nad all masnach yr un wlad ddiffyndollawl lwyddo. Ac os yw hyn yn wir ni bu cynydd ar fasnash yr un wlad ddiffyn- dollawl. Yna o angenrheidrwydd dadfeilio y mae. Am hyn y gofynaie rif llongau masnachol America a'r Almaen er's pedwarugain mlynedd yn ol, a'u rhif heddyw; ac felly y profasai hyn pa un ai gwir ai gau yw yr haeriad. Felly yr hyn a ofyna fy ngofyniadau yw, gwneyd ymchwiliad teg a gwirioueddol i'r hyn a wnaeth masnach y gwledydd hyn yn yr amser a nodais. A gwrando yn ofalus ar yr hyn a ddywedai hi wrthym, yna ein gwaith ni yw rhoddi mynegiad i'w lleferydd hi. Yna cawn weled pa un ai gwir ai gau yw yr haeriad. Felly chwi a welwch Mr,Gol. fod fy ngofyniadau uwchlaw gwrthwynebiad mewn un modd, am mai gwa-¡ hoddiad ydynt i wneyd ymchwiliad i'r hyn sydd wirionedd. Ac yr wyf yn credu fad egwyd orion yn gofyn i bob dyn wneuthur hyn ¡gýda phob peth. Ond fealiai fod Radicaliaeth yn gwahardd hyn, am mai tan ysol fyddai hyn iddi. Ac felly, Mr Gol,, nid yw MÿWilliams wedi deall dyben nac amcan fy ngofyniadau mewn un modd. Nid oes yn llywodraeth Duw yr un creadur, mud na llefarus, a wna bob peth am hynv dos atynt a gwrando, a chlust- feinia ar yr hyn a ddywedant hwy wrthych. Ysgrifena, ac yna ysgrifeni wirionedd, ac yna nid rhaid i ti hidlo cwestiynau ready-made dimeu y dwsiu yn marchnad anwybodaeth. A llefa Mr Williams a'i holl nerth fod ffigyrau yn profi fod Prydain yn llwyddo. Y mae ffigyrau yn traethu gwirionedd ac nid rhan o'r gwir- ionedd. Gwirionedd yw fod nifer o ddineswyr Prydain yn ffurfio yn wahanol gwmniau ac yn adeiladu llongau, ac yn gwneuthur masnach helaeth fel y maent yn myned yn gyfoethog iawn,—dyna wirionedd. Ond mynega ffigyrau wirionedd arall fod eu gwlad yn suddo o dan eu gwadnau ac yn myned yn llai o werth bob dydd o dan lyw'odraeth Masnach Rydd, fel y mae amaethwyr Prydain yn methu a chario eu beichiau. Ac yn y cyfwng difrifol hwn ar ein gwlad wele y meddyg wladweinydd byd- enwog Salisbury yn canfod y Uesgedd a'r gwendid yr oedd ynddo o dan effeithiau Masnach Rydd. A'r hyn a wnaeth ef oedd cymeryd arian yTollau, ie. tollau, ddarllenydd, i wrthweithio effeithiau newynol Masnach Rydd ar yr amaethwyr trwi dalu rhan o'u trethi, am eu bod wedi myned yn rhy weiniaid i gario beichiau trymion Masnach Rydd. Ai tybed fod yn rhaid i America a'r Almaen dalu o gyllid y llywodraeth er cynal amaethwyr eu gwlad? 0 na, y mae eu hamaethwyr hwynt yn cynal eu rhan ar y Llywodraeth. Ond yn Mhrydain rhaid i'r Llywodraeth gynal yr amaethwr. Gogoneddus Fasnach Rydd onide? Ac felly y mae amaethwyr Prydain yn symud a bod wrth yfed y Cod Liver Oil a roddodd Salisbury iddynt. Ond y mae rhoddi ffeithiau fel hyn i Mr Williams mof anmhriodol iddo a phe rhoddid tusw o wair yn ginio i wyryf degi Am hyny, Mr Gol., gadawaf Mr Williams i ymguro ag ef ei hun. Am hyny hefyd, Mr Gol., gyda eich caniatad, ymaflaf yn yr unig wrthwynebiad sydd gan fasnachwyr rhydd yn erbyn y doll, sef ei bod yn achos o ddrudaniaeth. CRISPIN.
ADQCFION ..DYDDOROL.
ADQCFION DYDDOROL. Parha Plenydd i dynu'r trysorau o "Gell y Cof" yc y rhifyn diweddaf o'r Geninen, Bydd y difyniad a ganlyn o ddyddordeb mawr yn y cylch yma:- Nid gweddu3 feallai groniclo gormod o ddigwyddiadau y cyfnod, ac gtto daw i'r cof rai pethau ântar ddifancoll dni wneir hyny. Yr Uwch Demi gyntaf yn Ffestiniog a adawodd yr argraff ddyfnaf ar fy nghof. O! y llu o hen frodarion anwyl oeddynt yn perthyn iddi, ac yn teimlo yn gynes ati, y pryd hwnw Cynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddus cyntaf ynglyn a'r eisteddiad yn nghapel mawr Tanygrisiau mae gofal yr hybarch ddiweddar S. Owen-gwr y gwnaeth y Nefoedd ei dalcen megys dur i wynebu rhwystrau, gwrthwyneb- iadau, a difrawder. Yr oedd yr ymladdwr gonest yn y llysoedd gwladol; ac ni adawai gareg heb ei tbroi: cleddyf llym deufin fyddai ei eiriau. Beth bynag gymerai ef mewn llaw- cau y Tafarnau ar y Sul," "Local Option," neu arall, elai ati galoin ^ac enaid. Yr oedd ei arabedd yn orchfygol ar brydiau. Pan gyda'n gilydd yn Bethesda, Ffestiniog, ar y Sul, un tro, yn cadw cyfarfod dirwestol am bump o'r gloch, a'r hen wron cywir a debeuig. Mr Robert Jones ("Yr hen Gaeclyd," fel eu hadwaenir), yn y gadair, dechrauodd Samuel Owen siarad, ac aeth i'r hwyl, a thros ei ben i bwnc y Local Option; a gwaeddodd. Rhaid ini gael yr hawl i gau y tafarnau i'n dwylo ein hunain:" acmeddai yn mhellach, "Yroedd Dafydd Dafis o Gywarch yn pregethu unwaith am y tad elai a'i fab at yr Iesu i fwrw cythreuliaid ohono ac wrth ymdaith yno, mi greda i, ebki Dafydd Dafis, machgen i. Caet ti 'madael a rhai or cythreuliaid yna mi laciet beth. Felly ninau, ebai Samuel Owen, caem ninau 'madael a rhai o'r tafarnau yma mi lacien beth. Ond yn nghapel Tanygrisiau nos yr Uwch Deml yr oeddym, fe gofir: noson rhyfedd oedd y noswaith hono,; brwdaniaeth goreu Ffestiniog lond yr awyr. Yn y set fawr vn mhlith llu yr oedd Yr Hen Sir," fel ei hadnabyddid ef, sef William Williams y Blaenor. Ar y gadair dØe i'r pwlpud eisteddai Thomas Jones y Rhosydd (tad y dynion clodwiw, Dr Jones, Harlech; a Thomas Humphrey Jones, Liscard): efe y dyn mwyaf neillduol yn yr holl le, mi gredaf, y noswaith hono. Ei fafr hirllaes; ei lygaid treiddgar, nofiadwy; a chroen ei wyneb is y llygaid. megys ystorfeydd arabedd o bob natur, melus a chwerw, hyfryd a gerwin a'i gwnelai yn un o'r cymeriadau mwyaf dyddorol ac arbenig yn Meirion. Cefais y fraint o siarad yn y cyfarfod hwttw o flaen gweinidog o'r sir, y diweddar Barchedig David Jones, Llanbedr gynt (y, Garreg Ddu wedi hyny)—gwr a berchid" yn fawr. Eiddil, llawn ofnau, y teimlwn fy hunan y noson hono ofn y bobl, ofn yr araeth, ac ofn Thomas Jones yn fwy nEA'r,, cyfan. Digwyddodd mai rhediad dipyn yn dyner gymerais yn fy anetrhiad ac wrth wneyd apel am gynorthwy yr hen bobl defnyddiais air fy nain am Demlyddiaeth Dda, a chymwysais Thf Campbells are Coming at yr amgylchiaid, Gwelwn ddwylaw Thomas Jones i fyny; ac meddai dros y He, Clyw di, 'Rhen Sir, dydu nhw ddim am neud hebddo ni, weldi." Chwysais gan fraw; canys ni welswn y gwr erioed hyd y nos hono-dim ond clywed am dano. Dilynwyd fi gan David Jones mewn araeth ddifrifol; a thueddai i fod braidd yn ymosodol, am na ddelai veterans fr hen Ddirwest yn mlaen i'n cynorthwyo yn fwy selog. Eisteddwn yn awr yn y set fawr gyferbyn a Thomas Jones, yr hwn, o dan athrawiaeth lem David Jones, a ddechreuodd dynu ei fysedd hirion megys crib bras drwy ei fafr hirllaes, gan ymddangos braidd yn anfoddog. Ar y terfyn cododd y Parch Samuel Owen, y cadeirydd, a gofynodd i Thomas Jones gynyg diolchgarwch i'r areithwyr. Daeth i fyny yn sydyn ddigon a llygadai arnaf finau nes gyru iasau ofnus ?  drwof; ac meddai wrthyf, Macbgen anwyl i, mi gaet hancas wen gen i heno a throes at Samuel Owen, ac ymaflodd yn ei wallt du crychlyd; a chan ysgytian ei ben dywedodd, "Yn gae o, yr hen grych ?'' Credais ei fod wedi colli ei ben—ac yn andwyo pen Samuel Owen hefyd. Yr oedd y gynulieidfa wedi llwyr ymgolli mewn afiaeth a gorfoledd chwareus. Esboniai y cadeirydd yn y ty capel yr amgylchiad-mai dull yr hen law o ddweyd mai genyf ft y dylasai y cadach gwyn fod, ac nid gan David Jones; yr hwn, mae'n amlwg, a'i digiodd wrth fod yn rhy lawdrwm ar yr hen bobl. Vwch Deml ryfedd oedd hono :-ugeiniau o feddwon diwygiedig yn dilyn gorymdeithiau, a gwyr blaenaf Gogledd a Deheu Cymru yn gwneyd i fynu yr eistedd- iadau. Cariwyd brwdfrydedd Ffestidiog drwy Gymru o'r Uwch Demi hono. Glania hyn fy meddwl yn awr yn nghapel Harlech, mewn cyfarfod Undeb Temlyddiaeth Dda a Chymanfa Ddirwestol y Sir. Saif Meirion, ar lawer ystyr, ar y blaen mewn dirwest o holl sifoedd Cymru, a bu yn galon yr achos yn boliticaidd yn gystal ag yn y canghenau eraill. Peth arall yn hanes y sir hon hyd hed4yw ydyw, y daw mwy o bregeth- wyr a diaconiaid o bob enwad i'r gwyliau dirwestol na'r un sir arall, hyd y gwelais i: a godidog o beth yw yr olwg ar haner llond capel o arweinwyr crefyddol o ddifri am sobri eu gwlad. Yn y cyfarfod uchod yn Harlech, 35ain mlynedd yn ol, y digwyddodd yr hyn a ganlynNos cyn y gymanfa yr oedd y capel yn orlawn a'r set fawr o dan ei sang o bregethwyr. Yn nghanol y dyrfa eisteddai hen gymeriad hynod o'r enw Griffith Pugh, o Dowyn Meirionydd un arall o hen garchar- orion y ddiod gref, ond wedi cael tro gwirioneddol. Cyn diwedd y cyfarfod galwodd y cadeirydd am air gan Griffith Pugh. Codai yntau yn araf: ac yn ei ddillad ffustian llwyd symudai yn bwyllog tua'r set fawr: wedi cyrhae4d safai yn syn am foment neu ddwy a'i ddagrau yn treiglo; ac meddai, Pwy feddyliodd erioed y gwelsid Guto'r Tywyn yn nghanol pregethwrs fel hyn. Mi ddarllenais i, y dydd o'r blaen, hanes Gloptra I yna sydd yn Llnndain; [y Cleopatra's Needle feddyliai] a deud y mae nhw mai rhyw engineer mawr aeth i brocio'r tywod yn yr Aifft draw ryw dro, ac mi dinciodd yr hen Gloptra;' a wedyn mi dorwyd sianel atti, a daeth y dwr i mewn a rhyw ddiwrnod dyma stemar fach yn nofio i fynu atti; a chydiodd yn mhen yr ben Gloptra, ac mi sythodd hi ond 'roedd y stemar fach yn rhy wan i dderbyn yr hen gareg ar ei bwrdd: ond yn mhen dipyn dyma stemar fawr i fynu y sianei; ac fe rowd yr hen 'Gloptra' yn safe ar fwrdd hono; a dowd a hi drosodd i Lunden a dyna lie mae hi, medde nhw, ar ei cholyn yn canmol yr engineer ddaeth o hyd iddi yn y tywod." Yna dechreuodd wylo drachefn, a gwaeddodd, Pan oedd Guto'r Tywyn yn ngwlad yr hen Aifft feddwol, mhobl i, ryw ddiwrnod mi ddaeth Engineer mawr y Cyfamod Gras heibio i brocio'r tywpd, ac mi dinciodd yr hen Guto; a dyma stemar fach Temlyddiaeth atto fo mi 'nionodd o dipyn ond yr oedd hi yn rhy wan i gymryd yr hen vputo, er gwaethed oedd o, ar ei bwrdd. Ond rhyw nos Sul, yn y capel Methodus acw, dyma stemar fawr yr Iachawdwriaeth i mewn, ac mi haliwyd Guto ar ffwrdd hono: ac ar y fordaith map o rwan: ac os bvddwch chwi yn y Nefoedd, bobl, yn y Brif Ddinas mi gwewch chi weld yr hen Gloptra yma yno yn canmol yr Engineer ddaeth o hyd iddo yn y tywod." Tyrfa yn wlyb o ddagrau oedd tyrfa y noson hono.
Y Ddiweddar Mrs. Sanluel Evans,I…
Y Ddiweddar Mrs. Sanluel Evans, I Isfryn, Rhiw. CHWITH genym orfod dweyd y ddiweddar am y chwaer anwyl uchdd, ond bu farw yn dra sydyn sc anisgwyliadwy i bawb boreu dydd Iau diweddaf, Hydref 13eg, yn 58 mlwydd oed, er galar a cholled fawr i'w hanwyl briod sydd fel y gwyddis wedi ei adael yn dra unig, yn gystal ac er galar i'w pherthynasau lluosog, ac hefyd kr Eglwys yn Rhfw yr oedd yn aelod o honi. Cymeriad prydferth oedd Mrs. Evans pan yn ieuanc, yr oedd yn ferch ieuanc rinweddol a duwiol, a pharhaodd i gadw i fyny y cymeriad hwn ar hyd ei hoes. Yr oedd yn ngwraig rin- weddot yn ngwir ystyr y gair, ni bu unrhyw wraig yn fwy gofalus yn nghyflawniad cylch ei dyledswyddau, ac yn nghysur ei phriod, nag ydoedd y chwaer hon. Yr oedd hefyd yn gymydoges ddymunol i fwynhau ei chym- deithas. Yr oedd glanweithdra- ei thy yn brawf pa fath wraig ydoedd gartref, ac yn ei pherthynas a'r Eglwys yn Rhiw yr oedd ei ffyddlondeb a'i chysondeb i bob moddion o ras yn profi hefy J ei chymeriad crefyddol ar hyd ei hoes. Dilynai foddion gras y, Sabboth gyda ffyddlondeb mawr, ac yr oedd yn athrawes ragorol yn yr Ysgol Sul. Y mae to ar ol to o enethod ieuainc Eglwys y Rhiw wedi bod o dan ei haddysg, llawer o hofiynt erbyn hyn yn wasgaredig ar hyd a lied y byd; ond pan y deuent ar ymweliad a'u cartrefi un o'r pethau cyntaf fyddai talu ymweliad a'r ben athrawes. Dengys hyn y fath barch ac ymlyniad fyddai gan aelodau y dosbarth wrth eu hathrawes, a'i hoffder hithau ohonynt hwythau. Yr oedd yn un o'r athrawesau fyddai yn llafurio ac yn parotoi ar gyfer ei dosbarth, a hwythau yr un modd yn parotoi ar gyfer yr Ysgol Sul, ac yr oedd y llafur hwn o bob tu yn rhoddi rhyw ysbrydiaeth drwy yr holl ddosbarth. Pan y byddai y diweddar Mr Williams, Ysgolfeistr Tanygrisiau, yn arholi y Safonau byddai bob amser yn dra awyddus i fyned i arholi dosbarth Mrs Evans, gan y byddai yn cael y fath bleser yn gwneyd hyn, er gweled ol llafur mawr. Yr oedd hefyd ei dull astud o.-wrandolr efengyl yn nerth i weinidogion lawer tro i bregethu, a byddai ei phrofiadau yn y seiat yn brawf amlwg y byddai yn cael bias ar yr efengyl, ac yr oedd yn hynod o ffyddlon a chyson yn y cyfarfod gweddi a'r seiai, I Byddai yn dwyn mawr sel a dyddordeb yn mbethau allanol. yr achos yn Rhiw, a gwnelai i ei rhan gydag unrhyw beth ymddiriedid iddi. Cyflawnodd ei rhan fel Casglyddes yr Eglwys gyda ffyddlondebfmawr, ac yn neillduol felly gyda'r Genhadaeth, a hyny am flynyddoedd lawer. Bu yn bob cymorth a chalondid i'w phriod yn nghyflawniad ei ddyledswyddau yntau fel blaenor yr Eglwys. Colled fawr i'w phriod ydyw colli y fath wraig dda, yn ogystal ag i'r Eglwys nid oes neb all ddweyd beth yw colli gwasanaeth a dylanwad chwaer fel hon. Ond er y golled hon i ni, gellir dweyd am Mrs Evans, A May a ddewisodd y rhan dda, yr hon ni ddygir oddiarni." Diau i'r ddamwain a'i cyfarfyddodd yn Liverpool, tua blwyddyn ol, brysuro ei marwolaeth, gan na bu yn dda byth er hyny, a dioddefai boenau arteithiol ar brydiau, ond daeth y diwedd yn hynod annis- gwyliadwy ac e galar i bawb o'i chydnabod. Cymerodd yr angladd le dydd Sadwrn, yn mynwent Bethesda, pryd y gwasanaethwyd yn y ty gan y Parch Thomas Hughes, gweinidog, ac ar lan y bedd gan y Parchn. Enoch E. Jones, Joseph Jenkins, a Thomas Hughes. Yr oedd ei hangladd yn profi pa mor fawr ei pharch yr ydoedd yn y gymydogaeth. Deallwn mai dyma y bwlch cyntaf o eiddo angau yn rbif teulu lluosog ei rhieni, y diweddar John ac Hannah Owens, Bronygors. Bydded nodded ac amddiffyn y nef dros ei hanwyl briod sydd wedi ei a4el mor unig, ac y mae ein cydymdeim!ad a',Rteulu 011 yn eu galar.
- - - - - - - - - - - - PENRHYNDEUDRAETH.…
PENRHYNDEUDRAETH. t PRIODAS FAWREDDOG. Dydd Gwener, Hydref 14. cymerwyd dyddordeb neullduol yn mhriodas Ellis Owen Lloyd mab hynaf y Parch. John Lloyd (w.), Tremadoc, a Miss Olive Vaughan merch Mr. Philip Vaughan, Shop Fawr (gynt o Crossing Cambrian Railway). Cymerodd y Seremoni le yn Nghapel Tabernacl (w.), Penrhyndeudraeth. Rhoddwyd y briodferch- ymaith gan ei thad. Gwasanaethyddion ydoedd Mr. David Lloyd a Miss E. Vaughan, Thomas Vaughan a Miss Lizzie Lloyd, Mr. John Lloyd a Nellie Vaughan. Yr oedd y Capel yn llawn o edrychwyr. Gweinyddwyd gan y Parchn. R. Mon Hughes, R. Morton Roberts, Aberdyfi, J. Mostyn Jones, Talsarnau a Mr. J.,Bennett Jones, Cofrestrydd, Gan mai hon oedd y briodas gyntaf yn y capel er pan y cofrestrwyd ef, anrhegwyd y par ieuanc a Beibl Teuluaidd gwerthfawr. Cafodd tua 40 eu gwahodd i'r boreufwyd rhagorol a barotowyd yn nhy y briodferch, a cafwyd anerchiadau gan y Parchn. R. Mon Hughes, R. Morton Roberts, Mostyn Jones, Mr. J. Bennett Jones. Cafwyd anerch- iad barddonol gan Mr. Thomas Lloyd. Diolch- odd y priodfab ar ran ei hun a'i briod. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a gwerthfawr. Ymadawsant yn nghanol dymuniadau goreu llu o gyfeillion i dreulio eu gwyliau yn Aber- ystwyth.? Cofied pawb am y Social" sydd yn Gcrph- wysfa nos Iau (heno). Diau y teimla rhan uchafiy Penrhyn lawer o hwylusdod gan fod y llythyrau yn cael eu cymeryd o Bryngwilym am 5-45 yn awr. Mae Eglwys y Fron wedi sicrhau y Parch H. Barrow Williams, i ddod yno i draddodi Dar- lith cyn diwedd mis Tachwedd. Diameu y bydd llawer yn falch o gael cyfle i glywed y darlithydd poblogaidd. Nos Wener dan lywyddiaeth y Prif Demlydd John Moses, cynhaliwyd y Deml, pryd y caf- wyd papur rhagorol gan Mr John Pritchard, Brithwernydd, ar Samson." Siaradwyd yn mhellach gan amryw o'r aelodau. Nos Iau cafwyd cyfarfod agoriadol y tymhor gan obeithlu Nazareth dan lywyddiaeth Mr R. T. Jones. Cymerwyd rhan mewn adrodd gan Elizabeth Davies, Blaenddol a Mary Jones, Isfryn; mewn canu gan Mary C.Griffith, Dora C. Evans, a Katie Pritchard. Y goreu am ddyweyd enwau lleoedd gyda llythyren arbenig ydoedd Deudraeth Williams. Gwers ar y Modulator gan Mr John C. Owen, a canodd y plant dan aaweiniad Mr Owen R. Williams. Lluosog iawn ydoedd y cynulliadau yn yr oil o'r addoldai dydd LIun Diolchgarwch, Rhyf- edd y gafael sydd gan y dydd hwn ar lawer yn y rhanbon o'r wlad. Gwnaed casgliadau at wahanol achosion yn y gwahanol gapelau. Ni chawsom y manylion am yr oil. Yn Gorph- wysfa casglwyd £ 23 a Nazareth £ 36 10s. Yn Nghymdeithas Ymdrech Grefyddol Naz- areth nos Sul cafwyd papur ar John Penry, y Merthyr Cymreig," gan Mr Richard Hughes, Mae Cor Undebol Mr D. Lloyd Evans yn dechreu parotoio ddifrif gogyfer a Ffestival Harlech. DIOLCHGARWCH. Cynhaliwyd Gwyl y Cynhauaf yn yr eglwys blwyfol, dydd Llun. Am 8, gweinyddwyd y Cymun gad. y Ficer, y Parch. John Hughes, B.A. Am 10 30, Boreuol Weddi, yn Saesneg, Cymun, a phregeth gan y Parch. J. Jenkins, B.A. 8Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Ficer, a darllenwyd y llithoedd gan Mr. J. O. Hulme. Am 2, Litani yn Gymraeg, yn cael ei donyddu gan y Parch. J. Jenkins. Pregethwyd gan y Parch. J Rees Jones, M.A., Rheithor Llanbedr. Am 6. Prydnawnol Weddi, yn Gymraeg, y Parch, J. Jenkins yn tonyddu. Darllenwyd y llithoedd gan Mr. R, Baxter (junior). Pregethwyd gan y Parch. Rees Jones. Canodd y Cor yr anthemau 0 Arglwydd, mar luosog yw dy weithredoedd" (D. D. Parry, LJanrwst). ac hefyd y Te Deum (T. Edwards, Caer). Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn brydferth a blodau, a ffrwythau a grawn gan y rhai canlynol :-Misses Hulme, Misses Hart Williams, Misses Jenkins Davies, Miss J. P. Williams, Misses Gwladys and Elsie Hart, Miss Hughes. Vicarage, Mr. Hulme a Mr. H. H. Griffith. Cafwyd gwasanaethau effeithiol ar hyd y dydd, ■ i
[ LLANRWST.
[ LLANRWST. I TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Eglwys Sefydledig. ST. CRWST.—10-30 a 6, Gwasanaeth Cymreig. ST. MARY.-Il. a 6, Gwasanaeth Seisnig. Y Methodistiaid. SEION.—Parch. H. H. Roberts, B.A., Capel Curig. HEOL SCOTLAND.—Parch. T. Gwynedd Rob- erts, Conwy. Attmbynwyr, TABERNACL.—Parch. W. Cynwyd Williams. EBENEZER.— .A' Wesleyaid. HOREB.-Parcb T. C. Roberts. ST. JAMES (English).—Mr, Laine, Colwyn Bay. Bedyddwyr. PENUEL,—Mrs Jones, Blaenaperch. EGLWYS BABAIDD.-II, Cymun Sanctaidd- 6-30, Gwasanaeth Cymreig, y Tad Treb- aol, O. M 1. Y mae Mr T. R. Jones wedi gadael y dref ef; ddydd Sadwrn, ond daw yma eto cyn hwylia drosodd am Patagonia. Cynhaliwyd cyfarfodydd Diolch am y Cyn- hauaf yn yr holl addoldai ddydd Llun. Diarhebion Cymreig oedd testyn trafod- aeth Cymdeithas Ddiwylliadol y Tabernacl nos Wener. Llwyddid gan y Parch. W. Cynwyd Williams. Cymerwyd rhan gan Mr W. Davies, D. O. Jones, W. Wynne, Enos Williams, J. H. Jones, Owen Williams, R. Maddo, Samuel Parry, Oswald Davies, Miss Berry, Miss May Jones, Mrs, Griffith, Town Hill, Miss A. J. Davies, a'r Llywydd. 0 dan lywyddiaeth Mr R. G. Jones, cynhal- iwyd Cyfarfod y Gymdeithas Ddiwylliadol nos Fercher, pryd yr agorodd Mr John Hughes drafcdaeth ar Ddiwygiad Etholiadot." Cym- erodd Mri. Albert Hughes, W. Hughes, J. D. Jones, R. Thomas, T. Tudor Williams, W. Morris, If or Roberts, Evan Jones, W, H. Williams, a Dr. Huw Williams. Bydd Dr. Huw Williams yn traethu ar Reddf a Deallt- wriaeth yn y cyfarfod nesaf. Deallwn y bydd yr Arolygydd Wyse yn parhau i gymeryd gofal yr Heddlu yn y Dos- barth hyd Chwefror nesaf. Llongyfarchwn Mr John Berry ar ei lwydd- iant yn enill yr ail wobrwyon am gwyr gwenyn yn y London Dairy Show. ac yn y Groceries Exhibition. Y mae rhestr Ymarferiadau Corphorol y Merched wedi cychwyn er nos Fawrth, o dan gyfarwyddyd Miss Rogers Jones, Nos Lun. cychwynodd Cymdeithas yr Eglwys ar ei chyfres cyfarfodydd am dymor y Gauaf. Eisteddodd tua haner cant wrth y byrddau i gyfranogi o'r wledd a baratowyd ar eu cyfer garf-y Rheithor, yr hwn yw Llywydd y Gym- deithas. Gofalwyd am y byrddau gan Miss Hill, Miss Morgan, a Miss Lewis. Dilynwyd gydag anerchiad campus gan y Llywydd, yn apelio yn daer am gydweithrediad pob un gyda'r gwaith un o ganoedd o Gymdeithasau cyffelyb oedd hon perthynol i'r Eglwys. Caf- wyd caneuon gan Mri J Thomas a F. A. Charlton; hefyd unawdau gan Miss A. M. Jones, y Gyfeilyddes. Wedi anerchiad gwresog yn Gymraeg gan Mr Albert Hughes, cafwyd cystadieuaeth areithio difyfyr, 1 A. Richards, 2 B. Pritchard. Rhoddwyd croesawiad arbenig ilr Ciwrat newydd, Parch Jenkin Jones, i'r Gymdeithas a'r cylch, a chafwyd gair cefnogol iawn ganddo. Y mae Mr a Mrs Williams, Ty'r Orsaf, wedi dychwelyd o'u gwibdaith yn Ffraingc. Y mae mudiad ar droed i wneyd Tysteb i Mr T. R. Jones ar ei ymadawiad o'n plith am Patagonia, ac hyderwn y ceir cefnogaeth gyffredinol i'r cyfryw. Cymerodd ffrwydriad lie yn Narlithfa Capel Seion, o flaen y noson gyfeillgar, nos Wener, trwy i'r Stove ffrwydro. Cafodd y boneddig- esau oeddynt yn ymyl ddiangc gyfyng, a chraciwyd rhai o cwareli y ffenestr gan y ffrwydriad. Dechreuodd Cymdeithas Seion ar y cyfarfodydd nos Wener, o dan lywyddiaeth Mr J. R. Jones, pryd y cafwyd anerchiad rhagdro gan Mr J. D. Jones ar "Tom Ellis." Cymerodd amryw o'r aelodau ran pellach yn y cyfarfod. Erbyn hyn y mae hen Westy Glan Conwy yn Stryt y B6nt wedLei wneyd yn lie cyfaddas i'r Y.W.C.A. gynal cangen Cymdeithas ynddo. Derbyniwyd rhwng 5 ac wyth o'r gloch ddydd Iau gynifer a 70 o aelodau. Bydd rhestrau yn cael eu gwneyd ar nos Fawrth, lau, a Gwener, ac cis gall y lie lai na bod o fudd i'r aelodau. Mewn Heddlys Arbenig ddydd Llun, cafodd Thomas Evans a James Riley, labwyr, eu dirwyo 2/6 yr un a'r costau, am fod yn feddwon ac afreolus.
Family Notices
^wvwv^^vv^vwwwwvvwwv Genedigaethau. ROBERTS,—Hydref 16eg, priod Mr Edward. Roberts, Maesgraian, Trawsfynydd, ar fab.. Priodasau. JONES—JONES.—Hydref 14 yn Capel Taber- nad (A,), Llanrwst, gan y Parch. Llewelyn Jar mart, Nebo, yn bresenoloeb Mr. Hughes, Cofrestrydd, unwyd mewn glan briodas Mr. Evan Jones, Siloam, Capel Garmon a Miss Kate Jones, Llwynmafon, Cae Clyd, Blaenau Ffestiniog (gynt The Gwydyr Hotel, Bettws* ycoed.). Gwasanaethwyd fel gwas gan Mr; John P. Jones, brawd y briodasferch. Ac yn forwyn gan Miss Maggie Price, Dolwydd- elen. Derbyniasant lu mawr o anrhegion drudfawr gari ei ewyllyswyr da. Dymunwn iddynt ei dau llwyddiant a hapusrwydd ar eu huniad. ROBERTS, -PUGH.-Hydref 17eg, ýt1 Swydd- fa'r Cofrestrydd, Portmadoc, yn mhresenol- deb Mr Richard Jdnes, Cofrestrydd, Mr David Roberts, Plastrwr, a Mrs. Margaret- Pugh, New Shop, ddau o Trawsfynydd. I j i