Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

BRAWDLYS MOM AC ARFON. I

News
Cite
Share

BRAWDLYS MOM AC ARFON. Agorwyd y Frawdlys uchod ddydd bwener. Y Barnwr F. G. Horridge eisteddai i wrandaw yr achosion, a llongyfarchwyd y Barnwr ar ei ddyrchafiad i'r Faingc gan Syr A. Osmond Williams, Blaenor yr Uchel-reithwyr. Rhyddhauwyd Thomas Evans a William Thompson, gyhuddid o ladrata oriawr oddiar Henry Huskinson, yn Caergybi Awst 26. Anfonwyd John Simpson, Teiliwr, 58 oed, i garchar am ddeuddeg mis am iddo gael arian trwy dwyll gan Mrs Margaret Jones, Caergybi, trwy honi mai efe oedd ei mhab John Jones gollwyd ar y mor ddeng mlynedd yn ol. Yr oedd hefyd wedi cael arian o dan amgylchiadau tebyg gan Mrs Catherine Jones. Gwelodd hysbysiad am y meibion colledig, ac anfonodd lythyrau i Lundain yn enw y meibion i ofyn am bres gan eu mhamau. Daliwyd ef yn y weithred o dderbyn y llythyrau oddiwrth Margaret Jones a Catherine Jones, Anfpnwyd Laurie Berry, 21 oed, Cook, Llafairfechen, i garchar am ddau fis am gelu genedigaeth ei phlentyn anghyfreithlon. Cafwyd Morris Williams, gwr priod o Chwarelwr. o Cwmyglo, yn euog o dreisio Anfonwyd ef i benyd wasanaeth am dair folynedd. Cyhuddwyd William Robert Jones, gwas mewn masnachdy dillad yn Llanberis, o ddyn- laddiad dyn ieuangc arall o'r enw William Morris Griffith, ar y Wyddfa, boreu Sul Medi 18. Yr oedd Griffith, gyda nifer eraill, wedi myned i ben y Wyddfa, ac wrth ddychwelyd gartref, cymerodd gareg fawr a dododd hi ar gledrau y Reilffordd sydd ar ochr y mynydd gan lithro i lawr ar hyd-ddynt, Gosododd rhywun faea mawr arall tu ol iddo ar y Cled- rau. Cyflymodd y maen olaf fel ag i daraw yn erbyn yr un eisteddai Griffith arno nes ei daflu i fyny i'r awyr a'i niweidio yn angeuoi. Cyhuddid Jones o fod wedi dodi y maen hwnw, ond cafodd y rheithwyr ef yn ddieuog. Twyllo gyda Yswirio Cyhuddwyd Robsrt Henry Jones, 45 oed, Goruchwvlydd Yswirio gyda'r Prudential yn Pwllheli, o ffaglo enwau yn nglyn 9g yswiriant Mary Rowlands, Elizabeth Jcnes, Mary Jones, ac Elizabeth Jones, er- cael £ 15 a £ 34 4s 9c o arian gan y Cwmni, Lewis Davies, 55 oed, teiliwr, a chynt yn Aroiygydd cynorthwyol o dan yr uu Cwrnni yn nosbarth Pwllheli, a gyhuddwyd o ffugio pspurau i gael £ 13 6s Oc a £ 29 9c Oc. I W. O. Jones, 45 oed, Cofrestrydd Geceigaeth a Marwolaethau yn Nefyn, a gyhuddwnd o ffugio pedair rrwydded marwol- aeth er cynorthwyo y ddau gybuddedig arall. Galwodd y Barnwr sylw at ddifrifoldeb yr achosion, a dedfrydodd R: H. Jones a L Davits i naw mis yr uno garchar, a phymtli ig mis ar W. O. Jones, heb yr hwn y buasai yn anmhosibl i'r twyll gael ei wneyd.

F,Pwyllgor Cylchwyl Gerddorol…

VWVVVVVVVVvvvvvvvvvvvvvvvvv…

Helynt Chwarel Gorddinen,I…

LLANFROTHEN.I

Cyngaws Lianrws -

Cyfarfod -Misol Qorllewin…

Advertising