Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Advertising
wo S. WILLIAMS (LLANRWST),, LTD,.Longon HonsH, LISDIWSt. f The Universal Drapery and Clothing Providers. 1 Lace Curtains, Blankets, Sheets, Bed and Table Linen. I, ^stumes, Coats, Skirts, Blouses. Millinery and Dressmaking on the Premises. Gents' and Boys' Suits and Overcoats. Carpets, Rugs, Linoleums, Blinds, &c. Largest Stock! Best Selection! Lowest Prices!
I ' lawr't)[) Y GWARCHEIDWAID…
I lawr't)[) Y GWARCHEIDWAID I I C# PENRHYNDEUDRAETH. I yr uchod yn y Tylotty, ddydd I '4cl'"h, diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr I ? (Is-gadeirydd), E. M. Owen, Rich ar ^Roberts, Richard Williams, Morgan ) Roh er*S| Robert Richards, John Roberts JoS?ydd), D. Tegid Jones, G. Parry I C? J. R. Jones (Gerallt). Mrs Casson, CBLdbe 11 Morgan Jones, John Williams, Edwr J Llewelyn. 0. V. Lewis, R. 0. ?,. 018' Robert Roberts, J. B. Jones, W. Williarn8. Robert Roberts, J. B. Jones, W. Tho ?' a Richard Parry (Swyddogion i Sine no'). Thomas Roberts (Clerc). D. Jojj Clerc cynorthwyol), a D. J. Jones I "'StryTy). 1'11.1. ArianoL ? ?da?Y allan yn ystod y ddwy wythnos ddi- ?est-. el y canlyn :-Tremadoc, ?77 7s Oc; f pte'tI.'ll. og. ?118 2s lc Deudraeth, ?72 3s 4c; Cyj S%Vrn o ?267 12s 5c, ar gyfer ?255 7s 6c ■ Q,, 'YddYn ddiweddaf, ac y mae y symiau can- IY,40I '??genrheidiol at y ddwy wythnos I Itesaf,Tremadog, ?77; Ffestinio, ?120; b e4draLeth. --f7o; Cyfanswm. ?267. Yri Yr,?,riandy Mawrth 30, ?08 Is 10c, ac  "?thuog wedi addaw talu ?1333 I yn gwneyd cyfanswm o ?1741 Is 10c. M, Y Ty. rTaig i ??' daeth Emma Jones. 67 oed, ? r?eV ??? Jones, trwsiwr Umbrellas i'r Ty, trw ar "? Dr. J. R. Jones, Penrbyn, yr hon ???S?afueichoes. •lh y w Q ??' daeth Evan Lloyd a'i briod i'r Y tt, rclleb Mr. J. B. J°°?- Ehtifi '?? Mary Jane Hughes, a'i thri PMentvrT. r Ty trwy archeb Mr. J. B. Jones. ? y y 78 ar gyfer 93 yr adeg cyferbyniol y "„ ?edj ?8 ar gyfer 93 yr adeg cyferbyniol y 11 Ytedd C?wydriaid 27 ar gyfer 38 yr adeg Cyterb?n'c)l y llynedd. 1)aM Achos o'r Penrhyn.  ieuanc o'r Penrhyn i ofyn am Ry4 arthw3l I w mham. Holwyd hi gan amryw 0 tGtya Acneidwaid o berthynas i'r hyn oedd- gan y mab, &c., a phasiwyd iddiyg" ael 216 c ? wythnos, wedi Hawer o ddad- |%gaei yr wythnos, wedi llawer 0 ddad- Mr. Tommy Carroll. k?a'son a ddywedai ei bod wedi gweled JJych p5rro'l yn y Hong. ac yr oedd yn ldrye ? Y" Ilapus yn ei le newydd, ac yr oedd e? s'cr I, °apus yn ? ? newydd, ac yr oedd ? ??!' y?iyGwarcheidwaid yn falch o ???yd i Mrs Casson am gyeryd dydd- t)jQl L ^y^ i Mrs Casson am gymeryd dydd- ?Ch?, <.? ?'' Y? ei achos. tiwr ai. g y Diweddar Robert Jones. .? q w h,-?,  Mrs. Catherine Jones, priod y di- R Jones (Trebor Manod). gais am Ryto rt4, I yr oedd yr hyn 011 oedd ganddi ,I .ell 9\variO.-Mr R. Williams: Yr oedd yn 841'ab '5d ?'teulu hwn yn dda, ac nid oedd y ?y?og?awrerioed. Yr oedd yn ru. cy'al9 rhoddi 4/d- cefnogwyd gan Mr E. M. P aSlwyd. I v. ^tr Eisieu Symud. I 'v litian, Thomas a adroddodd am Walter *vies, 8 oed, ??°' yr hwn a fu yn ngwasan- ?. E???' Yr oedd eisieu cael ei symud o* ? ?? yr °^dd yn aros.—Pasiwyd i ohirio y )h? a.m ? "ythefnos. aros,-Pasiwyd i ohirio y thef.OS. I Yq v 1Wn Priodol yn creu ystorm. I OfYndda gWrandawiad yr achosion elusenol O?d ?4r ?' Richards am eglurhad sut Yr Deddid YQ pasio 2/6 yr ?ythnos i wraig ?.?d? ?? ??? ac mewn achos arall yn pasio 5/r yr \wt^kn°s i wraig 63 oed. i WiAQd y Dp^ dd amryw ar eu traed, i b rlot est '?   allan o ?fn, ac eraill fod y peth ? ?- I ei bac1' 0 yn rhy fyrbwyll, ac am gael Vw .Wed v T_, er drachefn. 1eLC^eiryJUyU d. Symudwn yn mlaen at y mater Y (, 4deirycld Symudwn yn mlaen at y mater kr- 'regid ??s Dewch chwi ddim ymlaen lies i y setKvc^wi y mater hwn, pe buasai  ? ch?- chwi y mater hwn, pe buasai ^adalrifyny. "to? r. Ik. W""ams Y mae Tegid Jones yn eto. 0 od yn '??' a dylem ystyried yr achos ?dr, R* ??s: Fe basioad yr achos yn ,eal 'Ll, dd On1 bai i Mr. R. Richards godi y ZNV esti, n, symud ynmlaen, y Ila r,I. sl-odd Y Cadeirydd symud ynmiaen. C°^oduda ?- Tegid Jones ar ei draed 4rachc'fri,  ??°?- "Yr ydych yn RW, eyd yn anheg, a chewch chwi ddim myned Xy?Yn??eg, a chewch chwi ddim myned ?'ch h?? y? "? achos arall nes y pender- yn c?oddy Cadeirydd y Uyfr. Mr. Tegid Jones: Fe fydd yma godi Chair man y tro nesaf, ac fe setlwn i chwi yr adeg hono, fe gewch chwi roddi y gadair i fyny am gau y llyfr. Yr wyf yn cynyg ail-ystyned y mater. Cefnogwyd gan R. Williams, ond gwrthod- odd y Cadeirydd roddi y cynygiad i fyny, yn ngwyneb gwrth-dystiad y Mri Tegid Jones a Richard Williams. I Achos Daniel Ellis. I Gofynai Daniel Ellis, Park Square, am gynorthwy. Yr oedd yn analluog i wneyd gwaith, ac yr oedd wedi colli un llygad, ac yr oedd y llall yn ddrwg.—Mr R. Williams a ddy- wedodd fod yn syndod sut yr oedd wedi gallu byw hyd yn hyn, ac yr oedd yn cynyg rhoddi 8/- yr wythnos iddo, a phasiwyd. I Yr Arian wedi Gorphen. I W. G. Jones, Lord Street, Bl. Ffestiniog, a ofynai am gynorthwy. Yr oedd ganddo wraig a phedwar o blant. Yr oedd wedi derbyn £ 34 oddiwrth Gyngherdd gynhaliwyd iddo yn mis Rhagfyr diweddaf, ond yr oedd yr arian hyny wedi eu gwario i gyd i dalu am nwyddau oedd wedi gael yn ystod ei afiechyd. Yr oedd yn derbyn ychydig o Glwb y Chwarel a Chlwb yr Oddfellows. Yr oedd yn wael ac yn analluog i wneyd dim gwaith.—Pasiwyd iddo gael 8/- yr wythnos, I Y Fi sydd ar fy Nhraed. I Yr oedd amryw o achosion newydd o Ffestin- iog o flaen y Bwrdd, a phan yn ymdrin a hwy y naill ar ol y llall, gofynodd Mr Robert Richards, Faint sydd 0 achosion newydd 0 Ffestiniog heddyw, a pha faint yw y swm a ychwanegir trwyddynt?" Mr Richard Williams Dydi hyna ddim yn iawn. Yr ydym ni mor onest a chwi yn Llan- fair beth bynag. Mr Tegid Jones: Gadewch i mi gael atebiad. Mr Richard Williams Y fi sydd ar fynhraed rwan. Mr Tegid Jones Ie, siwr yr wyf yn deall hyny, ac yn synu dim am hyny. Aroswch ar eich traed os mynwch, gofyn i'r Cadeirydd yr wyf fi, ac nid i un fel chwi. Atebwyd mai 8 o achosion oedd y fiaen y y Bwrdd, ac mai £ l 15s Oc oedd y gost ychwanegol. Achos Edward Jarvis. I Ar gynygiad Mr Richard Roberts, pasiwyd i Edward Jarvis gael dod o flaen y Bwrdd i ddyweyd ei gwyn. Daeth Jarvis i ystafell y Bwrdd, a dywedodd mai cais oedd ganddo at y Gwarcheidwaid i* ofyn iddynt ganiatau iddo fyned allan am ych- ydig amser a gadael ei wraig a'i blant yn y Ty, i geisio gwaith. Nid oedd yn dymuno bod yn y Ty yn bwysau ar y Trethdalwyr ac yntau er wedi colli ei goes yn alluog i weithio. Nid oedd modd iddo gael dim byd i'w wneyd tra yr oedd yn y Ty, ac yr oedd yn anhawdd iddo droi allan gyda ei wraig a'i blant, ond os caffai olwg am rywbeth, deuai i'w cyrchu ato. Hyderai y gwelai y Bwrdd eu ffordd yn glir i ganiatau ei gais. Yr oedd bod yn y Workhouse wedi bod yn wers fawr iddo at y dyfodol. Mr Richard Williams: Yr wyf yn cynyg nad ydyw i gael myned allan. Nid oes dim gwaith iddo gael yn Ffestiniog. Mr E. Llewelyn: Gadewch iddo dreio. Peidiwn a bod yn rhy galed ato, gan fod arno eisieu myned allan. Bydd yn arbediad o tua £ l yr wythnos i'r Undeb os y gall gael gwaith. Cadben Morgan Jones a gynygiai a Mr Robert Roberts a gefnogai ei fod i gael myned allan am wythnos i chwilio am waith. Mr G. Parry Jones: Efallai mai dianc a wnaiff, ac wedyn bydd raid i ni gadw ei wraig a'i blant. Mr Richard Williams: Gobeitbio na ddaw byth yn ol (Cywilydd). Wedi ychwaneg o groes-ddadleu, pasiwyd trwy fwyafrif iddo gael myned allan am wyth- nos. I Afiechyd. I Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr Owen Jones, Cadeirydd y Bwrdd yn gofidio ei fod yn analluog i fod yn bresenol oherwydd afiechyd. Ar gynygiad yr Is-gadeirydd pasiwyd pleid- lais o gydymdeimlad ag ef yn ei waeledd, a diolchgarwch hefyd am ei wasanaeth gwerth- fawr fel Cadeirydd yn y gorphenol. Llawenhai y Gwarcheidwaid hefyd wrth wel- ed Mr Robert Roberts y Gwarcheidwaid dros Treflys, yr hwn oedd wedi bod o dan operation bwysig.—Diolchodd Mr Roberts iddynt am eu I teimladau caredig tuag ato, ynghyd a'u llyth- jj yrau o gydymdeimlad, pa rai oedd wedi bod yn gynorthwy mawr iddo yn ystod ei waeledd, yr oedd wedi meddwl na chaffai byth ddod yn ol yn fyw o'r Ysbytty.
I LLANRWST.
I LLANRWST. I TREFN Y MODDION SABBOTHOL. Yr Eglxvys Sefydledig. St. Crwst.—10, Parch. J. Morgan. 6, Parch. D. C. Davies. St. Mary.—10, Parch. D. C. Davies. 6, Parch J. Morgan. Y Methodistiaid. Seion.—Parch. W. Llewelyn Lloyd, Bethel, Mon. Scotland Street—Parch. T. O. Jones, Ysbytty. Yr Annibynwyr. Tabernac1- Mr. J. J. Roberts, Bala-Bangor. Ebenezer-Mr. William Williams, Dolwydd- elen. Y Wesleyaid. Horeb-Parch. Edward Davies, Penmachno. St. James (English Chapel).—Rev. Arnold F. Hubbard, Conwy. Y Bedyddwyr. Penuel.—Cyfarfod Gweddi. Y FARCHNAD.—Yr oedd y farchnad yn un I fywiog neillduol ddydd Mawrth gyda phrynu Hadau a Phlanigion. Yr oedd gan Mri Black- wall, Hayes, & Co., sale lwyddianus ar Datws I Hadyd, Coed Ieuaingc, a Blodau. Cawsant brisiau rhagorol. Gwerthai y Wyau 18 i 20 1 am 1/ Tatws, 5/- y cant. Ymenyn, 1/3 i 1/4. Dofednod o 4/6 i 5/6 y cwpl. Cwningod am 1/- y cwpl. CYFARFODYDD ETHOLIADOL.—Y mae y ddau ymgeisydd, Mr T. R. Jones a'r Milwriad Sandbach yn brysur nodedig gyda'r frwydr etholiadoL Gweler eu Hanerchiadau mewn colofn arall o'r rhifyn hwn. Boed i'r Etholwyr eu darllen yn ofalus drostynt eu hunain, a dodi eu pleidlais yn unol a'u barn a'u hegwyddorion ddydd Sadwrn nesaf. Cynhelir cyfarfod gan Mr Rogers Jones bob nos, ond nos Iau, pryd y bydd y Milwriad yn cynal cyfarfod. Ni bu cymaiut o sel nemawr un amser gydag etholiad lleol fel hwn, a gellir dysgwyl pleidleisio pur Iwyr ddydd Sadwrn nesaf. CYMDEITHAS LENYDDOL POBL IEUAINC SEION.-Nos Wener, cynhaliodd y Gym- deithas ei chyfarfod olaf am y tymhor, yn Lecture Room, Seion, o dan lywyddiaeth Mr. W. Williams, County School. Dechreuwyd trwy ganu Emyn, yna cafwyd anerchiad gan y Parch. H. Jones-Davies, ar "Morgan Llwyd o Wynedd." Yr oedd hanes y dyn hwn yn hynod o ddyddorol, a mwynhaodd pawb yr anerchiad yn fawr. Siaradwyd yn mhellach gan y Llywydd. Ar gynygiad Mr. Tudor Williams, Waterloo House, a chefnogiad Mr. J. Hughes, Gwernfor, diolchwyd i'r Darlith- ydd. Terfynwyd trwy weddi. CINIAw.-Nos Wener, yn yr Eagles Hotel, eisteddodd 32 o wahoddedigion ac ewyllyswyr da wrth Giniaw danteithiol baratowyd yn y modd goreu gan Mrs Roberts, er cydnabod gwasanaeth cyhoeddus hirfaith Owen Isgoed Jones, Yswain, U.H., Plasyndre. Llywyddwyd gan Mr J. E. Humphreys, Cyfreithiwr, a'r Parch J. Titley Williams, yn yr Is-gadair. Siaradwyd gan y ddau a cban Mr R. 0. Davies, Cyfreithiwr, a chyfeiriwyd at y 27 mlynedd a'r hugain y bu Mr Jones yn cymeryd rhan flaenllaw yn symudiadau cyhoeddus y Dref a'r Sir, a datganwyd anfoddhad mawr ar y dull y bu i'r Cyngor Sirol ymddwyn ato yn eu cyfarfod diweddaf. Cydnabyddodd Mf Jones yn ddiolchgar y teimladau da ddangosid ato a'r geiriau caredig lefarwyd am dano. Y FESTRI BLWYFOL.-Dydd', Mawrth, o dan lywyddiaeth y Parch John Morgan, Rheithor, cynhaliwyd y Festri Flynyddol yn Nghapel Gwydyr, i'r amcan o ddewis Wardein- iaid a Swyddogion Eglwysig. Yn Wardeiniaid i Eglwys St. Crwst, dewisiwyd Mri E, Jones- Owen a G. J. Allsup, gyda Mri Thomas Evans, Hugh Hughes, a Hugh Evans, yn Sides-men. I eglwys St. Mary, dewisiwyd Mri D. G. Wilson, ac A. Burrows yn Wardeiniaid, a Mri. H. J. W. Watling, H. Edwards, T. Latimer Jones, J. Woollam, a Benjamin Hayes yn Sides-men. Y Warden Plwyfol yw Mr. Evan P. Hughes. Cynhaliwyd gwasanaeth yn ystod y prydnawn, pryd y cadarnhawyd y penodiad- au, ac y cyngorwyd y dewisedigion gan yr Arch-ddiacon. Brwydr y Sedd Sirol yn Llanrwsl. Mae'r frwydr wedi dechreu o ddifrif am Sedd wnaed yn wag ar Gyngor Sirol Dinbych trwy i Mr W. J. Williams, u.H., gael ei wneyd yn Henadur. Bu i Ryddfrydwyr y dref, fel yr hyibysasom yr wythnos ddiweddaf, alw y Blaid ynghyd i ddewis eu dyn i ymladd eu brwydr am y Sedd, a disgynodd y goelbren yn naturiol iawn ar Mr Thomas Rogers Jones, Arwerthwr, Dale Cottage. Dyn cadarn fel Ymneillduwr a Rhyddfrydwr, dyn a phrofiad masnachol eang, a dylanwad helaeth yn y Sir, ac un o gymeriad dilychwin fel Cristion. Yr ydym o galon yn llongyfarch y Blaid a'r Dref henafol ar y dewisiad. Ymgeisydd y Blaid Eglwysig a Cheidwadol yw, yr Is-filwriad (Major) S. Sandbach, u.H., Hafodunos. Ni bu neb yn amheu y Major o ran ei grefydd a'i wleidyddiaeth gan ei fod yn cario allan y naill a'r Hall mewn proffes a gweithred heb geisio eu celu yn y graddau lleiaf. Bu ef yn ymryson ychydig wythnosau yn ol am y sedd y mae ei Bias yn nghanol yr etholaeth, ond gorchfygwyd ef gan Mr J. R. Williams, Llwyndu (un o denantiaid y Milwriad, os nad ydym yn ci?tm-gymeryd); ond yn awr daw i ofyn cefnogaeth Tre r Dref. Er sefydliad y Cyngor Sirol yn 1889, Rhyddfrydwyr ac Ym- I neillduwyr sydd wedi cynrychioli Llanrwst ar y Cyngor, sef Mri 0. Isgoed Jones, a W. J. Williams ar ei ol; a diau y bydd yn ffyddlon eto i'w thraddodiad trwy gael un o'i phlant ei hun i ddadleu drosti yn Senedd y Sir. Nos Sadwrn, daeth torf gref o'r etholwyr i'r Concert Hall, i wrandaw anerchiadau er hyr- wyddo ymgeisiaeth Mr. Rogers Jones. Llan wyd 7 gadair gan y Parch. W. Cynwyd Wil- liams, yr hwn a draddododd anerchiad rhag- orol. Mr. Rogers Jones a ddywedodd nad oedd angen am iddo ef siarad dim am dano ei hun, gan ei fod wedi ei eni a'i fagu, a threulio ei oes yn y dref. Os dewisient ef byddai iddo ym- drechu gweithredu yn gydwybodol dros yr hyn a farnai yn iawn, heb ofni gwg na cheisio gwen neb. Yr oedd yn edrych ar yr ymdrech- fa yn un bwysig i Ymneillduaeth a Rhydd- frydiaeth, gan fod pwngc Addysg wedi dod i ofal y Cyngorau Sirol, ac er mwyn cael dal eu gafael yn Addysg y Wlad yr oedd yr Eglwys- wyr Ceidwadol mor selog dros anfon eu dynion ar y Cyngor. Ar gynygiad y Parch. William Thomas, a chefnogiad Mr. John Parry, pasiwyd pender- fyniad i ymrwymo i wneyd eu goreu i ddych- welyd Mr. Rogers Jones gyda mwyafrif ddydd Sadwrn. Mr. Ellis Jones Griffith, A.s., a gafodd dderbyniad brwdfrydig, a chafwyd anerchiad grymus nodedig ganddo. Dywedodd iddo fod yn agoriad ysgol yr Ymgyrch," yn Llandec- wyn y prydnawn hwnw, ac yr oedd yn deimlo y dylasai ddod yn ol i Lanrwst i siarad o blaid ymgeisiaeth Mr. Rogers Jones, yr hwn oedd mor iach yn ei ffydd fel Ymneillduwr a Rhydd- frydwr fel nas gallai yr un o'r cyffelyb farn beidio ei gefnogi. Yr oedd Anerchiad y ddau ymgeisydd: Major Sandbach a Mr. Rogers Jones, wedi eu cyhoeddi, a buddiol fyddai i'r Etholwyr eu darllen yn ofalus. Ceisiai y Toriaid ddadleu na ddylai Gwleidyddiaeth ddod i mewn i'r etboliadau os felly, paham yr oeddynt hwy mor selog am gael eu dynion ar y Cyngorau ? Y mae Gwleidyddiaeth yn dod i mewn o angenrheidrwydd i waith y Cynghorau Sirol. Dyna addysg y wlad eisoes dan eu gofal, a daw mwy eto o lawer fel y pesir deddf- au newyddion. Bydd gan y Cyngorau i ofalu am yr Hen Bobl, am Ysbvttai, &c. Dylai y dynion rhagoraf gael eu dewis i eistedd ar y Cyngorau hyn, ac yr oedd Mr. Rogers Jones I yn un o'r cyfryw, ac haeddai gefnogaeth unol a chyffredinol (cymeradwyaeth). Mr R. 0. Davies, Cyfreithiwr, a siaradodd yn rymus nodedig ar y pwys o ofalu pwy a ddewisid i lenwi y sedd oedd yn awr yn wag ar y Cyngor Sirol. Teimlai yn falch o feddwl mai I Mr Rogers Jones oeddynt wedi ei ofyn i ymladd am y sedd. Yr oedd argyfwng pwysig yn awr yn hanes ein gwlad, a phyngciau mawrion yn cael sylw arbenig yn ein plilh, megis Addysg a Dadgysylliad. Yr oedd Ffestiniog wedi sefyll yn gadarn dros ei Hymneillduaeth a'i Rhydd- frydiaeth trwy y dewisiad a wnaeth o'i Gwarch- eidwaid. Bydded i Lanrwst fod yn bur a chadarn ddydd Sadwrn. Yr oedd anerchiad y Major yn llefaru drosto ei hun, ac ond iddynt sylwi arno, gosodid pwys ar fater Addysg a'r costau cysylltiol ag ef ond nid oedd yn dy- wedyd mai y Toriaid basiodd y Mesur ac a'i dododd ar ysgjvyddau y Cyngorau Sirol. Gallent fod yn sicr y bydd i'r Major ofalu am fuddianau yr Eglwys a'i Blaid os csiff fyned ar y Cyngor. Cymerwyd rhan yn mheil- gan amryw siaradwyr, a dangosid brwdfrydedd mawr dros Mr. Rogers Jones, dychweliad yr hwn a ym- .ddengys yn bur sicr.
I BLAENAU FFESTINIOG.
I BLAENAU FFESTINIOG. Mae E. B. JONES & CO., Canton House, yn dymuno hysbysu eu bod yn parhau i Werthu y Bara Anferth (yn pwyso chwe' phwys yr un) am Chwe'cheiniog. A glywsoch chwi fod Haner Pwn o'r Blawd Goreu i'w gael am 12s 6c, a IOJ pwys am Is. yn Shop J. T. OWEN REGENT HousE. Hefyd Ymenyn Tori goreu oil am Is. y pwys. REHEAR SAL.-Cynhaliwyd Rehearsal yn Bowydd nos Lun, o dan arweiniad Mr. Evan Morris, arweinydd canu Garregddu. Yr oedd ansawdd y canu yn addaw Cymanfa dda. Y RHINGYLL R. OWEN.—Drwg genym ddeall fod iechyd y Rhingyll Owen yn mhell o fod yn foddhaol. Y mae yn awr yn Llandudno am ychydig o seibiant, ac y mae yn teimlo y cyfnewidiad yn gwneyd lies dirfawr iddo. Boed iddo adferiad buan. 1 LLANDECWYN.—Aeth dau gerbyd oddi yma am Landecwyn prydnawn Sadwrn i gyfar- fod agoriadol yr Ysgol Newydd yno. Cafodd y cyfeillion dywydd anffafriol iawn, gan fod y gwlaw yn ymdywallt am ran fawr o'r daith. Cadwodd sel y gwyr da hyn heb ei amharu o gwbl er gwlybet yr hin. OFERGOELION Y CYMRU.-Nos Iau, yn y Neuadd Gynull, traddododd Mr L. D. Jones (Llew Tegid), ddarlith ddyddorol ar y testyn uchod. Llywyddwyd gan y Parch R. Silyn Roberts, M.A., yr hwn a ddywedodd mai y gyntaf o Gyfres o Ddarlithoedd fwriedid gael o dan nawdd Undeb y Cymdeithasau Llenyddol ydoedd hon, ac y ceir amryw o rai cyffelyb gan brif enwogion Cymru yn ystod y misoedd dy- fodol. Yr oedd Llew Tegid yn ei hwyliau goreu.—Cafwyd gair gan y Parchn. Benjamin Thomas a John Lewis Williams ar y diwedd. GORSAF FEISTR. Hysbysir fod Mr Downing, Gorsaf Feistr Dinbych yn ymneillduo ar ei flwydd-dal.—Ei olynydd yno fydd Mr Hughes, ein Gorsaf Feistr ar Linell y L. &. N. Western. Dechreuodd Mr Downing yn ngwasanaeth y Cwmni yn Rhyl, yna yn 1870 daeth yn Orsaf Feistr yn Trefnant. Yn ddilyn- ol bu yn y Gaerwen, ac yna ar agoriad y Llinell i fyny i Bettwsycoed. Symudodd i Ruthyn yn 1883, a dilynodd Mr Millar vn Ninbych yn 1893. Yn mis Mehefin y bydd yn ymneillduo, a dymunir i Mr Hughes ei olynydd, bob llwyddiant yn ei le newydd. YMFUDO. Dydd Mercher, lofed cyfisol, bydd Mr. Robert Rowlands Williams, Glynne House, Bethania, yn nghyd a'i chwaer-yn- nghyfraith Mrs. Griffith Williams, 33. Manod Road, yn mordwyo am yr America. Sicr fod ymadawiad dyn fel Mr Rowland Williams yn golled fawr i'r ardal gan ei fod yn troi mewn cylch eang, ac yn ddyn defnyddiol a chymwyn- asgar. Dymunwn iddynt yn helaeth Duw yn rhwydd." LLWYDDIANT CERDDOROL. Da genym hysbysu fod pob un o'r rhai canlynol wedi llwyddo i basio arholiad y London College of Music, yn yr Adran Gyntaf, sef Mary Evans Park Square; Blodwen Owen Davies, Benar View; Kate E. Griffiths, Benar View; Arnold M. Williams, Tanygrisiau; a Nancy Lloyd, Library. Yr Arholydd oedd Mr G. D Rawle. mus. Bac. (Lond.) Yr oedd y gyntaf o dan ddisgyb aeth Mrs Owen, Baron's Road, a'r gweddill dan ofal Miss A. E. Owen-Davies. Cynrychiolydd y Coleg yn yr ardal hon yw Mr J. E. Fidler, Benar View. MARWOLAETH HEN FRODOR. Dydd Gwener diweddaf, yn ei gartref yn Uwchlaw'r- ffynon, Bethania, bu farw Mr Griffith Williams, wedi cyrhaedd yr oedran teg 0 78 mlwydd. Claddwyd ef dydd Mawrth diweddaf yn myn- went Bethesda, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch. R. R. Morris. Yroedd yr ymadawedig yn ddyn tawel a chymydog caredig, a daeth tyrfa barchus ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddo. Gedy weddw ac amryw blant mewn galar ar ei ol.
- - - - --.......v"..'Y"'"Vvv...,'V"V'"V'V"VV…
v 'Y" V v v.V"V'"V'V"VV TALSARNAU. AGOR YR YSGOL NEWYDD.—Deallwn fod bcddhad cyffredinol yn cael ei deimlo ar ol y cyfarfod gafwyd i agor yr Ysgol newydd. Nid oedd ball ar groesaw y cyfaill caredig o Cefntrefor. Yr oedd ef a'r holl deulu ar eu garau yn derbyn y dyeithriaid ddaethant yma ar yr amgylchiad pwysig. Efe hefyd a roddodd y tir lie saif yr Ysgol. Nid ydym yn caru ym- helaethu, gau fjd hanes y gweithrediadau wedi eu cofnodi gan eich Cynrychiolydd; ond gweddus ynom yw pwysleisio y ffaith i Mr John Roberts ein gcsod ni a'r Sir o dan ddyled fawr iddo am y rhan bwysig a gymerodd gyda chael Ysgol deilwng i'n plant.-ENIRYS.