Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
i ; BREUDDWYD A GWEDDI.
News
Cite
Share
i BREUDDWYD A GWEDDI. (Profiad Henwr tlawd.) I: 'Rwyf wedi 'bod yn uffern, Ofnadwy ingol le, Hen gartref poeth y gethern, A char char Brenin Ne', Lie oedwir plaint y, ddaear Wrthodent drefn Ei ras, Nes yw yn rhy ddiweddar I gyrhaedd nefoedd las. Mae yno engyl l,awer Da,n law'r arch-angel cryf, A hyrddiwyd d'r uchelder 0 herwydd Balchder hyf; Ac hefyd lu o ddynio,n A luidwyd gan y fall v: I lwybrau yr angylion :> Syrthiedig, iVol a dall. Mi welais rai pregethwyr, A fuont yn eu "dydd,- v Yn hyawdl iawn is awyr, Fel fflam far dyrau'r ffydd, 'Rol croesi afon angeu Yn uffern cawsant hwy Eu hunain o dan waeau Y fflam anniffodd mwy. Mae yno ddiaooniaid Yn ddirifetdi bron; Edrychent mor ddiniwaid Pan tar y ddaear hon; Ond oario- rhith o grefydd A wnaent tra yma'n by w; Maent heddyw (dan ystormydd Digof,aint cyfiawn Duw. Mi welais lawer aelod Coofyddol yno'n wir, Rhai dybiwn fyddent uohod 0 fewn y nefoedd glir; Pan drigent ar y ddaear, Gwrogaeth pa Wbl a gaent; Ond heddyw yn eu glaLar Dan driaed ellyllon maent. Ond ehwihais lawer 'stafell Am nai a dybiwn i Oedd r y JYordd i'r ddugell, Cyn croesi'r tonog li'; Ond cawsant hwy drugaredd Yr unfed-awr-ar-ddeg; V A chanant mew;n tangnefedd 0 fewn y nefoedd dg. O! Iesu, fy Ngwaredwri Rho gymotih mawr Dy ras, I'm cad w'n Ibur fy nghyflwr Rhag llwybrau'r uffern gas; Gwna'r olwg gefais arni I'm ddeisyf trial b'of byw; Am lanio mewn goleuni I mewn i'th net, fy Nuw. Cymer, Porth. PELIDROS.
GALWAD I'R GAD.
News
Cite
Share
GALWAD I'R GAD. T6n-Ymdaith Gwyr Harlech." Deuwch, fechgyn hawddgar Cymru, Cora y gad sydd heddyw'n gweiddi, Ar i'r dewrion ymarfogi, Gwawrio wnaeth y, TIydd. Dydd o'r wain i dynnu'r cleddau, Dydd i ymladd dros iawnderau, Dydd i wirio nerth ein tadau, Do; fe ddaeth y DydJd. Dydd gwynebu'r gelyn; Dydd i idar,or delyn; Dydd i gofio'r dewrion fu- A'n harwr mact Llewelyn. Deuwoh, feibion gwlad y Brython, Gwliad ey'n llywodraethu'r eigion, Codwn fanier Cymru dirion; lawnder garia'r Dydd. Awn i'r gad hob ofni angau, Bendith lor fo ar ein harfau, Gwisger ni a ffydd ein tadau, Dewrion Cymru lan. Clywch ruadau brooh y magnel, Yn dod heibio gyda'r awel, Geilw'r Sais, a'r Scotj a'r Gwyddel, A meib Gwlad y Gan. Unwn efo'n gilydd, Gwell yw oas na ch'wilydd, Rhestrwn tan y faner sydd Yn angau i rbloh llofrudd. Awn i ymladd dros gyfiawnder, Ganalltudio oina phryder, Awn yn 'hyf gan gofio dewrder- Arwyr Cymru lan. Clywch ddolefain plantos Louvain, Am gynorthwy dewrion Prydain, Dros y tonnau hed yr atsain— Deuwch i helpu'r gwan. Gwiaed y gwirion sydd yn galw Dial ar y llofrudd hwnnw; Derfydd coffa am ei enW; Angiau fydd ei ran. Deuwch, fechgyn Cymru, Awn 1 wneud gwrhydri, Fydd yn diestyn oerdd a chan—- I'r oesa,u he'b eu.geni; Awn, ymladdwn a gorchfygwn; Cri'r amddifaild) nac anghofiwn; Hen alawon Cymru seiniwn; Trechwn yn y man. Bethel, Glianymor. -0 THOMAS REES.
CYMDEITHAS Y GROES GOCH.
News
Cite
Share
CYMDEITHAS Y GROES GOCH. Wedi gair 'byrr ar ddechreuad ac amcan y Gymdeithae uchod o'r blaen, dichon y byddai gair am ei gwaith presennol y,n fuddiol eto. Y mae y Gymdeithas hon a'r St. John Ambulance Association wedi cyfuno ou gall- uoedd i weini iar y, clwyfedigion ar faes y rhyfel. Y maent wedi anfon allan eisoes dros 2,000 o weithwyr yn fedidygon, gwei- nyddesau (nurseis), trefnwyr, a modur-yr- wyr. Y mae corbydres, ynghyd-a 680 o foduriau (motors) wedi eu hanfon allan i ddwyn y clwyfedigion o faes y rhyfel i ddiogelwch a nodded; trwy hyn arbedir cannoedd o fywydau a fuasent wedi eu colli o eisiau ymgeledd, oui bai am y trefniadau hyn. Y ma,e ystorfeydd o bob disgrifiad wedi eu hanfon allan i faes y rhyfel, yn nghyda channoedd ofiloedd o ddillad er cysur a chynhesrwydd i'n gwroniaid a am- ddiffynant ein gwlad a'n cartrefi rhagrhaib y gelyn. Y mae ganddynt feddygdai ym Mharis a manau eraill yn Ffrainc. Y mae meddygdy yn Netly yn y wlad hon, ac y maent wedi dodrefnu y King George Hos- pital yn Llundain. Yn ychwanegol at hyn, maent wedi darparu dros 14,848 o welyau a'r cw'bl wedi eu derbyn gan Swyddfa'r Rhyfel; ac wedi gwneud darpariaeth i ofalu am 25,000 o'r milwyr sydd ar wellhad. Y mae y draul ynglyn a'r gwaith dyn- garol hwn ar gyfartaledd yn rhywEIO,000 yn wythnosol. Dygir gwaith y drysorfa ym mlaen yn hollol ddidal gan foneddigion a boneddigeisau a allant ganiatau eu hamser at hynny. Cynhydda gwaith y Groes Goch bob dydd, ac ychwanegir at y treuliau'n feunyddiol. Derbynir pob rhodd yn ddi- olchgar gan The Right Honourable Lord Rothschild, G.O.V.O., 83, Pall Mall, Lon- don, S.W. Ni fu mwy o ysbryd dyngarwch, gwlad- garwch, haelioni, a gweddi ym Mhrydain erioed nag yn adeg y rhyfel of nadwy hwn. Da gennym nad yw Cymru wen ar ol mewn gwneud ei ihain. Duw'r heddwch a adfero drefn yn fuan. Harmony. W. REES.
NODDFA,CAERAU.
News
Cite
Share
NODDFA,CAERAU. Nos Fawrth, Rhagfyr 22, ymwelodd y, Parch- J. Dykins, gNveinido,,c, gydar PreIS" byteriaid yma, a'n cymdeithas fel Pobl Ieu- a,nc, i dradclodi ei anerchiad blynyddol ar un o gymeriadau novelau Daniel Owen. Brodor yw Mr. Dykins o'r Wyddgrug, oar- tref Dl. Owen. Mae g-anddo gymhwysder arbenig i ddelioa gweithiau'r novelydd en- wog am fod ganddo adnabyddiaeth o gym- eriadau tebyg i'r rhai welir mor fyw wrth ddarllen gweithiau Dl. OWlen. Testyn y ddarlith y tro hwn .oedd Mr. Smart, o'r D re flan. Mae digrifwch Mr. Dykins yn fantais iddo ddarlunio ei gymeriad, ac y mae pob! amser yn rhoi gwledd i feddwl ag yspryd aelodau'r gymdeithas pan yn talu ymweliiad. Mae'r Gymdeithas eleni yn well nag er- ioed, s/r aielodau yn tysio i'r lies dder- bynient o'i mynychu. Noson olaf y flwydd- yn cynhaliwyd ymgomwest gan aelodau'r gymdeithas, a chafwyd gwledd i gorff a hwyl i ysbryd mewn difyrwch. Arferiraros hyd ddyfodiad y, flwyddyn newydd' yn y festri i annog ein gilydd i ymgysegriad gwell yn ystod y flwyddyn newydd. Perfformiad. Bu'r Goibeithlu yn rhoi per- fformiad o'r llyfr Prince and Pedlar ar y ddwy noson. cyn Nadolig. Tystia Mr. Davies, Vicar y Plwyf, a Mr. John Hugh- es, aelod io'r Cynghor Dinesig, y rhai fu mor garedig a llywyMu yn y cyngherdd- au, Ibod y datganiad a'r perfformiad gan y cor yn glod i'r arweinydd dyfal Mr. Daniel Jones, ac hefyd i'r feroh ieuanc Miss Dolly Powell fu'n chwarae'r berdoneg mor f,edrus. Yr oedd nifer o'r ibobl ieuainc yn cynorth- wy,o'r plant, wrth gymeryd y cymeriadau, ac aeth pob un ohonynt drwy eu gwaith yn ardderchog. Mae y cor mawr yn brysur yn dysgu llyfr The Moobiitess" u-dau ar- weiniad Mr. Jones. M'e diwydrwydd yn yr eglwys a'r gwiaith yn mynd yn ei flaen. H. J. T. o
CWRDD GWEINIDOGION CYLCHOEDD…
News
Cite
Share
CWRDD GWEINIDOGION CYLCHOEDD PENYBONT YR OGWY A'R OARW. Ail gychwynwyd yr uchod yn Chwefror diweddaf, a thrwy garedigrwydd y frawd- oliaeth y,n Ruhamah, Penybont, cyfarfuwyd yno yn fisol ar hyd y flwyddyn. Yng nghyfrafod Rhagfyr, dan lywydd- iaeth y Cadeirydd, y Parch. J. Hughes, Nantymoel, cafwyd amlinelliad pregeth gall y Parch. E. K. Jones, Penybont, a dilyn- wyd y iraddodiad o lioni gan sylwadau beirniadol a gwerthfawrogol. Yn wyneb absenoldeb y brawd oedd i ddarllen papyr manteisiwyd ar y cyfle i wneud sylw o ymadawiad: y Parch. T. M. Jones, Philadelphia, Cwm Ogwy, a'r cylch i ymgymeryd a gofal gweinidogaethol eg- lwys biarch us Bethlehem, Trealaw, Owtm Rhondda. Dygwyd tystiolaeth i gymeriad pur, gall- uoedd cryfion, ynghyd a, ffyddlondeb cyson ein hanwyl frawd yn ein plith, a phasiwyd fod llythyr i'r perwyl i'w anfon i Gwm Rhondda. Hefyd, cyflwynodd y Cadeirydd i'n brawd ar ran y cwrdd, gyfrol gwerth haner gini, fel arwydd fechan o'n serch tuag ato ac o'n dymuniadau am ei lwyddiant parhaol- yn ei gylch newydd. Siaradwyd mewn modd tyner ac effeithiol gan amryw 6'r "brodyr, a phawb yn unfryd unfarn ein bod yn colli o'n plith o'r cylch hwn frawd ieuanc a enillodd iddo ei hun le dwfn yn ein serch, Deallwn y bwriada ddechreu yn ei faes newydd tua dechreu Chwefror. Gwnaed hefyd yn y cwrdd drefniadau ar gyfer y tri mis dilynol. Ein dymuniad fel gweinidogifon ieuainc yn y cylch ywam i'r eyfiarfod hwn bara'n llwyddiannus. T. M. WILLIAMS, Ysg.