Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
GWLAD A SENEDD.
GWLAD A SENEDD. (GAX EIN GOHEBYDD ARBENNIG) Bellach y mae cyfrinach Cyllideb Fawr 1914 wedi ei chyhoeddi a'r wlad yn gwyhod cynhygion y Llywodraeth ynglyn a chostau a threthi y deyrnas am y flwyddyn ddyfodol. Mewn un peth o leiaf, saif y Budget hon ar ei phen ei hun. Ni chawsom erioed o'r blaen al- wad i godi y swm o £ 210,0(^0,000 at gostau gwlad mewn blwyddyn. Dengys y ffigyrau canlynol y cynnydd aruthrol sydd wedi cymeryd lie yn Mhryden mewn rhywbeth gyda chanrif. Dengys y daflen isod ofynion gwahanol gyfnod- au:— 1798-£29,272,000. 1806— £ 48,916,000. 1853— £ 52,000,000. 1860— £ 70,000,000. 1913— £ 197,433,000. 1914— £ 209,800,000. Dengys y swm a nodir ar gyfer 1913 yr hyn a wariwyd y flwyddyn honno. Y prif achos o'r cynnydd mawr hwn yw y Llynges a'r Fyddin. Yn ddiweddar, er hynny, geilw Bhvydfl-dal Hen Bobl ac Yswiriant Gweithwyr am gryn nifer o filiynnau. Am yr olaf, gellir dweud, o leiaf, y gwerir hwy ar gysuro ac iachau, ond am y cyntaf bodolant i gynhyrchu gelyniaeth, galanas a gofid. Rhagolygon y Flwyddyn. Proffwydodd Mr Lloyd George wrth gyflwyno ei gyllideb llynedd fod blwyddyn o hvyddiant masnachol o'n blaen, ac felly y bu. Er hynny, beirn- iadwyd ef yn dra llym gan Mr. Austen Chamberlain ac ereill. Mr Chamber- lain oedd y Canghellor Toriaidd di- weddaf, ac felly efe oedd prif feirniad swyddogol trefniadau ariannol y Llywodraeth bresennol. Tyfetiai fod Mr Lloyd George yn cymeryd golwg rhy ffafriol ar bethau, ac mai cyllideb ar gyfer etholiad cyffredinol oedd ganddo hynny yw, cyhuddai y Rhyddfrydwyr o wneud trefniadau i wario arian, ac o drethu yn y fath fodd ag i daflu eu holynwyr Toriaidd i ddyryswch mawr pan ddeuent i swydd cyn pen y flwyddyn! Syn yw darllen peth fel hyn yn 1914. Eleni nid yw y Canghellor mor galon- ogol. Darogana iselder masnachol mewn rhai cylchoedd, er fod arwyddion y llwyddir yn helaeth mewn cylchoedd ereill. Ond nid yw yr argoelion yn dweud y bydd yr arafwch yn fawr nac ychwaith y pery yn hir. Crea y Bud- get, er hynny, ragolygon teg, trwy yr addewid. y qyfreiinir yn sylweddol at y trethi lleol. Yr oedd hyn wedi ei addo er's tro, ac y mae yr addewid wedi ei chyflawni gyda Ilawnder. Yn ychwan- egol at hynny, codir yr arian gofynnol heb ddyfod ar gyfil y gweithiwr a man- fasnachwyr i geisio ceiniog goch o gwbl. Dyma un o nodweddion am- lycaf y mesur ariannol presennol. Dis gwyliai rhai y cawsai treth y siwgr a threth y te eu symud, ond teimlid fod yn amhosi.bl eu dileu eleni yn wyneb y gofynion trymion a geir arnom. Mesurau Lawer Mewn Un. Dywedir y bydd yn rhaid cael pedwar neu bump o fesurau Seneddol ychwan- egol i weithio allan y Gyllideb newydd, er fod Mr Lloyd George wedi ysgwyd ei ben pan ddywedodd Mr Chamberlain 1 hynny yn y Ty nos Fercher. Dywedir hefyd y galwai hynny am i'r Senedd eis- tedd yn yr Hydref unwaith eto. Teini- la ami i Seneddwr groesineb mawr at Eisteddiad Hydrefol, ac awgrymir mai trefnu ddylid yn awr i godi yr arian, ac yna gael y mesurau ychwanegol yn gynnar yn Senedd-Dymhor 1915. Am- lwg yw y gwyr Mr Lloyd George sut mae torri gwaith allan. Gofynnol fydd cael Mesur Addysg newydd Mesur i Wella Deddf Yswiriant; Mesur ynglyn a Deddf y Tlodion, a mesurau i ddeddfu ynglyn a threthiant ac a Ilywodraeth leol. Mewn rhai pethau y mae Budget 1914 yn debygol o daflu un 1909 o'r golwg, er ei bod hefyd yn barhad o ddarpariadau pwysicaf honno. Daw y cynorthwy ychwanegol roddir i'r trethi Ileol i 29,845,000, yr hyn a wna gyfartal- edd o naw ceiniog y bunt ar gyfer yr holl wlad. Ca rhai cylchoedd fwy a rhai lai na hyn. Dosberthir hefyd, nid yn ddihid a diwahaniaeth. Y cylch- oedd gant fwyaf yw y rhai sydd wedi myned i gost deilwng i ddarparu y trefniadau iechydol ac addysgol goreu iddynt eu hunain. Yn ol y safonau hyn y bernir teilyngdod y derbynwyr. Edrychir hefyd gan y Llywodraeth fod yr arian ,yn cael eu gwario yn briodol. Rhoddir miliwn a chwarter eto at Ys- wiriaeth. Rhoddir zC3,615,000 at Dreth y Tlodion; 92,480,000 at y prif-ffyrdd, a symiau sylweddol at y gost o gadw yr Heddgeidwaid ac at y gwaith o ddifodi y Darfodedigaeth a heintau yr anifeil- iaid, yr hyn a ddywed mor drwm ar amaethwyr ein gwlad. Cyfran Addysg fydd £ 2,750,000. Awgrymir y rhydd hyn gyfle i godi cyflogau yr athrawon cynorthwyol a delir mor wael yn awr a hefyd i sicrhau ymhob lIe adeiladau cyfaddas, iach, i ddwyn ymlaen waith ei hysgolion. Dylasai hefyd sicrhau gostyngiad yn y trethi presennol. Llonnir calonnau gweision y Llythyr-dy gydag addewid am godiad cyflog. Ych- ydig ga llawer o honynt yn awr, ac y inaent wedi aros yn hir am ymwared. Gorchwyl hawdd iawn yw gwario bob amser. Y gamp yw. sut i gael yr arian cyn eu gwario. Cyhuddiad Mr Austen Chamberlain yw fod Ty y Cyffredin yn cam gwario miliynau ac fod Canghellor y Trysorlys yn awr yn eu cefnogi a'u calonogi yn y gwaith. Edrychai llawer ymlaen gyda dyddordejb pryderus er mwyn gwybod beth fyddai I Cynllun Mr. Lloyd George i Godi yr Arian. Yr oedd gan bawb ami i safon i farnu wrthi ymlaen Haw: gwyr pawb oil am gysondeb difwlch y Canghellor ac am ei ddywediad ei fod yn myned i chwilio a cheisio aur lie y gwyr fod aur i'w gael. Gwyddom hefyd am ei gydymdeimlad cyson gyda'r tlawd a chyda'r gweithiwr ymhob cylch. Yn unol a'r egwyddorion hyn cyfyd yr holl dreth ychwanegol sydd yn ofynnol oddiar gyfoethogion y deyrnas, ac oddiarnynt hwy yn unig. Codir y 19,800,000 heb ofyn ceiniog goch oddiar y dosbarth gweithiol a man-fas- nachwyr Pryden. Gwneir hyn trwy ychwanegu Treth yr Incwm a'r dreth ar eiddo adewir gan y marw. Ar hyn o bryd ddihanga ami i wr cyfoethog trwy fuddsoddi ei gyfoeth mewn gwledydd tramor, ond daw y Budget presennol a'r hen adar hyn i'r rhwyd. Trefnwyd yn 1909 fod y trethi yn cynhyddu o ran y cnwd a gynhyrchent. Llunir cyllideb 1914 yr un modd. Yn y flwyddyn lawn gyntaf cynhyrcha y trethi ychwanegol osodir arnom eleni y symiau canlynol: Treth yr Incwm £ 5,715,000 Buddsoddiadau Tramor .£500,000 Yr Uwch-Dreth (Super Tax), 24,500,000 Treth Eiddo y Marw £ 2,115,000 Diddymiad Treth Sefydliad Meddiannau £900,000 £13,730,000 Arferid gynt godi yr Uwch-Dreth (sef y chwe'cheiniog ychwanegol) ar incwm o 95,000 ac uchod. 0 hyn allan ad- drefnir hi a gosodir hi ar incwm o £ 3,000 i tldechreu. Graddiad Treth yr Incwm a'r Uwch. Dreth. Rhydd y daflen ganlynol help i ddar- llenwyr y "Darian" wybod amcan beth fydd eu cyfran hwy eleni at draul y Llywodraeth. Am symiau uwchlaw 93,000 cynhwysa a ganlyn y ddwy dreth a nodwyd, ac y maent yr un ar incwm a enillir ag ar incwm ddaw heb ei ennill. Incwm. Y Dreth. Y Swm i'w Dalu £ s. c. £ s. c, 160 0 0 0 0 0 200 0 9 1 10 0 250 0 9 3 7 6 300 0 9 5 5 0 350 0 9 j 7 2 6 400 j 0 9 9 0 0 450 0 9 10 17 6 500 0 9 13 2 6 600 0 9 18 0 0 700 ) 0 9 23 12 6 800 ) 0 9 30 0 0 900 [ 0 9 33 15 0 1000 0 9 37 10 0 1500 65 12 6 2000 1 0 100 0 0 2500 1 2 145 16 8 3000 1 4 210 0 0 4000 1 4 305 0 0 5000 14 j 410 0 0 6000 1 4 522 0 0 8600 1 4 773 0 0 10000 1 4 1040 0 0 100000 1 4 13040 0 0 Ar un olwg ymddengys pethau ar y wyneb braidd yn drwm ar y cyfoethog druan, ond da fydd cofio Tosturi a Chymdeimlad y Canghellor. I gychwyn caniateir lleihad yn y dreth o bymtheg swllt ar gyfer pob plentyn dan tin-arbymtlieg oed. Os bydd gan ryw un bedwar plentyn, a'i incwm dan JE240 y flwyddyn, ni elwir arno dalu damai. (Druain o hen lanciau a phobl ddiblant.) Heblaw hyn rhoddir ystyr- iaeth arbennig i achosion lie y digwydd i eiddo neillduol ddod dan dreth ddwy- waith o fewn ychydig amser, trwy farw- olaeth. Os digwydd marwolaeth yr ail berchennog o fewn blwyddyn i'r cyntaf. yna hanner y dreth godir yr ail dro. Os o fewn dwy flynedd, trigain y cant, ac felly yn y blaen. Os wedi pum mlynedd. yna daw yr ail etifedd o dan y dreth lawn, yn ol y daflen uchod. Ystyriaeth arbennig ddylid gadw mewn cof hefyd yw, y bydd y cyfoethog eto yn derbyn yn ol gryn lawer o'r hyn a gymerir oddiarno. Cofier mai tros- glwyddo wneir o'r Trysorlys at gyn- orthwyo trethdalwyr lleol; ac onid yw y cyfoethog yn drethdalwyr tryi-nion ? Er hyn oil, saif yr hyn a ddywedwyd uchod yn hollol wir, sef fod y baich ychwan- egol eleni yn cae l ei osod ar ysgwyddau gwyr yr am a'r moethau, ac nid ar y dosbarth gweithiol. Pan gyfeiriodd Mr Lloyd George at ychwanegiad y "super-tax" ochneid- iodd Wil Crooks, yr Aelod Llafur, yn glywadwy ac aeth yn chwerthin trwy y Ty. Ar y llaw arall, siaradodd Captain Pretyman gydag acenion gofid a thor- calon yn ei lais. Y mae y Tori hwn yn un o ddynion cyfoethocaf y Senedd, ac ar yr un pryd yn un o wrthwynebwyr mwyaf cyndyn Mr Lloyd George ar bob mesur o ddiwygiad cymdeithasol. Ter- fynodd Mr. Pretyman ei araith nos lau fel y canlyn Y mae gennym deim- lad o anobaith oherwydd y ffordd y mae busnes y wlad yn cael ei gamdrin. Fedr dyn wneud dim yn ei fasnach nad yw swyddogion y wladwriaeth yn ei les- teirio. Deuwn i'r Ty a'n cwynion. ond syrth ein cwynion ar glustiau byddar. Cenir cloch plaid a dyna derfyn ar yr achos. Nis gallwn gael cyfiewnder oddiwrth Dy y Cyffredin heddyw." ] Pity the poor millionaires! Yn ei < araith yn etholiad Grimsjby, dydd Gwener, tystiai Mr Joynson Hicks, A. S., y cyst y gyllideb yma gannoedd o bunnau iddo ef, a'i fod wedi meddwl cael modur newydd, gwerth 2800, ond, bellach, rhaid fydd iddo ioddloni ar wario zCl30 i drwsio yr hen un. Dyma eto enghraifft o galedi. onite ? Gostwng y Ddyled Genedlaethol. Mawrth 31, 1913, swm dyled y Deyrnas Gyfunol oedd £ 711,288,421; ond, ar gyfer hynny yr oedd ganddi zC98,093,786 mewn eiddo ac arian mewn llaw, yn gadael Y,613,194,635 i'w talu o'r trethi. Bu rhaid i'r wladwi-laeth, niewn llog, etc., dalu am y cyfryw llynedd y swm o 124,500,000. Dyma un o'r achosion sydd fel hunllef yn gwasgu y bobl i lawr, ac yn atal diwygiadau cymdeithasol. Costiodd ein rhyfel gyda'r Boeriaid ini £ 230,000,000, ac ychwanegwyd £ 160,000,000 o'r cyfryw at y ddyled uchod. Peth rhwydd oedd bloeddio a chodi bonllefau ar y pryd. Peth arall yw byw dan bwysau corff y farwolaeth uchod o'r adeg honno hyd yn awr, ac am flynyddoedd lawer eto. Hawlia y Canghellor fod 'y Llywodr- aeth bresennol wedi myned tuhwnt i bob un a fu o'i blaen yn y gwaith o dynu y ddyled i lawr. Yn ystod eu tym- or o wyth mlynedd talasant i ffwrdd 1104,000,000, a thelir y flwyddyn hon zCf),200,000 yn ychwanegol. Wele gyfar- taledd y taliadau mwyaf wnaed:— Mr. Goschen £ 6,420,000 Syr Wm. Harcourt £ 6,391,000 Mr. Gladstone a Mr. Childers £ 5,692,000 Mr. Lowe 25,531,000 Mr Asquith a Mr Lloyd George £ 13,000,000 Y Rhod yn Trei. Tua dechreu y ganrif ddiweddaf, ar- glwyddi y tir oedd yn teyrnasu. Dal- ient ddau Dy y Senedd yng ngheudod eu dwylo. Ni feddai y bobl wybodaeth na chyfrwng ymwared. Ar warrau y tlodion y gorffwysai iau enbyd costau y wlad. Hwynthwy fu raid talu y trethi. Ond wele y rhod wedi troi a chynrych- iolwyr gwerin oleuedig yn dechreu gwas- tatau pethau. Bellach, tollir cyfoeth segur enfawr y wlad at dalu biliau cy- hoeddus y wladwriaeth. Hen arferiad yr hanner canrif ddiweddaf oedd i'r Llywodraeth alw gydag awdurdod am welliantau lleol a gorfodi sir, a phwyf, a dosbarth i dalu am y cyfryw. Y canlyn- iad fu, Ilethu Ilawer tref ac ardal. Cyd- ne £ >ydd y Canghellor fod llawer cyfraith dda heddyw yn gorwedd yn farw o'r achos. Os bydd trymfaich eisoes yn llethu y trethdalwyr i'r llawr, sut mae modd cael ysgolion cyfaddas a threfn- iannau iechydol gweddus? Erbyn hyn daw llanw mor y Trysorlys gyda'i gyflawnder i'n haberoedd. Ysgafnheir y baich lleol trwy gyfraniadau o Lun- dain. Gwelir isod fel y mae y symud- iad hwn wedi cynhyddu yn ddiweddar. Cyfraniadau y Llywodraeth at waith Ileol 1860.£1,000,000 1880 £ 5,000,000 1900 £ 20,000,000 1913.£27,000,000 Nid gormod dweud fod y ffigyrrau hyn yn meddu ar arwyddocad aruthrol, a'u bod yn arddangos un o'r chwildroadau p-wysicaf a welodd un wlad wareiddied- ig erioed. Yr ydym wedi symud yn bwyllog, cyfansoddiadol, a diogel, ac yn ol pob tebyg, yn derfynol. Ni fydd lie i droi yn ol. Ffyrniga llawer o'n 'gwyr mawr,' a cheir rhai o honynt yn ewynu gan gynddaredd wrth weled y bobl yn cyfodi, a gorsedd eu trausder hwy yn cael eu dymchwelyd. Caled yw iddynt yn ddiau, wedi bywyd maith o foethau, a seguryd a ffroenucheledd, orfod ym- ostwng i lais y bobl a ddirmygwyd gan- ddynt cyhyd. Gwahoddwn hwy i ym- uno gyda'u cyd-ddinasyddion, heb lol nac arall, i fyw ac i weithio a chyd- lawenhau i ddyrchafu cymdeithas i sicrhau ffyniant a heddwch y gwledydd a gogoneddu Duw. Y Canghellor a'i Araith. I Daroganid fod llais Mr. Lloyd George yn pallu a'i iechyd yn gwaelu yn ffodus ni chafwyd cysgod o hyn arno wrth dra- ddodi ei araith fawr. Siaradodd am ddwy awr a thri chwarter gyda'i rwydd- ineb arferol. Bu yn ddoeth i ysgrifennu yn helaeth ymlaen-llaw, a hefyd i gryn- hoi llawer i gwmpas bychan. Byrha- odd hyn hyd yr araith. Pe buasai wedi arfer mwy o ryddid gallasai yn rhwydd gymeryd pum awr i fyny. Siaradodd hefyd yn dawel a digynnwrf. Nid oedd eisieu iddo godi ei lais na phoethi o e is 1 eu gwbl i yrru ei bwyntiau adref. Cerdd- ent bob un yn rhwydd yn eu nerth eu hunain. Yr cedd y gwaith wedi ei wneud eisoes yn y Trysorlys, os nad yn wir yn ystafell y weddi ddirgel. Saif Cyllideb 1914 ochr yn ochr a Chyllideb 1909, fel colofnau pont fawreddog, ar hyd yr hon y cerdda gwlad gyfan o bobl o un diriogaeth i'r llall. Traetha waith gwron, cysegredig i achos gwerin, yn gwynebu ar elynion penderfynol ac anhawsterau anghyffredin, er mwyn cyflawnu y gwaith y mae o'i blegid. Dengys ol meddwl cryf, meistrolgar, calon yn Ilawn tynerwch at y tlawd a'r cystuddiedig, ac yspryd yn llawn beidd- garwch a dewrder egniol. Arhoed bwa y Gwir Anrhydeddus David Lloyd George eto yn gryf boed iddo hefyd flynyddau lawer i wasanaethu ei oes a'i wlad. Gofaled gweithwyr Cymru as- fcudio yr hyn a wneir ganddo. gan ym- [Irechu myned i fewn i gyfrinach werth- [awr a hyawdl Cyllideb 1914, yr hon wdd iddynt hwy yn Freinlen Fawr ac yn iddewid gyfoethog yr un pryd.
Cerddoriaeth ym Mountain Ash.
Cerddoriaeth ym Mountain Ash. Creadur braf, gwreiddiol ac ath- rylithgar yw Granville Bantock, y cerddor byd-enwog. Efe oedd y prif- feirniad yn Eisteddfod y Pasg di- weddaf. Arferid dwevd am Dr. Herber Evans ei fod yn bregeth i edrych arno. Gellid dweyd am Dr. Bantock ei fod yntau yn oratorio i edrvch arno. Gwr mawr, cadarn, gwrid-goch yw efe. Dau lygad mawr a glas, barf hir, a'r cyfan yn rhoi iddo ymddangosiad tywysogaidd "o'i wadn i'w goryn nid oes gwrthuni ynddo." Mae ei ffordd ei hun ganddo yn vr hyn oil a wna. Ni fvnn gael ei ívfthei;io a gefvnnau arferol beirni- adaeth. Tyrr ar draws hen arferion I yn ddiseremoni. Mae dvnoliaeth fawr a braf ynddo, ac mae am roi pob chwarae teg i naturioldeb gael ei ffordd mewn cerddoriaeth. 'Roedd pob beirniadaeth o'i eiddo yn werth craffu arni. Dywedodd wrth y Corau Meibion ganent ei ddarn, "Down among the Dead Men," eu bod wedi canu'r darn fel pe bai yna ddynion meirw mewn I gwirionedd, ond nid yw y Dead Men" yn y darn ond hen gostreli gwin gweigion. Tri pheth iach iawn ddywedodd wrth yr holl gorau — (1) Dylent ganu heb gopi. (2) Dylent ganu heb y berdoneg. (3) Dylent ganu nid am y wobr ond canu o gariad at gerddoriaeth. Bum hefyd yn y gyngerdd fawr yn y Pafilivvn yn gwrando perfformiad "Baner Sant Sior (Elgar), a gwaith Mendelssohn, Salm 114, "Pan aeth Israel allan o'r Aipht." Godidog oedd cerddorfa y Queen's Hall-y cyd- symudiad yn berffaith-rreistri ar eu gwaith bob un. Dyma oedd unoliaeth mewn amrywiaeth mewn gwiriqnedd. 'Roedd y delyn hefyd ymysg y llu offerynnau, ond mai naill ochr yd- oedd-yn daearyddol a cherddorol. I Gymro pybyr dolur llygaid ydoedd gweld gwthio yr hen delyn ber i'r gongl ac ychydig chwareuwyd arni drwy'r gyngerdd. Pam na chawsem don ar y delyn yn ogystal ag ar y crwth? Anesmwyth iawn oedd y dorf tra fu'r crythwr rhagorol yn rhoi un- awd. 'Roedd ei ddarn yn rhy hir a chlasurol i foddio'r werin a'r miloedd. Mentraf ddweyd pe cawsem ganu gyda'r delyn cawsem osteg gwell. Y tro nesaf gofaled yr awdurdodau am roi ei lie i'r delyn-yn enwedig yng ngwlad y delyn. Mwynheais yr unawdwyr yn fawr iawn, yn enwedig Herbert Brown. Canwr bywiog ac egniol yw hwn, ac yr oedd pob gewyn o hono ar waith tra canai. Cantores lew iawn yw Miss Esta D'Argo, ac act wreiddiol wrol oedd ei gwaith yn disgyn o'r llwyfan i'r llawr i roi can "encore" a chyfeilio ei hunan. Rhyfedd y bri a'r pris roddir ar gantorion os bydd- ant yn Saeson o Lundain. Diddorol oedd sylwi ar lawer un na wyr air o Gymraeg ac heb wreichion- en o ysbryd Cymreig yn codi yn wladgarol dros ben a'u copiau o'u blaen ac yn ceisio canu Hen Wlad fy Nhadau." Chwerthinllyd i'r eithaf oni bai ei bod mor boenus i Gymro ydoedd clvvved v frawddeg, U 0 bydded i'r hen iaith barhau," ar wefusau (lawer, ac o'u rhan hwv bu- asai'r Gymraeg wedi trengu er's hir amser. Cysondeb, foneddigion! Gair o glod i'r cor mawr a'r ar- weinydd Ilafurus a'r ysgrifennydd ymdrechgar am roddi i'r ardal deir awr o nofio mewn cerdd a chan. Cadwodd yr arweinydd y baton i feistrolgar yn ei law o'r dechreu i'r diwedd. Canal y cor yn ardderchog, ond yn ansicr a sigledig ar adegau. Llongvfarchion gwresog er hynny i'r cantorion oil am roddi cymanfa ganu yn iawn yn Aber Pennar. CARWR CERDD. I
Waunarlwydd.I
Waunarlwydd. I Cynhaliodd Cyngor Eglwysi Rhydd- ion Gogledd Gwyr ei gyfarfodydd blynyddol eleni yn Sardis, Waunar- lwydd, Mai 5, 1914. Yn y prynhawn am 2.30 cafwyd cynhadledd agored, a'r Hybarch J. Bevan yn y gadair. Darllenwyd papur rhagorol ac am- serol gan y Parch. E. Watkins, Cas- llwTchwr, ar "Rwymedlgaeth rhieni crefyddol i gyfarfodydd yr wythnos." Yna cawd rhydd ymddiddan, a chym- erwyd rhan gan Mri. C. Harries a D. Jones, Llwchwr, a'r Parchn. J. Bevan, W. Morgan, D. H. Thomas, R. \Y. Davies, Lewis Richards, D. M. Davies, W. Glasnant Jones, J. Stephens, Brynteg, ac vraill. Yn yr hwyr cafwyd cyfarfod cyhoeddus, y Parch. D. M. Davies, Waunarlwydd, yn y gadair. Wedi i'r cadeirydd ddat- gan ei lawenydd fod yno gynrychiol- aeth mor Iluosog o'r gwahanol en- wadau, anogai hwynt i ddod allan fel un gwr yn erbyn drygioni'r oes. Yna galwodd ar y Parch. D. Lloyd Mor- gan, D. D., Pontardulais, i annerch y cyfarfod ar "Beryglon y Dyn Ieu- anc." Cafwyd araith benigamp gan y Doctor, a chredwn yr erys ei dylan- wad yn hir yn yr ardal. Diolchwyd yn gynnes iddo gan y Parch. W. Glas- nant Jones, ac eiliwyd gan y Parch. J. Jones, Seion. Cafwyd cyfarfod ar- dderchog. Darparasai'r eglwys lun- iaeth i'r ymwelwyr yn y festri, a di- olchwyd iddynt am eu croesaw car- edig.
IColofn y Gohebiaethau. I
I Colofn y Gohebiaethau. I I EISTEDDFOD CAERFFILI LLUNGWYN. Syr,—Carem gael gofod fechan yn y Darian nesaf i hysbysu'r beirdd fy mod eisioes wedi derbyn rhai cyfansoddiadau na welant fantol Wil Ifan o gwbl os na wna'u hawduron gydsynio a'n rheolau. Mae gan y pwyllgor resymau di- gonol dros fabwysiadu rheolau neill- duol, a gresyn fod ein beirdd yn boddloni mor ami ar yr hysbysiadau rhannol welir yn y Darian a new- yddiaduron ereill, a byth yn anfon am gopi o'r rhaglen.—Yr eiddoch, yn wladgar, J. D. HUGHES, Ysgrifennydd. I EISTEDDFODAU CADEIRIOL Y DE. I Mr. Gol.,—Chwi wyddoch fod Eis- teddfodau Cadeiriol i gael eu cynnal y mis nesaf yn Rhiwfawr, Fforest- fach, a Phontardawe. A welsoch chwi y rhaglenni? A ddarllenasoch chwi y rheolau caethion sydd wedi eu tynnu allan ar gyfer y cvstadleuwyr llen- vddol? Rhaid i bob cystadleuwr anfon 5w11t gyda'i gyfansoddiad i'r ysgrif- ennydd, onide ni anfonir ei gynnyrch i'r beirniad. Dyna ddangos tylodi, a gorthrwm, a sarhad ar wareiddiad a brawdgarwch. Y mae pwyllgorau yr Eisteddfodau uchod yn gofyn i'r cys- tadleuwyr dalu iddynt hwy am y fraint o gvstadlu! Dyna y dull y maent hwy yn ei gymeryd i ladd ein llenyddiaeth. Dynion o'r un egwydd- or sydd yn difa ein hiaith a'n Heis- teddfodau. Y maent hwy yn gosod yr Eisteddfod ar yr un tir ag arddangos- fa cwn defaid. Rheol yr arddangosfa honno ydyw fod yn ofynnol i'r sawl fvddo yn bwriadu i'w gi gystadlu an- fon swllt gyda'i enw i'r ysgrifennydd. Heb wneud hynny y mae yn torri y rheol, ac nid ydyw ei gi i gael cystad- lu. Oddi wrth yr rheol hon gwelwch mai y collwr sydd yn talu i'r ennill- wr. Os na all yr Eisteddfod fyw heb y cynllun masnachol Seisnigaidd hwn, j gwell fyddai ei difodi ar unwaith.— Ydwvf, etc., R.E.J. ORGRAFF Y "DARIAN." Mr. Gol. ,-Gwelaf eich bod yn newid orgraff y "Darian." Nis gwn paham. Nid wyf yn deall fod y new- ydd yn rhagori ar yr hen, ond yn llawer anhawddach i'r gohebwyr a rhywun fel fi sydd heb ddysgu gramadeg. Nis gwn pa ramadeg i'w ddysgu ac i'w gymeryd yn safon. Nid oes yr un o'r doethion'n hynny yr un fath. Mae gan bob un ei ffordd ei hunan. Dywed rhywun fod yn j ofynnol dyblu yr n ar 01 y sain fer. Felly dylid ei dyblu mewn geiriau un- sill fel hynn, Tonn, Tonnau, Glynn, Glvnnoedd, Cann, Cannu, Bann, Bannau, etc. Wrth edrych tros "Gwlad y Gan," llyfr barddonol o'r I eiddo y prif-fardd, Mr. T. Gwynn Jones, gwelaf mai yn y dull a nod- wyd y mae ef yn sillebu geiriau unsill tann y sain fer. Ystyriaf y prif-fardd, I Mr. T. Gwynn Jones, yr awdurdod uchaf yng Nghymru ar y penn hwnn. Gwelaf fod Gol. y "Brython," new- yddiadur Cymraeg a gyhoeddir gan y 11 Mri. H. Evans a'i Feibion yn Stanley Road, Lerpwl, yn mabwsiadu yr un cynllun. Modd bynnag am yr or- graff, hen a newydd, bydd yr hen I iaith byw yn lan a gloew trwyddynt i I gyd.—Ydwyf, etc., I R. E. JONES, I CWMBACH. Mr. Gol. ,-Caniatewch ofod i air I neu ddau. Yr hyn sydd wedi tynnu fy sylw yn ddiweddar yw y duedd esgeuluso y Gymraeg a welir yng I Nghwmbach. Er mai Cymry sydd I yma bron i gyd, Saesneg sieryd llawer a'r plant ar yr aelwyd. Cefais I ymgom a'r hen frawd William Mor- I gan y dydd o'r blaen ar y mater hwn. Pan ddosbarthai ef y Darian yr oedd bron pawb o honom yn dder- bynwyr cyson o honi, ond erbyn heddyw papur Saesneg a hwnnw'n unig sydd bron ar bob aelwyd. Wrth gwrs, nid oes gan neb ddim yn erbyn i blant ddysgu Saesneg, ond ni ddylesid dysgu iaith estronol ar draul esgeuluso hen iaith ein tadau. A'r un modd gyda golwg ar bapurau. Dylasai papur Cymraeg fynd ymlaen- af i dy pob Cymro, a phryner wedi hynny a ewyllysier o bapurau Saes- neg. Dylasai'r "Darian yn anad un papur gael groesaw ymhob ty yng Nhwmbach. Y mae hi yn bapur cen- edlaethol, a chawn gipdrem go dda ynddi ar faterion Cymreig y Deheu- dir, ac os ewyllvsir cymeryd i fewn bapur arall i gael manylion digwydd- iadau lleol, popeth yn dda. Hyderwn weled plant Cwmbach, lu o honynt, yn cymeryd rhan yn y cys- tadleuaethau a ddarperir gan Moelona yng Ngholofn y Plant.—Ydwyf, etc., TIM PALMER. [Diolchwn i T.P. am ei ohebiaethau ac am ei sel wladgar. Da gennym ei hysbysu fod y Darian" eto'n dech- reu dod i fri yng Nghwmbach.—Gol.J
[No title]
Dywedai George Moore yng Nghaer- dydd, dydd Gwener diweddaf, mai'r angen heddyw yw Cymraeg prydferch. Os yw'r iaith i fyw rhaid i rywrai ei hvs- grifennu'n brydferth. Dywedai ynihell- ach ei bod yn fyw heddyw ac mai dy- ledswydd y genedl yw penderfynu ei chadw'n fyw.
Advertising
CYMERWCH HYN yN J)DIFRIFOL Ystyriwch drosoch eich hunain pa un a ddylai Parot( .d, gan ba un y mae Enw da yn ei wlad ei hun ac yn mhlith ei bobl ei hun yn mhob man, bwyso gyda chwi fel prawf o'i Werth Gwirioneddol a'i Adnoddau Iachaol ar ol ugain mlynedd o Boblogrwydd cynydd- ol, neu feddyginiaeth ddieitbr wedi ei pharotoi gan dramorwyr anadnabyddus, gan beidio rhoddi enw i'r cyfansoddiad, a dim ond dirgelwch i'ch harwain? Y PWNC 0 IECHYD Y mae hyn yn fater sydd yn sicr o fod a fynoch chwi ag ef ryw am- ser neu gilydd, yn neillduol pan y mae yr Anwydwst mor gyffre- din, fel y mae ar hyn o bryd. Y mae yn dda i wybod beth sydd i'w gymeryd er cadw ymo6odiad o'r anhwylder mwyaf gwanhaol hwn ymaith, ac i frwydro ag ef o dan ei ddylanwad helbulus, ac yn neillduol ar ol ymosodiad, oblegid y pryd hwnw y mae y cyfansodd- iad wedi rhedeg i lawr gymaint fel ag i'w wneyd yn agored i'r mwyaf peryglus o anhwylderau. Mae QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn cael ei chydnabod gan bawb, sydd wedi rhoddi prawf teg iddi fel y feddyginiaeth hysbysol oreo er delio a'r Anwydwst yn ei wa- hanol ffurflau, gan ei bod YD Barotoad sydd wedi ei barotoi yo fedrus a Quinine yn nghyd a phethau cyfoethogol a Gwaed- burol ereill, addas i'r Afu, Treul- iad, a'r holl anhwylderau sydd yn galw am Adgyfnerthydd cryf- haol ac adnoddau giaugynyddol. Y mae yn anmhrisiadwv pan yn dioddef gan Anwyd, Pneumonia, neu unrhyw afiechyd difrifol neu lesgedd wedi ei achosi gan ddiffyg cwsg neu bryder o unrhyw fath, pan y mae teimlad cyffredin o wendid a Hudded ar y corff. pEIDWCH OEDI. YSTYRIWCH YN A WR Gyrwch am gopi o bamphled y tystiolaethau, a darllenwch y cyfryw yn ofalus ac ystyriwch yn dda, yna prynwch botelaid gyda'r Fferyllydd neu yn yr Ystordy agos- af, ond pan yn prynu mynwch weled fod enw "Gwilym Evans" ar y label, stamp, a'r botel, oblegid heb hyny nid oes dim yn wirion- eddol. GWERTHIR YN MHOBMAN GWERTHIR YN MHOBMAN Mewn Potelau, 2S. gc. a 45. 6cb. yr ua Unig Berchenogion: OUINIflE BITTERS HAHUFACTUHIIIB COMPANY, LIMITED, LLANCLLY, South Wales.