Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Advertising
HEVAN^ k ■EST for ■EDS an d CARDIFF (2) NEWPORT PONTYPOOL PONTYPRIDD SWANSEA llanelly B BL Everlasting Solid Oak 8=Guinea Bedroom Suites at 15 15/=! Having Purchased the entire Stock of an eminent Firm of Bedroom Suite Manufacturers, Messrs. Bevan &Co., L d,Wales' argestfur hers Sob«^ithmatlr^i«r^fvli!Ld,,ei and twenty excellent Suites at above astonishingly low pNce! Each Suite co?p?tses a substantial Ward- robe with Plate  Doo"  ???'?? Side Panels, a capital D?samg Chest with large M!?or and Towel Rah attached, a handsome Washstand Lwith Marble Top and TUe Back, and Two strong Cane-aeat?d Chairs. Beyond question the Cheapest Suite ever offeNd! Immense Stocks. Everything for Furnishing at rock-bottom prices. Catalogues gratis. Delivery free up to 200 miles from any Branch. 71 Taff St., Pontypridd; Nr. Empire & 97 St. Mary St., Cardiff; 280 Oxford St., Swansea; &c. i r — —
Y Stori.
Y Stori. NANNO. Cydfuddugol yn Eisteddfod Mon. GAN J. TYWI JONES. PENNOD I.—YR YMADAWIAD. I (Parhad.) Wedi iddynt fynd i'r cysgod, tynnodd Nanno o'i mynwes Feibl bychan, hardd, a chraffau ac ymylon pres iddo. "Newch chi dderbyn hwn, Huw," meddai, "a'i ddarllen o'n amal er fy mwyn i, ac er mwyn ych hunan hefyd. "Gnaf 'ntaid, Nanno," meddai Huw. Gafaelodd yn y llyfr, ac heb braidd edrych arno, rhoddodd ef ym mhoced ei got uchaf. Teimlai Nanno yn siomedig iawn wrth ei weled yn ei roddi mor ddi- seremoni o'r golwg. "Rydach chi'n mynd yn mhell, Huw; newch chi gofio bod yn hogyn da, tra fyddwch chi i ffwr, a gofalu cadw'ch lie yn y capal," meddai Nanno, a difrifwch a gwen yn cyd- ymblethu ar ei gwyneb. Gnaf," meddai Huw, "a falla clywch chi mod i wedi 'ngneud yn flaenor yn y Sowth yn o fuan." 'Does dim faswn tfn leicio glywad yn well, Huw," meddai Nanno gyda difrifwph. Ma nhw'n deud na toes fawr Methodistiaid yn y Sowth lie rydw i'n mynd, a falla bydd yn dda gynny nhw gael Methodus go dda o Shir Fon. Ma gormodadd o hono ni yma; rydan ni'n sathru traed yn gilydd. Falla bydd yno gyfla i fi i ddwad i'r ffrynt," meddai Huw. "Wel, da chi, dowch i'r ffrynt, Huw, heb gellwar. Ma digon o gyfla i fachgen da i ddwad i'r ffrynt ymhob man. Chi 'llasach fod wedi dod i'r ffrynt yn Llandderwydd tasach chi wedi gneyd deunydd o'ch. talant," meddai Nanno. "0 roedd yma ddigon i ddangos 'u hunen 'blaw fi," meddai Huw. "Nid dyna ydi'r peth, Huw; rydach chi'n gweld mai y rhai gweithgar hefo'r achos ac yn byw'n deilwng ydi'r bobol ymhob man. Fasa dim yn fwy saff i chitha a thaflud ych hunan i waith yr eglwys He byddwch chi," meddai Nanno. "0 mi 'na i fy hun yn reit saff acw; ond gadewch i ni droi'r sgwrs at rwbath arall am fynud, Nanno. Fydd arnoch chi hirath ar f'ol i, deudwch?" gofynnai Huw. "Bydd, Huw, fwy na 'ddylias i 'roied. Dyna pam rydw i mor awydd- us i chi fod yn sâff. Newch chi beidio anghofio ysgrifennu, er mwyn i mi gael gwybod sut bydd pethau yn troi allan hefo chi," meddai Nanno. "Gnaf, mi ysgrifenna i gynted caf fi waith. Tendiwch chitha gymyd ych hudo i f'anghofio i, Nanno." "Chymodd hynny ddim lie pan oeddach chi yma, Huw, a ma'n reit siwr na anghofia i 'mono chi tra fyddwch chi mor bell oddiwrtha i." "Faswn inna'n meddwl mai yn y pellter mae'r peryg," meddai Huw. "Nage hefo mi, beth bynnag, Huw," meddai Nanno yn awgrym- iadol, a chysgod cwmwl, megis, ar ei hwyneb. "Fydda i ddim yn hir cyn dwad yn ol i neud cartra reit ddel i chi ne i'ch nol chi ata i i'r Sowth. Ma'r car yn y golwg draw rwan," meddai Huw. "Rwan, Huw," meddai Nanno, j "ma amryw bobol ifenc wedi mynd ffwr o'r ardal yma i'r Sowth a phob J man. Ma nhw'n dwad nol weithia < ar 'u tro. Rydach chi'n gwybod 'u i hanas nhw. Ma rhai'n well bechgyn ( byth er pan ethon nhw i ffwr. Ma'n ( blesar 'u gweld nhw'n dwad gartra. Ma'r lleill wedi mynd o dda i ddrwg, ( ac o ddrwg t waeth, nes ma arnyn nhw gwilydd erbyn hyn i ddwad i'r ( hen ardal. Wyddoch chi'n iawn sut ( aeth rhai honyn nhw i fyny a'r lleill i lawr. Ydach chi'n cofio'r bregath honno yn ych capal chi ar y 'signals' -y gola cdch, y gola glas, a'r gola clir. Cadwch chitha golwg ar y gola, Huw, a thendiwch fynd ym- laen lie mae llawar wedi mynd i ddis- tryw. Rydw i am i bawb allu edrych i fyny atoch chi pan ddowch chi'n ol." "Fasach chi'n gneud pregethwr iawn, Nanno," meddai Huw. r Deuai y car yn nes, a dynesai i ymadawiad y ddau na fuont am wyth*- h nos heb weled eu gilydd ers blynydd- I oedd. Llifai dagrau gloewon pur ar c ruddiau Nanno. Ni fu erioed yn o harddach na phan yn ymegnio i an- I fon hynny fedrai o'i dylanwad gyda li Huw Morus i'w daith. Rhoddodd Ii yntau ei fraich am ei gwddf, a dhus- c anodd hi yn wresog. Nid oedd yntau, erbyn hyn, heb deimlo rhyw loes yn yr ymadawiad. Tra cofieidiai Huw a Nanno eu gilydd am y tro olaf, pwy ddaethai i'w hymyl, yn ddiarwybod iddynt, ond Jac Martin, yntau hefyd wedi dod i gyfarfod y car. "a ble dath y sclyfath yma?" medd- ai Huw, gan edrych yn llwfr, fel pe darganfyddesid ef ar ryw anwedd-, eidd-dra dybryd. I "Be haru chi, Huw? Doedd gan yr hogyn mo'r help," meddai Nanno. Ofn tafod Jac Martin oedd ar Huw. Disgwyliai ef ei glywed yn dechreu ei wawdio, ac ofnai gael ei boenydio yr holl ffordd i Fangor yn y car. Anghofiai ef fod Nanno yn y cwesti- wn heddyw, ac yr oedd ochr i gym- eriad Jac Martin y methasai ef ei "i gwerthfawrogi. "Top of the mornin to you, m' ( lads. Very sorry to intrude, but It couldn't help it," meddai Jac. "Bore da, John," meddai Nanno. Jack, if you please, Nanno, is my name. Ydach chi 'n gweld, lads, fedrwn i yn 'y myw gadw o'ch golwg chi, ne faswn wedi gneud. 'Rodd gin i ormod o faich i fynd dros ben y wal yr ochor yna, a mae'r cae yr ochor, yma wedi i 'redig, a mi faswn yn baeddu fy sgidia. Mi ddaru mi bes- ychu fel buwch a'r consymsiwn arni yn y tro cyn dwad ymlan, ond roedd- ach chi 'too far gone' i glywad. A roeddwn i jest ym meddwl, Huw, tasa gin i gariad fel sy gin ti, na faswn i ddim yn leicio mynd i'r Sowth a'i gadal hi. Cheer up, Nanno bach, Huw'll soon return like a bad penny. There's no place like Llandderwydd a'r cylch." "Lie cefist ti'r Sysnag yna, Jac Martin?" gofynnai Huw, yn teimlo'n J falch nad aethai tafod Jac i'r cyfeir- iad a ofnai, ac yn tybio mai doeth fyddai bod yn gyfeillgar. I "Mi fedrwn i ddeud wrthat ti. Huw," meddai Jac, "lie cefis i bob gair o Sysnag sy gin i, a ma gin i gryn lawar hono fo. Fydda i'n hel hynny fedra i o Sysnag at i gilydd pan fydd v Saeson ym Mhenmorfa yn yr ha. Ma dipyn o Sysnag yn o lew, yn help mawr i mi A 'y myw, wel di." Chwarddodd Nanno drwy ei dagrau, ac afth ymaith. (I barhau.)
"Beirdd Gwerin Eifion a'u…
"Beirdd Gwerin Eifion a'u Gwaith." Lienor diwyd yw Cybi, a dyma ef am y nawfed tro yn moesgrymu ger- bron y cyhoedd a llyfr newydd o'i waith yn ei law. Tystia yr hysbyslen j ar ddiwedd y gyfrol fod rhai blaen- orol wedi cael croesaw cynnes gan y cyhoedd, a nifer o honynt allan o argraff. Teilynga y gyfrol hon yr un dynged, sef gwerthiad allan- buan, I a galwad croew am un arall. Os digwydd hynny, a diameu y gwna, rhydd gyfle i Cybi gywiro ei deitl ar y wyneb ddalen. Darllena yn awr Beirdd Gwerin I Eifionydd I o ddiw- edd yr ail ganrif ar bymtheg I hyd yn bresennol I a'u gwaith anghyhoedded- dig I yng nghyda darluniau I j 1 Dylasai fod "0 ddiwedd y ddeu- 1 nawfed ganrif, etc. oblegid y dydd- 1 iad boreuaf y cyfeirir ato yn y llyfr yw 1751. Fe welir felly fod y teitl fel 3 y mae yn gamarweiniol. Llyfr yw ar < linellau "Blodau Cudd" Penar, ond 1 fod Cybi yn cadw ei hun rhwng ter- i fynau Eifionydd. Ychydig sydd wedi j Ú wneud yn y maes hwn o lenydd- j iaeth yng Nghymru, a dylai esiampl 5 ?ybl symbylu haneswyr pob plwyf a j -hwmwd i wneud yr un peth er dio- ( ijelu llawer o hanes gwerthfawr a di- idorol am hen lenorion a beirdd yr I iwen barod na wyr nemawr un am ianynt. Gellir cymeradwyo "Beirdd f Jwerin Eifion ar air a chydwybod j ( a 1ALNANT. e f
t Y Briton Ferry. c - >
t Y Briton Ferry. c > Gymanfa Ganu. I Cynhaliodd y Methodistiaid eu Cy-; 1 nanfa Ganu dydd Llun, Mai 4, yng r ighapel Bethel, bore, prynhawn, a'r I iwyr. Arweinydd y dydd, Mr Matthew j )avies, B.A.. Mus. Bac., Castellnedd, a e hyflawnodd ei waith yn rhagorol. Yr v Irganydd oedd Mr Glaslyn Jones. c .lywyddion, Parchn. W. Samlet Wil- n iams, John Davies. B.A.. a Thos. Wil- ff iams. Cafwyd cynulliadau lluosog, a a hanu effeithiol. n
Llythyrra Sion Sana. I
Llythyrra Sion Sana. LLYNCU POLYN. I Mishdir Golycudd,—Mi fyswn i'n scrafennu'n amlach atoch chi tyswn i ddim ond gallu dishgyn yn amlach ar destyn y gallwn i scrafennu rhwpath yn weddol o deidi arno fa. Ma rhai'n gallu scrafennu ar orgraff a rhai ar arglwyddi a rhai ar bethach erill, ond dos gen i fawr o siap ar scrafennu ar bethach na wn i ddim amdanyn nhw, a 'dyw'r hen wraig yma'n gallu rhoi fawr o help i fi chwaith. Ond ma testyn yn dwad am 'y nhraws i witha y galla i neud rhwpath o hono fa. Rown i un diwrnod ar yr hewl a ngheffyl ar y nghefan yn wilia gyta rhywun a dyma ddyn yn mynd heibo. Mi wetws y mhartnar i bora da wrtho fa, ond mi sefws i drwyn a lan a mi ath yn i flan mor stiff a thasa dim cymal yn i gorpws a. Oho, medda mhartnar i, ma fe weti llyncu polyn, a golwg un weti llyncu polyn arno fa, ag o ran dim a wn i fe allsa'r polyn fod yn bren naw. Nawr, Mr. Gol., ma fa'n sefyll i reswm fod llyncu polyn yn rhwpath sy'n gneud i chi deimlo'n stiff-yn od o stiff. Cofiwch chi ma llawer math a styffdra heblaw llyncu polyn. Ma rhai wedi'u geni'n stiff, a ma lot o startsh yn gneud rhai erill yn stiff. Os byddwch chi dicyn bach yn fforddus chi gewch air gan y dyn sy weti i eni'n stiff; ma'i styffdra fe'n bechod gwreiddiol, a dyw hwnnw i ddim yn ddrwg i gyd; ond am y dyn: sy a lot o startsh obothtu iddo, wel, dim ond i chi iws<j ticyn o sepon chi newch hwnnw mor ystwth a'r ym- neillduwrs sy'n seino deisepa'r eclws. Ma yna styffdra arall, set. pan ma'r pechod gwreiddiol a'r startsh gyta'u gilydd, a ma hwnnw'n echrytus. Ond ma llyncu polyn yn, styffdra ar i ben i hunan. A ma'n anodd i chi wpod ar unwaith shwd i ddelo a dyn sy a pholyn yn i gylla fa. I Rw i'n cofio'r hen wraig yma'n llyncu polyn unwaith a mi gretas a na fasa hi byth yn cal matal a fa. A dyna beth difrifol yw treio byw yn yr un ty a dynion sy megis prennau yn rhodio. Mi dreias i lawer ffordd i stwytho ticyn arni, mi iwses lot o ¡ sepon a mêl a phethach felny, ond J pwy fwya own i'n dreio stwytho arni styffa i gyd odd hitha'n mynd. Be nes i o'r diwedd ond cymryd arna i mod i weti llyncu polyn y mhunan, a phan own i'n mynd trw ddrws rown i'n i slamo fa nes odd yr hen dy'n crynu. Pan fyswn i'n rhoi rhwpath o'n Haw rown i'n i dowlu a i rwla. Pan fyse'r hen wraig yn clywed rown i'n siarad a mhunan y pethach mwya rhyfadd glywsoch chi. Me wetas un dwarnod ta'r dyn calla yn y pentra odd Twm-bron-tagu a mi es mas mwn rhwysg. Mi gas yr hen wraig ofan, wath odd isia saith peint o leia i dorri sychad Twm a weti iddo dorri i sychad rodd hi'n boeth ar y wraig, heblaw fod i sychad a dicyn yn gost- us. Mi gretws yr hen wraig i bod i hi'n gweld arwyddion yr amsera. Pan ddes i nol i'r ty rodd hi'n sbio'n ofnadw arna i a rodd" tywydd wedi newid a'r weddar glas ar set ffer. Cofiwch chi dodd yr hen wraig yr amsar hynny ddim mor hen a ma hi nawr o lawar. A lyncodd hi byth Jolyn wedi'n. A dyna sy'n ddoniol ivydda hi ddim yn iawn pam odd hi I wedi llyncu'r polyn, ond i bod hi 'wedi meddwl" rhwpath. Nid am 1 Ir hen wraig own i weti meddwl scraf- jnnnu chwaith, ond wi'n siwr na ynciff hi ddim polyn nawr pan wel hi ( hanas yn y "Darian." Falla nag ( f'ch chi ddim yn gwpod, Mr. Gol., « {'ch bod chitha'n gneud rhai popol {n stiff yn y swyddfa yna. Wi'n wpod am un sy'n ych blasto chi'n )fnatw achos bo chi wedi twcyd lot o ) ira mawr o'i ohepiath a. Rodd a !j veti scrafennu fel hyn, medda fe: J 'Raid yw i ni ddywedyd yn ddi- loescnu nad oes hynom ni y petrys- lod lleuaf nag oedd yn anhebcorol mghenreidiol i hyn gael ei wneithir :b golli hamser." Rodd y frawddeg 1 el hyn medda fe'n glasurol i arddull, a beth yn y byd yw hynny, a 'dyw'r ten wraig yma ddim yn gwpod f :hwaith. Ond fel hyn y rhoisoch chi f rn y papur, Rhaid oedd gwneud t iyn heb oedi." Rodd i golofn a wedi ( nynd lawr i baragraff, a ma fa weti lyncu post llidiart, a ma fa o hyn ) nae yn mynd i scrafennu i'r "Berdar a .edar o speit i chi. Roech chi wedi gwed wrth rai rill fod gyta nhw dicyn bach o le i S f'ella a ma nhw'n stye yp na welsoch 0 hi shwd beth ariod. On nhw'n s leddwl u bod nhw weti cyrraedd per- ti eithrwydd a thicyn bach i spario hed, h dyna i chi ble ma prenna yn rhodio 0 awr. a Ond dw i ddim yn gwpod am neb yn gallu llyncu polion yn depyg i rai crefyddwrs, a ma nhw'n gallu gneud popath yn well na phawb arall. A fel rheol, nid polyn yw hi gyta nhw ond pår o goed cyfan ar y tro. Fydd arna i ofan yn 'y nghalon am y ceffyl sana yma pan fydd rhai o lyn- £ ats coed y capeli yma o nghwmpas j. Y drwg yw na wyddoch chi ddim pam ma nhw'n llyncu, ond ma nhw j weti meddwl rhwpath nag odd gyta nhw ddim busnas iddi feddwl, a J pheth arall dy'n nhw ddim yn gallu raeddwl ne nhw lyncsen lai o goed. Gretws un chwaer yn ddiweddar fod rhyw chwaer arall weti gneud ceg am ar i het newydd hi yn y capal, a 1 mi fu'r eclws bron a mynd fel gallt o goed crinion. Ma rhai'n bwcwth y bydd llyncu polyn yn beth cyffretin iawn pan ddaw datgysylltiad. Fe scrafennodd rhyw litari man o Llundan at ffeirad i I Gardydd na fyse fe byth yn wilia gytag Y mnellltuwr os dethe dat- ) gysylltiad yn ddeddf. A dyma'r peth gwirionna clwes i am dano fe ariod. Pwy wahaniaeth odd a'n feddwl fysa I polyn yn i stumog e yn Llundan yn neud i ni yng Nghymru? 'Y marn i yw fod yr Esgobion weti llyncu'n lied dda o bethach gwell a ma'n deg iddyn nhw g&l achos i lyncu rhwpath arall j o'r diwedd. j Y ffordd ora i neud a'r rhai sy'n j llyncu polyn yw gadal iddyn nhw nes I dechreua nhw deimlo i fod a'n j anghysurus yn u cylla nhw, ag yn i anghyfleus hefyd, ag yna fyddan I nhw fawr o dro na fyddan nhw wedi i j ddeijesto fa. Rhaid i fi wed yn blaen wrthoch chitha'r pregethwrs yma y gallwch chitha lyncu cymant o bolyn a neb os cymrwch chi hynny yn ych pen. Gwyn ei fyd y neb a fedro etrych heibio i flinderau bychain ynghyda pheidio gwel tramgwydd lie nas bwr- iadwyd, medd- SION SANA. I
Capel-y-Cwm, Llansamlet.
Capel-y-Cwm, Llansamlet. Bu farw un o hen frodorion y rhan- barth, Benjamin Fowler, Bonymaen, Ebrill 29, wedi ychydig fisoedd o gys- tudd. Treuliodd fywyd dichlynaidd a chrefyddol o'i ieuenctyd, ac yr oedd iddo air da gan bawl) a'i hadwaenai. Gwelir bwlch amlwg ar ei ol fel un o ffyddloniaid yr eglwys uchod. Gadaw- odd weddw a phedwar o blant wedi tyfu i fyny mewn galar ar ei ol. Clud- wyd ei weddillion, Mai 2il, i'w daearu i fynwent yr addoldy uchod, gydag angladd lluosog a pharchus. Uwein- yddwyd gan y Parchn. W. Samlet Wil- liams a David Hughes, Glyn Nedd. Rhoddwyd allan gan Mr Williams yr emyn, Gwel uwchlaw cymylau am- ser," y nos Saboth canlynol, yn y*gwas- anaeth, gyda chyfeiriad at amryw sydd wedi blaenu y misoedd diweddaf. Can- wyd gyda theimlad hiraethus gan y gynulleidfa luosog.
Nodion Heolycyw. I
Nodion Heolycyw. I GAN "CREUDDYN." I Y mae cor undebol y He hwn yn )rysur baratoi go gyfer a chystadlu ir yr ail corawl yn Eisteddfod Llan- larran Mawrthgwyn, o dan arweiniad r-r hen arweinydd adnabyddus, Mr. rhomas Owen, Glangwili. Felly iisgwylir i'r aelodau fod yn ffyddlon irwy roddi eu presenoldeb yn y 'practices," os am gyrraedd y nod. Mae parti o ugain mewn nifer wedi 7mgymeryd a dysgu drama Gym- aeg, sef "Beddau'r Proffwydi." Mr. ohn Evans, ysgolfeistr, ydyw yr ithraw. Felly disgwylir am wledd o'r ath oreu yn gynnar ddechreu'r faeaf. Bydd yn ofynnol i'r Cywiaid od yn ffyddlon os am wneud enw da ddynt eu hunain. Y Parch. T. Davies (Cyfaill John), len ohebydd adnabyddus y "Darian," u yn llanw pwlpud Ainon y Sul o'r )laen, ac yn torri'r bara i'r praidd. lywais iddo gael Sabath hwylus. (r oedd yn llawen gennym ei weled n edrych mor dda a siriol fel arfer, chael awr yn ei gymdeithas. Y mae Capel yr United Methodists laesneg oherwydd rhesymau neilldu- -1 i gael ei werthu, a'r Methodistiaid ydd i gael y cynnyg cyntaf arno. A'r sbygolrwydd yw y bydd yn eiddo i'r en Gorff cyn y gwel y Hinellau hyn leu dydd. Y mae amryw Fethodisti- id yn byw yn y gymdogaeth. <
Advertising
Lr Csdewch 1ml satnd a ckwl as 1I Ludded Pan y llethir eich cyfansoddiad M gan bryder neu or-waith-pan J f B mae eich ynni yn brin pan y t teimlwch cc rywsut"—pan y nerfau yn fiinedig-pan y blinir chwi gan yrymdrechleiaf-yr ydych Hr mewn cynwr o ludded. Mae'cla Ek cyfansoddiad fel y blodeuyn ya Jm gwywo gan brinder dwr. Ac J8 N iSH union fel yr adnewydda'r dwr y W | blodeuyn gwywedig-felly y rhydd ¥ t 'Wincarnis' fywyd newydd i gyfan- [ J ] fl soddiad Buddedlg. Gallwch ei ? ? ? ?.. ? ??????.???7 t ???? ? <M? yn llanw eich holl gorff gydad !echyd tuwyid—nerth M<K?<f?—ynnt ??? mmydd a bywydd M?K??—hyd yn ? ??t oed oddiwrth y glasaid cyntaf. jtttttt! S? Dechreuwch fod yn iach ■I ? YN RHAD L\^B Anfonwch am brawf-gostrel yn mad o Wiw carnis' nid yn unig cael ei flas, ond digon I wneud lies i chwi. Amgauer tri stamp ceiniag (I dalu'r cludiad). COLEMAN & CO.. LTD.. ■mmBL JBB W. 140. Wincarnis Works, Norwich. iF 1 Cymeradwyir gan dros 10,000 o Feddygon. M J MIRACULOUS EFFECTS! I have suffered from Pile and Gravel for four years, during which time I was quite disabled, and never, during this time, had a whole night's rest. I was at last induced to try a box of your Pile and Gravel Pills, and incredible as it may appear, after I had taken but a few doses, I felt as if I had had another body. Encouraged by the effects of one box, I took another, and now I am free from all pain, a living testimonial to the miraculous effects of these Pills. Yours truly, D. WILLIAMS, Penralltwen, Newcastle Emlyn. IMMEDIATE RELIEF! I feel happy in bearing testimony to the efficacy of your Pile and Gravel Pills in my own case. Also in numerous other painful cases of long standing in which your Pills have given immediate relief, and in a short time effected a perfect cure so the weak in faith may be assured of their efficacy to accomplish what they are professed to do. Yours truly, THOS. PHILLIPS, Grocer, etc., Caeremlyn, near Whitland. Y mae y Feddyginiaeth werthfawr hon i'w chael mewn tri Surf. No. I.-George's Pile and Gravel Pills (label wen) No. 2.-George's Gravel Pills (label las) No. 3.—George's Pills for the Piles (label goch.) Gwerthir y Peleni Byd-glodus hyn yn mhob man, mewn Blvchau 1/ a 2/9 yr un. Gyda'r Post am 1/2 a 2/10. Goohelwch Dwyllwyr I-Gofynwch yn eglur am ".George's Pills," a gwelwch eich bod yn eu cael. PERCHENOG- J. E. GEORGE, M.R.P.S., HIRWAIN, ABEROARE.