Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
"Y Gwyliedydd Newydd.' I ;• — AT EIN DOSBARTHWYR. I Pob archebion a thaliadau am y Gwyl- iedydd TsJewydd i'w danfon i'r Rheolwr, Gwyliedydd Ne wydd, Flint Mountain, Flint, Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdy 2/2 dau gopi am 3/7 tri copi am 4/6; pedwar, pump, a chwech yn ol 1/5 y dwsia. Disgwylir tal ar derfyn, pob chwarter. Heb hyn y mae yn amhosibl bron i ni gario ymlaen. AT EIN GOHEBWYR. Asfoner pob Gohebtaeth, gydag enw priodol yr anfonydd, i'r Golygydd wedi eu eyfeirio- Y Oolygydd, "Gwyliedydd Newydd," Flint Mountain, Flint, Diolchwn os rhydd .ein Gohebwyr sylw iV airgryoiiadau hyn:- Carem i bob gohebiaeth fod mewn Haw eibyn boreu lau. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser. Os *a fyddis yn rhoi ond Stamp Dimau ar yr amlen gadawer hi yn agored, ac ysgrifenner Press News ar ei chongl. LLYFR NEWYDD. "Emynwyr Cymru" GAN Y PARCH. EVAN ISAAC. Cynnwys y llyfr Ysgrifau Hanes yddol a Beirniadol ar holl Brif Emynwyr Cymru, o Edwwnd Prys hyd Ehedydd Iai, ac ar ei derfyn r Llyfryddiaeth yr Emynwyr. u Barn Llenorion YR ARCHDDERWYDD DYFED. "Fel un sydd yn teimlo cryn ddiddordeb ya emynwyr ac emynau Cymru, darllenais eieh ysgrifau gyda boddhad mawr. Cred- af., bydd y iiyfr yn fendith i'r genedl." PARCH T. J. PRITCHAF^O (GLAN DYFl). •• Yn ddios, y peth goreu yn yr iaith ar y pwBc; a chredaf y bydd yn waith safonol. Cosiiodd lafur enfawr. Y mae cywirdeb yr awdur fel hanesydd, ei farn deg fel beirniad, a'i arddull fyw a graenus fel lienor, yn gosod ei genedl tan rwymau i'w geftaogi." Y PRIFARDD J. J. WILLIAMS. Gallaf yn ddibetrus gymeradwyo'r Hyfr hwo. Chwiiiodd yr awdur yn fanwl am y ffeithiau, traethodd ei farn yn groyw, a gwisgodd y cyfan mewn iaith gref a giaa. Bydd bai mawr yn rhywie os na pferynir y Hyfr wrth y miloedd." Y PARCH THOMAS HUGHES. Golygydd yr Eurgrawn. "Ceir yma ffrwyth ymchwil fanwl i hanes ein hen emynwyr, wedi ei gyfleu mewn modd diddorol iawn. Cloriennir eu cynhyrchion a llaw beirniad annibynnof a chraff, sydd ar yr un pryd yn lienor awen- gar. Y mae graen lenyddol rhagoiol ar y gytYol o glawr i glawr." Y PRIFARDD GWILI. Darlleiiais eith ysgrifau gyda bias mawr. Aethoch i drafferth anarferol, a dywedasoch y gwir plaen, heb ofni wyneb gwr. Credaf y bydd y llyfr o werth i'r rtiai a ddaw ar eich ol, fel engraifft o wrthod byw ac adeiladu ar draddodiad heb sail iddo. Dylai y llyfr werthu yn gyiym a hjr." TECWYN. Credaf y bydd y llyfr hwn yn gynysg- aeth wirioneddol i'n lIenyddiaeth. Dengys yr ysgrifau ol meddwl galluog, medr Meayddol, barn aeddfed, a gwybodaeth drylwyr o'r pwno. Os caiff y gwaith hwn y gefnogaeth a haedda, prynnir ef wrth y miloedd." Cyhoeddir cyn gynted ag y ceir nifer digonol o Danysgrifwyr. PRIS 3/6. Yr Archebion i'w hanfon i'r Awdur, Treharris, Glam. 
NODIADAU WYTHNOSOL.
NODIADAU WYTHNOSOL. Gweithiwyr Awstralia aV Rhy fel. Heblaw datgan eu barn yn groyw yn erbyn gorfodaeth filwrol, y mae Plaid Llafur yn Awstralia wedi cyhoeddi datganiad fra chryf ar bwnc y rhyfel. Credwn fod y dat- ganiad hwn yn gryfach a mwy gwerinol pe tae modd nag eiddo gweithwyr Prydain: cyhoedda yn ddifioesgni fod rhyfeloedd yn gyn nyrch cystadleuaeth masnachol, a rhaib cyfalaf am y llog goreu ac nid yw y fhyfel hwn yn eithriad. Cydnabydda nad ellir Jlwyr ddeol rhyfel tra y bo cyfalaf yn aros fel y mae heddyw—"Gwreidd- yn pob drwg yw ariangarwch," eto noda lu o bethau, ond eu syl- weddoli, a ant ymhell iawn i atal y fath gyflafan a hon byth ond hynny dywed y dylid cael cyfla fareddiad rhyngwladwriaethol, gwleidyddiaeth dramor agored, gwarafun gwneud arfau a chyfar- par rhyfel gan bawb oddigerth y Pywodraethau eu hunain, difodiad gorfodaeth filwrol ymhob gwlad, a chael y mor yn gwbl agored i fas- nach pob gwlad. Ymhellach, dy- wed nad ydyw gweithwyr Aws- tralia yn credu y bydd i orthrech- iad milwrol Germani arwain i  heddwch parhaol, fod Hwyr orthrechiad milwrol unrhyw wlad yn creu "ysbryd talu'r pwyth" i sydd yn y pen draw yn esgor ar ymdrechfilwrol arall. Ymhellach cyhoedda y datganiad fod gweith- wyr Awstralia dros roi pen ar y rhyfel hwn yn ddiymdroi, a thos alw cynhadledd o holl wledydd y byd i setlo y telerau heddwch a chan nad beth arall a gynhwysent, dadleua y dylai y telerau gynnwys fod pob talaith, neu wlad, a ores- gynwyd i gael ei dychwelyd yn ol, a bod pob llwyth neu genedl ym meddu awdurdod i benderfynu trostynt eu hunain sut y mynnant gael eu llywodraethu. Yn sicr y mae hawl gwerinoedd yn dechreu codi yn uwch i'r lan. Os yw y bitterendians, am baro toi i gario y rhyfel ymlaen, fel y dywedant "am ddwy flynedd arall," y mae'n berffaith sicr y bydd yn rhaid iddynt orchfygu nid y Germaniaid yn unig, ond corff mawr gweithwyr y wlad a'r Ym- herodraeth. Prin, ofnwn, v mae yr eglwysi wedi deffro, ond y mae goleu gwych y Bregeth ar y Myn ydd yn tywynu yn gryf ar lygaid llafur. —————
[No title]
Japan. Y mae Llywodraeth newydd Rwsia wedi cyhoeddi y cytundeb dirgelaidd a luniwyd rhwng Japan a hen Lywodraeth Rwsia yn 1916, Heb os, nac onibae, y mae y docu- ment yma, eto, yn brawf diamwys oanonestrwydd a rhagrith annuw- iol diplomatiaeth y gorffennoL Pan y lluniwyd y cytundeb cudd hwn, lluniwyd a llaw-nodwyd un cyhoeddus hefyd. Yr oedd y cyt undeb cyhoeddus yn un digon di niwed; darparaifod y ddwy wlad i gydweithredu er: diogelu eu "hawliau teg a chyfiawn" yn y Dwyrain Pell. Amcan amlwg y cytundeb cyhoeddus oedd cam- arwain y byd ynglyn a gwir am- canion Rwsia a Japan ynglyn a China. Dywed y cytundeb cudd y byddai i'r ddwy wlad uno mewn ymgyrch filwrol yn erbyn unrhyw wlad arall a feiddia ymyrrid a China, mewn unrhyw fodd. Nid oes ond ychydig er pan fu gwerin- j wyr y ddwy wlad yma, ar orchym-i yn eu meistriaid milwrol, yn llof ruddio eu gilydd yn ddidrugaredd, achyn i'w gwaed sychu ar fin yj cleddyfau, wele yr oligarchists,\ rheibus am elw, yn ddichellgar yn I cynllunio brad arall. 0 Arglwydd, pa hyd Y bydd tylodion y byd, Fel ychain yn lladdfa eu meistr- triaid ?'' Cofier, hefyd, fod Rwsia a ar adeg law nodi y cytundeb gwarthus hwn yn gyd-gyngrheir., laid gyda Ffrainc a Phrydain yn yi rhyfel aruthr presennol, eto welej hwy yn amodi i ymosod arnynt os! beiddia y naill neu'r llall ohonynt godi bys bach yn eu herbyn hwy! mewn gwlad nad oedd gan y naill na'r llall ohonynt yr affliw o hawl deg a moesol i ymyrryd a hi. Hon, onide, yw y Rhyfel Fawr i amddiffyn ac anrhydeddu cytun- debau, ac i wneud y byd yn ddiogel i'r werin," eto wele y cynllwynion! y mae yn esgor arnynt. -— :—■— —
[No title]
GairAra/I. Y; mae gair arall i'w ddyweyd am" Japan odidog." Bu ein mili- tariaid yn son llawer am dani, ac am ei pharodrwydd mawr i'n helpu yn Ffrainc, onrl mae'n amlwg fod y siarad hwnnw, fel llawer o bethau eraill ynglyn a'r heldrin waedlyd hon, yn gorffwys ar seiliau digon breuddwydiol. Bu cryn siarad yn Japan ei hun am y pwnc yma yn ddiweddar, a chreodd y syniad o ddod a milwyr i Europ gryn gyn- nwrf; y mae agos yr oil o wasg, a gwyr cyhoeddus Japan, yn con. demnio yr awgrym. Seilir y con demniad ar resymau tra gwahanol: dadleua rhai fod prinder arfau, a phrinder llestri i'w cludo trosodd, ofna y lleill na byddai y milwyr mor alluog mewn awyrgylch Eur- opeaidd, ac y collent H yr holl ogoniant a enillasant; gofynna'r lleill, Tybed fod y Cyngrheiriaid, ac yn arbennig felly Prydain a'r America, yn deilwng o gymorth Japan ? Cyn hynny oni ddylent ddileu pob gwahaniaeth a wnant ynghylch hawliau pobl oblegid lliw eu croen ?" Dywed un arall— athro enwog mewn prifysgol-mai nid y Kaiser ond mae Mr Lloyd George, neu hwyrach Mr Wilson, yw yr unben mwyaf heddyw yn yr holl fyd; y llall-Mr Shintaro-a dystia, os rhaid cosbi pob Gallu Annynol y dylai Japan gyhoeddi rhyfel nid yn unig yn erbyn y Gall uoedd Canolog, ond hefyd yn erbyn y Cyngrheiriaid. Prin y mae peth ,fel hyn yn foddhaol i'r bobl sydd a'u bryd ar orthrech filwrol, sut bynnag y sicrheir hi, a pha faint bynnag a gyst hynny yn y dyfodol i bobl y Gorllewin. —————
[No title]
Militarlaoth yn yr Ysgolion. ¡ Cawsom y gair sydd isod oddi wrth Ysgrifennydd Cyngrhair Cenedlaethol Rhyddid Gwladol" "Y mae gorfodaeth filwrol dros dymor y rhyfel yn ffaith; a bygythir ni a gorfodaeth wedi i'r rhyfel fynd heibio ac at hynny bygythir ni a disgybliaeth filwrol orfodol, yn Yf ysgolion cyhoedd- us, i'r holl fechgyn cydrhwng 14 a 18 oed. Os mai hwn yw y rhyfel olaf, ac os bydd y telerau heddwch a u hosgo at ei gwneud y rhyfel olaf, pa ryw ysfa ac aflwydd syddyn galw am y fath drefniant a hyn ? Os gwyr rhywun am ymdrech mewn unrhyw ysgol i osod yr or- fodaeth hon mewn ymarferiad. deisyfir arnynt anfon gair i'r cyf- eiriad hwn—Secretary, National Council for Civil Liberties, 33, j Henrietta Street, London.
[No title]
Rwsia a Germani. Mae y drafodaeth heddwch cyd rhwng Rwsia a Germani mewn cyflwr amheus a pheryglus iawn. Y mae M. Trotsky wedi condemnio mewn modd agored a chwerw gynhygion Germani Yn ol y "Daily News" geilw hwynt yn rhagnthiol. Dywedir fod Von Kuhlmann a r Count Czernin wedi dychwelyd i Brest Litovsk, ac edrychir arhyn fel argoel fod gan y Galluoedd Canolog gynhygion newydd i'w gosod gerbron ynglyn a thynnuy milwyr o Poland, Cour- land, &c., ynglyn a'r hyn y dig- wyddodd y rhwyg. Awgryma Mr Ransome, gohebydd arbennig y Daily News," fod gan y cynrych- ioiwyr Germanaidd gyfarwyddiad- au newyddion o Berlin, ac y bydd iddynt yn y diwedd ildio i hawliau Rwsia ac y bydd i'r Gvnhadledd ail gyfarfod yn Stockholm. Dengys y digwyddiadau hyn fod plaid y Bolshevicks yn un wahanol iawn i'r peth y disgrifir hi gan wasg anghyfrifol y Northcliffididf Dywedwyd am danynt nad oedd- ynt yn ddim ond bradwyr-pobl wedi gwerthu eu hunain i Ger- mani. Beth a ddywed y wasg I. honno am danynt yn awr tybed? Ond cwestiwn pwysicachna hynny ydyw yr ymholiad beth a wna ein Llywodraeth ni yn yr argyfwng newydd yma ? A fydd iddi gyd- ymffurfio a chais Rwsia. a datgan, -yn wir cael yr oil o'r Cyngrheir- iaid i ddatgan-beth ydyw eu nod yn y rhyfel ? Yr Yfill wedi gadael Rwsia hyd yma yn unig, heb gym- orth na chyfarwyddyd, a yw y pol- isi ffol hwn i barhau ? Collasom gyfle euraidd yn y gorffennol, wele gyfle arall, a gollir hwn eto ? Peth ofer a diles, yn wir peth gwarad- wyddus ydyw siarad, a siarad am wneud cytundeb gyda gwerin Ger- mani ac ar yr un adeg anwybyddu a dirmygu gwerin Rwsia. Nid yw peth -felly ond y peth a eilw y Sais yn lip service." Dyuia gyfle eur- aidd i'r Cyngrheiriaid agor eu, breichiau a chofleidio Rwsia dderpocrataidd i'w Amynwes, a'i gwneud yn instrument mawr i ddwyn y rhyfel blin i derfyn trwy drafodaeth. Credwn fod popeth yn dibynnu yn awr ar gynnal a chyfarwyddo Rwsia.
Family Notices
j PRIODAS. OWEN-DAVIES.-Rhagfyr 31, trwy drwydded, yng Nghapel Seion, Gore Street, Manchester, gan y Parch John Felix, John Richard Owen (Machynlleth), ac Eliza- beth Jane Davies (Llanidloes)- y ddau yn aelodau yn Gore I Street.