Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
15 articles on this Page
Advertising
AT EIN GOHEBWYR. Abfoner erbyn BOREU SADVvRN y fan bellaf Pob archebioo th»IUd*« am Yr tJDGORN i'w bonfou i'r QOBUCHWTLIWR, 74, High Str^t, Pwllhsli. j Pob RohebUeth i'w cyfeirio— YB UDOORN OFFICE, PWLLHKLI. Bydd yn dda genym dder^-yn dlfh iaethan oddiwrth ohebwyr u fwtp-ioll ilnol o ddyddordeb cybosdd'iB
NODION A HANESION. I i
NODION A HANESION. Damwain i Arglwydd Penrhyn. Cyfarfu Argl«ydd Penrhyn a dam- wain pan allan yn hela y dydd o'r blaen, a thorodd drybedd si ysgwydd. Gwrthdarawiad yn yr Awyr. Aeth dwy ehedlong i wrthdarawiad yn yr awyr yn Germani y dydd o'r blaen, a dinystriwyd y dduy. Cafodd un dyn ei ladd, a dau arall eu hanafu'n ddifrifot.. Colled o 30,000p. Cafodd ftactri esgidiau fawr yn Shieldhall, Glasgow, ei dinystrio gan dan nos Sadwrn diweddaf. Amcan- gyfrifir fod y golled yn ddeng mil ar hugain o bunau. Ynys heb ond un Dyn Ynddi. Hysbysir fod poblogaeth wrywaidd un o Ynysoedd Faroe oil wedi eu difodi oddigerth un hen wr, druv drychineb ddigwyddodd i gwch bysgota yo yr hwn yr oedd yr holl ddynion dris £ ent jn yr ynys. oddigerth yr hon wr a nodwvd. Gwas Fferm yn eael ei Ladd Ddydd Mercher diweddaf cafodd W. Thomas, gwa.s fferm yn Brynaerau, Clynnog, ei ladd. Yr oedd yn gyru I ceffyi a throl, a rhusiodd y ceffyl; wrth i'r dyn ieuanc geisio ei ddal cafodd ei daro i lawr a'i anafu gvmaint fel y bu tarw ymhen ychydig oriau. I Gael Corff mewn Tan ar Fferm. Yr oedd dyn o'r enw John Kennedy yn gweithio mewn fferm yn Cymmer, ger Abertawe, a dydd Gwener diwedd- af cafodd ei hel oddiyno Y bo.re dilynol canfuwyd fod rhai o adeiladau v fferm wedi eu rhoi ar dan, ac ymysg y lludw cafwyd corff dyn wedi llosgi a bernid mai corff Kennedy ydoedd. bernid mai corff Kenn edy ydoedd. + Ysgrifau Gwerthfawr. Yn ystafell Sotheby's yr arwerthwyr, 1 yn Llundain y dydd o'r blaen gwerth- wyd llythyr ysgrif .er-lvk,yd gan Mari, Brenhines Ysgotlaid. am dri chan' punt, a llythyr ysgrifnwyd gan Mozart am dri chant a hner. Gwerthwyd darn bychan o tarddoniaeth yn llaw- ysgrit Robert Burns am gant a phump ar hugain o bunau. Galanas y Mor, Ar oi y ddrycin nos I .u yr oedd y mor yn gythryblus iawn yn Mau Ceredigion. I Catodd tua haner can' Hath o'r mur amddiffynai reilffordd y Cambrian ei ysgubo ymaith gan y tonnau ger Llanbedr, Yr oedd y mor wedi llifo trosodd i'r brif-ffordd yn y Bermo a'r Borth, a llifai dwr i mev\n i geginau v., tai ar lanau 'r mor yn Aberystwyth. < 4 Llofrudd wedi Diane Yn y trengholiad ar goitT fferm wr yn Kilbigan, Westmeath, dywedai gwraijf y traticedig iddi weled dyn yn ym- guddio tu ol i das pan oedd ei gwr yn myn'd tua 'r ystabl yn y bore. Cyn y gallodd waeddi gwelodd y dyn vn anelu gwn at ei phriod ac yn ei saethu 'n farw. Yna diangodd y llof- rudd, ond hysbysai y wrai^ y byddai yn sicr oï aJ't««bod pe y gweini ef drachefn. » Gweithrod Wrol. Cafodd John Jones, mwnwr o Bontv- pwl, ei wobrwyo yr wythnos ddiweddaf am ei ddewrder yn achub bywyd bach- gen bach oedd wedi syrthio yo ngor saf Pontypwl o Haen tren oedd yn dod heibio. Nid oedd amser i godi'r bach- gen bach i fynu, a neidiodd Jones a gorweddodd i lawr gydag ef gan ei ddal yn llonydd rhwng y piatform a'r rheiiiau hyd nes yr oedd v trt n wedi pasio. + Methu Cael Oigon o Fwyd. Y mae dyn o Seiby, o'r eritt, Harold Wood, a chanddo a;cli,kaz-th nidedig. Y dydd o'r blaeii hwytaodd bryd a tuasai 'n digoni tri gwas fferm. Ar 01 hwyta dau hwdin mawr, c%x-nhiiigen yn pwyso puiii' pwys, pedwar pwys o bytatws, a swm mawr o fara, ymhen ychydig funudau bwytaodd bysgod a phytatws drachefn. Ond nid oedd ei bryd ef i'w gymharu ag eiddo un T. Harris, IT Colorado, yr hwn a fwjtaodd ar un poyd dyrci pynnheg p-A-ys, tair lorth, pedair dysglaid o saws, chwe' banana, pwys o ymenyn, dwy ddysglaid o bwdin Nadolig, chwe' cwpanaid o goffi, ac yr oedd ar bwyta mince pÜs pan y Jlewygodd. Cyrff yn rod i'r Lan. Daeth cyrff nlI ddyn ieuanc i'r Ian ger Land's End, naill ddydd Sadwrn a'r llall ddydd Sul. Nis gwyddis pwy oeddynt. V Streic mewn Pentref. Y mae streic mewn pentref yn y De ohel wyddhlynt sydd yno Ynglyn a dwy ysgol yn y lie, y naill yn rhanbarth Caetfyrddin a'r llall yn nosbarth Llan- elli. Yr oedd y gyntaf yn rhy lawn, ac o'r heruydd trowyd plant ochr Llanelli allan o honi. Wedi hyny aeth y Mali yn llawn a throwyd plant ochr Caer- fyrddin o honi hithau Nid yw y plant yn awr yn mynd i unrhyw ysgol, ac y mae y rhieni yn gwrthod yn bendant eu hanfon gan yr vstvriant nnd yw'r ddwy sgoI yn ddigon cv fieus. I Pwy oedd Biau li- Gwely ? Bu cyngaws doniol iawn yn heddlys Gwrecsam y dydd o'r blaen pryd y gwysid Miss Eliz :beth Roberts, o Gwrecsam, gan J. Ward, o Birken- head, am y swm o 30s., sef pris gwely. Yr nedd y ddeuddyn i fod i briodi, ond lorodd y ferch ieuanc yr ymrywmiad a dychwelodd yr holl ddodiefn brynwyd at y cartref oddi- gerth un gwely, yr hwn meddir, oedd wedi ei roi i fam yr cneth gan y darpar-wr. Dywev'odd y tam yn y llys nad oedd am roi y ^wely'n ol, gan ei fod wedi ei roi iddi. Rhoed dyfarniad am y swm a hawlid gan yr achwynydd, neu fod y gwely i gael ei roi yn ot iddo Gweinidog a Ffesant. Yn y Drefnewydd yr wythnos ddi- weddaf cyhuddwyd William Williams, Bettws, o ddefnyddio gwn i ladd ffesant. Dywedai Mr. Richd George, yr hwn a amddiffynai, fod gan y cyhuddedig drwydded i gario gwn, ac y byddai yn arfer saethu i ddifytu ei hun. Allan ar ol colomenod gwylltion yr oedd, a dig-wyddodd ffesant godi a thaniodd ami ond methodd a'i saethu. Yr oedd yn ddyn tawel ac o gymeriad disglaer anghyffredin, ac yn dal s.v}'dd o awdurdod a dylanwad. Y cadeirydd Beth ydyw ?" Y cwnstabl Gwein- idog Msthodus." Mr. George: "Dyna hi allan (chwerthin mawr). Dirwy- wyd y diffynydd i bunt yn cynwys y costau. ok CorlTGeneth Arall mewn Afon Y mae corff geneth ieuanc arall o'r, enw Blanche Rovvbotham wedi ei dd:tr- ganfod mewn afon yn Reddish, ac nis gwyddis pa un ai o ddamwain ynte « rwriad y cytarfu a'i hangau. Yr oedd yn gweini yn West Kirby, a chollwyd hi oddiyno ddydd Sul. Yn ddiweddar- ach cantu llythyrgludydd nifer o lythyr- au yn nofio ar wyneb yr afoo, ac w .di gwneyd ymholiad cdnfuwyd eu bod yn perthyn i'r eneth oedd ar goll. Wedi hyny buwyd yn chwilio'r aton, a chaf- wyd ei chorff yno fel y nodwyd. Yr oedd yn eneth ieuanc nodedig o barchus a chrefyddol, meddir. Nis oes gan ei chyd-forwynion y ddirnadaeth lciaf beth allasai fod wedi digwydd iddi Dywedir y soniodd wrth rywun fod ami ofn dyn neillduol o Manchester. Y mae'r heddgeidwaid yn gwneud ym- chwiliad rnclOwl i'r achos. Cael ei Ladd wrth Waredu ei I Gymrawd. Mewn trengholiad yn Hampstead ddydd Sadwrn soniwyd am wroldeb anghyffredin ddangoswyd gan un o'r John Coleman wrth waredu bywyd ei gymrawd John Lupton. Yr oedd y ddau yn gweithio ar y rheilffordd a rhoes Coleman rybudd i'w gyfaill glirio oddiwrth y t h eiiiau gan tod tren yn neshau. Wrth groesi syrthiodd Lup- ton ac aeth ei droed yn rhwym yn y rheiiiau, a gwelai yn nesu ato. Nid oedd yn gwybod beth ddi '-wyddodd wedi hyny, ond pan ddaeth -.to ei hun yr oedd yn gorwedd wrth ymyl y rhei- iau a Coleman yn farw wrth ei ochr. Dywedai rhai welsent y digwyddiad i Coleman redeg yno i gei-io cael Lup- ton yn rhydd. Pan yr oedd yn ei iusso i ddiogelwch daeth y tl en a thrawodd Coleman i lawr yn farw. Dywei'odd y crwner nad oedd eisieu darllun ffug- chwedlau i gael hanes arwyr, canys cyfarfyddid a hwy bob dydd mewn bywyd. Yr oedd Coleman, meddai, vn arwr yn ddiamheuol. Trychineb Erchyll mewn Pen- tref. Bu tryehineb erchyll iawn mewn pentref yn agos i Grantham y dydd o'r blaen, pryd y cafodd ffermwr o'r enw Frederick Houghton, a'i fab Jasper, eu saethu i tarwolaeth. Y mae 'r mab arall Frederick, wedi ei gyineryd i'r ddalfa, ond y mae 'n gwadu tod a w nelo ef ddim a'r an- fadwaith. Ymddengys fod y teulu 'n eistedd wrth y tan g-yda'r nos, a toe cychwynodd y rn;tb Frederick i'w wely, ac aeth Jasper i lynu 'r grisiau ar ei cli. Yn 5) dyn clywyd ergyd yn y Imfft, a rhuthrot.'d y tad yno ond g\ nted ag y cyihaeddodd y grisiau ei saethu 'n farw. Yn y llofft ca uydv mab Jasper hefyd yn gurff. Pan ddaeth yr hoddgeidwaid yno rhoes Frederick, yr hwn gyhuddir o gyf- lawni 'r Uofruddiaeth, nifer o ergydion ar y bwrdd a dyutdodd iddo ddod o hyd iddynt yn llofft. Tystiai y weddw yn y t, Ilrholiad cu bod y Uulu dedwyddat pviibl cyn y tryehineb.
Lladd Anifeiliaid. J
Lladd Anifeiliaid. J ANFON GENETH IEUANC I'R FRAWDLYS. Ddydd Sadwrn cafodd Annie Evans, geneth bymtheg oed oedd yn gweini yn Groespluan, Welshpool, ei thraddodi i sefyll ei phrawf yn y Frawdlya am aiiafti un-ar-ddeg o anifeiliaid y fferm, o'r rhai y bu deg farw. Dywedodd J. T. Owen, y ffermwr, y collodd y fuwch gyntaf tua diwedd Me- hefin, a rhwng vr adeg hono a Rhagfyr 6ed bu farw chwech o wartheg eraill. Bu'r mater o dan ystyriaeth Cymdeith- as yr Amaethwyr a deuwyd i'r pender- fyniad mai eu gwenwyno gafodd y gwartheir. Ar Ionawr 26ain cantuwyd heffer wedi ei tharo'n wael ac yn grudd- fan. Galwyd Mr Tudor Hughes, mil- fedclv- o (; rk,e scs\v alit, yno ar Chwef. 21I, ic wrth ddod yn ol o'i ddanfon i'r stesion gwelodd y ffermwr heffer arall yn wael. Gofynodd yr eneth iddo beth oedd y ffarier wedi ddweyd am yr heff- er. Gan ei fod ef a'r ffai-ier mewn am- heuaeth ynghylch yr eneth atebodd yn- tau mai barnu ei bod wedi ei gwenwyno yr oedd Hughes. Ar Chwefror 6ed dywedodd yr eneth wrtho fod rywbeth ) n pwNsoarei meddwl, ac nas gallai ysg-u o'r herwydd. Gofynodd yntau beth oedd y mater, ac a oedd a wnelo ei thrwbl rywbeth a'r anifeiliaid fu farw. Ni ddywedodd yr eneth ddim wrtho y pryd hwnw, ond ymhen ysbaid daeth ato drachefn a gofynodd iddo ddod gyda hi i'r beudy. Yao dangosodd iddo sut yr oedd wedi camdrin yr ani- feiliaid gyda ffon. Gofynodd iddi a oedd rywun yn talu iddi am wneud, ac atebodd hithau nad oedd. Yr oedd gwerth yr anifeiliaid fu farw yn ) 80p., a'r heffer oedd yn wael yn werth 18p. Dywedodd y Cwnstabl Jones i'r eneth ddweyd wrtho, pan gymerai hi i'r car- char, fod yn dda iddo allu ei dal pan y ceisiodd redeg heibio iddo i'r gegin, gan fod ganddi botel las yn y fan hono. Yr oedd y botel, meddid, yn cynwys gwenwyn marwol. Cyhuddir yr eneth hetyd o fod wedi rhoi adeiladau'r fferm ar dan.
Yr Un Stori Eto.
Yr Un Stori Eto. Mae newydd da yn dal i'w ail adrodd, ac os y caiff ei gadarnhau ar ol ysbaid o amser, hyd yn nod os mai prin y credid ef y tro cyntaf, teimlwn yn ddiog-el wrth ei dderbyn yn awr. Mac y profiad yma o eiddo dyn o Bwllheli n c el ei gadarnhau ar ol deunaw mis o amser n, 1911, dywed Mr. E. Robeits, o 2. Mitre Terrace, yn agos i Orsat y Rheilffordd, Pwllheli Arferwn weithio mewn gwaith nwy, a phan with fy ngwaith yno rai blynyddau yn 01 yn sydyn cefais boenau dirdynol yn ngwaelod fy nghefn, a phrin y gellais orffen fy ngwaith ar y pryd. Bu raid imi roddi i tyny lawer gwaith wedi hyny oher- wydd y trwbl. Yr oedd gwyro yn anodd, ac ni chawn fawr orffwysdra y nos. I. Canfum, hefyd, fod y dwr yn an- aturiol, ac yn gadael sylwedd. Cymrawd i mi a'm cynghorodd i roi prawf ar Doan's Backache Kidney Pills. Yr oeddwn braidd yn amheus o honyni ar y dechreu, ond yn tuan da oedd genyf weled eu bod yn fy ngwella. Aeth y pilenau yn syth at y drwg gan lanhau yr elwlod, a gyru ymaith bob arwydd o bob affechyd arnynt. Y mae Doan's Pills yn ar- dderchog. Caf lawer cyfle i'w cymer- adwyo yn awr, a byddai bob amser yn gwneud hyny. (Arwyddwyd) E. Rob e^ .í\r Mawrth 14eg. 1913, -tros ddeu- naw i/iis pi ddiwedarach — dywed Mr. Roberts -gvx-elihawyd fi g«\n Doan's Backache Kidnev Pills. Byddaf yn cymeryd dogn yn ami i'm cadw 'n iach. Mae ugeiniau o bobl yn Pwllheli wedi gofyn imi ynghylch Doan's Pills, ac mae 'n bleser genyf gael dweyd wrthynt beth wnaeth y feddyginiaeth i mi. Pris 2s. 9c. bocs, chwe' bocs am 13s. 9c gan bob siopwr, neu oddiwrth y Foster McCiellan, Co., 8, Wells Street, Oxford Sueet, London, W. Peidiuch gofyn am kidney pills, gofyn- wch yn (:!III¡' am iJon's Backache Kid- ney Pills, yr un math ag a gafodd Mr. j Roberts. o o
Agerlong wedi Suddo. j
Agerlong wedi Suddo. VYYTH 0 FORWYR WEDI BODDI. Yn gynar fore Gwener 'diweddaf1 suddodd yr agerlong Miown o Gaer- dydd y tuallan i Shoreham, ac ni waredwyd ond y capten, W. M. Jones, allan o'r ui W o naw. Bu 'r llestr yn ymladd yn erbyn y ddrycin am tuag ugain awr, ac yr oedd ar fin cyraedd hafan ddiogel pan y suddodd. Aeth cwch bychan a dau ddyn ynddo allan ati yn nanedd y dymestl, a phan gyrhaeddwyd at y r canfuasant y capten yn hongian with y rhaffau me" n cyflwr truenlls iawn. Yr oedd wedi cicio ei esg-idiau oddiam ei draed ac wfcdi diosij ei ddillad olew fel ag v galla; fod yn fwy rhydd. Yr oedd y rhaffau wedi archolli ei draed yn erchyll. Aeth y dynion a'r cwch o daoo a dywedasant wrtho am ollwng ei hun i lawr. Syrthiodd iddo, wedi lhvyr ddiffygio. Ni fuasai wedi galiu dal ei afael ond ychydig funudau 'n hwy, meddai ef. Rhoes y ddeuddyn eu dillad am dano ac yna rhwyfasant am (;ei Southwick.
Cyfnewidiadau yn y CyfrinI…
Cyfnewidiadau yn y Cyfrin I Gyngor. Oherwydd lod y Gwir Anrhydeddus Sydney Buxton wedi ei ethol yn Ar- lywydd De AiTiica yn olynydd i Vis- count Gladstone bydd y cyfnewidiadau a ganlyn yn cymeryd lie yn y Cyfrin c:Jyng-or Y Gwir Anrhydeddus John Burns, A. S., i fod yn Llywydd Bwrdd I M asnach yn He y Gwir Anrhydeddns I Sydney Buxton. Y Gwir Anrhydeddus Herbert Samuel i fod yn Llywydd Bwrdd y Llvwodraeth Leol yn :!e y Gwir An- rhydeddus John Burns. Y Gwir An- rhydeddus Charles Hobhouse i fod yn Bostteistr Cyffredinol yn lie y Gwir Anthydeddus Herbert Samuel, a'r Gwir Anrhydeddus C. F. G. Masterman i lanw lie y Gwir Anrhydeddus Charles Hobhouse. Bydd i Mr. Masterman barhau yn Gadeirydd Cyd-Bwyllgor yr Yswiriant Cenedlaethol. Oherwydd y cyfnewidiadau a nod- wyd bydd yn otynol i ddau etholiad gymeryd lie, un yn Bethnal Green, eth- olaeth Mr. Masterman, a'r llall yn Poplar, Tower Hamlets, ethclaeth Mr. Buxton. --0-
Y Ffarmwr a'r Cerrig Llorio.
Y Ffarmwr a'r Cerrig Llorio. CYHUDDIAD 0 LADRAD. I Yn Nghaernarfon, ddydd Sadwrn, cyhuddid Robert Jones, Ty newydd, Clynnog, o fod wedi lladrata nifer o gerrig llorio, eiddo Mr. J. T. Jones, adeiladydd, Abererch. Dywedwyd, ar ran yr erlyniad, y bu Mr. J. T. Jones yn cario allan adgyw- eiriadau helaeth ar St. Beuno Hotel, Clynnog, ac yr oedd ganddo lawer iawn o ddefnyddiau at y gwaith yn cael eu hystorio allan. Yn mysg y defnyduiau yr oedd llawer iawn o gerrig cochion at lorio, ac yn nghwrs amser collodd tua thri chant o honynt, y rhai gostient 1 p. 16s. Mewn canlyniad i ymholiadau aeth yr Arolygydd Williams gyda gwarant i dy y diffynydd, ac yno canfu fod y parlwr wedi ei lorio hefo cerrig cochion, y rhan fwyaf, medd yr adeilad- ydd, yn rhan o'r rhai oedd ef wedi golli. Adnabyddai hwy fel yn perthyn i'ç un gwaith, ac wedi eu gwneuthur tua'r un adeg a'r gweddill oedd gfanddo. Gwadai y diffynydd y cyhuddiad, a dywedwyd fod y parlwr wedi ei lorio er's blynyddau, a honai Mr. Richard Roberts, yr hwn a amddiffynai, nad?, oedd raid i neb roi cyfrif o eiddo os oedd yn ei feddiant er's llawer o fisoedd.1 Ar ol peth ystyriaeth daeth y Fainc i'r penderfyniad fod ambeuaeth yn y mater, ac o ganlyniad yr oeddynt yn taflu'r achos allan --0--
: Dau Deulu Cyfan wedi euI…
Dau Deulu Cyfan wedi eu Lladd. Y mae dau ddigwyddiad erchyll wedi digwydd, y naill yn Tonbridge, i'r llall yn Harlesden, nos Wener diweddat. Yn y lie cyntaf enwyd cafwyd dyn o r enw Standen ë'i dri phlentyn bach wedi eu saethu'n farw yn y llofft Oed y plentyn hynaf oedd seithmlwydd, y llall yn bumlwydd, a'r ieuengat yn deirblwydd. Yr oedd Standen yn gjr- wedd yn wael ei iechyd er's deuddydd neu dri, a nos Wener aeth y ddynes a gadwai'r ty iddo ailan am dro gan ei adael ef a'r tri plentyn yn y gwely. Pan ddaeth yn ol cantu'r pedwar wedi eu saethu'n farw. Gwr gweddw oedd Standen bu ci wraig farw yn y gwall- gofdy naw mis yn ol, ac yr oedd hyny, meddir, wedi effeithio'n fawr ar teddwl y gwr. Yr oedd yn nodedig hoff o'i blant bach. Y TRYCHINEB YN HARLESDEN. Yn hwyr nos Wener galwyd yrhedd- geidwaid i dy yn West Ella Road, Harlesden, ac yno canfuwyd gyriedydd tram o'r enw Waller Johnson, ei wraig, a'u tri plentyn yn tarw. Yr oedd y wraig a'r baban wedi eu llindagu, ac yr oedd llinyn am wddf y ddau blentyn arall, y rhai oeddynt rhwng tair a phumlwydd oed. Yr oedd Johnson yn hongian wrth raff gerfydd hoelen ar y pared. Y mae cryn ddirg-elwch ynglyn a'r digwyddiad arswydus, ond credir i Johnson golli ei synwyrau'n sydyn. Ymddangosai yn llawen iawn y boreu. Dywedai y cymydogion fod y gwr a'r wraig yn ymddangos yn hoff iawn o'u gilydd, a'u bod yn haner addoli y plant. Yr oedd Johnson hefyd, meddir, yn ddyn neillduol o boblogaidd ymysg ei gydnabod.
-u - Damwain Fawr gyda Tram.
-u Damwain Fawr gyda Tram. LLAWER WEDI EU HANAFU. Digwyddodd damwain ddifrifol iawn gyda tram yn Rochdale nos Sadwrn— y ddamwain fwyaf o'i bith fu yno ericed. Rywfodd aeth tram a redai ar yr heol allan o reolaeth, ac aeth yn erbyn y siopau gan beri archollion difrifol i lawer iawn o bersonau. Yr oedd y gyriedydd, yr hwn wnaeth ym- drechion gwrol i rwystro'r ddamwain, wedi ei andwyo'n ofnadwy. Yr oedd bron bob asgwrn yn ei gorff wedi ei dori, ac nid oes ond gobaith gwan am ei fywyd. Catodd saith o'r teithwyr anafwyd eu cymeryd i'r ysbyty, ac aed a saith eraill i'w cartref wedi cael eu harcholli fwy neu lai. Gynted ag yr aeth y tram mewn gwrthdarawiad a'r siopau yr oedd yno olygfa arswydus. Yr oedd y teithwyr archolledig yn bentwr gyda'u gilydd yn nghanol malurion y tram, a'u grudd- fanau a'u llefau am help yn galon- rwygol. Cymerwyd y rhai mwyaf anafus mewn cerbyd i'r ysbyty ar un- waith, ac yr oedd amryw o honynt wedi eu hanafu yn gymaint fel bu raid eu cadw yno a rhoi o dan law-feddygaeth.
AGORIAD Y 3ENEDD.
AGORIAD Y 3ENEDD. ARAITH Y BRENIN. Ddydd Maivitli, yr wythnos ddiwedd- af, agorwyd y Senedd gyda'r rhialtwch a'r rhwysg arferol, a dechreuwyd ar waith y tymor pwysicat o bosibl yn hanes y wlad. Un o'r pethau pwysicaf yn araith y Brenin oedd y cyfeiriad wnaeth at yr Iwerddon. Ar ol cyfeirio at y tei nladau cyfeill- gar fodnbi rh wng- y wlad hon a'r gwledydd tramor. ac at yr ymdrechion wneid tuag at ddiogelu bywydau ar y mor, dywedodd ei Fawrhydi — Fy Arglwyddi a Boneddi,ion,-Bydd i'r mesurau ac y bu'r ddau Dy yn ang hytuno arnynt y tymor diweddaf gael eu dwyn gerbron eich hystyriaeth. Mae'n ddrwg genyf na lwyddodd yr ymdrechion wnaed i ddod i gytundeb ar y pwnc yn dal cysylltiad a llywodraeth yr Iwerddon mewn mater ag y mae cymaint o'm deiliaid yn ofni ac yn pryderu cymaint o'j herwydd, a mater sydd, os na ymdrinir ag ef gyda doeth. ineb a rhagwelediad clir, yn bygwth anha"sderau difrifol yn y dyfodol. Fy nymuniad yw y bydd i deimiadau da a chydweithrediad pob plaid a sect wella'r anghydfod, a gosod i lawr sylfeini cyt- undeb parhaol. Bydd i gynygion gael eu gosod ger eich bron i ad-drefnu'r Ail Dy Seneddol. Bydd i fesurau gael eu dwyn o'ch blaen yn ymwneud a chyflwr aneddau y dosbarth amaethyddol a diwydianol, i roi effaith i'r cynygion hyshyswyd y tymor diweddaf tuag at ddadblygu y gyfundrefn genedlaethol o addysg, i wella'r gyfraith o barthed i gospedig- aeth troseddvvyr ieuainc, ac, os caniata amser, i ymdrin a chwestiynau cym- Ideithasol eraill." ETHOLIAD CYFFREDINOL Fel gwelliant ar yr Araith cynygiodd Mr. Walter Long fod Etholiad Cyff- redino! i gymeryd lie cyn i'r Llywodraeth j fynd gam ymhe!!ach gyda Mesur Ym- reolaeth i'r Iwerddon. Yn nghwrs ei atebiad dywedodd Mr. Asquith y byddai i'r Weinyddiaeth mor fuan ag y byddai modd ddwyn cynygion arbenig ymlaen o barthed i'r mesur ag a fuas ii yn ol ei farn ef yn darpar ffordd i gael cytundeb heddychol, os yr ym- drinid a hwy yn onest gan bob plaid. Nid oedd ef yn anobeithio, ac nid oedd wedi anobeithio o gwbl nas gellid cytuno. Ddydd Mercher bu dadl ar welliant Mr. Walter Long, a thraddodwyd ar- eithiau gan y Twrnai Cyffredinol, Syr Edward Carson, Mr. John Redmond, Mr. Birrell, Mr. Lloyd George, a Mr. Bonar Law Gwrthodwyd y gwelliant gyda 333 o bleidleisial1 yn erbyn 255. Bu dadl ar y gwelliant i'r Araith yn Nhy'r Arglwyddi ddydd lau, aphasiwyd y gwelliant gyda 253 o bleidleisiau yn erbyn 55. j
IMesur Dadgysylltiad yr !…
Mesur Dadgysylltiad yr Eglwys. TRECHU'R TORIAID. Yn Nhy'r Cyffredin, ddydd Llun, bu dadl frwd ar Fesur Dadgysylltiad yr Eglwys yn Nghymru. Cynygiwyd gwelliant ar y Mesur gan Mr. Ormsby Gore, yr aelod Toriaidd tros Fwrdeisdrefi Fflint, i'r perwyl nad oedd digon o gefnogaeth i'r Mesur yn y wlad i gyfiawnhau'r Senedd i fyn'd i ymhellach ymlaen gydag ef, ac fod y gwrthwynebiad iddo'n cynyddu ymysg aelodau pob enwad yn Lloegr a Chymru. Siaradwyd o blaid y gwelliant gan Syr A. Griffith Boscawen, Mr. Hoare (Chelsea), a Mr. Balfour. Siaradwyd yn erbyn y gwelliant gan Mr. M'Kenna^ yr Ysgrifenydd Car- trefol, Syr D. Brynmor Jones, a Mr. Llewelyn Williams. Ymranodd y Ty, a phleidleisiwyd fel a ganlyn :— o blaid y gwelIiant 217 Yn erbyn 279 Mwyafrif yn erbyn 62
-u - I Llwybr y Dymestl. I
-u Llwybr y Dymestl. Ysgubodd tymestl erwin tros Fau Ceredigion nos Sadwrn, ac achoswyd cryn dditrod mewn amryw tanau ar y forlan gan ymchwydd y tonnau a chyn- ddaredd y ddrycin. Catodd tua dau gant o latheni o promenade y Bermo ei olebi ymaith gan ruthr y tonnau, a gwnaed niwed mawr i ran helaeth o'r ffordd, gan wneud cotter o rai canoedd o bunau. Ni bu'r llanw cyn uched yno er's uprain mlynedd. Gwnaed niwed mawr hefyd i linell rheilffordd y Cambrian ar hyd y forlan. Cafodd y tir o dan y rheiiiau ei olchi ymaith mewn amryw fanau, a bu raid symud y rheiliau ymhellach oddiwrth y mor fel y gallai y tren redeg hyd-ddynt. Yn Nolgellau treuliodd y trigolion noson trawychus iawn, gan fod yr Arran a'r Wnion wedi ymchwyddo cymaint gan y llifogydd nes llifo'n mhell tros eu gianau. Yr oedd yr holl feusydd fel llynau mawrion. Yr oedd y trigolion yn rhan isaf y dret drwy y nos yn cario I eu heiddo i. ddiogelwch, ac yr oedd canoedd o honynt allan drwy y nos. Pe bai'r llifogydd ychydig fodfeddi'n uwch buasai difrod mawr wedi ei wneud yn y fro. Bu'n ddrycinog anghyffredin allan ar y Werydd hefyd am ddyddiau yr wyth- nos ddiweddaf, a chyfarfu rhai o'r agerlongau mawrion ag anhawsterau mawr ar eu mordeithiau. Oherwydd y storm methodd y Carmania" a rhoi teithwyr i lawr yn Queenstown.
Llys Ynadol Pwllheli.
Llys Ynadol Pwllheli. Ddydd Mercher, Chwetror i ie-cy' Gerbron Cyrnol Lloyd Evans (yn y gadair) yr Henaduriaid W7. Anthony, Maurice Jones, a G. Hughes-Roberts; Dr. S. W. Griffith, J. G. )ones, Ysw., Claude L!oyd Edwards, Ysw., Dr R. Jones-Evans, a J. Hughes-Parry, Ysw. Tynan ol.-Gwysid William Owen Moore, Graiantryn, Ceidio, an Mr Hugh Pritchard, clerc Bwrdd Gwar- cheidwaid Pwllheli, am esgeuluso cyf- ranu tuag at gynal ei fam, yr hon dderbyniai 11s. yr wythnos o elusen blwyfol.—Gwnaed archeb am swllt yr wythnos yn erbyn Moore cyn iddo ef a Mr George, ei gyfreithiwr, ddod i'r llys, ac ar apeliad Mr W. George ystyriwyd y mater. Dywedai fod diffynydd yn talu y rhent a'r dreth dros ei fam, a hefyd yn pryou glo a phethau eraill iddi. Os y gwneid archeb am hyd yn nod swllt yn ei erbyn, nis gallai dalu y rhent hefyd Dywedai y diffyn- ydd y byddai iddo ofalu am dalu'r rhent yn gyson trosti, ac o herwydd hyny tynodd Mr Pritchard y wys yn ol,-Cytunodd y Fainc a'r cais. Cweryl yn Ngweithdy'r Crydd.-Cyhude- id John Lewis Williams, Ship Hotel, Aberdaron, gan Tom Jones, Glanarfor, o'r un lie, o fod wedi ymosod arno yn ngweithdy'r crydd.-Erlyhid gan Mr Hugh Pritchard, ac amddiffynid gan Mr E. R. Davies. Honai'r achwynydd fod y diffynydd wedi cydio'n ei wddt mor ffyrnig nes yr redd gwaed yn Ilifo.-Taflodd y Fainc yr achos allan ar daliad y costau, set 16s. Esgeuluso'r Ysgol. Gwnaed archeb presenoldeb yn erbyn William Roberts, Gors, a Thomas Thomas, Penybryn, y rhai a wysid am esgeuluso anfon eu plant i'r ysgol. Archwyd yr olaf hefyd i dalu lis, o gostau.
-0-Ymddiddan gyda George Ball…
-0- Ymddiddan gyda George Ball yn Ngharchar. Ysgrifena gohebydd i'r Liverpool Coui-ici- i hysbysu y bu 'n ymweled a George Ball, yr hwn sydd yn ngharchar Walton yn aros dydd ei ddienyddiad am lof- ruddio Miss Bradfield. Dywed y gohebydd fod cyfnewidiad mawr wedi dod dros y condemniedig er y diwrnod y pasiwyd dedfryd marw- olaeth arno. Y mae'n edrych yn welw iawn, ac ymddengys fel pe'n sylweddoli i'r eithaf ei sefyllfa ofnadwy. Y mae'r eondra a'r dull didaro a'i nodweddai yn ystod y prawt wedi cilio ac ymddang- osai yn cael ei lethu gan anobaith. Ni bu unrhyw gyfeiriad at y lIofrudd- iaeth yn ystod yr ymddiddan, medd y gohebydd, a chydag anhawsder mawr y siaradai'r ddau. Nid yn unig am fod y ceidwaid yn cadw gwyliadwriaeth fanw 1 arnynt, ond yr oedd eu teimladau yn eu llethu. Yr oedd Ball yn siarad yn isel iawn, ac ar brydiau nis gallai ei gyfaill ei ddeall. Edrychai 'n syth i'w wyneb a gallai weled y dagrau'n llenwi ei lygaid, ond ni agorodd llifddor ei deimladau hyd nes yr oedd yr ym- ddiddan ar derfynu. Y pryd hwnw llifai 'r dagrau i lawr ei ruddiau ar ymwahanwyd heb gymaint ag ysgwvl llaw.
Advertising
We honestly believe we have the most pleasant- to-take, most per- manently beneficial laxative for relief from the dangers arising from constipation- Rexall Orderlies. They are soothing, gentle, do not cause griping, nausea, or the slightest incon- venience. They tend to tone and strengthen intes- tinal nerves and muscles. They promptly relieve constipation, and promote better spirits and better health. They are infinitely su- perior to old-fashioned remedies and nostrums which afford only tem- porary relief. We particularly recommend Rexall Orderlies for children, aged and delicate persons. IN CONVENIENT TIN BOXES 7 id., 1/- and 2/- Sold in this vicinity only by- R. O. GRIFFITH, 60, HIGH STREET, PWLLHELI. -0- Rhodd o Fil o Bunau I Eglwys M.C., Ffestiniog. Yn Eglwys Fethodistaidd y Taber- nacl, Ffestiniog, nos Sul, hysbysodd y gweinidog, y Parch R. R. Morris, ei fod wedi derbyn Ilythyr oddiwrth ysgrifeoydd Mr David Davies, A.S., Llandinam, yn datgan fod Mr Davies yn bwriadu rhoi mil o bunau i'r eglwys ar achlysur dathliaa ei haner can- mlwyddiant ar yr amod fod ymdrech arbenig yn cael ei gwneud yn ystod y tair blynedd nesaf i glirio mil o bunau arall o'r ddyled. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch cynes i'r rhoddwr, a chytunwyd yn unfrydol i gydsynio a'r amodau.