Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

O'r De.

News
Cite
Share

O'r De. CAN SION LLWYD. Methais a gweled Tom Owen, O.B.E., yn Llanelli pan fum yno ddiweddaf. Wedi mynd i'r North, mae'n debig gen i yr oedd o. Mi welais yno lawer o weinidogion y Bedyddwyr a delicats hefyd. Cyflogau gweinidogion mae'n debig oedd wedi dod a hwy at ei gilydd. Rhyfedd fel mae'r byrddau wedi troi. Nid oes lawer o amser er pan oedd yn beryglus son am gyflog gweinidog. Pan symudai gweinidog a gai bedair neu bum punt i eglwys lie cai bunt neu ddwy'n ychwaneg, fe'i difenwid fel ariangarwr ac fel un yn gwneud mas- nach o air Duw ac felly 'mlaen. Credai llawer mor gydwybodol ag y credodd Pharisead erioed y dylai pregethwr fyw ar lai na neb arall. A chwaraeteg i'r pregethwyr a'r ciwradiaid fe ddioddef- asant yr anfri a'r gwarthrudd yn bur dawel er mwyn yr Efengyl. Mi greda i er hynny y buasai'n well iddyn nhw er mwyn eneidiau'r saint fod wedi defn- yddio fflangell o fan refynnau'n amlach. Erbyn heddyw, nid ariangarwch gweinidogion yw'r pwnc ond anystyr- iaeth, dellni, a diffyg egwyddor eglwysi. Mae rhai gweinidogion wedi bod ar newynnu, dau o leiaf wedi cyflawnu hunan-laddiad, a'r saint fu'n dannod ariangarwch a chybydd-dod i bregeth- wyr yn ddihareb yng ngenau pawb. Mae'r dyn drws nesa o'r farn bod llawer yn credu fod pob pregethwr yn gyfoethog, ond nid yw'r dyn drws nesa ond un na minnau o'r un farn ag e. 'I Ein barn ni yw ei fod yn rhan o bolisi'r saint i gadw'i gweinidogion yn dlawd fel y byddai'n haws eu cadw dan draed ynglyn a phethau eraill. Nid oedd dim yn eglurach, wedi'r cwbl na bod y parch mwyaf yn y diwedd i'r gweinid- og a fyddai a mwyaf o gyfoeth ganddo, am ei fod drwy ryw ffawd wedi cael tipyn ar ol rhyw ewyrth iddo neu wedi priodi gwraig a chanddi dipyn. Fe barchai'r eglwysi, chwaraeteg iddyn nhw, unrhyw un a allai glecian ei fawd arnynt. Doniol dros ben yw clywed rhai o ambell eglwys o bump neu chwe chant o aelodau, neb o honynt yn dlawd iawn a llawer o honynt yn gyfoethog, yn honni'n chwyddedig eu bod hwy'n talu 150, 200, neu 250 o bunnoedd i'w gwein- idog, fel pe byddent yn gwneud gor- chest anghyffredin, tra fydd clerc Cyngor Sir yn cael o 400 i 600 o bun- noedd am wneud y ddegfed ran, o waith gweinidog, ac wel*.ttilaulii gcillii Ilaiiw amryw swyddau eraill yr un mor enill- fawr. Y gwir yw, nid yw hanner ein heglwysi'n credu 'dim yn y weinidog- aeth nac yn yr Efengyl, ond eu bod yn dilyn ymlaen o ran ffasiwn ac arfer. Mi gwrddais yn y'tren bythefnos yn 01 a bachgen ifanc, a beth feddyliwch chwi oedd ei waith 1 NITel tawn i'n marw'r funud yma, roedd e'n mynd o gwmpas y wlad i gasglu at y Coleg! Mae'n debig na cheir ond chydig iawn o eglwysi rhai enwadau i gasglu at y Coleg heb i'r bechgyn fynd ar hyd y wlad i fegian am ryw fis neu chwedi wythnos bob blwyddyn. Peidiwch a mynd, fechgyn, ond ewch i Batagonia. Dyma fi wedi crwydro ac wedi ysgrif- ennu jDentwr ar bethau na sy'n perthyn dim i fi, ond fel rwy'n dechreu teimlo diddordeb yn y pethau a siaredir rhwng pob dau y dyddiau hyn a mi fydd Cas- nodyn yn chwerthin am fy mhen ac yn meddwl fy mod ar fynd i'r seiat, a phe gwyddai'r pregethwr sy'n byw'r ochor arall i'r hewl mai fi sy'n ysgrifennu, mi fyse'n siwr o gynnyg swydd diacon i fi.

Y GLOWR. I

Ymadawiad y Parch. J. ViDcent…

PRIODAS DDA I

I Atgofion Hywel o'r Glyn.

Advertising

ANHUNEDD, DIFFYC TRAUL A CIAU.

Byd y Bardd a'r lienor.