Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

.YN SYTH O'R SENEDD .Ac i…

News
Cite
Share

.YN SYTH O'R SENEDD Ac i ddod Bob Wythnos. LGAN EIN GOHEBYDD ARBENNIG). I Llundain, I Nos Sadwrn, 13 x 1919. 1 Eitha' gwir ond digwydd- odd llawer peth oddiar hynny As ol hir ymdroi mae'r Weinyddiaeth o'r diwedd wedi gafael yn y cwestiwn Gwyddelig, ac yn wir-y mae'n Ilawn bryd. Yn ystod y tair blynedd diweddaf, os gellir ymddiried yn yr adroddiadau swyddogol, eyflawnwyd gan gefnogwyr y mudiad Sinn Ffeinaidd yn ymyl tair mil o echryslonderau (Qut, rages). Lladdwyd un ar bymtheg o bersonau, saethwyd at dros hanner cant, a churwyd dros ddeg a thrigain. Ysbeiliwyd cannoedd o dai, rhoddwyd Uawer o eiddo ar dan, a gwnaethpwyd llawer o ddrygioni na allai ddigwydd ac na ddylid ei ddioddef mewn gwlad sy'n cyfrif ei hun yn oleuedig. Pe gofia'n darllenwyr fod Mesur Ymreolaeth i'r Werddon wedi ei basio cyn dechreu y Rhyfel Mawr, ond heb ei roi mewn gweith- rediad. Mae llawer o bethau wedi digwydd yn y cyfamser, ac nid oes neb yn tybio y gwna'r Mesur hwnnw y tro'n awr. Felly oroesawir y syniad o Bwyllgor i ystyried y Aaater ac i awgrymu cynllun mwy bodd- haol o hunanlywodraeth, Nid ydym yn rhyw sicr y rhoddir cyfielyb groeso 1 gyfan- soddiad y Pwyllgor, yr hwn a ymddengys I yn wan" mewn mwy nag un cyfeiriad. Ond annheg hwyraeh yw barnu unrhyw Bwyllgor ymlaen llaw; dichon y bydd i Arglwydd Birkenhead a Mr. Walter Long gyfiawnhau eu dewisiad fel aelodau ohono, ond ar yr un pryd credwn fod eu hen gysyllt- iadau yn ddigon i godi amheuaeth. Fodd bynnag, gobeithiwn y goreu Yr ydym yn deall mai dau Gymro fydd yn gweith- redu fel ysgrifenwyr i'r Pwyllgor, sef Mr. Thomas Jones, M.A. (yr hwn a enwir fel ymgeisydd am y swydd o Brif Athro yn Aberystwyth) a Mr. G. M. Evans, dau sydd era tro yn gwasanaethu yn y War Cabinet Secretariat yn Whitehall., Crach a ddywed crach I gyntaf. Mae ami i ensyniad cas yn dueddol i weithredu fel boomerang. GWyr pawb ond odid beth yw boomerang rfyn, o'i daflu, a red yn ol, ac a dery'r g*r o'i taflodd. Ryw. eut felly y digwyddodd hi i Mr. J. H. Thomas ynglyn a'r streic ddiweddar. Edliwiai Mr. Thomas yn erbyn y Prif Weinidog nad ydoedd yn feistr ar ei dy ei hun," gan aw- grymu, mae' debyg, fod rhai o'i gydweinidog- ion yn ei WIthsefyll. Wel, fe gafodd Mr. Thomas ar ddeall fod gan Mr. Lloyd George yn y pen draw berffaith feistrolaeth ar ei dy, ac nad oedd ensyniadau o'r fath yn debyg o'i darfu oddiar ei lwybr. Ond mwy na hynny, fe aeth y boomerang o gylch, fe ddychwelodd ac feidarawodd Mr. Thomas druan yn ei ben Un o ddywediadau mwyaf tarawgar y Prif Weinidog, yn yr araith wrol a galluog a draddododd yr wythnos ddi- weddaf, oedd honno, the Nation must be master in itp own house "-rhaid i'r Werin fod yn feistr yn ei thy ei hun. Yr ydym yn llwyr gredu erbyn hyn fod Mr. Thomas a'r rhai sydd yn gyfrifol gydag ef am wastraff difrifol y streic ddiweddar—dywedir fod oolled y naw diwrnod dros hanner can miliwn o bunnau-yn argyhoeddedig mai trech gwlad na dosbarth, ac na ruthrant i'r un- rhyw amryfusedd ond hynny. Y Siambr Siarad yn ail I ddechreu. Cyn yr ymddengys y llith nesaf o West- minster bydd y Senedd wedi cyfarfod. Yr eilfed ar hugain cyfisol yw'r adeg benoded- ig, ac y mae arwyddion eglur i'w canfod fod amser prysur yn ein haros. Digon didram- gwydd yw'r trefniadau swyddogol, ymdrin a gwelliannau i ryw fan fesurau, fel y Mesur Lladd Llygod (Rats and illice Destruction Bill) a'i gyffelyb. Hwyraeh yr agorir y ffordd i rywbeth mwy pwysig o'r Front Bench, ond prun bynnag am hynny fe ellir bod yn berffaith sicr fod pethau mwy ar droed. Un o'r pethau cyntaf y dymuna'r Ty ei wybod yw ystyr a chanlyniad y drafod- aeth ynglyn a'r streic. Peth arall y cymerir diddordeb arbennig ynddo yw'r trefniadau I i dorri i lawr y gwastraff yn y treuliau I cyhoeddus-y maent eto'n arswydus o uchel. Rhaid i'r Iwerddon, am ryw fyr ysbaid, aros adroddiad y Pwyllgor y cyfeir- j iwyd ato, end geilw'r sefyllfa Ewropeaidd— j dyweder yn Riga, yn Fiume ac yn y Balkans -am sylw uniongyrchol. Hwyrach y ceir rhyw oleuni ar Gynghrair y Cenhedloedd yn y cyfarfod a gynhelir heddyw'r prynhawn yn y Mansion House, lie y disgwylir Mr. Asquith, Arglwydd Robert Cecil a M. Venizelos i draethu ymadrodd, a diau y daw o dan ystyriaeth Ty'r Cyffredin yn gynnar yn yr eisteddiad. Ac wrth gwrs, y mae gan Blaid Llafur ei chwestiynau penodol ynglyn â. chyflogau aafonol, lleihad oriau gwaith, a pherchenogi'r Mwngloddiau, a lliaws o bethau eraill, fel nad oes un tebyg- rwydd y gadewir i'r Ty fyned i gysgu am beth amser i ddyfod. Lie bydd yr Aelodau Cymreig ami hi, tybed ? Y maent eisoes yn,y glorian, ac hwyrach mai dyma'r eyfle olaf a gant i chwanegu at eu pwysau cyn wynebu barn Etholiad. I Ffrwt Cymreig y I Western Mail." Papur byw iawn yw'r Western Mail, ac ar wahan i'w olygiadau gwleidyddol y mae'n wir Gymreig. Yr ydym yn teimlo ers tro byd fod tuedd yng Nghadfridogion y Fyddin i ddiystyru rhan arbennig y catrodau Cymreig yn y Rhyfel. Nid yng ngrym arfau y mae ein hymffrost ni fel cenedl, ond pan elwir arnom yn achos Rhyddid a Gwirionedd a Chyfiawnder i'w cario, mae'n deg i'n bechgyn gael y rhan ddyladwy o'r clod. Y dydd o'r blaen bu Arglwydd Allensby'n siarad yn y City, a rhoddodd glod mawr—ac yn hollol deilwng hefyd- i'r milwyr Llundeinig oedd dan ei faner ym Mhalesteina. Ond anghofiodd yn llwyr y bechgyn o Gymru oedd yn cydymladd a hwynt. Fe alwyd eu gorchestion i'w gof gan y Western Mail, ac yn y newyddiadur hwnnw fe wna'r Cadfridog ehwog heddyw ymddiheurad handsome am yr anwybyddiad. Galwodd yr un newyddiadur Arglwydd French i gyfrif am gyffelyb amryfusedd gyda'r un canlyniad. Pob diolch i'r Western Mail Marblis. I Dywed y Daily Chronicle fod yn sicr y bydd i Syr Ellis Griffith gael ei benodi'n Farnwr yr Uchel Lys un o'r dyddiau nesaf. Gobeithio fod y Chronicle yn dweyd y gwir y tro hwn. Y mae gennym lawer iawn o barch ? Mr. E. T. John, a byddai'n dda gennym ei weld yn ol yn y Senedd ond pam dros Sir Gaernarfon ? Nid oes angen gwell Rhyddfrydwr pa Mr. Charles Breese, ac os rhaid caef Aelod blafur, lie mae Mr. Rt. Jones ? Dyletswydd Mr, John, os caniata i un o'i edmygwyr ddweyd hynny wrtho, yw ymosod ar un o brif wersylloedd Toriaeth, a gorseddu o'i mewn egwyddonpn gweriuol— a hunanlywodraethol os myn ef, Pleser mawr gennym weld enw'r Athro Syr John Morris Jones ymhlith y proffwydi Methodistaidd. Y mae ei gyhoeddiad yr wythnos nesaf ym mhrif gapel y Corff yn Llundain, a'i destyn yw Williams Panty-celyn. Soniasom yr wythnos ddiweddaf am y m6r o laeth yn Hyde Park a ddiwallodd Lundain er gwaetha gwyr y Railway. Dylasem ychwanegu mai Neptune y m6r hwnnw oedd Mr. William Price, Cymro o Sir Frychan sy'n rheoli un o brif Gwmniau Llaeth y Deyrnas. Yn ychwanegol at hynny, y mae Mr. Price yn flaenoryn Eglwys Shirland Road. o

fo Big y Lleifiad.

Advertising

Advertising