Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

Iffetan y Gol.

News
Cite
Share

Iffetan y Gol. Cofied pawb fo'n anfon i'r Ffetati mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- Nithio'r UAU A Nythu'b GWIR. Praffwydoliaeth y Mynach am I gwymp yr Anghrist. gymt,-Wele gopi o brofbrydoliaoth y Mynach Johannes, a ysgrifennwyd ganddo mewn Lladin yn y fl. 1600. Cyfieithwyd hi'n gynnar iawn i'r Ffrangeg. Ni wn a gy- hoeddwyd hi yn y wlad hon, ond yr wyf yn dra sicr na chyhoeddwyd mohoni o gwbl yn Gymraeg. Cymerwyd gofal gyda'r cyf- ieithu ac os oes bai, dichon mae rhy lyth- rennol ydyw. Cefais yr ysgrif yn fuan wedi dechreu y rhyfel, ond ni thybiais yn burion ei hanfon i'r wasg ond wrth weled tobyg- olrwydd cyflawni llawer adran, ystyriaf y bydd yn ddiddorol i'w darllen petae ddim ond o chwilfrydedd. Cynhwysa'r ysgrif yn y Ffrangeg yr eglurhad a ganlyn :— Cynrychiolir Ffrainc yn ffigyrol gan y. Ceil- iog Prydain gan y LJewpard Rwsia gan yr Eryr gwyn jGermani ac Awstria gan yr Eryr du a'r Eryr Arall. Manceinion. H. E. ROBERTS. 1. Tybiwyd yr adnabuwyd ef lawer gwaith, oherwydd maeholl leiddiaid yr Oen yn ymdebygu i'w gilydd, a phob drwg. weithredwr yn rhagredegydd i'r Drwgweith. redwr mawr. 2. Byddy gwir Anghrist yn un o deyrn ei gyfnod, yn fab Luther; efe a erfyn ar Dduw, gan alw ei hun Fi gannad. 3. Tywysog y celwydd a dwng i'r Ys- grythyr, a dywed am dano'i hun mai braich yr Hollalluog yw, yn cosbi y rhai llygredig. 4. Ni fydd ganddo ond un fraich, ond bydd ei aneirif fyddinoedd megis llengoedd ufiernoV a'u harwyddair fydd Duw gyda ni. 5. Gweithreda am amser trwy dwyll a theyrn-fradwriaeth, lledaena ei ysbiwyr tros yr holl ddaear, ao efe a fydd/ feist r cyfrin- achau y rhai sydd mewn gallu. 6. Caiff ddiwinyddion i'w wasanaethu, i sicrhau a phrofi ei genhadaeth nefol. 7. Cynysgaeddir ef ag achos i godi'r gorchudd trwy ryfel. Nid rhyfel yn erbyn teym Ffrengig fydd ond arall a adnabydd- i* yn hawdd yn y flaith yr aiff y rhyfel yn un gyffredinol mewn dwy wythnos. 8. Geilw dan arfau yr holl Gristnogion, m'p holl Fohametaniaid, ac hyd yn oed bobloedd o beUter maith. Ffurfir byddin- oedd o bedwar ban y byd. 9. Agorir meddyliau dynion gan ang ylion, ao yn y drydedd wythnos o ryfel deellir mai hwn yw'r Anghrist, a daw dynion yn gaeth- weision oni fethrir i lawr y gorchfygwr hwn. 10. Adnabyddir yr Anghrist wrth amryw nodau, efe a lofruddia offeiriaid, myneich, gwragedd, a phlant. Ni ddengys drugaredd, efe a a ymla'en gyda fflamdorch megis yr anwariaid, gan honni enw y Crist. 11. Ei eiriau gau a fyd gyffelyb i eiddo y Cristionogion, ond ei weithredoedd a fydd fel gweithredoedd Nero a'r poenydwyr Rhufeinig. Bydd ganddo'r eryr yn arwydd- nod, ac hefyd gan ei gydweithredwr, y teyrn anfad arall. I 12. Hwnnw a fydd Gristion, ac a fydd farw dan felltith y Pab Benedictus, a etholir yn nechreu teymasiad yr Anghrist. 13. Ni fydd mwyach offeiriaid a myneich yng nghyffes a maddeuant yr ymladdwyr, oherwydd am y tro cyntaf erioed brwydra offeiriaid a myneich ymhlith dinaswyr ereill ao hefyd oherwydd melltith y Pab Benedic- tus ar yr Anghrist, a chyhoeddir fod yr hwn a ryfela yn ei erbyn mewn cyflwr o ras, ac os byddant feirw, hwy a ant megis ymerthyron ar union i'r nefoedd. 14. Bydd i esgymundod gan y Pab wrth hysbysu beri syndod mawr, ac achosa farw- olaeth y teym sydd mewn cyngrair a'r Anghrist. 18. Mewn trefn i orchfygu'r 'Anghrist, ritsia Uadd mwy e "tr sag a fa erieeA ya ninas Rhufain. Rhaid wrth ymdrech pob -gwlad, am na all y ceiliog, y llewpard, a'r eryr gwyn ddim gorchfygu yr eryr du yn eu nerth eu hunain oni chant eu cynorthwyo a gweddiau'r hil ddynol. 16. Ni fu dynoliaeth o'r blaen yn y fath gyni, oblegid byddai buddugoliaeth yr Anghrist yn fuddugoliaeth i'r diafol, yn yr hwn y mae wedi ymgorffori. 17. Mynegwyd yn flaenorol mai mewn ugain canrif ar ol yr Ymgnawdoliad yn y byd y byddai y Bwystfil yn ymgnawdoli, gan fygwth y ddaear a llawer o ddrygioni, megis y dug yr Ymgnawdoliad Dwyfol raSuSau. 18. Oddeutu y fl. 2000 yr ymddengys yr Anghrist, bydd rhifedi ei fyddinoedd y tu-, hwnt i amgyffred neb, a bydd Cristnogion ymhlith ei luoedd; ac hefyd bydd ymhlith amddiffynwyr yr Oen Fahometaniaid a llwythau anwar. 19. Am y tro cyntaf bydd y Lampau'n gwbl gcch; ac ni fydd unman yn y byd Cristnogol heb ei gochni; a dylifa gwaed ym mhedair elfen natur ar unwaith. 20. Ymdeifl yr Eryr du ei hun ar y Ceiliog, yr hwn a gyll lawer o'i blu ond efe a dery yn nerthol a'i ysbardynau, a buan y difodid ef onibai am gynhorthwy y llewpard a'i ewinedd. 21. Yr Eryr du, a ddaw o dir Luther, a ddychryn y Ceiliog mewn man arall ac efe a oresgyn hanner gwlad y Ceilicg. 22. Yr Eryr gwyn, a ddaw o'r gogledd, a ddychryn yr Eryr du a'r Eryr arall ac a gyflawn oresgyn dir yr Anghrist o un pen i'r Hall. 23. Gorfodir yr Eryr du i adael yr Eryr gwyn i ymladd y Ceiliog, a'r Ceiliog a ym- lid yr Eryr du i dir yr Anghrist gan gynorth wyo'r Eryr gwyn. 24. Ni fydd y brwydrau a ymladdwyd yn ddim o'u cymharu a'r rhai a ymleddir yn nhir Luther. Oherwydd yr un pryd tywallta y Saith Angel dan o'u llosgfeydd ar dir yr Annuw, yrhyna olyga y bydd yr Oen yn trefnu difodiad hil yr Anghrist. 25. Pan wdl y Bwystfil ei fod yn colli aiff yn llidiog ac am fisoedd rhaid i big yr Eryr, ac ewinedd y Llewpard, ac ysbardynau y Ceiliog ei boeni. 26. Croesir afonydd ar rydiau o gyrff, y rhai mewn mannau a newidia gwrs ydyfroedd. Ni chleddir cyrff neb ond yr uchafiaid, a'r swyddogion blaenaf, a'rtywysogion oblegid y gelanedd a achosir gan arfau tan, a ych- wanegir gan garneddau y rhai a drengant trwy haint a newyn. 27. Erfynia'r Anghrist amryw weithiau am Heddwch ond y Saith Angel a flaenora y tri Anifail, a ddywedodd na fydd buddug- oliaeth ond ar y telerau y bydd yr Anghrist yn cael ei fathru fel gwellt y llawrdyrnu. 28. Ni all y tri Anifail sy'n ymddiriedol- wyr cyfiawnder yr Oen atal yr ymladd tra saif dim ond un milwr ar 'du'r Anghrist. Yr aclios fod dedfryd yr Oen mor anliyblyg ydyw fod yr Anghrist yn honni ei fod yn Gristion, ac yn gweithredu yn enw Crist; am hynny oni threnga, collir fErwyth y Prynedigaeth, ac ymgryfha pyrth Uffern yn erbyn y Gwaredwr. 30. Gwelir mai nid ymgyrch ddynol a fydd yn erbyn yr Anghrist a'i arfau. Y tri Anifail, amddiffynwyr yr Oen a ddinystriant fyddin olaf yr Anghrist, a daw maes y rhyfel yn allor aberth mwy na'r ddinas fwyaf, a chyfnewidir ei fiurf gan y cyrff ymchwydd- edig. 31. Cyll yr Anghrist ei goron, a bydd farw, yn unig, ac yn wallgof ei Ymherodraeth a rennir i ddwy ar hugain o Daleithiau, ond ni chaifi yr un ohonynt balas brenhinol, na byddin, na llongau. 32. Yr Eryr gwyn, trwy orchymyn Mich- ael, a ymlid yr Hannergylch o Ewrop lIe na erys ond Cristnogion yn unig. Efe a fedd- ianna Gonstantinopl. 33. Yna y dechreua cyfnod o Heddwch a Llwyddiant i'n holl Gyfundrefn ac ni bydd Rhyfel mwy. Llywodraethir pob cenedl yn ol eu hewyllys, a byddant byw mewn cyf- iawnder. 34. Ni bydd Lutheriaid na Sismaticiaid mwyach. Yr Oen a deymasa, a dechreuir Uawenydd y ddynolryw. Gwyn fyd y rhai a, ddione oddiwrth beryglon ycyfno dofnadwy, ac a brofant ei ffrwy,th sef teyrnasiad yr I Ysbryd Tragwyddol. Ni chyrhaeddir sanc- teiddhad y ddynoliaeth ond yn unig trwy orchfygu'r Anghrist.  ;sr ?. u s.?.? ?a-.  M aat??BE?..————  ;¿. œ Ochijam Gymru^ariGrasdiPiAffrica- I SYR,Yehy(lig amser yn ol, a mi yn y Swyddfa Filwrol, yr awyrgylch fel pe'n arogli o filitariaeth, yr hin yn boeth, y Negroaid oddiallan yn creu swn ansoniarus wrth weithio, ac ambell Hindw neu Arab yn cerdded heibio yn ei ddull distaw ei hun, daeth rhywun i mewn yn dwyn ar ei gefn ffet- an lwythog, ac yn ebrwydd anghofiais innau bawb a-phopeth oddieithr y gwr hwn a'r hyn oedd ganddo. Nid myfi yn unig oedd wedi sylwi arno, oblegid cyn pen ychydig iawn yr oedd y son wedi mynd ar led fod yna lythyrau wedi dyfod i fyny, ac wele y naill ar ol y llall yn chwilio esgus i ddyfod am dro ;i'r swyddfa er cael cyfle i ofyn i tf-r y ffetan-" A wyt wedi dod ar draws fy enw i yn rhywle ?" Yna deuai golwg foddhaus ar yr wynob fel un yn gweled ymyl arian y cwmwl tywyll yn dod i'r golwg am dro pan glywid yr ateb-" Oes, y mae yma rai i ti." Chwychwi sy'n ysgrifennu ambell lythyr i'r milwyr mewn gwahanol feysydd rhyfel, gresyn na ddeuai i'ch rhan i gael gweled yr olwg yna yn llewychu'r wyneb am un ennyd fach. Yr oedd cyfaill caredig wedi cofio am danaf innau ac wedi anfon imi gopi o'r Brython..Brysiais i rwygo'r papur oedd wedi ei rwymo oddeutu iddo, agorais y rhifyn, ac edrychais yn reddfol am yr head- line sydd i'w chael ymhob papur ymron yn y dyddiau yma yn rhoi ar ddeall i'r darllenydd fod tipyn o hanes y Rhyfel ar y tudalen. "Dacw ef," meddwn i, gan weled llyth- rennau breision- ar draws yr wyneb- ddalen. Ail-edrychais, rhwbiais fy llygaid. ac agorais hwynt led y pen. oblegid nid oedd yno air am yr hen Ryfel, eithr mewn Cym- raeg glan, gloew darllenais Hanes Eistedd- fod Aberystwyth," a bu ymron imi dorri cysegredig ddistawrwydd swyctdfa filwrol trwy weiddi allan—" Oes y byd i'r iaith Gymraeg!" Cefais ras i ddal heb wneyd felly, a da Wynny, oblegid y mae gan swyddfa, filwrol ddull hynod effeithiol o roi atalfa, ar dueddiadau byrbwyll fel yna ond pan ddaeth cyfle ciliais i fy mhabell wrt-Ji y mftr ac yno anghofiais am y Negroaid, yr Indiaid a'r Rhyfel yn Bn englynion y beirdd. araith Lloyd George, a su y dorf enfawr a ddaeth ynghyd yn Aberystwyth i ganu lien donau annwyl Cymru. Yr oeddwn wedi gwneyd cynnyg at gyfansoddi pennill neu ddau gan geisio rhoi allan rhai o deimladau llanc o Gymro," ymhell o'i fro ac ar ol derbyn y rhifyn hwn o'r Brython brysiais i'vv gorffen Awen Fwyn, os draw yng Nghymni Mae dy gartref di. A yw'n rhyfyg gofyn iti Groesi trothwy'th dy 1-- Gadael cartref glan gynghanedd. Gwlad,yr hen eisteddfod ryfedd, Ac i'newydd fyd Lie mae llanc o Gymro'n gorwedd Dan y palmwydd clyd ? Porffor ydyw haul yr Affrig Heno'n mynd i lawr, Hyfryd ydyw'r peraroglau Dan y coedydd mawr Minnau'n ddistaw yn hiraethu Am gael bod yn swn y Teifi Ar ei ffordd i'r mdr Rhai o adar mwynaf Cymru Unant yn y c6r, 0 mor brydferth ydyw'r tonnau'n Torri ar y traeth, Glas y m6r a hud y dwyrain Geisia'm dal yn gaeth Ond mi welaf mewn breuddwydion Dreflan wen yng Ngheredigion Yn y dyffryn cu Troediaf gyda fy ngliyfeillion Ei heolydd hi. Ti, 0 F6r, a'th don aflonydd, Bang iawn wyt ti. Tyr ar draethau gwlad fy mreuddwyd, Er fy mod yng nghartref swynion, Palmwydd clyd ac adar tlysion, Gwlad o gyfoeth eudd- Holl drysorau goreu'm calon Ddaw o Gymru rydd. Yr eiddoch yn gywir, v w (Pte.) R. IDWAL M. JONES. Army Ordnance Corps. British East African Expeditionary Force, 30. 11. 16. TystebfPedrog. I SYR,—Caniatewch inni air neu ddau yng nglýn a'r uchod. Y mae y mudiad hwn wedi bodgerbron y wladbellach am rai wythnosau, ac wedi cael cefnogaeth bur gyffredinol. Y mae eisoes £360 wedi eu haddo. Gwyddol-n fod llawer o gyfeillion yn bwriadu cyfrannu ond yn oedi anfon, ac fod amryw gyfeillion wrth y gwaith yn casglu. Bwriedir cau y drysorfa y dydd cyntaf o Fawrth, ac felly dymunwn i bawb a fwriada gyfrannu wneud hynny ar unwaith. Bydd yn dda gan liaws cyfeillion y Prif-fardd ddeall ei fod yn gwella'n rhagorol, ac wedi ail ymaflyd yn ei waith.—Yr eiddoch yn gywir, O. L. ROBERTS.> R. VAUGHAN JONES. Ysgrifenyddion. i

Advertising

Clep y Clawdd |

Basgedaid o'r Wlad.