Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Clep y Clawdd sef Clawdd Offa

Gorea Gymro, yr un Oddieartre…

IFfetan y Gol. I II

News
Cite
Share

Ffetan y Gol. Ceficd JClub foin anfon i'r Ffetan mai dyma'r gair sydd ar ei genau:- NITHIO'R GAU A NYTHU'R GWIR. Gair arall at fylNghyfeillion. At Olygydd Y BRYTHON Fy ANNWYL GYFAILL,-Toimlaf ddarfod i mi esgeuluso un peth arbennig ynglyn a chysylltiadau perthynasol fy annwyl ddi- weddar briod, sef y ffaith fod iddi chwaer- Mrs. William Griffiths, Prospect Vale. Collodd ei mam a'i chwaer hynaf flynyddoedd yn ol, y rhai a gladdwyd yn yr un man a hithau. Bocllonrwydd mawr i fy meddwl yw ddarfod i Mrs. Griffiths fod yn byw yn ein hymyl, yn gofalu'n dyner am ei hannwyl chwaer yn ystod biynyddoedd meithion ei chystudd, a'i bod gyda hi yn ei chystudd olaf oil hyd i'r diwedd. A goddefwch imi chwanegu ddarfod i'w hunanfeddiant, ei doethineb, ei chyfarwyddyd, a'i mwyneidd- dra diball hi fod yn foddion i arwain y plant a minnau trwy'r ystorom a'r tywyllwch, dan fendith yr Arglwydd, y tu hwnt i ddim a ddis- gwyliais. Er yn egwan ei hun, cafodd north i ddal yn ddewr, ac i gyfnerthu ac arwain eraill. Ni lwyddodd neb erioed i daenu cysgod mwy clyd am deulu mewn drycin, a hynny mor naturiol a phe na buasai'n gwneu- thur dim allan o'r cyffredin. Gyda golwg ar y llythyrau cysurlon lluosog a dderbyniais oddiwrth eglwysi o bob enwad, a chyfeillion personol o bell ac agos, ofer yn awr geisio eu hateb oil, ac maent yn parhau i'm cyrraedd. Mae'r cwbl yn ddatguddiad mawr i mi,—datguddiad o gariad dynol a dwyfol,—a gobeithiaf gael adferiad iechyd digonol cyn hir i gyfeirio atynt yn helaeth ach. Mawr yw fy rhwymau i'r cyfeillion lluosog am eu caredigrwydd imi Yn y dyfroedd mawr a'r tonnau." Er y gallaf ddywedyd, a hynny, mi gredaf, heb ryfygu, nad wyf yn ofni'r diwedd, eto mi hoffwn fyw i geisio cyflawni rhyw bethau, ac yn enwedig ddych- welyel i gylch o fywyd sydd wedi datguddio cymaint o faddeugarweh a chydymcleimlad a mi. Ond rhaid terfnyu. Yr eiddoch yn wir, Hyd. lal, 1916. PEDROG. Yr Iaith Fain a'i gwich mewn I Gorsedd. At Olygydd Y BRYTHON I ANNWYL MR. GOL.-BOtIl a feddyliwch o ddwyn Saesneg i Orsedd y Beirdd ? Hyderaf yn fawr y gwnewch eich goreu i'w chadw o Orsedd ac Eisteddfod Pen y Berewy. Dwrdiai rhai yn enbyd yn Aberystwyth am y bobl oedd yn dwyn Saeson a Saesneg i'r Orsedd, ac am y Saeson a'r Die Shon Dafyddion oedd yn dwyn ten hunain iddi, a barn onest un oedd fod eisieu llenwi'r cwbl ohonynt ag uwd a'u saethu. Dywedaf finnau hyn os oes eisieu canu God save the King yn olaf i gloi'r Orsedd i fyny, fod eisieu canu God save the People hefyd. Nid wyf yn dywedyd nad oes eisieu canu Duw gadwo'r Brenin-—gwyddom i gyd od arno ei eisieu ei gadw fel rhywun arall, a'i b ) d yn fendith tawr cael brenin duw- iol, ond y mae eisiau i ni ganu mwy ar Duw gadwo'r Bobl. Oes, ac y mae eisieu i ni gadw Saesneg allan o Orsedd y Beirdd. TEIFI. Cymhariaeth Mr. Lloyd George. At Olygydd Y BRYTHON u" I I SYR,—Clywais tod rhai o'r hen ffrindiau wedi ffromi eto dipyn wrth Mr. Lloyd George am a ddywedodd wrth wr y wasg American- aidd. Prif gwyn y cwynwyr Cymreig yw'r dull a gymerodd i egluro ei feddwl. Tram- gwyddant wrth y termau a ddefnyddiodd, ac awgrymant fod geiriau fel game, sportsman, ring, a'r eyffelyb, yn dangos diffyg chwaeth, a diffyg sylweddoliad o bwysigrwydd y rhyfel. Ond cwyd y gwyn, mi dybiaf, o ddiffyg syniad priodol o safle Mr. Lloyd George. Edrychir arno o hyd fel Cymro a dyn mawr Cymru yn unig, ac yntau, erbyn hyn, yn ddyn mawr y byd. Pe'n siarad a Chymry'n unig, defnydd- iasai gymariaethau gwahanol, ond gan ei fod yn siarad wrth y gwledydd, ac yn enwedig wrth yr Unol Daleithiau, yr oedd yn rhaid iddo ddefnyddio'r termau mwyaf dealladwy i gorff ei wrandawyr. Y mae gan y Cymro cyffredin rhyw ragfarn yn erbyn pob math ar bethau a elwir yn games, ac apeliant yn gwbl wahanol ato ef i'r hyn a wnant at y Sais a'r Americanwr. Y mae play the game yn cyf- lwyno ar unwaith i feddwl y Sais yr hyn sydd deg o gonest, a chredaf mai amhosibl fuasai i'r llefarwr anrhydeddus ddewis cymariaethau mwy priodol. Nid oes dim dichwaeth yn- ddynt. Oni chymer Paul y Campau Groeg- aidd i ddangos gwirioneddau ysbrydol ? Ac os oes rhywun wedi agor ei lygaid i bwys y rhyfel Mr. Lloyd George yw hwnnw. Nid oes neb wedi gweld ei ystyr ofnadwy o'r dechreu yn debyg iddo ef. Ac fe erys ei araith ar ddech- reu'r rhyfel i Gymry Llundain y datganiad uchaf a chliriaf a gafwyd eto o ystyr y rhyfel a safle'n gwlad. Hefyd, gofynnir Pam yr oedd yn rhaid iddo ef siarad ? Onid gwaith Arglwydd Grey oedd hynny ? Hwyrach mai ie, ond erys y ffaith fod y Weinyddiaeth, pan fydd eisieu datgan rhywbeth o bwys neilltuol, bob amser yn penodi Mr. Lloyd George i'r gwaith. Y mae un neu ddau o bethau yn cyfrif am hyn. Yn un peth, ei boblogrwydd anghymarol ymhob gwlad, felly ei air yn fwy dylanwadol, a'i allu diail i ddethol geiriau i wneud y datganiad yn groew a diamwys. Gofynnir hefyd, Oni fydd i ddatganiad mor bandant wneud mwy o ddrwg nag o dda ? Na fydd; y mae prif ddyijion Germani yn gwybod yn eithaf da erbynhyn eu bod wedi colli'r rhyfel, a'u hunig obaith wrth ei pharhau ydyw y medrant berswadio y Cynghreiriaid i dderbyn rhyw heddwch clytiog fel na fydd iddynt hwy dderbyn cyfiawn gosb am eu gwaith erchyll. Onid y peth goreu ydyw eu darbwyllo ar un- waith nad oes unrhyw obaith am hynny ? Ond bydd i ddatganiad croew Dyn Mawr Pry- dain rymuso llawer braich a chodi llawer calon ysig yn y gwledydd sydd wedi eu hanhreithio mor giaidd gan y gelyn. Nid wyf yn credu fod Mr .Lloyd George wedi dywedyd dim mwy nag a ddywedwyd eisoes gan y Prif Weinidog am benderfyniad y wlad hon i ddal hyd y diwedd; ac yn lie pigo beiau, byddwn ddiolchgar mai Cymro sydd yn sefyll heddyw fel prif gynrychiolydd yr hyn sydd uniawn a theg, a gelyn pennaf p-)b trachwant a gor- thrwm. 17 Sefton Square, DANIEL 0. JONES Lerpwl.

\ Fflint eto.

Advertising