Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Advertising

Y NAILL A'R LLALL AR DAITH.

News
Cite
Share

Y NAILL A'R LLALL AR DAITH. IV-Y Naill a'r Llall eto. NI all ceffyl haearn, mwy nag unrhyw un arall, fynd drwy'r byd heb fagu gwendidau, ac erbyn bore Mawrth yr oedd ceffyl y Llall yn dd rwg ei gyflwr,—yn fy r ei wynt, a i nwydau yn oriog, ac ychydig iawn o lywodraeth oedd gan ei--berchen amo pan welai oriwaered. Am hynny, amhriodol fuasai taith heb ei ddadgymalu. Yn y pethau hyn yr oedd y Llall ei hun yn hollol ddiymadferth, ond am y Naill, dywedasai rhywun amdano rywbryd rywdro, yn nyddiau meddalwch ieuenctid wrth astudio ei lawysgrif, fod ganddo gryn lawer o mechanical ingenuity. Bu'n ysu lawer gwaith am roddi prawf ar y dywediad ar geffyl haeam rhywun ond ei un ei hun, ac o'r diwedd daeth y cyfle. A chyn i'r Llall sylweddoli, yn ei ddiniweidrwydd, beth oedd yn bod, yr oedd ei geffyl wedi ei ddadgymalu wrth ei draed. Eithr bargen fawr ydoedd, a mawr oedd y chwysu a'r ymbalfalu am oriau, a'r haul crasboeth yn toddi popeth. Er hynny aeth y Waill t rwy'r helynt yn rhad- lon, am y sugnai lawer o gysur o suoganu gan- waith trosodd y pennill hwnnw o'r emyn Nefoedd y Seiclwr," ar y don Caersalem Ni chaf bynctiars yn y nefoedd, Ni ddaw drain i'r hyfryd, wlad Ni bydd brecs yn gwisgo ymaith Oddi mewn i'r Ganaan fad Caf ffri-whilio, etc., Yno, a'r awel i fy nghefn. Gwn nad yw diwinyddiaeth y pennill yrhyn y dymunv/n iddi fod, ond prin y deil ein hemyn- au goreu y prawf hwnnw. Gwendid mwyaf y pennill, hwyrach, yw cysylltu goriwaered r nefoedd. A'r ardal arall y cysylltir goriwaered fel rheol. Ond bu ei suoganu yn help mawr i mi yn fy nhrybini. Cadwodd fy nhymer yn dda nes dyfod ohonof i'r lan yn ddiogel. Wrth son am ffri-whilio, nid dyma'r tro cyntaf i'w gysylltu a diwinyddiaeth. Cof gennyf ddarfod i mi unwaith, pan yn Leeds, droi i mewn i wrando ar Dr. Ballard yn tra- ddodi un o'i anerchiadau adnabyddus. Ei destun y nos honno oedd Freewill and Deter- minism. Deffiniodd y ddau mewn modd dyfnddysg, ac aeth i brofi gwybodaeth y gynulleidfa. Dechreuoddiffreewill. Tyb- ier," medd ai, fod dyn yn mynd i lawr allt ar gefn ceffyl haearn. Y mae ganddo frees ardderchog, a chwbl lywodraeth arno, ac aiff y ceffyl yn ol y cyflymder a ddewisa ei farch ogwr. Beth y galwech hynny ? Ac ateb- odd y bobl, "free-will." Yna aeth i'w profi ynghylch Determinism. "Tybier," meddai fod y brecs yn torri, ac i'r ceffyl haearn ruthro i lawr, a'r dyn ar ei gefn yn ddiymad- ferth,—a alwech chwi hynny yn free will ? Na wnaem," ebe'r bobl. "Beth fuasa hynny ? ebe Dr. Ballard, a bu tawelwch mawr. Wel," meddai, peidiweh ag ofni,- beth fuasai hynny ? I Ac atebodd llais main yng nghanol y tawelwch yng nghongl bellaf yr oriel, free wheel Pan gafodd Dr. Ballard ei anadl, eisteddodd i lawr, a chwardd- odd nes bod y dagrau'n disgyn yn gawodydd i lawr ei rudd iau. Eithr nid hanes taith yw hynyna. Pryn- hawn braf oedd hwnnw, a chychwynasom am Benrhyn Deudraeth a Phorthmadog wrth ein pwysau. Yr oedd rhyw furmuron hyfryd yn ymdodei i'w gilydd yn fiwsig angherddol ei swyn wrth inni fynd i lawr ar hyd, glan Dwyryd,—murmur yr afon yn cymysgu a'r llanw, murmuron pryfetach fyrddiynau, aswn pladuriau a pheiriannau lladd gwair,—a'r swn yntau o'r pellter yn furmur hyfryd a'i nodyn ei hun iddo. Ac mor ami oedd lliwiau y fro a'i murmuron. Yr oedd rhyw wawr las tros y'mynyddoedd, ddwysach na glas yr awyr, a phorffor y grug yn ymylwe iddi. Yn eu canol gwelid ambell gae yd yn awr ac eilwaith fel gem ar fron mynydd, un cae yn wyrddlas, a'r llall yn danbaid felyn dan ei chwyn a'r caeau cyfagos yn llawn o lygaid dydd mawrion a blodau meillion. Yroedd gwrym Mho rthm adog y meddyliem ill dau y byd ohono, ond ag ef yn y safle y mae ynddi, tipyn yn swil y buom yn ei gwmni erioed. Cys-ylitem ef a phregethu cyfareddol hedegog, a gludai ei gynulleidfa i ganol y nef, ac ag esboniadau dysgedig, clir, a manwl, chofiannau gloywon a byw, nes ein bod bob amser yn ceisio gloywi cymaint ag a allem ar ein tipyn stoc ein hunain cyn mynd i'w gwmni. A'r prynhawn hwn, mewn blys mynd drwy ac ofn oedd ein hanes wrth ddy- nesu at ei dy i edrych amdano. Yr oedd ef, meddid wrthym, pan gyraeddasom yno, yn nhop yr ardd, ar lecyn uwchben y m6r, a golygfa oc1.idog a geir oddiyno. A beth allai gwr fel ef ei wneuthur mewn man felly ond mwynhau'r olygfa a myfyrio abreuddwydio ? Cyraeddasom yno, a dyna lle'r oedd ef ac un arall o wý-r amlwg y dref, mewn congl encil- iedig ar eu glininu, yn gwneuthur cut hwyaid, a'r chwys yn byrlymu i lawr. Do, syr, cyn- hesodd ein calonnau atynt mewn dull na allaf ei ddisgrifio. Gallem ninnau ill dau wneuthur cut hwyaid cystal a hwythau, a barnu w rth yr ymdrech ger ein bron. Yr oedd Paul hefyd o ran hynny, onid ydoedd ? yn wneuthurwr pebyll ond y mae'n fwy na thebyg, fel yn yr achos hwn, y cofir ei epistolau yn hwy na'i bebyll. Yn wyneb y datguddiad hwn, treul- iasom un o'r prynhawniau dedwyddaf a gawsom erioed yn eu ewmni,-prynhawn hollol ddilyffethair. Eisteddasom wedi peth crwydro ynghyd yn hir ar lan y m6r ym Mhorth y Gest, y -a gwylio'r plant yn chwarae ar y traeth, ac yn ymdrochi yn y dwfr. Ac ni ellir dychmygu dim mwy swynol na'r olygfa honno,—y m6r glas ar y ddehau, y traeth melyn a'r creigiau gloywlwyd oddi- tanom, y mynyddoedd llwydlas, a phorffor, a' du, ar y chwith, a ChasteU Harlech rhyngom a'r bryniau tywyll draw, fel castell wedi ei wau o niwl, nes tybio ohonom yr ymwasgarai pangyfodai'rawel ysgafnaf. Acennillamom a wnaeth hud Meirion hyd ddiwedd y dydd. Bechgyn tlawd ydym, Mr. Gol., ond ni ddyehmygasom erioed y buasai yn mynd mor dlawd amom oni fyddai raid inni droi i'r tloty am damaid. Er hynny dyna'r gwir,- yn nhloty'r Penrhyn y cawsom swper. Ac os caiff pawb gymaint croeso mewn tloty a n i syndod yw na buasai tlotai'r wlad wedi eu gorlenwi. Os byth y crwydrnn i'r Penrhyn eto, y croeso goreu inni fydd cael mynd i'r tloty am swper fel hwnnw. Oddiyno aethom heibio i'r gwaith powdrsy'n gwenwyno awyr y fro, ac yn ei difwyno a'i nwyon melynion. O'r anghenfil melltigaid sy'n anrheithio Ewrop heddyw Wele ei anadlyma yn taflu gwawr felen ar y creigiau a'r llysiau hyd bellter mawr, a chlywir ei arogl ffiaidd i fyny'r dyff ryn draw hyd Faentwrog. Ymddengys mai mawr oedd y cynnwrf pan ffrwydrodd rhan o'r gwaith tua blwyddyn yn ol. Crynodd y wlad am filltiroedd dan y ffrwydriad, a ffoai pawb o'r Penrhyn, gan gymryd eu clud ymaith yn y pethau cyntaf y gallent afael ynddynt,—troliau, cerbydau, berfeydd, a cherbydau plant. Ymddengjs i unhen begor geisio ffoi ar gefn ei geffyl,-ond nid oedd y ceffyl wedi arfer ffoi, ac er pob ymdrech meddiannai ei hun mewn amynedd. Wedi pwyo a churo dechreuodd y marchogwrymbil, ond i ddim diben. Yna aeth i fygwth, Go —— di, geffyl," meddai, "mae'r farn arno ni, mae dydd y farn wedi dwad yn swir ddigon iti." Ond bwriadai'r ceffyl wynebu'r farn yn hollol ddi-gryn, cams -ceffj 1 glan ei gymeriad ydoedd. Ac ni ellir ffoi ar geffyl o ffordd y farn. Melys oedd troi cefn ar y gw aith powd r am Faentwrog heibio i lan Dwy ryd, a'r Felenrhyd sydd o enwogrwydd Mabinogaidd, ac ni bu'r liudol na'r nos olygfa honno erioed yn fwy hudol na'r nos hon. Tawel, tawel, oedd popeth, nid oedd arlliw ton ar y r afon, na chysgod symud ar un gwelltyn. Priodasai'r llanw a'r afon mor llwyr onid oedd fel afon wydr, ac ni chyn- hyrfid hi hyd yn oed ag asgell pyagodyn, neu bryfj-n ar ei hwyneb. Ailewyrchai las yr awyr, a'r mynyddoedd amrjliw, nes ym- ddangos ohoni fel y nefoedd a'i hwyneb i waered. Mor gwbl dawel ydoedd a gwr yn y munudau hynny yn ei hanos pan fyddo afon ei fywyd a llanw'r tragwyddol wedi ymgolli cynllwyred i'w gilydd ag na byddo'rgwrych- yn ysgafnaf o don yn codi ar ei brofiad, ac na Wyr ym mhle y mae amser yn darfod a thra- gwyddoldeb yn d echreu. Ai dyna, tybed, yw Tangnefedd yr Ysbryd ? Ychydig yn uwch i fyny ar draws yr afon y mae un o'r cerryg ateb goreu a glywais erioed. Ynddi, wrth ffugio pregethu, clywem yn ddiweniaith sut bregethwyr jdym, ac wrth i'r Llall ganu wedi ei orchfygu A'r rhamant,—" O na byddai'n haf o hyd," clywid llais o ry wle o galon y creigiau'n dyfod tros yr afon lonydd, loyw, gan ddymuno'r un opeth yn yr un cywair, fel pedfai ei lais ef yn lais i gyfrinach ) greadigaeth ei hun. A ias ryfedd oedd 3- r ias a'n cerddai wrth gly wed ohonom Naturyn gweiddi a chryndod deigryn yn ei Hais, yn nhawelwch nefolaidd y min hwyr hwn-" 0 na byddai'n haf o hyd." Cyn bo hir rhwygir wyneb y creigiau hyn gan sto'rmydd gerwin y Moelwyn Mawr. Wedi dymuno nos dd ai'rgarrog ateb, gan ryw dybio ein bod yn siarad ag enaid y creigiau, ac iddi hithau ddymuno nos dda, i ninnau, aethom ymlaen heibio'r Felenrhyd, ardal bodci Pryderi, a chyraeddasom Faentwrog yn y gwyll. Bore crasboeth oedd bore MerCher, a bu llusgo a chwysu mawr eyn cyrraedd ohonom Ffestiniog ar ein ffordd i Lyn y Morynion. Wrth droi'n ol gwelem ddyffryn Maentwrog yn gorwedd fel gardd Paradwys o'n blaenau, ac o'r tu ol inni yr oedd mynyddoedd mawr ysgythrog a noethlwm o'r Moelwyn i'r Manod. I lawr ar y ddeheu y mae pulpud Huw Llwyd- Gormod yw'rdaith yno heddyw, yn enviedig gan inni ei weled o'r blaen. Ac ychydig yn uwch i fyny y mae Bryn Cyfergyd, lie y Haddwyd Llew Law Gyffes. 0 flodau'r ardal hon y ffurfi-wyd Blodeuwedd,—" Ac yna y cymerasant h wy flodau y deri, blodau y banad l, a blodau yrerwain ac o'rrhaihvnny ffurfio, drWv swyn, y forwjn decaf a thlysaf a welodd dyn erioed, a'i bedyddio a'r bedydd a wnaent yr ad eg honno, a dodi Blodeuwedd yn enw arm." Collwyd yr enw prydferth Blodeuwedd i ferched Cymru am ddarfod troi'r fun a'i dygai yn ddvlluan. IjGalwasom heibio i Egwys, a chawsom ef yng nghanol diddordeb englynion newydd, a daeth i ddangos y ffordd inni tua'r llyn. Wedi mynd ar dipyn o godiad tir, gwelid y I 't mynyddoedd fel mur oddiamgylch, a chopa'r Wyddfa unwaith eto'n dyfod i'r golwg, a gwnaiff hi i grwydryn deimlo'n gartrefol bob amser. Odditanom y mae dyffryn Cynfael, dyffryn moel, ychydig ei goed, a moel yw'r wlad i gyd. Blewyn byr iawn yw'r gwair ymhobman. Wed i cordd ed yn hir ar draws y moelydd, a dechreu blino, dacw ffordd y Bala'n dyfod i'r golwg, a charreg filltir yn ochr y ffordd. Cysur i ddyn yw gwybod faint o ffordd ydyw oddicartref pan fo wedi blino, a syniudasom ymlaen yn awchus er mwyn gwybod ein safle oddiwrth y garreg ond pan yn ymyl symud odd y garreg ac aeth ymaith,—canys dafad ydoedd, ac wele ni eilwaith ymhell o bobman heb fedru d.adrys ein cyflwr. Wedi croesi'r ffordd a chefnen drom, daethom at y llyn yng nghesail y bryn- iau. Llyfn oedd ei ddwfr, ond cyfododo awel ysgafn a rhy chiwyd ei wy neb amilfil o donnau man, a nofiai gwydd au'n urdd asol yn ei ddyf r- oedd. Y mae hyd yn oed gwydd a golwg urdd asol ami pan yn ei chynefin. Draw acw y mae craig uwchben y llyn, dyma lam y morynion. O'i phenhi y neidiod.d y moiy nion i'r llyn pan welsant golli ohonynt eu cariadon -gwyr AFdudwy. Wei, os med rasant neidio i'r llyn o ben y graig acw, morynion garan hir anghyffrectin oeddynt, a rhaid i Elfed ac ereill new id eu disgrifiad au ohony nt. Y mae'r llyn ymhell oddiwrth y graig agosaf ato, ac ni all gyfodi ond y chydig yn nes ati heb lifo trosodd tua Ffestiniog a'r Bala. Bum ar ban y llyn hwn unwaith o'r blaen a mi yn llencyn ugain oed llawn rhamant. Yr adag honno credwn y stori'n llythrennol, ond chwythu rhamant ymaith fel gwawn y mae stormydd bywyd, ac nid yw'r stori mor glir heddyw. Ai tybed mai olion ydyw o draddodiad a adroddid fel y r aberthid morynion ar ben y graig acw i dduwies y Ilyn ? neu ynteu ai naid duwiesau ym marwolaeth hen grefydd y w'r naid ? Sut bynnag, lle hyfryd i aros ynddo d ros gyfnod y r hir orffwys yw'rllecyn tawel, mynyddig, hwn. Ar ein ffordc1 yn ol galwasom i edrych am Elfyn. Cwyno gryn dipyn y bu ef yn ddi- wedd ar, ond y mae'n gwella. Braint oedd cael ysgwyd Haw ag ef na chefais mohoni o'r blaen. Y tro cyntaf i mi ei weled oedd mewn cae gwair ar bwys y Blaenau. Yr oedd wn yn yr ardal yn treulio ychydig wyliau pan yn llencj n ugain, ac wedi mynd i gae i drin gwair, ac wrthyf fy hun ymhen yehydig eil- iadau wedi dechreu gweithio mewn congl ar fin llwybr yn gorffwys. Daeth gwrheibio, ac edrychodd arnaf wrth basio, ond niddywed- odd air. Eithry roedd digon yn yred rychiad i ddangos ei fod yn wr anghyffredin iawn, a phrin y gwelais neb a thalcen mwy urdd asol. Wedi holi pwy ydoedd, dywedwyd wrthyf mai Elfyn ydoedd. Gellirdywedyd amdano fel y dywedodd un am Edmund Burks, na ellid ymochel rhag cawod yn ei gwmni heb d eimlo ei fod yn rhywun arbennig. Nid oes neb yng Nghymru a ganodd gymaint na chystal ar brofiadau'r dyfnder ag Elfyn. Ac y mae myrddiynnau yn Ewrop heddyw a'i eiriau ef yn wisg i'w profiadau Ni waeth im heb ymholi, ac ni waeth I ble y ffoaf holl bresennol yw Gorthrymder yn y byd. Y mae efe Fel darn o'm henaid. Cenfigennu wna Os medraf wenu. Nid rhyw anawdd iawn I ddyn fo'n drysu ym mieri'r byd Yw canu wrth fynd i dawelwch bedd. Sawl mil sy'n teimlo fel hyn heddyw, ac yn mOOru dywedyon yn ei eiriau torcalonnus eraill: "Golwg arno wna imi ganu," Ie, os yn gweld y lamp Yn y golwg mae'n wastad. Ond y gweled yw y gamp. Ie, y gweled y w y gamp, ond bydd popeth yn dda, os gellirdywedyd ei eiriau eraill hefyd Caraf donnau'r byd Os dygant fi i dawel Noddfa Duw. Na, ni chanodd neb brofiadau'r dyfnder yn gyffelyb iddo yng Nghymru. Prudd oedd mynd o Ffestiniog i'r Blaenau. Tai gweigion a welir ar bob Haw, ac y mae 61 bysedd TWi ar bobman. Cofiwn yn dda y berw, a'r llawenydd, a'r rhialtwch, fu yma unwaith, ond y mae hyd ynoed lleisiau'rbobl yn wahanol heddyw. Hyd yn oed yn eu chwerthin y mae nodyn lleddf. Yn ol a ni wedyn am Faentwrog, trn'r Ceunant Sych. Y mae dau swyn yn y Ceunant Sych. Un yw'r prydferthweh gwyllt sydJ ynddo, a'r llall yw'r medr sydd ynddo i'ch rhuthro ymlaen a chyflymder atmirnadwy. Mwynheais i'r naill ar bryn- hawn Sul flynyddoedd lawer yn ol bellach. Euthum i ac arall i law r am d ro ar ol te cyn oei fa'r nos, a swynwyd ni gan yr arddunedd. Cefais i brofiad rhy fed d y prynhawn hwnnw ar bont Rhaeadr Cymerau. Safem yno'n syllu ar y rhaeadr gorwylit yn rhiith rQ. Yn sydyn safodd y rhaead r yn ei unfan fel pedfai wedi rhewi ardarawiad amrant, adechreuodd y bont symud gan ruth ro ymlaen ynofnadwy gyflym, heb unrhyw gryndod yn y symud o gw bl. Gafaelais yn ei chanllaw a'm holl egni. Ond er mor gyflym y r ai, ac er fod y rhaead r yn gwbl lonydd, ni phellhai oddiwrthi ddim. Caeais fy llygaid yn fy mraw ao wcdi eu hagor diflanasai'r rhith. Eithryroedd yn rhy hwyr i fynd i na chapel nac eglwys. a bum hyd heddyw yn ceisio'n ofer liniaru cno fy nghyd wybod, Sagnais lawer o gysur o stori a glyw- ais rywdro am arlunydd ieuanc a dreuliodd wythnosau unwaith ym Metws y Coed, yn crwyd ro ac yn paentio a dywedir i ryw hen frawd fynd ato un diwrnod ac awgrymu'n ysgafn iddo mai priodol iawn fuasaiddo d roi i mewnyn awrac eilwaith i Dy'r Arglwydd, ac iddo yntau ateb,—" Ty'r Arglwydd ni wybum i mi erioed fod allan ohono." A cheisiais gysur o eiriau loan hefyd, sy'n dywedycl na welodd deml yn y Jerusalem Newydd, am fbd pobman yn y ddinas yn deml. Oes, y mae cysuron yn y pethau hyn i esgeuluswr moddion gras, ond dal i gnoi y mae'r hen gydwybod o hyd. Y swyn heno oedd nid edmygu prydferthwch y Ceunant Sych, eithr rhuthro trwyddo heb weld dim ond rhyw ddegllath o ffordd o'n blaenau, ac ar weled y degllath hynny y dibynnai ein holl fywyd. Treuliwyd drannoeth yn gwagsymerayn ol a blaen ym Maentwrog, y man tirion,- cartref y ddau William, William Ellis a William Roberts. Ym mynwent y Ilecyn tirion, tawel, hwn, y gorwedd y ddau, ac ynddi hi hefyd y mae maen Twrog ag olion ei bum bys arno, a d afiodd i lawr o ben y Moel, wyn. Un cryf oed Twrog Nid oes ardal d aw elach yn bod na hon. Gellir ty bio w eith iau nad oes neb yn byw ynddi, gan mor drwm y distawrwydd a'r tawelwch. Rhyw freu- ddwydio byw y mae hyd yn oed y coed, a symud a'r anifeiliaid, fel y symud ffigyrau breuddwyd,—yn hollol ddistaw. Ond ha! beth ywr llaiscroyw, clir, a glywir yn seinio o I un pen i'r pentref i'r Ilall ? A yw bloedd yr Archangel wedi ein cyrraedd yma o'r diwedd ? Edrychwntua'r fynwent, gan hannerddisgwyl gweled y bedd au'n ysgwyd,—na, nid yr Archangel yw, ond Gerallt. Ef sy'n deffrro eigyd-fforddolion,acyneyfodieu calonnau. Yna daw rhyw ddeffroad trwy'r lie, a siriola pawb. Beth a wnai Maentwrog heb fywyd a sirioldeb Gerallt, y mae'n anodd synio. Ond os oes tawelwch anghymharol yn y lie, y mae yma garedigrwydd felly hefyd. Pedfai cy- maint o swn ynddo ag o garedigrwydd, buasai yn amhosibl byw yno. O'r diwedd daeth dydd Gwener, diwrnod y troi'n ol, diwrnod crasboeth, a'r awyr yn crynnu dan y gwres, a'r ffurfafen a'illygaid yn fflamio'n ddidrugaredd arnom. Er mwyn rhoi'r Llall mewn tymer dda ar ddechreu'r daith,rhoddasom ein ceffylau ynytren o orsaf Maentwrog Road i'r Fron Goch. Arosasom ytehydig yn y Fron Goch yn edrych ar gar- charorion Sin Fein, gannoedd ohonynt, a'r mwyafrif yn fechgyn talgryf, cadarn, braf. Cydnabyddwn yn rhwydd mai ynfydion ydynt i gyd, )nfj-dion â'u pennau o'u lie, ond a'u calonnau'n iawn. Eithr wed.i cydnabod eu hynfyd rwydd yn Ý modd croywaf ai yma y mae'r unig ynfydrwydd ynglyn a thrychineb borcalonnus y Werddon ? Pe na buasai cymaint o ynfydrwyd bob tipyn ymysg llywodraethwyr y Werddon ag sydd ymysg y bechgyn hyn, buasent bod ag un ym myddin Prydain heddyw. Wrth ddynesu at y Bala teimlwn fy hun yn mynd yn ol i dymor fy mhlentyndod, a gwel- wn fy hun yn chwarae &'r bechgyn sydd hedd y w bob un, fel minnau, yn crwydro'r ddaear, neu, yn wir, wedi ymgolli yn y Distawrwydd Mawr. Magwyd fi ym hell o'r Balaachredwn amdani ei bod ar ffiniau'r byd yn rhywle, lie yr oedd yr anhygoel yn naturiol. Onid yn y Bala y trigai'r ddafad oedd Newydd werthu'i gwlan, A phibell o dybaco, A thanllwyth mawr o d an. A chredwn mewn gwirionedd yn y ddafad honno, ac un o drychinebau bywyd oedd gorfod taflu'r gred dros y bwrdd. Gwelsom y lie y trigai Thomas Charles ynddo,—a dyma'r ty, tybed, y daeth Mary Jones iddo ? Gwelsom y White Lion, o goffadwriaeth Fartleaidd. Gwelsom hefyd gofgolofnau Thomas Charles a rrhom Ellis. Un Thomas Charles a ddeil y tywydd oreu, ond per Tom Ellis i estyn ei fys tuag i fyny. Dywedir stori ddiddorol iawn am un o fechgyn y Bala ynglyn a hon. Ymddengys dd arfod i Mrs. Ellisymweled ag uno ysgolion y Bala dro'n ol. Cyflwynwyd hi wrth enw ei phriod i'r plant. Trodd un o'r bechgyn at ei gyfnesaf a sib ryd odd, "Wyddest ti pwy ydi hi?" Na wn i," ebr y llall. Gwraig y moniwment," e r yntau. Parhaed plant y Bala i dybio fod y moniwment hwn yn fyw, ac y mae gobaith amdanynt. Aethom at y llyn, ac yr oedd yn hollol lonydd a gloyw. Clywais i lawer o son am y Llyn eithr ni welais ef erioed o'r blaen ond yn y tren, ac ni ddychmygais ei fod hanner cyn brydferthed ag y mae. Yr oedd fel mor gwydr, heb unrhyw gynnwrf arno, ac megys mynd am dro i wlad hud oedd treulio awr mewn cwch arno. Gadawsom ef yn wahanol iawn i'r hyn yd oedd pan welsom ef gyntaf. Erbyn hyn yr oedd cwmwl tarannau uwch ei ben wedi dileu'r darlun o'r nefoedd oedd yn ei fynwes, a chwa wedi rhychu ei wyneb yn donnau cryfion. Wedi tamaid, wynebasom ar y Berwyn, ac 0 'r dringo anobeithiol, llethol, a'n harosai. Gwyddai'r Llall am y ffordd, eb ef, ond cam- esboniodd hi'n ddybryd, a gwelai ei phen yn barhaus, ond pan gyrhaeddem y pen hwnnw, d angosai rhyw ben pellach a hun fy th a hefyd. Distawodd yr ymgom, ac ni chlywid dim swn ond rhugn y ceffylau, ac ochain y marchog-. wyr a'u gwthiai, ac ambell i fref dafad Siriolem ar ddiwedd pob rhyw gyfnod annis- grifiol o hir, pan ddywedai carreg filltir wrth. ym fod Llangynog yn nesu. 0 ebe'r Llall toe, a chri anobeith yn ei lais, oedd yn teneuo fwyfwy o hyd. Pe cawn yr holl gerryg milltiroedd rhwng yma a. Llangynog at ei gilydd yn gymanfa, pregethwn iddynt nes bod hyd yn oed hwy yn neidio ac yn gor- foleddu." Ac y mae rhyw angerdd neilltucl wedi gafael mewn dyn pan lwydda i gyfodi go rfoled d y my sg cerry g n illtiroed d. A c hy maint oet I ein blinder Qnid oedd hyd yn oed dyffryn Edeyrnion yn anniddorol inni. O'r diwo.-liol dyna gy rraedd Llangynog, a chyrion yrhen ardal, a'r cyrny lau tarannau'n casglu'n osgorrld o'n hamgylch. A mi'n edrych oddi- amgylch clywn y Llall, oedd ar y blaen, yn siarad a rhywun dros y gwrych, mewn llais trwm, urddasol, llawn cyfrifoldeb. Siarad aguno'i ddeiliaid ydoedd, a'i croesawai'n 1, a rhaid gwisgo'r llais bellach a weddai i wr e awdurdod. Canys yn yr ardal hon nid gwr ar ei wyliau ydyv. ond gweinidog cyfrifol gweith6ar yn dwyn yr enw y Parch. Evan Roberts, Croesoswallt. Am danafinnau hefyd -druanohonof-rhai( i minnau bellach fwrw ysbryc g*yl odiiarnaf ac ard deify enw pan elwir fi yn E. Tegla Davies Llanrhaeadr Mochnant.

[No title]

Advertising