Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Brechtan Linsi.

News
Cite
Share

Brechtan Linsi. Bhifyn campus ydyw Cymru Awst. Da gan bawb ohonom weld llun cartref Dafydd y Garrreg Wen. Tynned Mr. Matthews lun ei fedd hefyd, ym mynwent Ynys CynliaeaM y llannerch fach fwyaf snec i orwedd ynddi genny fi o'r un yng Nghymru, pe cawswn fy ne-, is eithr,hynny ni chaf. Da gweld hefyd fod Elfyn yn ddigon iach i ail afael yn ei bin i sgrifennu llith ar Lygad i Weled Anian. Gwyr pawb fod ganddo ef un o'r rheini, ac na chaeed hwnnw am y rhawg. Dyma Cymru'r. Plant hefyd yn ymyl y Cumru mawr, ac arogl yr Hen Wlad ar bob dalen ohono. Hawdd o beth ydyw cadw cy- hoeddiad a phapur i sgleinio a bod yn dd a i w ryfeddu am fis a blwyddyn y gamp ydyw dal ei safon a chadw'i flas fel hyn am chwarter canrif. M Gweddus iawn fod yn Nhrysorfa'r Plant lun y diweddar olygydd, y Parch. Thos. Levi, a phortreiad ohono gan y Parch. T. E. Roberts, M.A., Aberystwyth, a chan ei golygydd mwy n a mod rus presennol-Anthropos. Fe glywais ddyn yn gofyn fwy nag unwaith pam y dewisodd Anthropos y llen-enw Groegaidd yna. Hwyrach yr etyb ef, yn ei ffordd Fark Twainaidd ddiail ei hun. »• Y peth cyntaf yn Y Drysorfa ydyw araith y Parch. Thos. Charles Williams, M. A., ar Natur Eglwys, a draddodwyd yng Nghymdeithasfa. Llanidloes. Pa bryd y mae Cymru am gaei cyfrol o bregethau Hoelen Wyth y Borth drwy'r wasg ? Dyma iddo deitl, onid oes ganddo un gwell ei hun,—€hvanwyn y Gwir, gan ddangos nad llathen farw ydyw hwnnw, eithr pren byw ac heb orffen tyfu o lawer, a'i frigau yn rhwygordail y cyffesion a r credoau wrth dyfu allan ohonynt. Fel y pren byw y olywais i wr y Borth yn ei bregethu, ac nid fel y llathen farw. -9- Cerddoriaeth yng ngwasanaeth YmneiUtuoJ Cymru ydyw testyn ysgrif y Proff. David Evans, Mi-is Bac., yn Y Cerddor. Da ragorol, ond go fer. Da fyddai gweld Y Cerddor yn bwrw'r gair gwrthnaws perdoneg o'r naill du. ac yn dywedyd piano yn ei le. Onid pôr ei don pob offeryn pan fo'n cael ei ganu'n iawn ? Nid yw perdoneg yn fwy o enw ar un mwy nag ar y llall. Ebe Ceiriog yn rhywle Gwrth- un o beth clywed ambell frigyn o sgriblwr yn dywedyd 'llythyrnod yn y papur newydd, a'r wlad i gyd tuallan i'w gut o yn dywedyd 4 stamp.' Y mae stamp yn eithaf Cymraeg, ond erthylod anghydnaws yw "perd,oneg a "llythyrnod." <  Gwelsom hwn yn un o gylchgronau Awst yma Shakespeare, Drayton and Ben Jonson "had a merry meeting, and, it seems, drank too hard, for Shakespeare died of a feavour there contracted." Dyfyniad ydyw o ddyddlyfr ficer Stratford oedd yn byw yno hanner can mlynedri ar ol i Brifardd y Byd far*. Ond peidier a bod yn galed ar y beirdd a'r dramodwyr, coflwch iffasiwn ou, hoes, a chofiwch fel y byddai Hoelion Wyth duwiolaf a hyotlaf Cymru'n dractio glasiad o gwrw cyn esgyn i'r pulpud i Gyhoeddi'r Cymod rhwng Duw a dyn. Ie, mynd yn ei flaen y mae'r byd, tuehanedy pesimistiaid llaes eu gwop faint a fynnont. « Y mae gan y Parch. Ddr. Robert Roberts, Caerwys, ysgrif ar Expediency yng Ngeiriadur newydd Dr. Hastings. Efe yv\ ?;r unig Gymro a chanddo ddim yn y cyhoeddiad uchelryw hwn. Yn Lerpwl y cododd y Doctor gwyl- aidd hwn yn bregethwr gwyr eystal a neb beth ydyw caledi a gwyr beth ydyw peidio a, cholli eiben wrth ddringo grisiau dysg a chlod. Lie iawn i fyfyrio ydyw Caerwys a phan elwais heibio eglwys y plwyf rai blynyddoedd ynol, gwelais y bu Ed ward Kyffin, y Cvmreig- ydd da, yn ficer neu reithior yno ton adeg. Cadwch iaith lan Edward Kyffin yn fyw yna, ydd da, yn ficer neu reithior yno un aaeg, Cadwch iaith lan Edward Kyffin yn fyw yna Doctor Roberts. Dyma dwr o lewion Maelor sydd wedi ayrthio yn y rhyfel y Preifat J. Wyatt, R.W.P.,Rhixabon; Sergt. Major Fisher, Canadian Infantry, brawd Mr. E. Mostyn Fisher, Brymbo Albert Williams, R.F.A., Rhostyllen; Preifat F. G. Jones, R.W.F., Rhosesmor, a dau frawd iddo ar y maes Priefat J. Roberts, R.W.F., mab Mr. a Mrs. John Roberts, y Poncie, a phum brawd iddo yn yr Armagedon Preifat J. Roberts, mab Mrs. Roberts, Str/t Isa, Rhos,—gwraig a phedwarmab i(I 0. i'n ymlaad, ac un arall wedi ei ladd fis Ebrill daiweddaf Preiaft T. Dar- lington, R.W.F., Rhos,—ymladdodd o'rblaen yn Rhyfel Da Affrica, a gedy weddw a phed war o blant Preifat J. Thomas, Rhos,- yntau wedi ymladd yn No Affrica, ac yn gadael gweddw a thri o blant Preifat T. A. Jones, R.W.F., 22ain oe:1, a weithiai yng agwaith Terra Cotta, Rhiwabon, ac a edy weddw a dau blentyn. -4* Dyma eraill svii wedi disgyn Preifat <5has. Roberts, brodor o-.Lan Tysilio, sir Drefaldwyn, ao a eiy weddw a dau o rai bach; Preifat E. W. Edwards, R.W.F-. 29ain oéj, a mab i Mr. David Ei wards, Rail- way lerraoe, Glyn Ceiriog, a brawd arall yn y Fytcin; Preifat T. Richards, Llanfair Caer, -einion, -9-1 Dyna fis braf ddiail a gawsam y mis d i- "weddaf yma, ac a fyddai'n beahad arnom %aidio a diolch amdano onrl er cystal genny f yr haf, diolch nad ydyw'n nara gydol y ilwyddyn. Can felys yw can Wm. D a-vie3- 0 na "ydd i'n haf o hyd, ond salac arwy neb 01 iawn ei hathroniaeth. Gwneud dyn yn ferohetaictd ababfaidd y inae'r ITaf gw, noiid dyn yn gryf ac yn wrthwynebwr caledi a phrofedigaethau y mae'r Gaeaf, a gorfodi dyn i weithio er each" 1 hunyn gynnes. Prin y bu yn y byd yma erioed ddyn mwy byw ei galon i deimlo Anian ag Emerson, a dym 1 eiriau am fis tebyg i hwn yr ydym ni yn ei gael y dyddiau hyn In this refulgent summer, it has been a luxury to draw the breath of life. Th e grass grows, the buds burst, the meadow is spotted with fire and gold in the tint o f flowers. The air is full of birds and sweet with the breath of pine, the balm-of Gilead, and the now hay. Night brings no gloom to the heart with its welcome "shade. Through the transparent dark- ness the stars pour their almost spiritual rays. Man under them seems a young child, and this huge globe a toy. The "cool night bathes the world as with a riverand prepares his eyes again for the crimson dawn. The mystery of nature was never displayed more happily. The corn and the wine have been freely dealt to all creatures, and the never broken silence with which the old bounty goes forward has not yielded yet one word of explanation." ■ M Yn Y, Faner y gwelsom y pwt a ganlyn :— Mown cyfarfod o Fwrdd Gwarcheidwaid Conwy, dywedodd Mr. William Davies, Colwyn Bay, iddo gymeryd bachgen o'r tloty i arcs i sir Fflint. Ni fedrai y bachgen Gymraeg, ac ni allai y rhai yr aeth ef i aros gyda hwy Saesneg. Yr oedd efe (Mr. Davies) wedi meddwl fod yrholl blant dan ofal y Gwarcheidwaid yn cael eu dysgu yn y ddwv iaith. Mr. J.W. Raynes, Llysfaen, addywedai ei bod yn glod i'r bachgen nad oedd ganddo eisieu dysgu Cymraeg.. ■% 11: Mr. William Davies Yna, nid wyf yn bwriadusiarad rhagoro Saesneg yny cyfar- fodydd hyn. Mr. Raynes a ofynai a oedd mewn trefn i siarad Cymraeg yn y cyfarfodydd. Yn ddilynol, siaradodd Mr. McClement yn Gymraeg, adyma rai o aelodau Hengistaidd y Bwrdd yn gweiddi 44 Trefn Trefn I Bobl bach y mae'n anodd i ddyn beidio â chael cwymp oèdiwrth ras wrth weld y Caiseriaid bach uniaith yma'n dangos y fath drahauster a dirmyg o iaith a delfrydau Cymru. A ninnau, yr hen wlanen inni, y n swatio ao ysgwyr" ein cynffonnau iddynt gan eu hofn Wfft inni Gresyn fod Emrys ap Iwan weii marw. ♦ Y mae Mr. Rowland Williams, Dolgellau- tad Llew Meirion, uno arweinyddion Eistedd- fod Aberystwyth—,yn un ar bymtheg a phedwar ugain oed, ac yn ddigon sionc ac ysbrydol i droedio i gapol Salem deirgwaith bob Sul. Dyna enghraifft eithriacol o WJ tn. wch corff ac ireidd-dra ysbryd. A dyna'r ganrif bron o Gymru sydd yn drofnus yn ei gof. Gwelsom fod Mr. W. J. Gruffydd, M.A.' darlithydd ar Gymraeg ym Mhrifysgol Caer- dydd, bellach tua Chamlas Suez. Bu'n hela mine.9 ym M6r y Gogledd am beth amBer; a diau, erbyn y darfyddo y rhyfel, y bydd wedi hel ei feddyliau'n gerdd dychan ddeifiol i filwriaeth a'r sowldiwra gorfod yma, canys er ei fod yn basiffist eye WybOl; ol parth cledd a gwn, y mae'n un o'r ymladdwyr ecraf a geiriau, a'i saeth, pan ollyngir o'i fwa yng Ngwent, yn ddigon cryf i gario a lladd yng Ngwynedd. -9- Y mae Miss Jennie Davies (merch y diweddar Barch. John Davies, Blaenannerch) yn mynd allan yn genhades dan yr Heart of Africa Mission. Ei thad a ysgrifennodd Gofiant John Jones, Blaenannerch. John Jones Talsarn oedd John Jones mawr y Gogledd ■, a phwy bynnag a'i clywodd ef yn d A ey(l, Ga'i ddweyd wrtho Fo (sef Crist) eich bod chwi'n dwad ?" nis anghofia'i oslef, byth. John Jones Blaenannerch oedd John Jones mawr y Doheudir a phwy bynnag a'i clywodd yntau'n gweiddi "lawn:" nis anghofia'r floedd fawr honno'n dragywydd. Ebe Islwyn g 0 clywsom ef yn bloeddio, fel angel yn y nef lawn lawn nes byidai'r creigiau yn adsain gan y llef lawn lawn mewn eilfloedd hyfryd, llond cae, llond byd o air, Llond tragwydioldeb hefycl, ei rinwedd byth a bair! I un sydd yn mynd yn hen, ymddengys fel petai'r dail yn disgyn yn gynarach y blyn- yddau hyn nag y byddent pan waeddem tweis wan ar tw yn yr ysgol ers talm. Dyma hwy yn gollwtig eu gafael o'r coed wrth y miliynnau eisoes, a chystal a dywedyd wrth fynd i lawr Yr wyt tithau'n crino, 'ngwas i, ac a fyddi'n disgyn ar y chwythad lleiaf un o'r dyddiau nesaf yma." Eithaf gwir, ddoilen felen ond dim ond ei hanner wyt yn ei ddywedyd, canys fe godwn eilwaith, yn wyrdd dragywydd, na byth i grino na melynu mwy. Y mae'n debyg nad ydyw pennill Edmwnt Prys ddim yn dy lyfr hymnau di Daw dydd i'r cyfiawn, trannoeth teg, Daw im' ychwaneg estyn Caf o fy medd gyfodi i fyw, Deheulaw Duw a'm (iorbyn. Yr wyf fi am beth o'r "ychwaneg estyn yna, beth bynnag amdanat ti.  Un o'r dynion a mw-yar o ofn marc fu yn y byd erioed oedd Owen Gruffydd, hen fardd Llanystumdwy ers talm. Tafiai ei feddwl yntau i gyfarfod Angau ar hyd ei oes, a byddarn gweld ei wyneb glas yn sgyrnygu arno ddydd a nos. Ond bu'r hen gleiriach ofnus fyw nes oo Id dros ei bel-Aarugainool. Ond er cymaint- oedd weii rehearsio ar farw nid oedd ddirn we ii gorften dysgu o lawer pan ddaeth Brenin BraN i'w nol. Y rhai sydd yn marw orou ydyw'r rhai sydd yn byw dan feddwl am rywbeth gwell a mwy teilwng o 'u bryd. -9-1 7, Carsm wybod gan rywun ohonoch pwy biau'r pennill Saesneg yma, ac a fedr lenwi'r ddau dwll sydd yn ei liiiell gyntaf Imagination ani error Man makes a death which Nature never made Then on the point of his own fancy falls, And feels a thousand deaths in fearing one. Dyna ergyd a wna les i Iwfryn.

Advertising

0 Lofft y Stabal.

Advertising