Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

Advertising

0 Big y Lleifiad.

News
Cite
Share

0 Big y Lleifiad. r GOSTEG, AM FUNUD ,sef i alwsylw Cymry' cylch at ddau neu dri o gyfarfodydd gwerth mynd iddynt:— r—I Gymry Birkenhead, Eisteddfod Adrodd Madame Gladys Williams heno (nos Iau), lie y ceir cyfle i'w chlywed yn mynd drwy amryw o ddarnau dwysaf a difyrraf yr iaith Saesneg, yn ei dull dramatig dihafal ei hun ac craill yn torri i ganu tra bo hi'n cael ei gwynt ati. 2-Chwarae Owain Glyndwr, drama Pedr Hir, yn y Gordon Institute, Stanley Road (yn ymyl y Stanley Hospital), cofier, ac nid yn y Town Hall, Bootle, fel yr hysbyswyd. Yr elw i gyd i Gronfa Maer Bootle at Gysuron y Milwyr. Dyma farn Mr. L. J. Roberts. M.A., H.M.I.S., am y ddrama.: Mae yn rhagorol ymhob ystyr; yn ddisgrifiad byw a chywir o'r gwron a'i amserau." 3-Chwefror 1f--21, ordeinio a sefydlu Mr. Thos* Michael, B.A.,B.D., yn weinidog eglwys Fedyddiol Earlesfield Road a throwch at yr hysbysiad, gael i chwi weld gynifer o ddoniau disglair De a Gogledd sy'n dod yno i roi'r efengylydd ieuanc yn y tresi. Daw ei lun a gwreichion cynhesaf yr anerchiadau yn Y BRYTHON nesaf. Sylwer mai am 7 y dech- reuir nos Lun, ac nid' 5, fel y dywedid ar y taflenni. DIM OND PYTHEFNOS EITO.-Nid oes dim ond rhyw bythefnos eto cyn y bydd Deddf y Gorfod mewn grym a rhag gweld yr un o'n bechgyn yn cae l ei nol a'i lusgo i'r Fyddin o'i anfodd a cherfydd ei glust, penderfyned pob Cymro ymuno ar unwaith. Ymofyner ag ysgrifenyddion y pwyllgor-Mr. W. 0. Thomas yn 15 Alroy Road, Anfield; neu k Mr. R. Vaughan Jones, 52 Hertford Road, Bootle. Bydd Mr. Thomas yn swyddfa ymrestrol yr Hay- market y ddau ddydd Sadwrn nesaf, o ddau ar gloch hyd hanner awr wedi pedwar, ac yn barod i gyfar- wyddo ac estyn pob cymorth dichoandwy, Peidier ag ofni dim ar y swyddogion ymrestrol; milwyr ydynt; ac yn gorfod gwisgo tipyn o dursiau llymder er mwyn cadw urddas eu swydd a grym disgyblaeth o dan y cwbl, mynych y curar galon garedicaf drwy'r holl fyd, ond nad yw dangos gormod ami yn fantais i effeithiolrwydd. Dyma'r gair a'r sicrwydd a gafodd Mr. Thomas oddiwrth y Swyddfa Rhyfel yn Llundain Bona-fide Welshmen in the Liverpool Recruiting are to be allowed (if they so request) to be drafted to the Welsh Regiments." Y mae hwnynah ddigon plaen a diamwys; dywedwch hyn pan eloch i gynnyg eich hun, ac fe gewch eich dymuniad heb nag na helynt. w SIAREDWCH rN BLAEN.-Y mae Ysgrifen- yddion Pwyllgor Cymreig Lerpwl sy'n gweithredu rhwng yr ymrestrwyr ac awdurdodau'r Fyddin yn cael mynych gwyn oddidraw ac yma fod y bechgyn, er gwaetha'r addewid y caent eu gosod mewn catrawd Gymreig yng Nghonwy, yn cael eu hunain wedi'r cwbl mewn catrawd Seisnig ac. ym rnheUteroedd Lloegr. Ond erbyn chwilio'r gwyn, nid oes dim sail iddi, canys bai'r bechgyn ydyw swilio a bod yn rhy dawedog ac amwys gerbron y swyddogion wrth ym- uno, yn lie dywedyd yn blaen a phendant fod arnynt eisiau cael bod gyda'r Gatrawd Gymreig yng Nghon- wy. Lie bynnag y dywedir hynny'n blaen a diofn wrthynt, y mae'r swyddogion yn rhwym o'ch rhoddi yn y gatrawd a ddymunech. r DDAU DAN ARDDELIAD.-Cynhaliai eglwys Crosshall Street gyfarfod pregethu nos Sadwrn a'r Saboth diweddaf. Y ddau gennad gwahoddedig oedd Dr. Moelwyn Hughes, Aberteifi, a'r Parch. Lemuel Jones o'r Goppa a'r ddau, mewn dwy ffordd bur wahanol a chyferbyniol i'w gilydd, yn dwyn allan ogoniant Trefn y Cadw. Grym dwysbigiad a melyster gwahoddiad yn cystadlu a'i gilydd am y dyfna'i le ynghalon y gwrandawyr astud a ddaeth i wrando drwy'r tair oedfa. Y mae'r eglwys wedi cael colled fawr yn ymadawiad ei horganydd, Mr. R. Goronwy Owen, mab Mr. a Mrs. J. H. Owen, Stanley Street, a Leasowe. Y mae i ddeehreu ar ei waith feI organydd Wesleaid Oakfield y Sul nesaf. Y mae'n Ilanc o fedr a dawn fel cerddor; bu ton neu ddwy o'i waith yn Yr Ymwelydd Misol; a dymuna'i hen eglwys a'i magodd bob Uwydd iddo wrth ei offeryn newydd yn Oakfield. OES AFIAITH Y CrMRY.-Nos Wener ddiweddaf, yn y Royal Institution, Colquitt Street, cafwyd darlith gan y Parch. D. D. Williams ar Rai o Agweddau Bywyd Cymru yn Oes Elizabeth. Pedr Hir yn y gadair; a Mr.' T. Arthur Lloyd, Dr. Richard Humphreys, a J. H. Jones yn diolch ar 1 y diwedd. Yr oedd y maes yn un eang ondllwydd- odd Mr. Williams i'wgrynhoi a'i bortreiadu a'r Jlwyr- edd' a'r cyfarwyddineb a nodwedda'i holl ddarlith- oedd. Cawsom syniad mor deneu oedd poblogaeth Cymru yn oes Elizabeth-dim ond chwarter miliwn i gyd gyda'i gilydd. Coedwigoedd oedd llawer o'r wlad, megis y profai'r llu enwau a ddyfynnwyd,—yn eu mysg, Coed Poeth, sef oedd ystyr hwnnw poeth yn yr un ystyr a phoeth, offrwm, coed i'w llosgi, a rhyddid i bobl Dyffryn Maelor fynd yno i'w nol. Cafwyd trem ar ddiwyd- iannau Cymru'r adeg honno—Bala'n enwog y pryd hwnnw am wneud gwlanenni; Niwbwrch am ei matiau; a llawer o drigolion Cymru yn byw ar bysgota mewn mor ac afon codid peth glo, mor bell yn ol a hynny, yng Nghoedpoeth, Rhondda, Rhymni, a Senghenydd ac oddiwrth gwpled a ddyfynnodd o waith Sion Tudur, gwelid fod codi slatis (llechi) mewn un man o leiaf. Caed trem ar ystad amaethyddiaeth y cyfnod ar gyflwr cymdeithasol gwreng a bonedd ar sut dai a adeiledid mai dyma'r adeg y daeth sim- neiau i fod gyntaf erioed, yn lie fod y mwg, fel yn y tai cyn hynny, yn gorfod mynd allan o'r ty goreu gallai. Yn Hunangofiant Arglwydd Herbert o Cherbury, ceid hanes ei dad yn ei anfon i Bias yn Ward, Dyffryn Clwyd, i ddysgu Cymraeg, er mwyn i'r aer ieuanc fedru siarad a'i denantiaid ar odre Maldwyn a'r Amwythig lie nad oes dim ond Saesneg i'w gael ers cenedlaethau erbyn hyn. Disgrifiwyd fel y cleddid mewn llian neu gynfas; ac wedi mynd a'r corff i'r gladdfa yn arch y plwyf, gollyngid y corff a'i gynfas i'r ddaear, a dychwelid gyda'r arch yn ol erbyn y corff nesaf. Dodid tywarchen las megis yn oben- nydd dan ben y marw'r adeg honno. Ceid Cymry'n amlwg yn y Llysoedd uchaf ac yn y Fyddin a'r Llynges, a'r Eglwys. Enwyd rhai, megis Rd. Hughes o Leyn Syr Prys Williams, un 0 gadfridogion dewraf ei oes Wm. Thomas, o Gaernarfon, laddwyd oehr yn ochr a Syr Philip Sidney yn yr Iseldiroedd Thomas Prys, Plas lolyn a Wm. Myddleton, a droes y Salmau gynghanedd pan yn mor-ladrata ar yr eigion. Ystyr- rid peth felly'n hollol gyson y pryd hwnnw, ac ar f or-ladrata yr ysgrifennodd amryw o awduron Saesneg eu llyfrau'r oes honno. Yr oedd rhyw afiaith antur- iaethus wedi meddiannau'r genedl; a pherygl Cymru, ar y pryd, oedd gwanychu ei bywyd gartref drwy fod goreuon ei gwyr yn mynd dros Glawdd Offa. Ceid y Cymry, yr oes honno fel o hyd, yn medru dadlu mewn tafarnau am bynciau dyrys diwinydd- aeth. "Am lean bu'r ymryson" eb e un o'r beirdd. Ceid Spenser yn canu clod y Cymry am eu cwrteisrwydd nid oedd dim yn ormod gan Michael Drayton ei ddy- wedyd am Gymry oes Elizabeth. Dyfynnwyd darn o waith rhyw W.R." yn enghraifft o sen ragfarnllyd arnom fel cenedl, gyffelyb i rai a'n hathrododd yn ddiweddar tan gysgod llyfr ffugenw. Ond yr oedd Shakespeare o'n plaid, megis y dangosai ei Fluellin, ei Glendower, ac eraill o'i gymeriadau; ac os Wm. Shakespeare o'n plaid, gallem fforddio dirmygu barn pob W.R. a'i hil. crN OERED A'R GRIFFT.-Wrth ddarlithio ar Ben Bowen yng nghapel Laird Street y nos o'r blaen, dywedodd y Parch. R. Beynon, B.A., Abercraf, stori fach werth ei hadrodd ar ei ollIe y clyw pawb sy'n euog o'r balchter oer ac eglwysaidd a frathir mor effeithiol ynddi:— Daeth rhyw ddyn dieithr i'r dref a phan ddaeth y Saboth, ffwrdd a fo i'r moddion yn yr eglwys agosaf ato. Rhyw groeso oer, deddfol a thrwynsur a gafodd aeth yr ail Sul a'r trydydd yr un modd, na neb yn holi fawr pwy ydoedd nac i bob golwg yn malio botwm corn ymhle'r oedd yn byw ac yn y blaen. Ond y pedwerydd Sul, torrodd un o'r swyddogion oedd wrth y drws ato, gan ei annog i ymuno a bwrw'i goelbren gyda hwy, for we have the cream of the town here," Yes, ice cream meddai'r Hall, yn sychlyd ei beswch a'i bwyslais Cyn oered a'r grifft ebe hen Gymry'r dyddiau gynt am rhyw ysgwyd llaw deddfol a dienaid heb ddim calon na difrifwch ynddi. As cold as the frog's spawn, os mynnech yn Saesneg. Ac fe wyr plant y wlad, sut bynnag amdanoch chwi blant y dref yma, beth mor oer ydyw hwnnw ar balf llaw dyn. I'R GAD" AR ALAW GOGERDDAN.- Dyma dri phennill-gwaith y Parch. D. Adams, B.A. (H awen)-a ganai Mr. R. Vaughan Jones yng nghyng- erdd croeso'r milwyr yn Bankhall y nos o'r blaen, ar alaw Plas Gogerddan Clywch Iais ein teyrn, I'r Gad I'r Gad 1 Yn fyddin ddewr a chryf, Yn fur, yn dwr i noddi'n gwlad, Rhag gelyn creulon hyf." I'r cais ateba'r Cymry'n llu (Pob Haw ar garn ei gledd); "I gwrdd a'r gelyn awn yn hy', A chloddiwn iddo fedd." Ein gwlad a dynn o'r wain ei chledd Yn nerth a nawdd i'r gwan Er rhoi yn ol ei thir a'i hedd I Belgium yn y man. Yn enw Iawnder cryf y ant Yn erbyn creulon Drais I gadw'r Rhyddid a fwynhant Ymladdant yn barhaus. Yn enw Cred ym moes ein Crist, Yn enw Hawliau dyn, Yn erbyn Gorthrwm draws yn dyst Yr ant i'r gad bob un. Hyn geidw'n gwlad yn Brydain Fawr, Yn fawr ei nerth a'i bri, 0 Dduw ein gweddi clyw yn awr 0 cadw, cadw hi. DIM GWrL DDI RW EST OL.—Yr oedd Gwyl Ddirwestol Lerpwl a'r cylch i'w chynnal yr wythnos nesaf y daflen wedi ei chysodi ac ar fin cael ei dos- barthu ond dyma'r pwyllgor yn gorfod oedi'r cwbl oherwydd yr anghaffael yngtyn a'r goleuo yn y capeli. Ceir yr wyl ymhellach draw, pan fo'r dydd yn hwy a'r perygl yn llai. 0 BLE DAETH T fJON ESI AID ?—Cyfenwau Cymreig (Welsh Surnames) oedd testyn darlith Mr. H. Higgins, F.F.I., gerbron Cymdeithas Genedlaethol Wallasey nos Fawrth yr wyth- nos ddiweddaf. Mr. J. Glyn Davies, M.A., Prifysgol Lerpwl, yn y gadair; a'r Mri. T. Humphreys Jones, Aneurin Rees, a W. A. Thomas yn cyflwyno'r diolchiadau ar y diwedd. Sais yw'r dar- lithydd, ond wedi dysgu Cymraeg, wedi astudio'i bwnc yn drwyadl; ac yn traethu arno mewn dull diddorol a goleu iawn. Dyma'i ddamcaniaeth wrth geisio cyfrif sut y daeth ein Cyfenwau Cymreig mwyaf lluosog i fod Oddiwrth y Brenin John y daeth y Jonesiaid,drwy i gynifer o filoedd o Gymry ymladd dan ei faner a chael eu hadnabod fel John's Men wedyn. Hughes oddiwrth Hugh de Montgomery, gan mai ym Mald- wyn a Phowys y ceid y cyfenw hwnnw luosocaf o unman. Edwards oddiwrth Edward I, yr hwn a aeth a miloedd o Gymry gydag o i ymladd yn erbyn y Sgotiaid. Oddiwrth Owen Glyn Dwr y daeth yr Oweniaid. Yr oedd dibyniaid brenhinoedd ac arglwyddi a barwniaid yn cael eu hadnabod, ebe'r darlithydd, fel John's men, Edwards's men, Owen's men, ac yn y blaen. Cafwyd sylwadau diddorol tuhwnt ar rai o bwyntiau'r ddarlith gan y cadeirydd; yn eu mysg, sylwai iddo gael yng nghofnodion yr eglwysi i ferch un o balastai Lleyn gael ei galw'n Dorothy, ac mai ar ol hynny y dath yr enw mor gyffredin ar enethod yn Lleyn, lie y'i gelwid yn Dorti, Doli, ac yn y blaen. rR ODFEUON A'U HADEG.-Gan nad oedd modd cael sicrwydd nac unffurfiaeth oddiwrth yr eglwysi gyda golwg ar awr dechreu'r moddion y Saboth, gadawyd yr adeg fel arfer yng ngholofn y Cyhoeddiadau. Rhaid i bawb fynnu'r sicrwydd drosto'i hun nes daw pethau i drefn. PILLIAU HENRT YONES.-Tarewais eil- waith ar fy hen gyfaill Henry Jones, Beech Road, Birkenhead; ac ebe fo, a'r ucha'i lais ar ddec cwch Woodside, nes oedd y Saeson yn sbio mor hurt a llo amom 'Rwy'n rhoi rhybudd ich', gyfeillion, Os y cwrddwch byth i'r BRYTHON, A thraethu iddo ond chwedl fechan, Fe a'i gwnaiff yn fynydd cyfan. Chwiliwch am yr hen lyfr hwnnw sydd gennych yn llawn o billiau telyn ac fe ddeuaf heibio i'w weld. tt tt U 0 GANOL r GWAED.-Dyma ran o lythyr Sergt. G. O. Wynne (15th R.W.F.) at gyfaill iddo yn Bootle Y gweddiau parhaus ar ein rhan allan yma sydd yn codi ein hysbrydoedd ac yr wyf yn credu fel y dywedodd gwr enwog wrthym cyn dyfod allan yma, ei fod yn credu na fu ac nad oes yr un fyddin yn cael cymaint o weddio ar ei rhan a'r fyddin Gymreig. Y mae'r hoys yn dai i wahodd y gelyn yn gynnes gyda Lloyd Georges, u fel eu gelwir. Syndod fel y clywir yr enw Lloyd George' yma mor fynych: nid fel politician, ond fel shell-maker. Yn y nos bydd y bwledi yn rhuthro o'ch ewmpas ymhob man. Y syndod ydyw cyn lleied sydd yn cael eu taro gyda hwynt. Y mae arferiad erbyn hyn wedi ein gwneud yn ddifater iawn ohonynt yn ein pasio cyn belled ag na tharawant neb y mae yn all right. Y mae gennym Ie mawr i ddiolch mai nid ar dir ein cartrefi y mae maes y frwydr hon. Ni ellir peidio a bod yn drist wrth weled y cartrefi sydd wedi eu malurio i'r llawr a'r bobl wedi ffoi a'u holl hegni, y mae'n amlwg, oddiwrth y dodrefn sydd i'w weled bron ymhob man yn y Ilwch a'r baw, wedi ei dorri yn dipiau. Buasai yn fwy trist gweled ein cartrefi ein hunain felly." ti it tt PREGETHAU'R DDROR SIWGR.-Cof gen- nym i'r diweddar Ddr. Hugh Jones, Bethlehem, adeg cyflwyno tysteb iddo wrth gyrraedd ei bedwar ugain oed, draethu swp o atgofion diddan am fore'i oes yn Sir Fon. Dyma un :— Bum yn brentis groser gyda mab John Elias a chan fod yr ias wneud pregethau yn gryf ynof pan yn las-hogyn fan honno, byddwn yn troi ati i'w cyfansoddi gynted y byddai'r siop yn wag a'r meistr allan. Un diwrnod, dyma fo i fewn yn bur sydyn ac annisgwyliadwy, ac a'm gwelodd yn taro'r bregeth yn chwap o'r golwg yn nror y siwgr ac ebe fo, yn sych ei beswch a'i bwyslais :— Fe ddylai dy bregethau di fod yn rhai melys iawn, Huw." tt tt tt

DAU rü,'li AFOIM.