Sale of Jewels. A Magnificent Stock, amounting into thous- ands of pounds, comprising finest quality Ladies' and Gent's Diamond Rings, Solid Gold Chains, High-grade Pocket and Self- Expanding Watch Bracelets, Gold and Silver Wristlet Watches, Solid Gold Bracelets, Brooches, Signet Rings, Necklets, Lockets, Diamond Earrings, Pendants, Diamond Pins, tttuds, etc., etc. ACCEPTABLE XMAS AND NEW YEAR GIFTS AT GREATLY REDUCED PRICES. Goods sent on approval. Money refunded if not as repres- ented. Tel. 716 Anfield. SALE PRICE LIST FREE. Davies s.30 Low Hill. OPEN ALL DAY SAT—CLUiSE WED. at 1. Ladies' 18-ct Diamond Rings Usual Sale Price. Price. JMAMONDS-Five -stone, lustrous, gems, half-hoop, stylish claw setting, hall marked ;C3 ;6117 I- DIAMONDS-Lustrous 5-Stones, beautiful first-water gems; neat strong claw setting £4£1/19/- I DIAMONDS-Very strong, fash- ionable, large 5-Stone claw-set Half-hoop Engagement Ring, rare lustre, fire and beauty £ Q £ 2jl^tj- DIAMONDS-Large first-water 5-Stone selected gems intense fire and beauty; heavy 18-carat gold carved, claw setting life- long satisfaction £ 8 £ 4/15/- DIAMOND and Sapphire Half. hoop, claw set .£6 £ 2-15/- DIAMOND and Turquoise Half- hoop, claw set £6£2jI5/- 35-GUINEA LARGE DIAMOND HALF-HOOP —LARGE HALF-HOOP, contain- Oil c/_ mg fire pure white first-water DIAMONDS intense fire and brilliancy choice Xmas present; handsome 18-ct. heavy claw setting; also beautiful large 3-stone Half-hoop Platinum Diamond Ring; sale price £ 6/18/ usual £12. Also large Coronet Platinum 5-Stone Diamond Half-hoop, very fine quality; sale price £9/15 j-, usual £ 18. Also large 3-Stone Diamond Cross-over Platinum; sale price Cllllll-, usual £ 21 Also superb Lady's Single-Stone Diamond Platinum Set, £ 8/19/ usual £ 15. Also very large 2-Stone Cross-over Diamond Ring, Platinum Set, ;C161101-, usual £ 30. Also large 5-Stone Diamond Half-hoop sale price £ 14 (17 usual £ 25. Also very large 3-Stone Platinum Diamond Ring, rare value, £ 18 /10 u sual S35 ditto, £ 21 /10/- ditto, £29110 1-. Also large 3-Stone extra fine quality Platinum Set; sale price £65, usual £120. Grand Dis- play at Reduced Prices. SALE PRICE £ 3 /19 USUALLY S8. Russell's Gold Watch Bracelet LATEST SOLID GOLD WATCH BRACE- LET, by Russell and Sons, Church street, Liverpool; new six months ago (proof); high grade, full jewelled, latest improvements ACCURATE warranted by makers and our guarantee; ditoo, 65/ Also Solid Gold Self-Expanding Watch Bracelets, by noted makers, at the following Sale Prices :— £ 2/6/6, £ 2/15/ £ 3/5/ £ 3/10/ and £ 3 /15 Also Solid Gold Benson, London sale price £4{17 /6 usually £ 10. Also Solid 15-et. Gold Watch Bracelet, by Penlington sale price 661151-, usually £12. Also 18-ct. Diamond and Ruby Watch Bracelet, £ 12/18/ usual £25. Also Russell's 60. Guinea Diamond and Platinum Set Self- Expanding Watch Bracelet; sale price RELIABLE GOLD & SILVER STRAP BRACELETS. 16/11 —LADY S Sterling Silver, full- jewelled, accurate timekeeper; also Gent s strong full-size sterling Silver ditto, 21/ with radium dial; superior 27 /6 also Lady s Solid Gold, full jewelled Strap Wristlet; sale price £ 1/7/6; ditto, 29/6 and 35/ also Russell & Son's Lady's Solid Gold Lever Strap Wristlet; sale £ 2 /1216 also Gent's Solid Gold Lever Wrist- let; sale price £ 2/15/ usual £ 5/5/ Also Gent's Solid Goid WALTHAM Lever Wrist- let; sale £ 4/7/6. usual £ 7/7/—. Approval. All in perfect order and warranted correct timekeepers. Davies's Sale Xmas Presents Usual Price. Sale Price. £3 LINKS, Solid heavy Gold, Plain Oval. X 7 fj 17 PIN STUD, Large Diamond, very lustrous, claw set 3 19 6 21 SIGNET Ring (Gent's), solid, plam top 0 10 6 17/6NECKLET, Solid Gold, Dia- mond Cut 0 10 6 3a /-SCARFPIN, Solid 15-ct. double cut, real Diamond 0 14 6 21 /-LOCKET, oval, engraved, solid gold 0 8 6 21 I-LINKS, oval, engraved, very x neat. 0 9 6 45 /-SIGNET, (Gent's) solid, heavy 18-ct., plain top 1 10 0 30 I-BROOCH, real Diamond, solid gold, bargain. 0 10 6 Brooch, solid gold, beautiful design 0 17 6 CO j-PIN -STUD, CluaterDiamond & Pearls, choice 1 12 6 j:5 BUCKLE, Gent's, heavy, dia- mond centre I8-ct. 2 10 0 £ 5 BANGLE Ring, Gent's, wide, 18-ct., diamond centre 2 12 0 EVERY ARTICLE GENUINE—FULL GUARANTEE WITH EACH. SALE PRICE, £ 1/5/- USUALLY 45/- Gold Curb Padlock Bracelet, &c. SOLID GOLD Fashionable Curb and Pad- lock Bracelet, stamped upon every link also at 27 /6, 29/6, 31 and 35/- also 4-guinea massive Curb, and Padlock Bracelet, sale price £ 2/5 others at 50 and 55 also 4-bar gate pattern Bracelet with padlock, sale price 29 /6 others at 38 42 and 45/- also Solid Gold wide Engraved Band Bracelet, sale price 16/11, 18/11, 21/ 25/ and 29/6; also Diamond and Ruby 5-stone Band Bracelet, sale price £ 1 19 usually 15; ditto, with Sapphires and Diamonds, 42/ usually, £ 5/5/ Approval. DAVIES'S, 30 LOW HILL
0 Big y Lleifiad. r GOSTEG, AM FUNUD ,sef i alwsylw Cymry' cylch at ddau neu dri o gyfarfodydd gwerth mynd iddynt:— r—I Gymry Birkenhead, Eisteddfod Adrodd Madame Gladys Williams heno (nos Iau), lie y ceir cyfle i'w chlywed yn mynd drwy amryw o ddarnau dwysaf a difyrraf yr iaith Saesneg, yn ei dull dramatig dihafal ei hun ac craill yn torri i ganu tra bo hi'n cael ei gwynt ati. 2-Chwarae Owain Glyndwr, drama Pedr Hir, yn y Gordon Institute, Stanley Road (yn ymyl y Stanley Hospital), cofier, ac nid yn y Town Hall, Bootle, fel yr hysbyswyd. Yr elw i gyd i Gronfa Maer Bootle at Gysuron y Milwyr. Dyma farn Mr. L. J. Roberts. M.A., H.M.I.S., am y ddrama.: Mae yn rhagorol ymhob ystyr; yn ddisgrifiad byw a chywir o'r gwron a'i amserau." 3-Chwefror 1f--21, ordeinio a sefydlu Mr. Thos* Michael, B.A.,B.D., yn weinidog eglwys Fedyddiol Earlesfield Road a throwch at yr hysbysiad, gael i chwi weld gynifer o ddoniau disglair De a Gogledd sy'n dod yno i roi'r efengylydd ieuanc yn y tresi. Daw ei lun a gwreichion cynhesaf yr anerchiadau yn Y BRYTHON nesaf. Sylwer mai am 7 y dech- reuir nos Lun, ac nid' 5, fel y dywedid ar y taflenni. DIM OND PYTHEFNOS EITO.-Nid oes dim ond rhyw bythefnos eto cyn y bydd Deddf y Gorfod mewn grym a rhag gweld yr un o'n bechgyn yn cae l ei nol a'i lusgo i'r Fyddin o'i anfodd a cherfydd ei glust, penderfyned pob Cymro ymuno ar unwaith. Ymofyner ag ysgrifenyddion y pwyllgor-Mr. W. 0. Thomas yn 15 Alroy Road, Anfield; neu k Mr. R. Vaughan Jones, 52 Hertford Road, Bootle. Bydd Mr. Thomas yn swyddfa ymrestrol yr Hay- market y ddau ddydd Sadwrn nesaf, o ddau ar gloch hyd hanner awr wedi pedwar, ac yn barod i gyfar- wyddo ac estyn pob cymorth dichoandwy, Peidier ag ofni dim ar y swyddogion ymrestrol; milwyr ydynt; ac yn gorfod gwisgo tipyn o dursiau llymder er mwyn cadw urddas eu swydd a grym disgyblaeth o dan y cwbl, mynych y curar galon garedicaf drwy'r holl fyd, ond nad yw dangos gormod ami yn fantais i effeithiolrwydd. Dyma'r gair a'r sicrwydd a gafodd Mr. Thomas oddiwrth y Swyddfa Rhyfel yn Llundain Bona-fide Welshmen in the Liverpool Recruiting are to be allowed (if they so request) to be drafted to the Welsh Regiments." Y mae hwnynah ddigon plaen a diamwys; dywedwch hyn pan eloch i gynnyg eich hun, ac fe gewch eich dymuniad heb nag na helynt. w SIAREDWCH rN BLAEN.-Y mae Ysgrifen- yddion Pwyllgor Cymreig Lerpwl sy'n gweithredu rhwng yr ymrestrwyr ac awdurdodau'r Fyddin yn cael mynych gwyn oddidraw ac yma fod y bechgyn, er gwaetha'r addewid y caent eu gosod mewn catrawd Gymreig yng Nghonwy, yn cael eu hunain wedi'r cwbl mewn catrawd Seisnig ac. ym rnheUteroedd Lloegr. Ond erbyn chwilio'r gwyn, nid oes dim sail iddi, canys bai'r bechgyn ydyw swilio a bod yn rhy dawedog ac amwys gerbron y swyddogion wrth ym- uno, yn lie dywedyd yn blaen a phendant fod arnynt eisiau cael bod gyda'r Gatrawd Gymreig yng Nghon- wy. Lie bynnag y dywedir hynny'n blaen a diofn wrthynt, y mae'r swyddogion yn rhwym o'ch rhoddi yn y gatrawd a ddymunech. r DDAU DAN ARDDELIAD.-Cynhaliai eglwys Crosshall Street gyfarfod pregethu nos Sadwrn a'r Saboth diweddaf. Y ddau gennad gwahoddedig oedd Dr. Moelwyn Hughes, Aberteifi, a'r Parch. Lemuel Jones o'r Goppa a'r ddau, mewn dwy ffordd bur wahanol a chyferbyniol i'w gilydd, yn dwyn allan ogoniant Trefn y Cadw. Grym dwysbigiad a melyster gwahoddiad yn cystadlu a'i gilydd am y dyfna'i le ynghalon y gwrandawyr astud a ddaeth i wrando drwy'r tair oedfa. Y mae'r eglwys wedi cael colled fawr yn ymadawiad ei horganydd, Mr. R. Goronwy Owen, mab Mr. a Mrs. J. H. Owen, Stanley Street, a Leasowe. Y mae i ddeehreu ar ei waith feI organydd Wesleaid Oakfield y Sul nesaf. Y mae'n Ilanc o fedr a dawn fel cerddor; bu ton neu ddwy o'i waith yn Yr Ymwelydd Misol; a dymuna'i hen eglwys a'i magodd bob Uwydd iddo wrth ei offeryn newydd yn Oakfield. OES AFIAITH Y CrMRY.-Nos Wener ddiweddaf, yn y Royal Institution, Colquitt Street, cafwyd darlith gan y Parch. D. D. Williams ar Rai o Agweddau Bywyd Cymru yn Oes Elizabeth. Pedr Hir yn y gadair; a Mr.' T. Arthur Lloyd, Dr. Richard Humphreys, a J. H. Jones yn diolch ar 1 y diwedd. Yr oedd y maes yn un eang ondllwydd- odd Mr. Williams i'wgrynhoi a'i bortreiadu a'r Jlwyr- edd' a'r cyfarwyddineb a nodwedda'i holl ddarlith- oedd. Cawsom syniad mor deneu oedd poblogaeth Cymru yn oes Elizabeth-dim ond chwarter miliwn i gyd gyda'i gilydd. Coedwigoedd oedd llawer o'r wlad, megis y profai'r llu enwau a ddyfynnwyd,—yn eu mysg, Coed Poeth, sef oedd ystyr hwnnw poeth yn yr un ystyr a phoeth, offrwm, coed i'w llosgi, a rhyddid i bobl Dyffryn Maelor fynd yno i'w nol. Cafwyd trem ar ddiwyd- iannau Cymru'r adeg honno—Bala'n enwog y pryd hwnnw am wneud gwlanenni; Niwbwrch am ei matiau; a llawer o drigolion Cymru yn byw ar bysgota mewn mor ac afon codid peth glo, mor bell yn ol a hynny, yng Nghoedpoeth, Rhondda, Rhymni, a Senghenydd ac oddiwrth gwpled a ddyfynnodd o waith Sion Tudur, gwelid fod codi slatis (llechi) mewn un man o leiaf. Caed trem ar ystad amaethyddiaeth y cyfnod ar gyflwr cymdeithasol gwreng a bonedd ar sut dai a adeiledid mai dyma'r adeg y daeth sim- neiau i fod gyntaf erioed, yn lie fod y mwg, fel yn y tai cyn hynny, yn gorfod mynd allan o'r ty goreu gallai. Yn Hunangofiant Arglwydd Herbert o Cherbury, ceid hanes ei dad yn ei anfon i Bias yn Ward, Dyffryn Clwyd, i ddysgu Cymraeg, er mwyn i'r aer ieuanc fedru siarad a'i denantiaid ar odre Maldwyn a'r Amwythig lie nad oes dim ond Saesneg i'w gael ers cenedlaethau erbyn hyn. Disgrifiwyd fel y cleddid mewn llian neu gynfas; ac wedi mynd a'r corff i'r gladdfa yn arch y plwyf, gollyngid y corff a'i gynfas i'r ddaear, a dychwelid gyda'r arch yn ol erbyn y corff nesaf. Dodid tywarchen las megis yn oben- nydd dan ben y marw'r adeg honno. Ceid Cymry'n amlwg yn y Llysoedd uchaf ac yn y Fyddin a'r Llynges, a'r Eglwys. Enwyd rhai, megis Rd. Hughes o Leyn Syr Prys Williams, un 0 gadfridogion dewraf ei oes Wm. Thomas, o Gaernarfon, laddwyd oehr yn ochr a Syr Philip Sidney yn yr Iseldiroedd Thomas Prys, Plas lolyn a Wm. Myddleton, a droes y Salmau gynghanedd pan yn mor-ladrata ar yr eigion. Ystyr- rid peth felly'n hollol gyson y pryd hwnnw, ac ar f or-ladrata yr ysgrifennodd amryw o awduron Saesneg eu llyfrau'r oes honno. Yr oedd rhyw afiaith antur- iaethus wedi meddiannau'r genedl; a pherygl Cymru, ar y pryd, oedd gwanychu ei bywyd gartref drwy fod goreuon ei gwyr yn mynd dros Glawdd Offa. Ceid y Cymry, yr oes honno fel o hyd, yn medru dadlu mewn tafarnau am bynciau dyrys diwinydd- aeth. "Am lean bu'r ymryson" eb e un o'r beirdd. Ceid Spenser yn canu clod y Cymry am eu cwrteisrwydd nid oedd dim yn ormod gan Michael Drayton ei ddy- wedyd am Gymry oes Elizabeth. Dyfynnwyd darn o waith rhyw W.R." yn enghraifft o sen ragfarnllyd arnom fel cenedl, gyffelyb i rai a'n hathrododd yn ddiweddar tan gysgod llyfr ffugenw. Ond yr oedd Shakespeare o'n plaid, megis y dangosai ei Fluellin, ei Glendower, ac eraill o'i gymeriadau; ac os Wm. Shakespeare o'n plaid, gallem fforddio dirmygu barn pob W.R. a'i hil. crN OERED A'R GRIFFT.-Wrth ddarlithio ar Ben Bowen yng nghapel Laird Street y nos o'r blaen, dywedodd y Parch. R. Beynon, B.A., Abercraf, stori fach werth ei hadrodd ar ei ollIe y clyw pawb sy'n euog o'r balchter oer ac eglwysaidd a frathir mor effeithiol ynddi:— Daeth rhyw ddyn dieithr i'r dref a phan ddaeth y Saboth, ffwrdd a fo i'r moddion yn yr eglwys agosaf ato. Rhyw groeso oer, deddfol a thrwynsur a gafodd aeth yr ail Sul a'r trydydd yr un modd, na neb yn holi fawr pwy ydoedd nac i bob golwg yn malio botwm corn ymhle'r oedd yn byw ac yn y blaen. Ond y pedwerydd Sul, torrodd un o'r swyddogion oedd wrth y drws ato, gan ei annog i ymuno a bwrw'i goelbren gyda hwy, for we have the cream of the town here," Yes, ice cream meddai'r Hall, yn sychlyd ei beswch a'i bwyslais Cyn oered a'r grifft ebe hen Gymry'r dyddiau gynt am rhyw ysgwyd llaw deddfol a dienaid heb ddim calon na difrifwch ynddi. As cold as the frog's spawn, os mynnech yn Saesneg. Ac fe wyr plant y wlad, sut bynnag amdanoch chwi blant y dref yma, beth mor oer ydyw hwnnw ar balf llaw dyn. I'R GAD" AR ALAW GOGERDDAN.- Dyma dri phennill-gwaith y Parch. D. Adams, B.A. (H awen)-a ganai Mr. R. Vaughan Jones yng nghyng- erdd croeso'r milwyr yn Bankhall y nos o'r blaen, ar alaw Plas Gogerddan Clywch Iais ein teyrn, I'r Gad I'r Gad 1 Yn fyddin ddewr a chryf, Yn fur, yn dwr i noddi'n gwlad, Rhag gelyn creulon hyf." I'r cais ateba'r Cymry'n llu (Pob Haw ar garn ei gledd); "I gwrdd a'r gelyn awn yn hy', A chloddiwn iddo fedd." Ein gwlad a dynn o'r wain ei chledd Yn nerth a nawdd i'r gwan Er rhoi yn ol ei thir a'i hedd I Belgium yn y man. Yn enw Iawnder cryf y ant Yn erbyn creulon Drais I gadw'r Rhyddid a fwynhant Ymladdant yn barhaus. Yn enw Cred ym moes ein Crist, Yn enw Hawliau dyn, Yn erbyn Gorthrwm draws yn dyst Yr ant i'r gad bob un. Hyn geidw'n gwlad yn Brydain Fawr, Yn fawr ei nerth a'i bri, 0 Dduw ein gweddi clyw yn awr 0 cadw, cadw hi. DIM GWrL DDI RW EST OL.—Yr oedd Gwyl Ddirwestol Lerpwl a'r cylch i'w chynnal yr wythnos nesaf y daflen wedi ei chysodi ac ar fin cael ei dos- barthu ond dyma'r pwyllgor yn gorfod oedi'r cwbl oherwydd yr anghaffael yngtyn a'r goleuo yn y capeli. Ceir yr wyl ymhellach draw, pan fo'r dydd yn hwy a'r perygl yn llai. 0 BLE DAETH T fJON ESI AID ?—Cyfenwau Cymreig (Welsh Surnames) oedd testyn darlith Mr. H. Higgins, F.F.I., gerbron Cymdeithas Genedlaethol Wallasey nos Fawrth yr wyth- nos ddiweddaf. Mr. J. Glyn Davies, M.A., Prifysgol Lerpwl, yn y gadair; a'r Mri. T. Humphreys Jones, Aneurin Rees, a W. A. Thomas yn cyflwyno'r diolchiadau ar y diwedd. Sais yw'r dar- lithydd, ond wedi dysgu Cymraeg, wedi astudio'i bwnc yn drwyadl; ac yn traethu arno mewn dull diddorol a goleu iawn. Dyma'i ddamcaniaeth wrth geisio cyfrif sut y daeth ein Cyfenwau Cymreig mwyaf lluosog i fod Oddiwrth y Brenin John y daeth y Jonesiaid,drwy i gynifer o filoedd o Gymry ymladd dan ei faner a chael eu hadnabod fel John's Men wedyn. Hughes oddiwrth Hugh de Montgomery, gan mai ym Mald- wyn a Phowys y ceid y cyfenw hwnnw luosocaf o unman. Edwards oddiwrth Edward I, yr hwn a aeth a miloedd o Gymry gydag o i ymladd yn erbyn y Sgotiaid. Oddiwrth Owen Glyn Dwr y daeth yr Oweniaid. Yr oedd dibyniaid brenhinoedd ac arglwyddi a barwniaid yn cael eu hadnabod, ebe'r darlithydd, fel John's men, Edwards's men, Owen's men, ac yn y blaen. Cafwyd sylwadau diddorol tuhwnt ar rai o bwyntiau'r ddarlith gan y cadeirydd; yn eu mysg, sylwai iddo gael yng nghofnodion yr eglwysi i ferch un o balastai Lleyn gael ei galw'n Dorothy, ac mai ar ol hynny y dath yr enw mor gyffredin ar enethod yn Lleyn, lie y'i gelwid yn Dorti, Doli, ac yn y blaen. rR ODFEUON A'U HADEG.-Gan nad oedd modd cael sicrwydd nac unffurfiaeth oddiwrth yr eglwysi gyda golwg ar awr dechreu'r moddion y Saboth, gadawyd yr adeg fel arfer yng ngholofn y Cyhoeddiadau. Rhaid i bawb fynnu'r sicrwydd drosto'i hun nes daw pethau i drefn. PILLIAU HENRT YONES.-Tarewais eil- waith ar fy hen gyfaill Henry Jones, Beech Road, Birkenhead; ac ebe fo, a'r ucha'i lais ar ddec cwch Woodside, nes oedd y Saeson yn sbio mor hurt a llo amom 'Rwy'n rhoi rhybudd ich', gyfeillion, Os y cwrddwch byth i'r BRYTHON, A thraethu iddo ond chwedl fechan, Fe a'i gwnaiff yn fynydd cyfan. Chwiliwch am yr hen lyfr hwnnw sydd gennych yn llawn o billiau telyn ac fe ddeuaf heibio i'w weld. tt tt U 0 GANOL r GWAED.-Dyma ran o lythyr Sergt. G. O. Wynne (15th R.W.F.) at gyfaill iddo yn Bootle Y gweddiau parhaus ar ein rhan allan yma sydd yn codi ein hysbrydoedd ac yr wyf yn credu fel y dywedodd gwr enwog wrthym cyn dyfod allan yma, ei fod yn credu na fu ac nad oes yr un fyddin yn cael cymaint o weddio ar ei rhan a'r fyddin Gymreig. Y mae'r hoys yn dai i wahodd y gelyn yn gynnes gyda Lloyd Georges, u fel eu gelwir. Syndod fel y clywir yr enw Lloyd George' yma mor fynych: nid fel politician, ond fel shell-maker. Yn y nos bydd y bwledi yn rhuthro o'ch ewmpas ymhob man. Y syndod ydyw cyn lleied sydd yn cael eu taro gyda hwynt. Y mae arferiad erbyn hyn wedi ein gwneud yn ddifater iawn ohonynt yn ein pasio cyn belled ag na tharawant neb y mae yn all right. Y mae gennym Ie mawr i ddiolch mai nid ar dir ein cartrefi y mae maes y frwydr hon. Ni ellir peidio a bod yn drist wrth weled y cartrefi sydd wedi eu malurio i'r llawr a'r bobl wedi ffoi a'u holl hegni, y mae'n amlwg, oddiwrth y dodrefn sydd i'w weled bron ymhob man yn y Ilwch a'r baw, wedi ei dorri yn dipiau. Buasai yn fwy trist gweled ein cartrefi ein hunain felly." ti it tt PREGETHAU'R DDROR SIWGR.-Cof gen- nym i'r diweddar Ddr. Hugh Jones, Bethlehem, adeg cyflwyno tysteb iddo wrth gyrraedd ei bedwar ugain oed, draethu swp o atgofion diddan am fore'i oes yn Sir Fon. Dyma un :— Bum yn brentis groser gyda mab John Elias a chan fod yr ias wneud pregethau yn gryf ynof pan yn las-hogyn fan honno, byddwn yn troi ati i'w cyfansoddi gynted y byddai'r siop yn wag a'r meistr allan. Un diwrnod, dyma fo i fewn yn bur sydyn ac annisgwyliadwy, ac a'm gwelodd yn taro'r bregeth yn chwap o'r golwg yn nror y siwgr ac ebe fo, yn sych ei beswch a'i bwyslais :— Fe ddylai dy bregethau di fod yn rhai melys iawn, Huw." tt tt tt
DAU rü,'li AFOIM. Oddiwrth yr hysbysiad, gwelir fod Rehearsal Cymanfa Ganu M.C. i'w chynnal nos Sadwm a'r Sul. Disgwylir y gwna'r cantorion ymdrech neilltuol i fod yn bresennol. Ni ellid rhoddi rhybudd yn gynt oherwydd yr anhawster gyda'r goleuo. Dydd LlunJy caed caniatad yr awdurdodau i fyned ymlaen. TEML GWALIA," EDGE LANE.—Nos Fawrth cyn y ddiweddaf cynhaliwyd Social, a chafwyd cyfarfod ardderchog dan lywyddiaeth y Br. G. Davies. Dech- reuwyd trwy ganu Duw gadwo'r Brenin, yn dilyn gyda deuawd ar y berdoneg gan Misses Olwen a Dilys Hughes. CAn gan y Chwaer M. Thomas. Cystadleu- aeth codi canu, dan ofal y Br. J. E. Pritchard (Euros y Delyn); goreu, Chwaer Lily Edwards. Can gan y Chwaer Lily Edwrads. Wedi mwynhau danteithion a ddarparwyd, cafwyd cystadleuaethateb cwestiynau y Br. Eddie Evans; goreu, Brawd Owen Lewis. Canu penillion gan y Br. J. E. Prtichard. CAn, 0 ienctyd clywcb gan y Brawd R. W. Jones (Ehedydd Eifion); ail alwyd arno, a chanodd r Bachgen Dewr. Adroddiad, Tommy Morgan, Br. David Evans. CAn gan Miss Blodwen Owen. Can, Cartref, y Brawd M. Eddie Evans. Diolchwyd gan y Br. J. Williams a J. Owen. Dibennwyd trwy ganu Hen Wlad fy Nhadau, y Br. J. E. Pritchard yn arwain. -M.E.E. Sylwer y cystadleuwyr a phawb sydd a wnelynt, fod dydd cynnal y cyfarfod cystadleuol unedig yn Crosshall Street wedi ei newid o Mawrth 4 i Ebrill 15. CROESO'R MILWYR.—Cafwvd cyfarfod tra llwydd- iannus yn York Hall nos Sacwrn diweddaf. 106 o filwyr yn bresennol; tri ohonynt ar gychwyn i ffwrdd i'r rhyfel y noson honno, i'r rhai y rhoddwyd Duw'n rhwydd mewn ffordd frwdfrydig. Rhoddwyd y llun- iaeth gan Mrs. W. O. Roberts, a chafodd hithau a Mr. Roberts dderbyniad cynnes iawn, a diolch gwres- og, gan y Milwyr am eu haelioni. Yr oedd Mrs. Dr. O. F. Evans yno gyda hwynt yn mwynhau'r cyfarfod. Cafwyd gair o groeso i'r milwyr gan Mr. T. A. Lloyd, a chymrwyd rhan fel y canlyn Sketch, His Wife's Relations, gan yr Anfield Dramatic Soc- iety deuawdau gan efeilliaid bychain, Misses Will- iams; caneuon gan Miss Jennie Jones Evans, ac adroddiadau gan Mr. Russell Edwards a Mr. Arthur Jones. Cafwyd adroddiad penigamp hefyd gan y Private Jones, y R.W.F., a chan Private Attewell. Y cyfeilydd oedd Miss Nellie Lewis. Trefnwyd y rhaglen gan Miss Nellie Roberts, ac arweiniwyd y cyfarfod gan Mr. R. Vaughan Jones. Diolchwyd yn gynnes i bawb gan y milwyr. Yr oedd hefyd yn bresennol, y Parch. O. Lloyd Jones, M.A., B.D.' R. W. Roberts,. B.A.,B.D., J. Myles Griffiths' ynghydag aelodau ffyddlon y pwyllgor, sef Mr. Hugh Lloyd (cadeirydd), Mr. D. Jones-Hughes (cyd-. ysgrifennydd), Mri. Seth Roberts, E. W. Davies, P. Lloyd Jones, A. G. Harris, J. T. Jones, a Robert Roberts (Walton Breck Road). Gwnaeth Miss Amy Gee wasanaeth gwerthfawr iawn cydrhwng amser te a'r cyfarfod, yn diddori'r milwyr trwy chwarae cydganau adnabyddus a'r milwyr yn canu. Yr oedd ei gweld yn arwain Bys Mary Ann ya un o bethau mwyaf diddorol y noson. MOTOR AMBULANCE FUND. -Dyma ragor o sym- iau a ddaeth i lawr er y rhestr ddiweddaf :— Oddiwrth Gymanfa Ambrose Lloyd 5 c o Mr. Lloyd Williams. 5 5 0 Mr. Thos. Williams (Edge lane) 5 5 o Mr. Rowland J. Williams 2 2 0 Miss Essie Roberts, West Derby 2 2 o Dr.O. F. Evans. 2 2 o Miss E. Williams, Tranmere I i o Mrs. O. Elian Owen oio 6 Mrs. J. Howard Stephens 010 0 Ysgol Sul Princes Rd. (ychwanegol) o 2 6 Ysgol Sul David St. (ychwanegol) o 10 o Ysgol Sul Spellow Lane (W.) i o o Ysgol Sul Marsh Lane (A.) 2 14 6 Ysgol Sul Chatham Street (M.C.) 3 3 o Ysgolion Sul Webster Rd. a Ramilies Rd. 600 Ysgol Sul Bankhall 013 3 Eto, Parti Cerdd Ystum 0 5 o Eto, Gwasanaeth Bore Sul o 5 o 3 3 Wedi ei gael J283 8 8 Yn eisiau £ 500 o o CYMANFA AMBROSE LLOYD.—Cynhaliwyd Pwyll- gor Cyffredinol nos Fercher ddiweddaf o'r Gymanfa i ddathlu Canmlwyddiant Genedigaeth John Ambrose Lloyd, a gynhaliwyd yn y Sun Hall fis Tachwedd diweddaf. Yn absenoldeb y cadeirydd a'r is-gadeir- ydd, cymrwyd y gadair gan Mr. W. Parry, Waterloo. Cafwyd adroddiad y trysorydd, yn dangos fod gwedd- llaw. Ar gynhygiad y ill 0 ^31 os. jd. mewn, Parch. R. D. Hughes, B.A. (ficer Dewi Sant), yn cael ei gefnogi gan Mr. G. W. Hughes, cyflwynwyd diolch- garwch mwyaf gwresog y Pwyllgor i Mr. J. T. Jones, arweinydd y Gymanfa Mr. A. R. Fox, y trysorydd ac i'r ysgrifennydd, Mr. R. Vaughan Jones. Wedi trefnu cydnabyddiaeth i eglwys Crosshall Street am fenthyg yr ystafell, ac i geidwad y capel, ac hefyd i bwrcasu cof-a-chadw i'w gyflwyno i'r arweinydd, y trysorydd, a'r ysgrifennydd, penderfynwyd dos- barthu'r arian fel y canlyn I'w roddi yn y bane yn enw'r trysorydd a'r ysgrifennydd i'w gyflwyno yn y man tuag at y gofgolofn i Ambrose Lloyd, Lio ios. 3 tuag at Motor Ambulance Cymreig Lerpwl, £5 55. y gweddill i'w rannu yn gyfartal rhwng yr achosion canlynol: y Carcharorion Cymreig yn Ruhleben, Germani; a'r drysorfa i'r Milwyr Deillion. Mab- wysiadwyd y penderfyniad canlynol yn unfryd, sef, Yn wyneb llwyddiant hollol y Gymanfa a'r gwaith gwerthfawr a gyflawnwyd yn dod a'r enwadau at ei gilydd, y mae'r pwyllgor o'r farn mai dymunol fyddai trefnu Cymanfa Unedig bob tair blynedd os byddo modd. Pasiwyd i anfon llythyr o gydymdeimlad a Mr. Joseph Parry, ar farwolaeth ei briod, merch y diweddar Ambrose Lloyd a darllenwyd llythyr tlws a thirion odiaeth oddiwrth Mr. C. F. Lloyd, Mus.Bac., Newcastle-on-Tyne, yn amlygu ei werthfawrogiad o'r Gymanfa a'r hyfrydwch a gafodd wrth fod ynddi a gweld y fath filoedd yn talu eu teyrnged i'w dad. SERPENTINE ROAD, EGREMONT.—Nos Wener cyn y ddiweddaf, traddodwyd anerchiad diddorol gan Mr. R. Pierce- Jones (Lerpwl) ar r Ddrama yng N gbymru. Fel y gwyddis, efe yw un o awduron Helynt a Heulmen -un o'r dramodau mwyaf poblogaidd, sydd wedi ei pherfformio mor ami a llwyddiannus yng Nghymru ac ar lannau'r Mersey. Hon oedd y waith gyntaf i Mr. Jones ein hannerch, er inni ei weled yn actio fwy nag unwaith. Yr oedd ei anerchiad yn wir ddiddorol, ac yn ol tystiolaeth pawb ar y terfya, rhoddodd fodlonrwydd cyffredinol. Diolchwyd gait Mri. E. Grey, J. Edwards, Wm. Williams, T.Parry Williams, a'r ysgrifennydd. Llywyddwyd gan Mr. Wa Madoc Jones. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'n gweinidog, y Parch. R. W. Davies, yn y loes dront o golli ei frawd a laddwyd ar faes y gwaed. Nerth a nodded a gaffo yn nydd ei drallod.-A.M. CYMDEITHAS LENYDDOL KENSINGTON.—Cafwyd cyfarfod arbennig nos Fercher, fel y tystiai y nifer luosog a ddaeth ynghyd i fwynhau doniau'r athrylith- gar Kingston. Efe, a'i fab, a'i ferch, Donald ac Olive, a lanwai'r rhagleri. Llywyddid gan Pedrog. Dywedai nad oedd angen iddo gyflwyno Mr. Kingstoa Jones i'r cyfarfod. Yr oedd yn adnabyddus bellach ymhell ac agos, a'i boblogrwydd ar gynnydd. Er mai yn ei gynefin ei hun yr oedd y noson honno, nid oedd yn llai derbyniol. Yn ol ei arfer yr oedd y darnau a ddewisodd i'w hadrodd—yn Saesneg a Chymraeg-yn cyfarfod a chwaeth amrywiol y gyn- nulleidfa. Yr oedd y symudiadau (movements) o'r digrif i'r difrif a'rdwys, mor naturiol a phe chwar- euai ar dannau cerdd. Campwaith yr adroddwr ydyw hyn. Yn sicr, gallwn ddweyd na fwynhawyd awr ddifyrrach gan gyxulliad erioed. Wele'r rhag- len Speech of King Henry V; The lesson of the Water Mill (Monologue gan Olive); The Day; Y Milwr (Spinther)--with musical effect; Ned Ffotve tr Godi Blaenoriaid; Together (dramatic recital) The Green Eye of the rellow God (musical recital gan Olive.) Wedi'r diolchiadau arferol, ymwahanwyd. BIRKENHEAD.—Nos Iau, o dan nawdd yr Eglwysi Rhyddion, cynhaliwyd Sieat Undebol yn Clifteit Road, o dan lywyddiaeth y Parch. O. J. Owen, M.A. Dechreuwyd gan Mr. John Evans, Laird Street, ac agorwyd y mater, Llywodraetb faith y byd sydd yn ei law, gan y Parch. W. O. Jones, yn rhagorol Yaa caed adnodau a phenhillion ar y mater gan nifer fawr o'r gynulleidfa, ac yn cael eu hadrodd gydar eneiniad. Gresyn na buasai ychwaneg o amser i'r rhan yna. Caed gair gan y Parch. Joseph Davieg, a dibennwyd gan y Parch. J. J. Roberts, B.A., Ar y diwedd cyfarfu Pwyllgor yr Undeb, a chytunwyd fod y gwasanaeth nos Saboth yn y dyfodol i ddechreu am 5.30 yn yr holl addoldai.-R.J.G. EGLWYS M.C. EDGE LANE.—Cynhaliwyd cyfarfod i ffarwelio a Mr. a Mrs. Owen Williams, 124- Edge Lane, Chwefror 3. Adweinir Mr. Owen Williams gas liaws ym Mon fel mab y diweddar Gapt. David a Mrs. Williams, Fronheulog, Marianglas. Daeth i Lerpwl yn ieuanc, gan ymaelodi yn eglwys Holt Road, Edge Lane bellach, lie y bu'n nodedig o ffyddlon a defn- yddiol am dros chwarter canrif. Nid oedd odid swydd yn yr eglwys na'r Ysgol Sabothol na bu iddo ei llenwi, a hynny'n hynod o effeithiol ac anrhydeddus. Dewiswyd ef yn flaenor wyth mlyendd yn ol, a gwas- anaethodd swydd diacon yn dda." Oherwydd ei iechyd ac amgylchiadau eraill, teimlodd dan raid i ddychwelyd i'r Hen Wlad, ac y mae bellach wedi ym- aelodi yn eglwys ei faboed, Llanallgo, a diameu gea- nym y bydd yr eglwys honno'n fawr ei mantais o'i wasanaeth ef a'i briod. Dechreuwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr. D. C. Williams, Botanic Road. Wedi datgan teimlad dwfn o golled galwodd y Hywydd, y Parch. David Jones, ar Mrs. Jones i gyflwyno anerch- iad goreuredig i Mr. a Mrs. Williams, a ddarllenai fel y canlyn Cyflzcynedig i Mr. a Mrs. Owen Williams gese Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Edge Lane, Liverpool, ar eu hyms.da.wiad o'r ddinas. t Annwyl Frawd a Chwaer,—Pan ddeallasom eicfc bod yn bwriadu symud o'n plith i wlad Mon i bres- wylio teimlwn nas gallwn adael i'r amgylchiad fynd heibio heb roddi datganiad cyhoeddus o'n gwerth- fawrogiad o'ch gwerth a'ch ffyddlondeb diball, a's colled fawr ninnau fel eglwys drwy eich ymadawiad oddiwrthym. Yr oedd eich hynawsedd naturiol, eich dawn, a hwnnw wedi ei addurno a gras, ya peri fod eich presenoldeb a'ch llafur yn gymeradwy a gwerthfawr yng ngolwg pawb o'n haelodau trwy gorff y blynyddoedd y buoch yn ein plith. Buoch chwi, Mr. Williams, yn amlwg gyda'r Achos am agos i chwarter canrif, ac yn ystod yr wyth mlynedd diweddaf gwasanaethasoch swydd diacon yn dda, gan ennill i chwi eich hunan radd dda a hyfder mawr yn y ffydd sydd yng Nghrist Iesu. Enillag- och galonnau holl Blant yr Eglwys drwy eich gofal cyson am danynt a'ch caredigrwydd iddynt, ac ym arbennig trwy eich addysg a'ch cynghorion. Cawsom chwithau, Mrs. Williams, bob amser ya ewyllysgar a siriol gyda jphob achos, a byddai eick parodrwydd chwi i gyflawni pob gwasanaeth yn gymhelliad i eraill i ymroddi i waith. Buoch ym neilltuol ffyddlon gyda'r Genhadaeth Dramor (Cangen Chwiorydd), yr Ysgol Sabothol, a phob cylch o wasanaeth. Dymunwn i chwi eich dau hir oes, iechyd, a phob Ilwyddiant yn eich cartref newydd hardd ym Mon, a bendith Duw, yn Dad, Mab, ac Ysbryd Glan, a gyfoethogo eich eneidiau ac a lwyddo eich gwaith ynglyn a'i Deyrnas Ef, dros eich holl ddyddiau.—Ydym, annwyl frawd a chwaer, dros yr eglwys Gweinidogion y Parch. David Jones, y Parch. J. Hughes-Morris, y Parch. Simon G. Evans. Blaenoriaid: Mri. Robert E. Jones, Griffith Davies, I. Bennett Jones, R. O. Williams, Henry Davies, David Roberts, G. I. Williams; Mr. H. R. Hughes, ysgrifennydd y Chapel Estate. Cyflwynwyd GIawlen wych i Mrs. Williams; hefyd Llyfr Emynau i Mr. Williams oddiwrth ei ddosbarth Miss Jones, 273 Edge Lane, yn cyflwyno'r llyfr, a Ffon hardd, am ei waith ffyddlon gyda'r Gobeithlu am lawer o flynyddoedd. Miss Gwennie Williams, 127 Needham Road, yn gwneud y gwaith hwn ya gampus gydag anerchiad bach pert dros ben. Canodd y plant hefyd, a Miss Jenny Jones-Evans, Botanic Road; ac anerchwyd y cyfarfod gan Mr. Griffitk Davies (ysgrifennydd yr eglwys); y Parch. Simon G. Evans, B.A., y Parch. J. Hughes Morris (llywydd Cyf. Misol Lerpwl), a Mr. Henry Davies. Terfynwyd trwy weddi gan Mr. G. J. Williams y ddau olaf a enwyd yn gyd-swyddogion a Mr. Williams yn Edge Lane. PRINCES ROAD.—Yr oedd ym Mhrinces Road brynhawn dydd Iau diweddaf wledd wedi ei pharatoi i glwyfedigion y rhyfel, sef te a chyngerdd. Daetk oddeutu pedwar ugain o'r milwyr yno' i'w mwynhau, a chaed cyngerdd da. Gwnaed y trefniadau gan y Gymdeithas LenyddoJ. Heb orffen mendio y mae ein hen gyfaill Mr. Hugh Parry, Swanston Avenue eto; rhyw ddisgwyl ana Ebrill a Mai y mae, i gael mynd i Sir Fon i glywed y gog yn canu. Er yn gorwedd bellach ers tua chwe mis, mae golwg mor siriol a lIon arno ag erioed. Mae wynebau hen gyfeillion yn ei sirioli'n fawr.- Un a fu. Parhad ar tudal. 6.