Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

FELINHELI. I

News
Cite
Share

FELINHELI. I Cymdeithas Famaethol.Nos Wener, yn festri Elim, cynhaliwyd cyfarfod blyn- yddol y gymdeithas uehod (am yr ail flwyddyn), perthynol i'r ardal a'r cylch. j Llywyddwyd gan y Parch Thomas Hughes (W.), llywydd y Pwyllgor Gweithiol. Cafwyd rlian o'r adroddiad blynyddol gan yr ysgrifennydd ffyddlon, Mr Richard Hughes, 4, Terfyn Terrace. Yr oedd trigolion yr ardal wedi derbyn yr adroddiad argraffedig y dydd blaenorol, fel yr oedd pawb yn gyffredinol yn gweled pa mor ragorol ydoedd y gwaith a gyflawnwyd trwy gyfnvng y gymdeithas hon yn ystod y flwyddyn ddiweddaf. Hn gwasanaeth Nurse Oweii eleni eto yn hynod dfeithiol, a gwerthfawrogwyd ef yn fawr drwy'r ardal a'r cylch. Gwelir hefyd fod y sefvllfa ariannol yn hynod 0 foddhaol. Fi- fod yr ardal yn dioddef i fesur ododnvrth ddirwasgiad gweithfaol, y mae cyfraniadau y tanysgrifwyr llenl 2p 15s 8c yn uwch na'r hyn gyfranwyd y flwyddyn flaenorol; ac wedi talu yr holl ofynion y mae y gweddill sydd yn y bane yn 40p 13s 2c. Caed sylwadau gwcrth- fawr yn y cyfarfod hwn gan Mri 0. T. Williams, Noddfa Thomas Jones, An- wylfa; Edward .Jones, Bronhyfryd, a'r j Parch Edward Griffith, B.A., Bcthania, J yr oil yn dwyn tystioiaeth uehel i wasan- aeth ragorol Nurse Owen, a diolchwyd yn wresog ideli ynghydag i ysgrifennydd gweithgar y gymdeithas am ei lafur maivr t a.'i ffyddlondeb yn ystod y ddwv flynedd ddiweddaf. Talwyd diolchgarwch liefyd i Warelieidwaid Caernarfon a Bangor am eu tanysgrifiadau ac i foneddigesau y pwyllgor am eu ffyddlondeb yn casglu y tanysgrifiadau blynyddol. Llwyddo.—Dymunwn longyfarch Miss j Jennie Jones, merch ieuengaf Mrs Owen Jones, Siloh Cottage, ar ei gwaith yn llwyddo i basio arholiad y Bwrdd Addysg mewn "Hygiene a Physical Training" Y ii,iewn "H ene mae Miss Jones ar hyn o bryd yn athraw- es yn Ysgol y Cyngor, Llanwnda. Gwasanaeth Cenediaetifol. Nos Fa with, yn Ysgol y (?yngor, galwodd y Cyngor Piwyf gyfarfod o'r Cynghonvyr [  Sirol, Dosbarth a Phlwyfol, ynghyda'r overseers, gweinidogion, ysgolfejstriaid,! a phersonau i gynrycliioii y meistriaid ar gweithwvr, i'r aiiicaxi o ifurfio Pwyl'l- gor Lleol i gario allan gynllun y gwasan- aeth cenedlaethol. Llywydd y cyfarfod ydoedd Mr John Pritchard, Belmont, a daeth nifer o gynrychiolwyr yngliyd, ac wedi cael ymdrafodaeth ar y mater pen- lerfynwyd fod ymgyrch ymweliadol i fod trwy yr ardal mor fuan ag sydd yn bosibl, fel ag i roddi i'r holl feibion rbwng 18 a 61 mlwydd oed gyflcustra i ymrestru yn wirfoddol i gyflawni gwaith cenedlaethol Dewiswyd Mr John Pritchard, Belmont (cadeirydd y Cyngor PIwyf), yr ysgrifennydd (Mr W. H. Wil- liains, Llanfair House), ynghyda Mr S. Currie, prifathraw Ysgol y Cyngor, i drefnu y gwahanol ddosbarthiadau trwy y lie. Adref ar Ymwcliad,—Da gennym weled Preifat Ifor Hughes, ma b y diweddar Oapten a Mrs Owm Hughes, Menai Street, adref ar ymweliad o Ffrainc. Gyda'r R.A.M.C. y mae ef yn gwasan. aethu er cychwyniad y rhyfel. Y mae yn edrych yn dda a chalonnog.—Hefyd y mae Mr Willie Pierce, mab Mr a Mrs Wm. Pierce, Boach Road, wedi dyfod adref oherwydd gwaeledd, ond y mae yn well erbyn hyn. Gyda'r llynges yr oedd ef yn gwasanaethu.

PONTRHYTHALLT. )

LERPWL (Crosshall Street).…

MANCEINION.___I

DYLEDSWYDDAU'R EGLWYS.

Advertising

GOLYGFA MEWN CAPEL.I

YSGOL SIR CAERGYBI.I

AIL-AGOR GWAITH HARARN. I

[No title]

Y GWYDDELOD A'U GWASANAETH.

UNDEBWYR A MR CHAMBERLAIN.

ARIAN YN LLE AUR.

MANION.