Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
IAt ein Gohebwyr ac Ereill.…
At ein Gohebwyr ac Ereill. ♦ Ysgrifau, Barddoniaeth, Nodiou, Hancsion, a Gohebiaethau Vw danfon mor gynted yn yr wythnos a, y byddo modd i'r GOLYGYDD, "CRONICL DVFFRYN* AMMAN," AMMANFORD. Avchebion am Hysbysiadau a Goltebiaetlzau viemi cysylltiad a'y cykhvediad a mater- ion arianol i'w cyfelyio i'y CYHOEDDWYR, Mri. GWILYM VAUGHAN, LTD.
Hen Gymeriadau Cymreig -
Hen Gymeriadau Cymreig YN OL NEU YMLAEN ? [GAN M.] (Parhad). Pa hen gymeriadau, ynte ? Wei, yr anhawsder ydyw dechreu, a dethol, oblegid eu lluosogrwydd. Ond hwyrach mai priodol a gweddus fyddai dechreu gyda YR HEN BREGETHWR. Nid wyf yn anghofio yr hen wireb, Yn mhob gwlad y megir glew ond yn mha wlad erioed y magwyd glewion cyffelyb i hen bregethwyr Cymru yn y ganrif ddiweddaf ? Nid oes neb a adwaenodd yr hen bre- gethwr nad yw yn barod i'w fawrygu. Ffolineb fyddai honi fod hyawdledd pwlpud Cymru yn ystod y ganrif yn gyfyngedig i'r hen bregethwr, a phechod fyddai anwybyddu neu anghoho, yn y cysylltiad hwn, Price, Ficer Llandeilo, a'i dafod aur; a'r Deon Edwards, o Fangor, a'i fwrlwm o hyawdledd cabol- edig, a'r diweddar Archddiacon Griffiths, o Gastell Nedd, a'i sel ysol dros an- rhydedd ei Dduw a'i genedl. Ond, oherwydd eu manteision boreuol, ni pherthynai y cyfryw i'r un dosbarth a'r hen bregethwr. j \Veithiau, priodolir nerth a dylanwad yr hen bregethwr i wahanol achosion. Tynir sylw at yr yspryd diwygiadol oedd yn ei feddianu ac yn ei gynhyrfu; er fod llawer o ymgeiswyr am y weini- dogaeth, awgrymir mai dim ond yr addasaf allasai oroesi, a manteisio ar, burdan y Set Fawr; dywedir fod yr hen bregethwr yn wr o alluoedd meddyliol anarferol; a honir nad oedd ei ddiffyg mewn dysg yn golled i gyd. Ond nid fy am can presenol ydyw ceisio dadan- soddi mawredd a dylanwad yr hen bre- gethwr. Ac nid fy mhwnc ydyw profi fod yr hen bregethwr yn well nac yn waeth na'i olynydd yn y pwlpud Cym- reig eithr tynu sylw at y ffaith ei fod yn wahanol. Hwyrach mai lledaeniad Addysg sydd yn gyfrifol am y gwahaniaeth i raddau, oblegid tuedd ysgolon ydyw diwreiddio hynodion, a chreu neu dadblygu cymer- iadau unffurfiol. Gan nad beth am hyny, un o nodweddion amlycaf yr hen bregethwr oedd ei naturioldeb. Edrychai ar bob peth a'i lygaid ei hun, ac nid byth a llygaid benthyg siaradai fel y teim}ai ef ei hun, heb ofalu am arferion na gwlad na thref. Un peth sydd sicr: nid etifeddu ei fawredd a wnaeth yr hen bregethwr; oblegid, fel rheol, mab i bobl dylodion mewn cymdeithas ydoedd, ac odid na fu rhaid iddo yntau yn nhymor ei ieuenc- tyd enill ei docyn drwy chwys ei wyneb, a thalu ei dreth i dylodi trwy ddefnyddio ffon gnwpa y bugail, fel Hiraethog, neu wenol y gwehydd, fel yr anfarwol Price, Gwmllynfell, neu forthwyl y got, fel Robert Thomas, o Fangor. Ar ddydd gwaith, gallasai bechgynos yr ysgol grechwenu ar anwybodaeth dygn yr hen bregethwr; a mynych y gwnai y masnachwr siglo pen oblegid ei ddiniweidrwydd yn mkethau y byd. Ond unwaith yr esgynai yr hen bre- gethwr risiau y pwJpud bach, unwaith y byddai y Llyfr dwyfol yn agored o'i flaen, yr oedd yn wahanol iawn yno yr oedd yr hen bregethwr yn gampwr. Ymdaflai i ddesgritiadau o'r mawr- eddog a'r ofnadwy heb demtio gwen dirmyg i wyneb y mwyaf pwyllog neu diferai dros fin ei wefus frawddega. chwareus a ffraeth-bert, heb i v:g dywyllu ael y chwaethus croen-deneu y lion a'r lleddf; y siriol a'r sarug; y dengar a'r bygythiol; yr oedd yr hen bregethwr yn gampwr yn mhob arddull; a rhedai ei fysedd cynefm dros pob tant yn y delyn ddynol, tra yr eisteddai, neu y safai, ei wrandawyr fel wedi eu gwefreiddio, neu wedi eu swyno gan hud ei barabl. Fe allai y barna rhai fy mod yn gor- ganmol yr hen bregethwr. Ond gwyr y sawl a gafodd y fraint o wrandaw ar Hiraethog a'i frawd atitrylith-ar, Henry Rees, o Lerpwl, a chlywed y ffraeth a'r dwys Joseph Thomas, Carno, ac eistedd wrth draed yr Hybarch Thomas Rees, o Abertawe, nad wyf wedi gorliwio teithi.a dylanwad yr hen bregethwr. Bellach, gadawn ef am ychydig, mewn cornel cynes YK y galon, ac awn rhagom i ymgydnabyddu unwaith eto ag ereill o hen gymeriadau Cymru. Cymeriad pwysig sydd bellach wedi ein gadael am byth oedd YR H"EN YSGOLFEISTR, NEU YR HEN SCWLYN, fel y'i gelwid. Dyma hen gymeriad pwysi P, iawn yn ei ddydd ond gwahanol iawn oedd ei ddydd ef i'r dydd heddyw. Heddyw y mae y wlad wedi ei thaenellu yn drwm ag Ysgolion Elfenol da; ond bryd hyny nid felly yr oedd. Mown rhai plwyfi, ac yn neillduol os y byddai yr Eglwys yn effro, a'r offeir- iad yn ddiwyd, ceid Y sgolion Cenedl- aethol oeddynt yn gwneud gwaith rhag- orol. Heblaw y rheiny, yma ac acw, ceid Ysgol Frytanaidd yn cyflawni gwaith yr un mor rhagorol. Ond mewn llawer pentref a llawer cymydogaeth yr oedd maint a natur yr Addysg Elfenol yn dibynu ar ymdrechion yr hen scwlyn sydd yn awr o flaen llygad fy meddwl. Anhawdd ydyw i ieuenctyd y dyddiau presenol sylweddoli y ffaith fod Addysg Elfenol y wlad, haner can' mlynedd yn ol, i raddau helaeth, yn cael ei gadael yn nwylaw y deillion a'r cloffion, a'r afradloniaid. Ac eto, dyna fel yr oedd oblegid gwelsom ni hyny a'n llygaid, ac nid ein tadau a'u mynegasant i ni." Nid yn anfynych, hen sowjwr, fel hen sowjwr Rhys Lewis," fuasai yr hen scwlyn. Ond gan nad beth ei alwedig- aeth gynhenid, gwr i ddychrynu wrtho oedd yr hen scwlyn. Fel rheol, gwr ydoedd heb fawr cymhwysder at ei orchwyl, ac heb fawr cydymdeimlad a'i braidd. Ac felly, er na cheid yn yr ysgol nemawr i lyfr, yr oedd yno, yn weladwy, ac yn deimladwy iawn, offeryn cerydd, sef bastwn hir a chaled yr hen scwlyn. Dim gronyn o gelfyddyd, dim awr o ragbarotoad, a dim ymgais o gwbl at ddosbarthu y gwaith na'r disgyblion digon oedd i'r hen scwlyn gymeryd llwybr llygad yn unig, a hwnw, ond odid fawr, yn llygad pwl iawn, neu yn lygad tro. Yr oedd gogoniant yr ben scwlyn eisoes yn pylu pan oeddwn i yn hogyn. Ond cofus genyf fyned yn llaw rhywun— nis gvvn yn awr pwy-i ymweled a hen scwlyn uchel iawn ei fri, ie, ac uchel iawn ei barch hefyd, yn nghymydogaeth Brynamman. Hen soujWY oedd hwnw hefyd, hen sowjwr oedd wedi ymladd a dyoddef dan Wellington yn Rhyfel yr Annibyniaeth yr Yspaen. Yr oedd yr hen Richard Williams wedi diffygio, ac wedi gorfod rhoddi heibio addysgu plantos y gymydogaeth. Cofiaf heddyw yn dda yr olwg a gefais ar yr hen scwlyn y diwrnod hwnw, ac y mae yr argraph a adawodd yr ymweliad ar fy meddwl yn aros o hyd. Na, nid pob scwlyn yn y dyddiau hyny a wnaeth cymainf o les ac a haeddai gymaint o barch a'r hen Richard Wrilliams. Ond yn y dyddiau hyny-dyddiau y pethau bychain, bychain yn hanes Addysg yn Nghymru-yr oedd pob hen scwlyn yn fod pwysig iawn yn mysg ei gyfoedion, ac felly yn teilyngu ac yn hawlio cofeb o ryw fath. Yn Rhys Lewis y mae yr awdwr yn portreadu yr hen scwlyn yn naturiol iawn ac yn sicr y mae yr hen gymeriad yn un rhy bwysig a rhy ddyddorol i'w adael mor gydmarol ddisylw gan lenor- ion ereill ein gwlad. (1' w barhau).
COHEBIAETH 0 SARON, LLANDEBIE.i
COHEBIAETH 0 SARON, LLAN- DEBIE. Nid annyddorol, ef allai, fydd ychydig nodiadau ac awgrymiadau o'r lie uchod ar dudalenau newyddion y CRONICL, yn en- wedig gan y rhai sydd yn teimlo dyddordeb yn y lie ac yn pabellu ynddo. Y mae i Saron ei le a'i hanes fel pob man arall, ohenvydd ymae yn fangrelle mae digwydd- iadau a newyddion drwg a da yn argraphu en hunain ar Jen ei hanes er yn foreu, ac yn y blynyddau diweddaf hyn gyda chynydd ei boblogaeth ac amlder ei ddieithriaid symud- ol, nodweddir ef yn amgen y blynyddau a fu gan lawer o'r bobl y myn'd .a dod." Pobl a'u harosfa yn yr unfan oedd hen drigoliony fangre, ac anaml oedd y tai a theneu y bobl- ogaeth; ac v mae y tai to gwellt ag oedd hwnt ac yma ar hyd a lied y gymydogaeth bron wedi eu cwbl gyfnewid am eu gwell, fel nad yw Aberdon a Rhiwsiaced, Glwmbwr a Lletygwyn, Hen Nantyci a Cwmffalde, yn bod fel cynt yn eu muriau gwyngalchog a'u gwelltog nenau. Ond er syndod i'r blyn. yddau a specimen i'r oesau, y mae yr hen Grick yn aros, a Hen Waunlwyd yr un fath a Closbach hyd eto heb ddiosg ei wisg gyn- tefig oddi am dano; a Penycae a Ysgubor- fawr ar eu brincyn bryniau eu hunain mor siriol ag erioed wedi buddugoliaethu gafau a stormydd ddegau. Y mae Waunfain a Waunrhedegfa, Dogsbrook a Nantyci ar eu svlfaenu cyntefig yn tfyddlon dystion o foreuol flynyddau y gymydaeth. Ac nid llai dangoseg o'r meithion llynyddau a fu yw Penywaun a'r Prince of Wales, Gorsfach a Waunyblaf-neu, Rock House a Tanygraig; ac nid gwiw yw dwyn i derfyn fy llitli heb enwi eto Blayneamawr a Cwmnantarw, Cilrhedyn a Cwmcadno, Pwllylord a'r hen Llwynadda, Pantyrheol a Saron Shop. Mi ddiwedda gyda nodi un o'r henaf, ond a ddiosgodd ei hen ddillad oddi am dano—y mae'r Collier's Arms heddyw yn ei ddiwyg newydd, a'i boblogrwydd yn cynyddu o hyd gyda rhif y blynyddau. :I: Y mae hen gymeriadau anghaboledig— ond gwreiddiol, er hyny, fel hwy eu hunain; y rhai ydynt wedi myn'd i ffordd yr holl ddaear er ys meithion ftwyddi-wedi bod yn byw yn yr hen adeiladau a nodwyd; a rhai o honynt fel hwythau a'u holion wedi eu dileu dan weithrediadau dadfeiliol y blyn- yddau, lie y buont yn myned i mewn ac allan, gorphwys ac ymborthi; ac yn ham- ddenol ymddiddan wrth yr hen bentanau ar y ga.uafol nosweithiau am Jack v- Lanterii," "Bwciod," a" Bendith y Mamau," &c. Ond erbyn heddyw y mae addysg a'ifanteis- ion wedi caboli dynion i'r fath raddau fel nad yw gwahaniaethau naturiol a gwreiddiol yn cael cytfe o gwbl i arddangos eu hunain fel ag oedd mor amlwg yn hen gymeriadau yr oesau a fu. Yn lie yr isel adeiladau, y cyfyng ystafellau, a'r bychain ffenestri di- oteu, ac anamlder y bwthynod gwasgaredig heddyw, gwelir y fangre yn cael ei britho gan ei gastfawr a'i oruwch adeiladau, a'u perchenogion gan mv/yaf yn pabollti o'u mewn, Pe byddai i hen drigolion y bwthynod diaddurn godi eu penau oddiar obenydd eu gweryd oer, diamheu y medd- ienid hwy gan syndod i ganfod dieithriweh y lie. yn ei amryw adeiladau prydfertli, a'i erddi meithrinol a ffrwythlon. Y mae cynydd y boblogaeth ac amlder yr adeiladilu prydferth yn myned yn mhell i brofi fod manteision moddion cynhaliaeth mewn cyflogau ac ymborth yn Ilawer uwch nag ydoedd yn hanes y tadau, pa rai oedd yn gorfod brwydro yn galed i enill iddynt eu hunain fara beunyddiol, ac yn gorfod yn fynyeh "ranu angen un rhwng naw." Nid rhyfedd hyny pan ystyriwn y cyflogau isel a'r ymborth drud oedd yn nodweddu amseroedd mor Aiphtaidd a chelyd a'r rhai hyny. (I'w barhau).
Bywyd a Pheryglon y Glowr…
Bywyd a Pheryglon y Glowr Du. 4. — Stori Ramantus o Drafferth- ion Oes Ddyddorol. NOFEL FUDDUGOL. PENOD III. (Parhad.) Ond nid hir y buwyd cyn cael ar ddeall fod rhai o'r colliers wedi pallu gweithio allan eu notice yn gyflawn, wedi ei achosi, feallai, trwy fethu cael y notice ar yr un pryd, a bu y meistri mor exact a sylwi ar hyny, ac yr oeddynt yn penderfynu eu cospi. Yna y cynhaliwyd cyfarfodydd ar hyd a lied y wlad i geisio dål i fyny freichiau yr Undeb, canys yr oeddynt erbyn hyn yn gwanhau. Yr oedd cymaint o dlodi wedi ei achosi gan y strike fel ag oedd yr arian wedi myned yn brin iawn, ac hyd yn nod dynion ieuainc, oedd wedi bod yn ddiwyd a llafurus i gasglu yr ychydig arian, oeddynt yn gorfod ac yn dewis rhoddi dim a feddent at gadw i fyny anrhydedd bellach, tra yr oedd gofyniadau y gyfraith yn cynyddu arnynt. Din yr amgvlchiadau hyn, apeliodd y glowyr at eu cyfreithiwr, Mr. O ond er eu mawr driatweh gwelodd ar unwaith na fedrai wneyd dim a'r case, a'r canlyniad fu i amryw ohonom orfod cymeryd tri anis ar y wheel yn Nghaerdydd. Pan ddaethum allan, mawr oedd fy syndod i weled holl weithfeydd y wlad yn segur. Aeth yr Undeb i lawr, a methwyd cael digon o arian i'w gynorthwyo, a'r canlyniad fu i'r mwyafrif o'r gweithwyr, yn hytrach na newynu yn hollol, roddi eu 11.' -.1 iiais aros iynea i mewn ar y goswngiaa. Felly ar ddiwedd chwe' mlynedd nid oedd genyf na chymeriad, nac arian, na chalon. "Y mae Undeb yn dda bob amser yn ddiau, ac yn neillduol lie byddo ymosodiad yn cael ei wneyd. Ond maddeuwch i mi, yr oedd yr Undeb yna yn ddiffygiol iawn mewn organisation. Yr oedd yr amser y buwyd yn medi ffrwyth yr Undeb yn llawer mwy na buwyd yn hau ac yn casglu ynghyd. Heblaw hyny, yr oedd mwy o angenrheid- rwydd, ag ystyried rhif y teuluoedd oedd yn derbyn cynorthwy oddiwrth yr Undeb, nag oedd yn alluog i dalu i mewn. Maddeuweh i mi am sylwadau yma arnoch fel dosbarth o ddynion," ebe fi. b gwnaf! Syr, ymae ein gweithrediadau yn amlwg i'r byd, a gweithrediadau yr Undeb hwnw mor atgas yngolwg y mwyafrif o'r wlad, fel na fynant son am Undeb fyth mwy. Parodd hyny annhrefn yn y cyfan. Yr oedd y Meistri yn ymfalchio yn y fuddugoliaeth, y Gweithwyr wedi colli eu hyder a'u ym- ddibyniad yn eu gilydd, tra yr oedd ary- gylchiadau pawb wedi eu darostwng i'r tlodi mwyaf. Felly y bu yn amser dlawd arnom am flynyddau wedi hyn rhyw ddiwrnod neu ddau feallai agelem weithio ymhob wythnos. Nid oeddwn yn teimlo yn foddlon ar hyn, ond pan byddwn yn meddwl am adael y lie byddwn yn gwybod mai amser dlawd oedd yn mhob man, am hyny penderfynais aros yma, doed a ddelo." Ymlaen a'r hanes, ynte," meddwn I. Ar fvr iawn bu damwain tra galarus yn y pwll lie yr oeddwn yn gweithio. Tra yr oedd pedwar o'r bechgyn ieuainir yn myned allan ar y carriage, tor odd y chain a goll- yngwyd hwynt oil i'r gwaelod yr oeddynt yn agos i'r gwyneb pan gymerodd hyn le, am hyny yr oedd eu cwymp yn fawr. Aeth y report trwy y gwaith fel ergyd magnel, ac ymhen ychydig flynyddiau ymarllwysai y gweithwyr at enau y pwll o bob cyfeiriad, ac er ein galar, yr oedd y bechgyn oil yn feir- won. Yr oedd yr yspryd wedi 'hedeg at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef." Pwy ydynt ? meddai un. Yr unig wr i wybod yw yr hitchwr," meddai'r llall. B'lê mae'r hitchwr meddai'r trydydd. "Dacw ef yn eistedd yn y gob yn y fan draw," meddai rywun, wedi ei anafu. Y mae ei fraich wedi ei tharo ymaith oddiwrth ei gorph, y mae ei wyneb yn waed i gyd, mae ei synwyrau ar goll, y mae bywyd ynddo, a thyna gyd." Pwy ydynt ? gwaeddai amoell i dad teimladwy, Pwy ydynt ? Ilefai y brodyr hygarol. Ie, pwy ydynt," meddli pawb. "Pwyxvyr?" Pwy sy'n eisiau ? Yna y gwnawd ymdrech i gasglu ynghyd holl weithwyr y pwll, yna y galwyd pob un wrth ei enw, ac yna y gwybuwyd pwy oeddynt. Pedwar o'r bechgyn mwyaf glan- deg yr olwg arnynt a fagodd Cymru erioed, pedwar o'r bechgyn goreu eu egwyddor yn y gwaith. Yr oedd dau o honynt er pan gollasant eu tadau yn yr un fath amgylcli- iadau wedi cadw eu teuluoedd rhag newyn. Yr oedd y ddau arall mor ffodus a bod yn sengI, ac wedi aberthu eu holl gynilion erys chwech mlynedd ar achosion eu cydweith- wyr, yr oeddynt gyda'r blaenaf ymhob achos rhinweddol, yr oedd y gair da am danynt wedi myned trwy yr holl wlad. Y gorchwyl nesaf oedd dyfod i fyny o'r pwll; nid oedd ond un fibrdd, rhaid oedd aros oddeutu pedair awr ynghwmpeini y meirwon cyn y gellid trefnu ffordd i fyned allan o'r diwedd sicrhawyd crab ar ben y pwll a rhaff fodfedd wrtho, ac wrth y rhaff hono rhaid esgyn. Yn wir, yr oedd amgylchiadau fel hyn yn dreial ar nerve dyn, yn neillduol y cyntaf a esgynai. Bachgen dewr rhaid fod hwnw. Oedd, Syr, ond nid dyna y cwbl, yr oedd yn rhaid i'r pedwar cyntaf a esgynai y rhaff fyned ag un o'r cyrph meirw gydag hwy, un ar ol y llall." Rhaid oedd taflu coelbren, ynte, pwy gawsai y gorchwyl anhyfryd hwn," meddwn I, ac ar hyn gwelwn ei eiliau cychiog yn ymgrynhoi at ei gilydd, a safai ar ei draed yn y fath fodd ag y barnwn ei fod am gasglu ynghyd holl felldithion ymerodraeth lor, a'i gollwng yn un cryglwyth am fy mhen. Coelbren! meddai, "mewn amgylchiad- au o'r fath pwy mor ddewr galon a'r coiil-ei- ? Pwy yn meddu ar fron ddiarswyd, fel x collier'? Cywir fab-cawii o'i febvd, A'i fron yn galon i gyd v yw y collier, ac o braidd na neidiai pob un yn gyntaf at y rhaff gan gymaint oedd y caredigrwydd a'r brawdgarweh a daniai yn ei fvnwes." Buwyd am ddau ddiwrnod yn codi pawb o'r pwll. Caw som ychydig o ymborth i lawr, ac yno y treuliasom ein amser goreu ag y medrem. Y newydd cyntaf a gefais wedi dyfod i fyny oedd fod Miss Louisa Davies wedi bod yno yn gofyn a oeddwn I yn un o'r rhai anffortunus. Nis gwn ni, ac ni wyddai neb arall beth allai fod ei dyben wrth ofyn. Mawr oeddwn yn ryfeddu am hyn wrth feddwl am Ffair y Waun a'r hen droion ys llawer dydd. Meddyliais na allai fod ganddi un dyben da am hyny, gadewais bob peth yn y man, ac aethum i ymweled a theulu- oedd y bechgyn. Bum yn eu hangladd, a bum wythnosau wedi hyny yn gofalu am ffordd o gynhaliaeth i'w teuluoedd. Yr oedd hyny yn dda ynoch," ebe fi. Yr oedd yn amser galarus yno." (Fw barhau.)
Yn y Byd Glofaol. *
Yn y Byd Glofaol. [Gan JOHN HARRIES (Irlwyn). Bettws, I Ammanford.] iffjp 1 IVedi i ni gael yr anrhydedd o dreulio orig fechan ym myd lien a cherdd yr wythnos ddiweddaf, dyma ni eto ym myd v glo a'r brwydrau, neu mewn geiriau ereill" yn y byd glofaol." Yr ydvm yn y byd lie y mae y mwyafrif o weithwyr yn enill bywol- iaeth. neu o'r hyn leiaf ddylent gael bywol- iaeth am weithio dan y ddaear yn ogystal ag ar y ddaear hefyd. Mae'n rhaid cyfaddef mai caled ydyw ar filoedd o weithwyr y byd hwn i enill digon i dahir ffordd. Mae yn s-n meddwl mor araf y mae hen gerbyd amgylchiadau cysurus yn symud ymlaen i fyd cydfwynhad a chydfeddiant yn y byd glofaol. Mae'n dda genym feddwl, a chredu er hyny, fod y cerbyd yn symud, ac i'r graddau y bydd y gweithwyr yn deffro i'w dyledswyddau llafurawl, i'r un graddau yr a y cerbyd rhag ei flaen i wella amgylchiadau ac amgylchoedd y gweithiwr isel ei bris. Y mae yma ysbryd newydd tuol i'r cerbyd sydd yn sicr o fod yn fendith ac yn help i'w yru rhag ei flaen, ac v mae yna amryw o lenorion, beirddac arweinwyr goreu y genedl wedi gweled a theimlo hyny ac ymhlith y llu credwn fod y "Bardd o'r Glais" yn ar%aiii v werin trwy ei ganeuon gwerinol yn Cerddi Giuerin, a theiinlwn fod yna swyn a sedd i'r gweithiwr yn y llineliau hyn o'i eiddo: HC" Mae ysbryd newydd heddyw Yn tramwy yn y cwm, A gwerin Cymru'n taflu lawr Yr hen hualau trwm; Mae son am iawnder ysol Ar fynydd ac ar bant, A chan brawdoliaeth sydd yn byw Yn ber ar fin y plant. Mae gorthrwm heddyw'n marw, Mae iawnder heddyw'n hyw, A dwvlaw Undeb yn y storm Yn gadarn wrth y llyw Mae nerthoedd hedd yn oedi Ar fryniau Cymru fad, A theyrn cyfiawnder sydd yn ben Drwy gyrau pell y wlad." Mae s\vn y cadwynau yn myned yn ddarnau, Ac ysbryd brawdgarweh yn myn'd ar ei hynt." Yn ddiameu, Mr. Gol., fod y gwir tu ol i'r llineliau uchod. er mai araf iawn mae y mwyafrif ohonom yn d'od i gredu hyny. Y peth mwyaf ar hyn o bryd yng nghanol y brwydrau glofaol yw y safon newydd sydd wedi cael ei thynu allan gan bwyllgor gweithiol Caerdydd, ac wedi ei derbyn yn unfrydol gan lowyr Deheudir Cymru mewn cynhadledd arbenig a gynhaliwyd yn Neuadd Goffadwriaethol Cory, Caerdydd, dydd Llun, Mehefin 23ain. ac er mwyn mantais i filoedd o weithwyr dosbarth y glo carreg, gosodwn hi i lawr yma, am y rheswm fod nifer luosog o weithwyr wedi bod yn siarad a ni yn ei chylch na wyddent ddim am dani yn y cwm poblog hwn. Credwn fod angen taenu y wybodaeth yma am gyflogau i aelwyd pob gweithiwr sydd yn enill ei fywoliaeth yn y byd gloafaol. Mae y rhestr fel y caiilyn:- Iihestr y gweithwyr tanddaearol ;— Ar y Stand- Percentage ard 1879. presenol, 60%. Y dydd. s. c. s. c. Colliers 5 4 8 6 Timbermen 5 4 8 6 Ilipper. 5 4 8 6 Airwaymen 4 9 7 7 Masons 4 9 7 7 Pitmen 5 0 8 0 Roadmen 4 6 7 2 Hauliers 4 6 7 2 Riders 4 6 7 2 Hitchers..f 4 6 7 2 Rope Splicers 4 6 7 2 Timber Drawers 4 6 7 2 Sheavemen 4 6 7 2 Assistant Timbermen 4 o 7 0 Assistant Rippers 4 3 7 0 Trammers 4 6 7 2 Fitters 4 3 7 0 Electricians 4 3 7 0 Cog- Cutters 4 3 7 0 Main Haulage 4 0 6 5 Main Pumps 4 0 6 5 Labourer,, 3 9 6 0 Ostlers 3 9 6 0 Subsidiary Haulage 3 9 6 0 Small Pumps 3 9 6 0 Shaoklers & Spraggers 3 9 6 0 Lamplockers 3 9 6 0 Lamplighters 3 9 6 0 Oilers 3 9 6 0 AVatermen 3 9 6 0 Fel y gwelir yn y rhestr uchod ein bod wedi gosod y p-ercentage yn ei fan uchaf, fel y mae heddyw yn Nghlofaes deheudir Cymru, er yr ydym yn cydnabod fod dosbarth y Glo Carreg yn y mwyafrif o Lofeydd, 5 per cc??. dan y steam coal. Ond y mae mudiad a theimlad gwresog ar waith yn nosbarth y G16 Carreg i gael pump y cant i fewn yn y Rhestr uchod, ac y mae Mr. William Brace, A.S., cadeirydd yr Undeb, wedi rhoi addewid i gynrychiolwyr ein dosbarth, fod holl allu yr Undeb tu ol i'r dosbarth er mwyn sicrhau pump y cant yn ol i weithwyr dosbarth y GlC) Carreg yn gyffredinol. Y mae yna amryw o bethau ynglvn a'r Rhestr yma fel gwaith cyffredinol yr Undeb, yr hyn y geir yn y colofnau SelSneg o'rA'%I-MANVALLFY CHRONICL megis. Yr isaf g,yflog i lôwyr (Callied ]finillll/mL nid yw'n caethiwo unrhyw fachgen ieuanc dan un-ar-ugain oed i weithio a hawlio lie iddo ei hun ar y glo. Y mae pob Rhestr Bris i weithwyr glo yn cael ei chyfyngu i wyth awr y dydd. Ceir darpariaeth ynddi hefyd i bob gweithiwr sydd yn gweithio'r jfrvdnawn a'r nos, i gael chwech turn am bump, a chael un rhan o bump ar bob turn a weithir. Y mae yma beiranwaith ynddi i gario allan holl ddadblygiadau newyddion mewn Glofeydd newyddion, er lies y gweith- wyr yn gyffredinol. Y mae yn rhaid i gyfalafwyr sydd yn agor gweithfeydd new- yddion fyn'd yn gyntaf holl at y tirfeddian- wyr er mwyn dod i delerau a nhw ynghylcli y tir. 0 hyn allan fe fydd yn rhaid i'r cyfalafwyr gydnabod y Rhestr newydd yn eu Glofa cyn y bydd i un gweithiwr wneyd dim yno. Y mae hyn yn gam yn yr iawn gyfeiriad er mwyn sicrhau heddwch a chyd- fwvnhad vn y byd Glofaol. Y mae yna lawer o fanion ereill yn y Rhestr y earem sylwi arnynt, ond gofod a balla i mi ar hyn o bryd. Cawn sylwi arnynt eto o dro i dro. Carem wneyd apel ar ddiwedd y llitli hwn at holl weithwyr y Deheudir i ymuno a'r Undeb er mwyn cario allan y gwaith ardderchog sydd wedi ei dynu allan gan yr Undeb ynglvn a Rhestr y Cyflogau yn y glofaes ac er mwyn cario y gwaith mawr hwn allan, nid oes dim yn fwy rhesymol nag i'r gweithwyr feithrin ymddir- iedaeth yn eu gilydd, i droi yn yr un cyleh- oedd, ymestyn at yr un gamp, dyheu am yr un manteision, teimlo oddiwrth yr un an- ffodion, gwaeddi am yr un diwygiadau, ymwasgu at eu gilydd, a meithrin gwell adnabyddiaeth a mwy o ymddiriedaeth a pharch yn eu gilydd. Yna nid oes genym un petrusder na ellir gosod y peirianwaith Undebol mewn gwaith i sicrhau y gwelliantau » eyffredinol yr N-dyiii wedi bod yn son am danynt. Yn y gorphenol y mae llawer o fan Un- deban wedi codi yn y glofeydd sydd. yn ol ein tyb ni, wedi bod yn rhwystr i ddiwyg- iadau cyffredinol yn y glofeydd. Y mae y rhai hyn wedi tyfu fel cicaion Jonah mewn un nos a dydd, a byddant farw o ofnadwy- aeth cyfalafwyr. Bellach daw y gweithwyr i gredu mewn un Undeb mawr fydd yn ddigon nerthol i barlysu holl fasnach y wlad mewn un dydd er mwyn sicrhau cyflog i fyw o'r golud a gynyrchir gan y gweithwyr eu hunain dan y drefn gystadleuol bresenol. The cause alone is worthy, Till the good days bring the best." A dyweded yr holl bobloedd—Amen.
NODlON 0 LANDEBIE. I
NODlON 0 LANDEBIE. I Un o'm horiau difyra yn yr wythnos yw nos Wener. pryd y caf orig fechan i ddarllen y Golofn Gyinreig yn cich papyr byw a blasus. AVedi i'm ddarlien llongyfarchiadau Job yn eich papyr-ac yntau yn Gymro hyd graidd ei got, ac hefyd yn un o fechgyn gloewaf fagwyd yn y Llan—ni 'ni llonydd- wN-d nes ysgrifenu llith fechan, a hyny a geisiaf wneyd bob wythnos, gan obeithio dyddori y sawl a'u darllena. Nid oes eisieu dweyd mai lie Cymreig yw Llandebie, a cherid pethau a berthyn i'n hiaith a'n cenedl yn fawr iawn yma. Ond ysywaeth, ceir efrau ymhob cae gwenith, felly yma, mae efrau i'w cael hoffent fygu gwenith glan yr hen iaith a'i hysgubo i'r ifwrn iddynt hwy a'u gwehelyth gael lie. Ond aros wna hi canys mae gadarned a'r carteddau. Y dydd o'r blaen, dyma un o fechgyn y lie yn rhoddi y penill a ganlyn i mi pan ar gychwyn ar ei wyliau. Dyma gywair iawn i deithio ynddo :— Pan yng nghysgod yr Olewydd, Y gweddia f'Arglwydd Dduw, Gall fod yno un yn tori Coed ei groesbren yft ei glyw. Pan y'i clywais, daeth rhywsut don o alar droswyf am yr hyn a fu yn Llanbebie. ac yn anad dim gyrddau gweddi undebol Llanebie. Hwyrach fod llawer un yn cofio.Y cyrddau hyny. Pam na cheir rhai tebyg eto y gauaf sy'n dod yn lied raddol arnom ? Efallai ein bod i fesur yn enwadol, ond dyma fan lie ymlid enwadaeth i ffnvrdd. Clywir swn undeb yn yn awe!. A oes gwell lie i'w gychwyn ? Ni char enwadaeth lechu mewn hinsawdd gynhesed. Yn Rws- sia, dywedir fod hen arferiad a gedwir amser y Pasc, sef yw hwnw, fod pawb—gwreng a bonedd—yn cusanu eu gilydd fel arwyddlun o gydraddoldeb dyn. Os oes unman lie gellid gwneud hyn." yng Nghymru, y ewrdd gweddi yw'r lie hwnw. Cyfyd hwn ei ben uwched a goreuon pethau Cymru Fu. Magwyd ynddo ddynion sy'n addurn heddyw i Senedd, Lan, a Chapel. Gellir dweyd gyda Eliet Mae gweddiau hen weddiwyr, Fel angylion yn y gwynt; Pwy a wyr sawl bendith heddyw Sydd yn d'od o'r amser gynt. ? Ie, pwy a wyr, tybed ? Chwi flaenwyr crefydd yn Llandebie a'r cylch, rhowch ei le a'i gyfle i'r cwrdd gweddi, a chofiwn y penill arall gefais gyda'r un !lane Y plygu sydd yn cpdi Y byd i'r nef o hyd, Y codi sydd yn plygu Y nefoedd at y byd. I Mae'n ddyledswydd arnom fel ardal i roddi ein diolch cynhesaf i noddwyr a chefn- ogwyr Eisteddfod y Blaenau. Cymry bob yr un, ac yn Hawn aidd ag asbri dros godi'r wen wlad i'w lie ei hun. Ie, a ehadw'n fyw ddefion cenedl. Rhoi'r cyfle yn y rhaglen gynhwysfawr i bob merch a mab ddangos eu dawn a'u dysg. Gobeithio y manteisir ar yr arIwy lawn a blasus' gan lenyddion, ad- Upddwyr, arweinwyr, a chantorion y fro. Gweithia'r pwyllgor yn ddiflin. Er cwrdd ac anhawsterau ni lwfrheir eu hyder na'u hysbrjd. Maent wedi eu gwneud o well defnvdd yn h^rwydd gwyr y gewynau tyn- r- ,o.J b J ionydvilt. Er fod llawer un ohonynt yn werin y graith las, eto i gyd i'r cyfryw a'u rhelyw mae'r hen wlad yn d'od. Llwydd a lies i Eisteddfod y Blaenau, a choroner plant y bwthyn a haul a hwyl ar ddydd eu lieisteddfod.
HOOION AC AWGRYMIADAU 0 BENYCROES.
HOOION AC AWGRYMIADAU 0 BENYCROES. [Gan GLAX FFYNNOX Y CWM.] Gair mawr pobl yr Eglwys Efengylaidd (Mission Hall) ydyw Ffydd, ac o ran hyny gair mawr pob credinwr o'r grefydd Gristion- ogol. Nis gallwn ddwen-d dim yn ei herbyn yn hyn am fod Ffydd yn un o'i hanfodion seiliedig. Dywed yr awdwr at yr Hebreaid mai Ffydd yn wir yw sail y pethau yr ydys yn eu gobeithio, a sienvydd y pethau nid ydys yn eu gweled." Mae athrawiaeth y gwr yma, wedi dal yn ngwyneb ystormydd erledigaethau, ac y luae cyllell lem beirniad- aeth wedi cael cymhorth lawer llaw er ceisio naddu ymaith y gwirionedd mai sail ydyw Ffydd. Mae y sail yn rhan bwysig o adeilad, ond nid y cwbl ohono. Mae yn wir y gellir gosod i lawr sail heb adeiladu arno, ond nid yw gwyddor eto wedi bod yn ,1' ysgol ddigon hir i ddarganfod y ffordd i wmmd adeilad heb sail iddo na fydd yn ehedeg drwy yr awn. neu nofio ar wyneb v dyfroedd. Gosodwyd sail y Mission Hall i lawr fel sail pob adeilad arsill er mwyn adeiladn arno, ond dichon mai mantais fawr fuasai i rai pe buasai y gongl-faen yn y s^ lfaen, a'u nhen- fwtl yn gyd-wastad a'r llawr. Arbedasai hyny gryn lawer o drafferth i'r ymddiriedolwyr (trustees) fu yn un a chytun yn yr un lie, ond sydd yn awr wedi ymranu, gan gyfeirio eu camrau i'r dwyrain, gor- llewin, gogledd, a de, er ceisio cael tir digon diogel i osod i lawr sail eu credo. > Sonir llawer y dyddiau hyn am gyflafar- eddwyr (arbitrators), ond mewn cysylltiadau gweithfaol mae mwyaf o angen am eu gwas- anaeth wedi bod; ond peth cyffredin yn mhlith crefyddwyr yr halls yw galw am wasanaeth y bobl hyn er ceisio gwastadhau twmpath ar ol twmpath o annealldwriaeth sydd yn gwneud eu hymddangosiad un ar ol y llall fel twmpathau pridd y wadd ar y meusydd. ""I' # Mae yr aiiialethii-r yn gosod trapiau er rhwystro a newid cyfeiriad yr underground agents hyn, a da fyddai iddynt hwythau osod trapiau i ddal y rhai sydd yn achos o gyfod- iad y twmpathau a enwyd. Mae yn ddigon posibl, ar ol gwneud hyny, y cawsai lawer i ddyn deimlo mai efe ei hun fuasai y cyntaf i gael ei drapio, ac er mai anfantais fyddai hyny i'r ychydig sydd yn y gyntedd fewnol, byddai yn fantais neillduol i'r llawer sydd yn y gyntedd allanol i gael golwg glir am unwaith pa le mae tarddle v drwg sydd yn .rhywbeth heblaw ffydd. Wrth ddilyn yr un awdwr eto, gwelwn ei fod wedi tynu allan restr fawr o enwau rhagorolion y ddaear, lie y mae. yn cyplysu gweithredoedd wrth avdd y cyfryw. Prawf o ffydd Abel oedd offrvmu i Dduw aberth rhagorach na Chain. Prawf o ffydd Enoch oedd iddo ryngu bodd Duw yn gym- aint fel ag i fod yn ddigon cymwys i ym- ddangos yn y nefolion leoedd heb brofi marwolaeth. Prawf o ffydd Abraham oedd iddo weithredu yn unol a gorchymyn Duw i offrymu ei unig fab Isaac, t, er fod hyny yn ymddangos yn groes i'r addewid mai yn ei had ef y buasai holl dylwythau y ddaear yn cael eu bendithio. Felly gwelwn eu bod fel dwy efeilles yn cyd-gerdded law yn law dros lwybr cul dyledswydd, weithiau yn nyffryn tawel am- gylchiadau Yn canu'r gan am farwol glwy' Na chlywir diwedd ami mwy. Brydiau ereill yn dyblu a threblu 'run gan wrth ddringollethrau mynyddoedd o anhaws- derau y daith, y ddwy gyda'r gilydd o hyd. t- Os bydd un farw gan wendid, lludded, a blinder y daith, bydd hyny yn sicrhau mar- wolaeth y llall, ond cyhyd ag y byddant yn gryf yn cyd-deithio, nid oes achos ofni. Beth bynag fydd ar y ffordd rhwng y cryd a'r bedd. nid oes dim yn tycio. Er fod yr afon ddu i'w chroesi, mae swn caniadau'r nef yn boddi twrf ei thonau. Gogonianau y wlad well sy'n llifeirio o laeth a mel, ac yn cadw eu golygon uwchlaw gweled duwch ei dyfroedd. Wedi cyrhaedd yn ddiogel. mae y ddwy yn ffarwelio, a'r Cristion yn etifedd coron an- niflanedig oedd yn nghadw iddo yn y nef- oedd. (['w barhau).
Barddoniaeth.
Barddoniaeth. FY NGWYNFA GOLL. (Parhad). (Cyflwynedig i Eisteddfod Gadeiriol Llan- uwchlyn, Llungwyn, 1913). lleirniad Dyfnallt. [GAN "DK PROFUNDIS."] IV.—Y PYRTH CAUEDIG. Gynared yn fy mywyd bu'm yn llunio Fy Ngwynfa dlos, cartrefle hedd a sahn, Y tud He 'roedd mwynianau yn blaguro Heb edwi byth diln ganghau tirf y palm. Dychmygais glywed murmur sylweddoliad Fy lllreuddwyd cynar ar y gorwel pell, Ond trodd yr adsain ber yn chwerw oernad Dan ffrewyll ddig y ddrycin reibus hell. Gorphwysai barn fel nifwl dros y llwvbrau Arweinient tua phyrth fy nef ddiglwy, A thybiais ddisgyn yn rhy bell i gariad Ari-feidrol grymu i'm cusanu mwy. Yr hoff adnodau ddyggaia pap vn hlftrityn Ar liniau mam am y barad wys si-ii Ddisgynent ar fy nghlustiau mal gwatwaredd Y corwynt ffrom y'mreichiau noeth yr ynn. Lie bu yr hafau ceinber yn afradu Cawodydd pur o swynion ar eu rhawd, Anturio wnawn i chwilio pyrth fy Ngwynfa, Ond troai 'r junchwil beunydd i mi 'n wawd. Deisyfwn wel'd ei gwawr drwy 'r aruthr ing- oedd, Ond ofer fu erfyniau'm hysig ffydd, Can's deuant yn eu hoi yn waglaw beunydd Nes treiglai 'r dagrau 'n ftrydlif dros fy ngrudd. Lled-dybiem weled eiliw gwan ei chyntedd Disgleiriaf ar benrhynau pleser gau, Ond 0 ni wnai ei ledrith namyn ysu Angherddol ing fy enaid i ddwyshau. Deffroai hen fwriadau haner-anghof Nes gwneud fy mynwes bruddaidd megis darn 0 uffern grwydrol; a phob medd\\ T sanctaidd Yy gwywo ar adfeilion erchyll barn. Breuddwydiwn pan y'nghwsg fy mod y'nghwmni Fy mhriod hoff inewn Gwynfa ddiystaen, Ond ni chanfu'm ar derydr cyntaf gwawr- ddydd Arwyddwyddion am un angel uwch ei maen. Ffyrniced oedd ysbrvdion erch holiadan,- GelJllioll mw;yaf.dig fy en aid eu Dirgrynwn dàn eu rhuthr mal corsen ysig Heb rym i ateb y melldithiol lu. Yn unigfeydd ofnadwy fy mhrofiadau, Troi yn ddiffaethwch wnaeth fy mywyd oil, A thybiais y'mhangfeydd didrai fy siomiant Nad adfeddianwn mwy fy Ngwynfa goll. Y dyheuadau fu 'n digyfor beunydd Drwy 'mron am anfarwoldeb pur didranc. Ddiflanent fel y cestyll tywod hyny A godais ar y mordraeth pan yn llanc. Anturiwn drwy y gwyll i'r dirgeledig I geisio 'r pyrth lonyddai'm hysbryd claf, Ond edwi yn fy Haw winnpob tgnndiad Mai lliwiau cain adenydd iar yr haf. Y'nghanol rhu y gofwy, ymlonyddaf Wrth deimlo pwys tyneraf law y Ner— Pwy wyr na wna fy ing a'm haniddigrwydd Fy arwain drwy y nhvl i'r Wynfa ber (Diwcdd.)
Advertising
D. GABE, BOOKSELLER and MUSIC-SELLER, &c., AJVIJVIANFORD. DEPOT OF S.P.C.K. Sole Agent for Messrs. ALLCOCK and Co.'s (Redditch) famous Fishing Tackle. A very large Selection of Wall-paper (English make) at the Lowest Prices. Art Needlework and Fancy Wool ————— of all kinds. —————