Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN,

News
Cite
Share

BWRDD Y GWARCHEIDWAID, CORWEN, Cynaliwyd yr uchod ddydd Gwener, yn Ystafell y Bwrdd, o tan lywyddiaeth Mr. Thomas Thomas, U.H.; Mr. D. W. Roberts, Blaen IaI, Bryneglwys, yr is-gadeirydd; yr oedd hefyd yn bresenol Meistri R. James Jones, Primavera, Corwen; Thomas Jones, Ty'nycelyn; William Williams, Pandy; D. Jones, Brynsaint; T. Williams, Pencraig; Thos. Davies, Bryneglwys William Roberts, Gwnodl bach John 0. Davies, Maesyrychain R. Meyrick Roberts, Gwylfa; Geo. Evans, Bryneglwys Jno. Jones E. P. Jones, Cileu- rych R. 0. Roberts, Bryn T. W. Edwards, G'dwy Hugh Lloyd, Tytanygraig W. H. Parry, Bridge End Mrs. R. T. Jones, Garth; E H Ellis, Branas Ucha J. Hughes, Gwydd- elwern S. Williams, Llangwryd; J. Davies, Bodewi; E. D. Jones, Medical Hall; E. Evans Jones, Bottegir R. E. Pugh, Penybryn E. Morris J. W. Jones; Thos. Jones, Treddol; William Pencerdd Williams E. Derbyshire, (clerc), Dr. H. E. Walker; a Lemuel Williams, (meistr). Yn Haw y Trysorydd, 1667p. 4s. 3c. Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnodion. Tlodion yn y Tlotty. Nifer y Tlodion yny TIottyynystod y bythefnos ddiweddaf, 82 y bythefnos gyfer- byniol y llynedd 69. Crwydriaid. Nifer y crwydriaid gynorthwywyd yn ystod y bythefnos ddiweddaf Yr wythnos gyntaf, 98; yr ail wythnos, 82. Nifer y crwydriaid dderbyniasant docynau i gael bara a chaws, 91; nifer y rhai wrthod- asant 4. Y Rheidweinyddion. Pasiwyd i gamatau y symiau caulynol i'r Rheidweinyddion i'w cyfranu i'r tlodion yn ystod y bythefnos ddyfodol:—Mr. D. L. Jones, Corwen, £ 23 Mr. R. 0. Davies, Llan- gollen, L40. Gohebiaeth. Darllenwyd llythyr oddiwrth Mr John Roberts, Fron, yn diolch i'r Bwrdd am eu cydymdeimlad ag ef yn ei brofedigaeth. Cartref y Plant. Gyda golwg ar y cwestiwn o gael Meddyg i ofalu am blant y lie uchod, pasiwyd fod y mater i dd'od gerbron y Bwrdd nesaf. Adroddiad. Cafwyd adroddiad y Pwyllgor Arianol gan Mr E D Jones, ac yn unol ag argymbelliad yr Archwiliwr yr oeddynt am wneud y dreth yn 7-le. o'i chyferbynu a 7c. yr haner blwyddyn diweddaf er sicrhau yr hyn a elwir yn 'float- ing balance.' Dywedodd Mr W H Parry ei fod yn gwrth- wynebu, a'i fod yn gryf o blaid i'r dreth fod yn 7c. fel o'r blaen, oherwydd os bydd i'r Casglyddion ddo'd a'r arian i mewn yn bryd- Ion gellid atal y ddimai ychwanegol. Cefnogwyd gan Mr E H Ellis ac ategwyd gan Mri W P Williams a D W Roberts. Pleidleisiodd naw dros 7c.; a deuddeg dros 7|c. [ Byrddio Allan. Cafwyd llythyr oddiwrth Miss Walker yn rhoddi adroddiad y Pwyllgor Byrddio Allan, a pasiwyd i dalu y biliau. Pasiwyd i'r Clerc anfon at Bwyllgor Byr- ddio Allan Llangollen am iddynt anfon eu hadroddiad i'r Bwrdd yn y dyfodol. Y Pwyllgor Ymweliadol. Caed adroddiad y pwyllgor uchod gan Mr. R. J. Jones, a dywedodd eu bod wedi arch- wilio yr ystoc a caed hwy yn hollol gywir. y mae y ty yn cael ei gadw yn lan a threfnus, a'r deiliad yn ymddangos yn hapus.. Bwydlen Ar gynygiad y Cadeirydd ac argymhelliad Dr. Walker pasiwyd i ganiatau pedwar pryd i'r deiliaid. Yr Ameer. Yn herwydd yr Archeb newydd a'r deiliaid, pasiwyd fod yr amser codi i fod fel y can- lyn, o'r laf o Hydref hyd y 31ain o Fawrth,' am 7-30; o'r laf o Ebrill hyd y 30ain o Fedi am 7 o'r gloch. Yr amser i fyned i orphwys i fod o'r laf o Fehefin byd y 31ain o Awst, am 9 o'r gloch o'r laf o Fedi hyd y 31ain o Fai, am 8 o'r gloch. Penodi Cyflog. Darllenodd Mr W Pencerdd Williams ar- gymhelliad yr Assessment Committee, sef, eu bod yn cymeradwyo y Bwrdd i dalu y cyflog o 32p 10s i Mr Derbyshire fel clerc i bwyllgor y trethiant am 1913-14, oherwydd gwaith ychwanegol. Hefyd, dymunent fynegu fod y cyflog yn cael ei benodi yn flynyddol. Swm y cyflog y flwyddyn flaenorol oedd 30p. Cynygiodd Mr E H Ellis fod y cyflog i fod yn 30p. cefnogwyd gan Mr J W Jones. Rhoddwyd y mater i bleidlais, a chafwyd mwyafrif o blaid 32p 10s.

Advertising