READ ARTICLES (15)

Advertising
Copy
Hotels. MEADOWCROFT Boarding Establishment, COLWYN BAY. Situate in its own grounds at the comer of Ellesmere and Conway Roads, being in a most desirable position, having a Southern aspect. Mil Tariff-Miss MORRIS. LOCKYER'S (Old Established) Private Hotel Boarding Establishment BELLE VUE, MARINE ROAD, COLWYN BAY Special Terms for Winter Residents. un Telephone: 7. Telegrams: Lockyer, Colwyn Bay. ELLERSDALE, Conway Road, Colwyn Bay, North Wales. 'This High-class Boarding Establishment is beauti- fully situated in the West End, and is luxuriously furnished. Near to Golf Links and Sea. Excellent Cuisine. Sanitary Arrangements Perfect. 4575 Tariff. Miss RICHARDSON, Proprietress PENMAENMAWR, N. Wales.—House of Resi -t- and holiday home. Terms very moderate. Special quotations for lengthened stay. Invalid care wnen needed.—For reply, stamped envelope, Lady Superintendent. 1249 PROMENADE, Colwyn Bay.—GILBERTYILLE J. Private HOTEL & BOARDING ESTABLISH- MENT, facing the sea. Special Winter terms on ap- plication. Proprietress, MRs. JOBDAN. 2971 You Need A Tasty Table. What's the good of waiting-have it now-and get all the benefit you can out of it. You want FORKS and SPOONS that last and don't bend. Better have a New, Handsome, and Bright Supply, some that will do you credit, and be the envy of your friends. We have them, and they are RELIABLE, and the QUALITIES and PRICES are REMARKABLE Best Bengal Silver TABLE FORKS ..9s Od per doz „ „ DESSERT „ ..6s 6d „ „ TABLE SPOONS, 9s Od „ „ „ TEA „ ..2s6d „ l' „ DESSERT „ ..6s 6d „ If you cannot call, send us a Postal Order for a Sample, and, if not satisfactory, money returned without any arguments. WE PREFER YOU TO COME AND SEE US. GOODS AND PRICES WILL PLEASE YOU The Northern Trading Co., Penrhyn Chambers, Penrhyn Road, COLWYN BAY. 5936 ARNOLD & CAPSTICK, Cabinet Makers, Polishers & Undertakers. FURNITURE UPHOLSTERED AND RENOVATED. BEDDING, c., thoroughly cleaned and made up by experienced hands. BLINDS FIXED AND REPAIRED. WORKSHOP- Erw Wen Road, Colwyn Bay. 4330 LEE & BOOTH, House & Church Decorators Gilders, Signwriters, &c., Residence LYNTON COTTAGE, RHIW ROAD, COLWYN BAY. First-Class Workmanship Guaranteed. Estimates Free to any Distance. 3500 Immediate attention given to all Orders. R. LL. SAMUEL (Late John Roberts, Fern Bank), Joiner, Builder & Contractor 15, SEA VIEW TERRACE, COLWYN BAY. FUNERALS UNDERTAKEN. ESTIMATES GIVEN. 5043 To Yacht Owners. SPECIAL OFFER- 12=foot MOTOR DINGHEY, COMPLETE FOR £45. Don't delay. Have your Yacht fitted as an auxiliary, and be independent of calms, etc. PLACE ORDERS EARLY THIS WINTER. ADDRESS ALL COMMUNICATIONS TO The Mitcham Motor Co/s Agent, c/o Messrs. Cook & Arthur, THE GROVES, CHESTER TBI ALB BY APPOINTMENT. 521 J

News
Copy
Archesgob Newydd. FEL y gwyr ein darllenwyr, yn ddiamheu, y mae y Brenhin wedi dewis y Parch Randall T. David- son, Esgob Winchester, i fod yn Archesgob Caer- grawnt, yn He y diweddar Dr Temple. Y mae y swydd yn un bwysig dros ben, heblaw ei bod y swydd uwchaf yn n'glyn a'g Eglwys Lloegr. Yr oedd llawer o brophwydo pwy fyddai y gwr a ddewisid yn ben yr Eglwys yn Mhrydain, ac yr oedd enw Esgob Winchester yn cael ei ruddi yn bur ami yn y wasg fel y dyn mwyaf addas i'r sefyllfa. Ac yn sicr y mae y dewisiad yn un doeth. Nid ydyw Dr. Davidson yn ddieithr i alwadau ei swydd newydd, nac yn anwybodus o'r dyledswyddau a ddisgyn arno pan yn Arch- esgob. Canys bu yr ysgrifenydd dan gyn- Archesgob. Pan yn Ddeon Windsor, bu yn gaplan i'r diweddar Frenhines, a dywedid ei fod yn uchel iawn yn ffafr ei Mawrhydi. Bydd yn dda gan un adran o'r Eglwys Sefydliedig wybod nad ydyw' yr Archegob newydd yn "high Churchman."

News
Copy
Llythyraa at y Golygydd. [N ill yilym yn gyfrifol am opiniyuati ein gohcb- yddJou yn yr Adran Gymraeg or netvyddiaditr hwn ]

News
Copy
Canu. SYR,—Dyma yw pob peth y dyddiau presenol, os trawn i unrhyw gyfeiriad dymla y swn a glywir yn mhob ardal bron. Nid fy mwriad wrtn ys- grifenu hyn o linellau yw ei ddarostwng mewn un modd, ond er gwrthwyneb, sef ei ddyrCixafu yn uwch nag y mae ar hyn o bryd. Mae canu da yn beth gwir angenrheidiol, ond a ydym yn cael hyn y bynyddoedd diweddaf ? Nag ydym, o lawer iawn. Yr wyf yn hollol o'r un farn a'ch gohebwyr, Pen Rhosydd a Pen Wyn, yn eu llythyrau amserol i'r "Pioneer." Maent yn condemnio pwyllgorau am ddewis yr un hen ddernyn cerddorol a'r un hen donau yn barhaus mewn cystadleuaeth. Mae rhygni rhain byth a hefyd yn gwneud i glustiau dyn ferwino wrtn eu clywed. 'Does dim o weithau yr anfarwdl Handel, Mendelssohn, Sullivan, etc., yn cael sylw o gwbl y dyddiau hyn. Mae'n debyg eu bod hwy yn rhy galed i'w dysgu ..b gymeryd dipyn o amser i'w rehearsio. Ond gwell nyn, er mwyn cael canu da. Yn fy marn i mae gormod o lawer o'r man eisteddfodau a chyfar- fodydd cystadleuol yn cael eu cynhal. Mae rhaln eto yn bwyta nerth ein cenedl ni y Cymry. 'Does dim rhyfedd i'r Sais ein curo gyda canu, ac fe ddeil i'n curo eto os na chymer diwygiad buan le. A beth yw amcan yr holl gyfarfodydd hyn fel rheol? 0, yr elw i fyn'd at dalu dyled- ion capelau. A fyddai ddim yn bosibl caejl cynllun arall i glirio dyledion capelau heblaw hyn, er mwyn rhoddi tipyn o seibiant i'r canu, fel y gall fag-u nerth yn ein gwqad, unwaith eto, ac hefyd i orchfygu y Sais? Fe fu y bazaars mewn bri unwaith, a gwnaethant waith da dros ben, ond ychydig o son sydd am danynt yr awr bon. 0, na ddeua ddeuparth o yspryd eto i feddianu, ein gwlad. Daeth taflen testynau cylchwyl yr Annibynwyr y Junction am y Groglith nesaf i'n Haw. Wrth edrych drosto 'rwyn gweled fod y pwyllgor hwn eto wedi dewis yr hen ddarnau cerddorol sydd wedi cael eu canu drosodd a throsodd drachefn. Pa saw! gwaith yr ydym wedi clywed canu "Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn," a "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon" mewn cystadleuaeth? Mae yn hen bryd ei newid bellach. Mae'n ym- ddanigos hefyd mae dechreutwr y canu yn y lie ydyw y beirniad cerddorol. Pwy draetha ei farn ar y mater? Dew-ch cantorian, at eich gwaith.—Yd wyf, etc., PRYDERUS.

News
Copy
Yr Ydym Eto. SYR,-Yr ydym ni,y darllenwrs Cymreig yma,yn ceisio dyfalu pwy ydyw yr holl ysgrifenws mawr ene sydd wedi codi yma. Yr ydym am ofyn i Clywedydd fel hyn: Pwy les fuasai iddynt gael gwybod pwy ydwyf? 'Rydym yn synu at ei glywedion. Pwy wledd gafodd yr Annibynwyr? Atebed Clywedydd. Yr ydym ni, y darllenwsi mawr yma, yn ffaelu a chanfod fod myn'd yn y canu carolau a gan- molir ganddo. Lie 'roedd y myn'd? Tybed mai y wledd a godwyd yn nghapel yr Annibyn- wyr y nos Sabboth oedd effaith y myn'd? Yr ydym yn ffaelu a deall He mae Clywedydd wedi bod pan y dywed fel hyn Clywed fod yr Annibynwyr yn brysur y dyddiau hyn yn dewis testynau, etc. Os ydyw wedi bod yn yr ardal dim ond 'gan belled yn ol a'r Nadolig, gallai gael un o'r testynau yn fuan wedyn. Mae Pen Wyn wedi cael un y Sabboth cyntaf o'r flwydd- yn yma gan frawd oedd yn eu rhanu yn yr ysgol yn capel (A.). Felly, Clywedydd, mid clywedion sydd i fod am y dewis testynau. Nac ychwaith fod y tes- tynau i dd'od allan o'r wasg. Ond yr ydym yn gweled He mae Clywedydd yrwan. Yr ydym ni yn y Junction, Mr Gol., wedi altro ychydig ar ddull y "test concerts." Y mae rhif 2 yn rhestr y testynau traethawd ar "Hanes o Gethsemane hyd yr Olewydd" wedi ei gyfyngu i Annibynwyr Conwy a'r Junction. Paham na fuasent yn ei adael yn agored i'r tri enwad, sydd ddifgelwch. Paham na fuasent yn cyfyngu rhif 1, 3, a 4 yr un modd? Nid ydyw y gwobrau ond bach. Dyma y gwelliant ar dtdul1 y "test concerts," sef fod enw y darn a genir i fod yn llaw yr ysgrifenydd erbyn Mawrth 27ain. Trwy hyny, fedar y cantwr ddim newid i ddarn ar ol clywed beth fydd ei gyd- ymgeisydd yn ei ganu. Fel dywed eich gohebydd, "Llwyd y Berth," y mae yn bryd altro style y "test concerts." Bydd genyf eto yn fuan ychydig am hyn, ac hefyd ar lith Ymdeithydd. "Coffee supper" sydd gan y Trefnyddion Calfinaidd Pensarn Junction ar y i4eg, sef dydd Mercher. Cyn i hyn ymddangos. Dyddorid yr ymwelwyr yn yr hwyr gyda chaneuon ac adroddiadau, a gyda llaw, a wnaiff yr hen lanciau beidio gwneud fel o'r blaen? Cofiwch chi, bydd Gwyliedydd, Gwyliwr, a Pen Wyn yno hefo chi. Yr ydym ni, y tretüdalwyr yn y Junction, yn yr un mwd eto ag a oeddym pan yr anfonais am y ffyrdd o'r blaen. Dangosa hyn fod ein cyn- rychiolydd yn ein cynrychioli yn AI. Y gofyn- iad sydd yn codi yn naturiol ydyw beth a wneir a'r pres a gesglir gan y T. C. a'r C. at y ffyrdd? Y mae ffyrdd y fwrdeisdref yr ochr hon i'r afon yn yr un sefyllfa. Lie mae cynrychiol- wyr y trethdalwyr sydd yr ochr hon i'r dwr? Y maent ynaddiaw yn dda pan yn gofyn am ein vote. Ai tybed eu bod yn rhy brysur hefo peth- au eraill? Os ydynt, paham na roddent eu lie fel cvnrychiolwyr i fyny fel caffom rai eraill yn eu lie? 0, na, mae cael T.C. a C.C. ar ol yr enw yn gwneud iddynt edrych yn well.—Ydwyf, yr hen wr, PEN WYN.

News
Copy
Cadair Eisteddfod y Calan, Colwyn. SYR,—Goddefwcih i mi fodfedd neu ddwy o'ch newyddiadur clodwiw, i longyfarch ein cymydog, Mr J. W. Vaughan, ar ei lwyddiant yn enill y gadair—gorchest fawr i weithiwr heb gael yr addysg, oreu. Dyma brawf amlwg o'r hyn a all ymroddiad di-ildo ei wneud. Tybed na fydd yn symbyliad i wyr ieuainc y cylch i ymegn;o. Bu ein cadair-fardd yn ymroddgar, ac enillodd y camp. Yr oedd Mr Vaughan yn ail ar y gadair ddwy flyn-edd yn ol. Y testyn y pryd .> wnw oedd "Y Drugareddfa." A phe c,arech, Mr Gol., -gallem anrhegu eich darllenwyr lluosog a dyfyniadau o'r bryddest fuddugol a'r ail fuddugol. Credaf y byddai yn ddyddorol cael rhagor o gynyrchion ein heisteddfodau i'r goleuni. 0 Gall I y rhai hyn 0 leiaf ddal y goleuni.—Ydwyf, etc., SEIRIOL.

News
Copy
Philosophi'r Hen Grydd. Yr Hen Ddyddia. WEL, bois bach, sut hwyl neno? Mae hi yn braf, yn tydi hi? Mi fydda i yn licio gwel'd noson leuad fel heno. Ma fy meddwl i yn myn'd yn ol at yr hen amsar pen oeddwn i yn lafn o hogyn, ac yn myn'd i garu er's talwm. T3e? Isio tipyn o fy han/as i yn earn. A, ma'n siwr y basa chi yn licio clwad amal i stori allwn i ddeud wrt-a chi. Ond tydi hen fachgan fel fi ddim yn ffond o siarad am yr hen betha sy wedi myn'd heibio. Ma'r rhan, fwya o honynhw yn rhy Sanctaidd i'w deud. Mi fydda i amball dro yn y nos, pen fydd cwsg yn cau dwad ata i, yn adgofio t:pyn o'r hen hanas, pen oeddwn i yn llanc hapus a di-brydar. A mi fydda i yn cofio amball i ddigwyddiad mor eglur fel y bydda i yn cau credu bron fod na drog, hanar can mlyn- add wedi pasio er's hyny. Peth rhyfadd ydi cof, ynte? Ond 'rydw i am adal hen betha 'rwan, i gael scwrs bach am betha'r amsar presenol. Setlo Petha. Sut ma Chamberlain yn dwad yn mlaen tua Sowth Affrica 'na, tybad? M'ae o yno es rhawg 'rwan, yn trio setlo petha yno. Gobeithio y daw o a phob peth i'w le yn ffyrst-clas. Ma hyna yn fy adgofio i o be ddeudiodd Jo, Ty Mawr, wrtha i ddoe. Mi wyddoch ma pro-isor mawr ydi Jo, er fod y rhyfal drosodd, a'r Boeriaid dan yr un lywodraeth a nina 'rwan. "Dyna i chi wiriondab," medda fo, "gadal i ddyn neud andros o lanast, a wedyn rhoid y job iddo fo 'glirio petha i fyny, a'u gneud nhw yn daclus. Os ydi dyn ddigon trwsgwl ac anwy- bodus i neud stomp o betha, yn siwr i chi fedar o byth ddwad a petha i drefn wedyn. Er mwyn cael tipyn o hwyl hefo fo, mi ddeudis i:- "Ond y dyn nath y llanast ddyla i glirio fo ar i ol." "Lol botas," medda fynta, "tasa gin i was, a hwnw yn troi y drol hefo llwyth gwerthfawr, be faswn i yn neud. Mi faswn yn deud wrtha fo am i ihe.glu hi i ffwrdd, a mi faswn yn chwilio am was arall. Tasa'r boi yn aros i drefnu, ma'n siwr ta gneud mwy o lanast byth fasa fo. Sack iddi nhw ar unwaith sy' isio, cyn iddi nhw ddi- fetha pob peth!" Pro-Bor. Ma 'na ormod o bobol fel Jo, Ty Mawr. Fedra nhw ddim diodda tynu'n ol, ar ol iddi nhw raid i syniada i lawr. Ma'r rhyfal drosodd 'rwan, a ma na heddwch, ond 'toes na ddim heddweh yn dragwyddol hefo rhei o'r pro-Bors ma- Fedra nhw ddim dallt nad oes na ddim sens na synwyr mewn bod yn pro-Bor 'rwan. Ma'r Boeriaid wedi joinio hefo ni, a ma nnw erbyn hyn yn falch o fod dan yr un ternyn. Ma nhw yn gwbod y ca nhw well chwara teg o lawar, a ma nhw yn eitha hapus. Ond ma raid i rei o bobol yn y wlad 'ma gadw twrw o hyd, a iurio codi teimlad drwg. Pa'm na "gaua nhw i pena," fel bydd yr Hwntwrs yn deud, a gadal i ni gael heddwch yn y wlad yma yn gystal a'g yn y Transvaal.

News
Copy
♦ Clywedion o Llandudno. LLE ma,e Clywedydd wedi bod, gan ei fod wedi dywed am y parotoi at ddiewis testynau, a pharotoi at gael y cyfryw allan o'r wasge Ai tybed nad ydyw wedi clywed fod yr eglwys wedi dewisarweinydd canu newydd yn He y brawd John Williams, yr hwn sydd wedi ymddiswyddo gan nad oedd ei iechyd yn caniatau iddo bar- hau ynddo? Ar Sabboth cyntaf yn 1903 cymer- odd yr arweinydd newydd ei le, yn mherson Mr W. O. Jones, A.U.C.W., a chadwyd yr all ar- weinydd yn ail. Paham? Ac fel dywed un o'ch gohebwyr yn flaenorol, pa beth wnaiff yr eglwys pan aiff yr arweinyddi newydd o'r lie ? Dyrch- afti dyeithr ar draul darostwng eraill. Paham na fuasai yr ail arweinydd wedi cael cynyg o fod yn arweinydd blaenaf? 0 na, y mae yma frawd newydd wedi d'od, ac mi gymerodd rhai o'r 'brodyr y cyfleusdra cyntaf o ofyn i'r brawd a fu 4sai_ fo yn cymeryd arweinyddiaeth y canu. Dyna hi eto: tori rheol a threfn eglwys. Nid d'od a'r peth i'r eglwys yn gyntaf oedd dyled- swydd y gwr doeth a ganfyddodd fod angen am arweinydd newydd? Z, Gobeithio na wnaiff y brawd mo hyna eto. Pe buasai y brawd wedi gwrthod cymeryd yr ar weinyddiaeth ar ol i'r hwn a feddyliodd am godi arweinydd newydd yn yr eglwys, buasai yn dda iawn i'r eglwys wedyn wrth was,anaeth yr ail a'i wneud yn.brif arweinydd. Gofaled y brawd na fydd iddo wneud yr un amryfusedd eto rhag d-igwydd iddlo a fo gwaeth, set bod heb arwein- ydd. Dylasai d'od a phob pwnc a chynllun yn rhe- olaidd o flaen yr eglwys i'w gymeradwyo neu i'w anghymeradwyo.' Da genym weled fod yr eglwys wedi bod yn bur ddoeth yn newisiad swyddogion ei chylch- wyl lenyddoi a oherddorol. Anfoned y cerddor- ion, llenydidion, traethodwyr, a'r englynwyr am y rhestr gan yr ysgrifenydd. Pris y cyfryw yw ceiniog. Yr ysgrifenydd ydyw Mr D. Jones, 9 0 Bodorgan House, Llandudno Junction. Ac os teimla ihyw un awydd cyfranu at yr addoldy newydd, derbynir hyny yn llawen gan y trysor- ydd, Mr H. Jones, Trefriw House, Llandudno Junction, a rhoddir pob hysbysrwydd am y cyf- ryw gan yr ysgrifenydd a'r cadeirydd, Mr H. Owen, Bryn Hyfryd, Llandudno Junction. JUNCTIONITE.

News
Copy
Dydd Sul cynhaliwyd Etholiad Seneddol Ffrainc. Enillodd plaid y Llywodraetih 13 o seddau newyddion. Y mae pobl gyfoethog America yn pen- ddyrysu efo eu cyfoeth. Talodd un teulu arianog i6,7oop am set yn' Nhy'r Opera, New York. Anfonwyd 65 o ferched ifanc o ddysg, medr a pharchusrwydd i Dde Affrig, dydd Sadwrn, gan Bwyllgor Dadblygiad y Cyfandir hwnw. Y mae eisieu 150 eto. C, Bwriedir iddynt lanw swyddi megis athrawon, mammaethod, gwasanaethesau a'r cyflelyb. Prinder mer-ched sydd yn y wlad.

News
Copy
I Llith Ned Llwyd. Y JUNCTION. DRWG yw genym na ddaefah y gwahoddiad gefais oddiyma i law yn brydlon i mi allu sylwi arno yr wythnos ddiweddaf. Yr wyf yn edmygu yr ymdrech wneir gan bobl ieuainc Pensarn i dalu am yr offeryn hardd sydd ganddynt, ac nid oes dadl nad ydyw y canu eis:oes wedi gwella. Yr oedd rhai o'r hen frodyr yn teimlo dipyn yn wrthwynebol i gael offeryn i'r capel, ond credaf eu bod wedi eu hargyihoeddi ma da ydyw. Gofidus ydyw genyf nad allwn fyned i'r swper <coffi a'r cyfarfod. Feallai y bydd yn haws myned y tro nesaf. Gobeithiaf y bydd hwn yn llwyddiant mawr. EGLWYSBAOH. Dyma fel yr ysgrifena "Sam.: "Syr,—A fyddwch chwi cystal a rhoddi nodiad yn eich Uith am y boneddwr, Mr Wilkes, Craigy- don, Llandudno. Y mae yn d'od i'r ardal hon yn fynych iawn i saethu, ac y mae yn eyiranu llawer at achosion. Y gwyliau diweddaf yma cyfranodd i'r tlodion lawer o biff, pwdin, a glo, a chafodd rai o'r ffermwyr anrhegion ganddo. Gwas ffyddlawn i'r boneddwr ydyw Mr John Williams, Cumberland House, a chyda'r teulu yr erys ef a'i gyfeillion pan yn talu ymweliad a'r ardal. Eiddunwn iddo oes hir. Teimla y pen- tref yn falch o Mr Wilkes-, a chaiff groesaw cyn- hes bob amser.—Yr eiddoch, 4 SAM." Dylai yr ardal fod yn falch o'r boneddwr, gan ei fod yn wastad a'i law yn agored gyfranu yn siriol a dirwignaoh. YR HEN WYDD. Fe "gladdwyd" lluaws o wyddau tua'r Nadolig, ond y mae rhyw fardd wedi anfon y penillion can/lynori mi, ond rhaid i mi gyfaddef nad wy,f yn deall o gwbl at beth y cyfeiria: — Mae'r gwyliau, fel gwyddoch, yn adeg, A hyny er's ami i fiwydd, Bydd pawb, y tylawd a'r cyfoethog, Yn treio gwneud 'sgil i gael gwydd. Bydd rhai yn eu prynu i'w gwerthu, Ac eraill i'w bwyta, bid siwr, A phawb yn ei feddw'l yn prynu Yr oreu fu 'rioed ar y dwr. Eleni 'roedd dyn, medd y merched, Yn trio rhoi tro yn yr oes, Fe brynodd hen wydd heb ddim llygaid Ac yn arfer a myn'd ar un goes. Nid da ydyw gweled hen gyfaill Yn cerdded i'r wlad ac i'r dre, A chynyg hen wydd ar ei hungoes, A cheisio cael pres yn ei lie. Trueni fod oes yr wydd yma Yn dirnyn mor fuan i'r pen, Dylasai gael cynyg ar spectol <' A tbrio cael myn'd ar goes bren; Feallai mae'r Dolig dyfodol, Os cadwai'r goes bren yn ei lie, .= Mae hi fuasai champion y gwyddau 0 Ruthyn hyd at Colwyn Bay! Gyda llaw yr ydwyf yn cofio i mi glywed am iar a choes bren un tro. Yr oedd yn gallu myn'd o gwmpas- yn lle>d rwydd. oiywais y byddai bias coed ar yr wyau. Un diwrnod, aeth ar goll, ac yr oedd y teulu mewn profedigaeth am dani, ond yn mhen amser, pan oedd y-teulu yn cael eu brecwast, tybiwyd fod rhywun yn curo yn ys- gafn ar y drws. Aed i'w agor, ac er syndod beth oedd yno ond yr iar a naw o gywion, a choes bren gan bob un ohonynt. Pwy a wyr na fuasai gwyddau felly hefyd yn y ffarm, lie 'roedd vr Wydd y cyfeiriwyd ati. DYSERTH A'R CYLCH. rvtdhhWaiS y J?uaf,wn )rn Aoddi gair arall am y cylch hwn Deallaf fod y "select group" wedi colli cyfeillion cynhesaf eu calonau. Maent fel 7 SOg, pan y newidia yr hin, wedi hedeg gartre i'w gwlad eu hunam. Chwareu teg iddynt, nid ydynt yn gwneud dim mwy gyda bechgyn y pen. tref yrwan nag oeddynt pan oedd y swells yn y wlad. Ara deg iawn .mae'r gwaith dwr yma yn myned yn mlaen. Mi fydd yn rhaid 'í'r plwyfol- ion dalu dipyn o bres i glirio y ddyled sydd yn gwasgu ar eu cefnau lluddedig, gan ei bod yn ddigon posibl y bydd y cost au oddeutu deng-mil- a r-hugain cyn y diwedd. Mae clefyd y dwr yn lledaenu yn y wlad, ond ofn sydd arnaf na ddi- wellir eu chwant pe llifai afonydd Babilon -.wy yr ardal. Mae un ddosbarth o bobl yn "official class," os mynweh enw y Sais arnynt, fel pe yn sychedu am an-rhydedd, ond ni waeui ganddynt pwy fydd rhaid dalu i foddio eu mympwy. Clywais fod tri chwarter o bobol ein plwy' yn erbyn talu treth y dwr, a bod yn well ganddynt fyned i garchar i fyw ar bara a dwr na thalu treth 1 arbed boneddigion, ac i wella eu ffermydd eu p"11^11; P°hl domo1 sydd ar y -ynghorau Plwyfoi. Piti, meddai un, na fuasai un o'r motor cars yma yn eu cipio, i edrych fuasai eu cydwybodau yn deffro, i ystyried pethau yn iawn. Yr wyf yn sicr y caiff y trethgasglydd lawer mwy o waun i hel y dreth, ac y mae yn un gwirion os y gwna dreio heb gael ychwanegiad yn ei gyflog. Rhyw sylwadr ydyw yr notiad 0 ymddiddan a glywais ar y ffordd yn agos i Dyserth. Pan oeddwn yn dyahwelyrd am y Rhyl mi feddyliodd dwy o ferched ieuainc nad oeddwn yn clywed y "re.marks' oeddynt yn ei wneud arnaf ar ol i mi eu pasio. Mi ewch chithau, merched i, yn hen ac yn hyll os cewch chi fyw. Peidiwch chwi na neb arall diystyru yr hen. COLLI Y TREN. Ar un adeg yr oedd dau gariad yn aros yn lied bell oddiwrth eu gilydd. 1Ir oedd y ddau yn rhwym ar hyd yr wythnos. Nid oedd yn gyfleus iddynt weled eu gilydd. Un nos Sadwrn penderfynodd y dyn ieuanc y buasai yn codi'n foreu tranoeth a myned gyda'r tren i weled ei anwylyd. Ond er ei ofid collodd y tren. Beth oedd i wneud? dim ond aros oriau, a cherdded i'r orsaf agosaf. Yr oedd mewn pryd yno, a chafodd y tren. Mawr fu yr esbonio am yr oediad, a thueddai i feio Ond, er colli y tren ar y Sabboth, anghofiodd y cwbl yn fuan iawn, oblegid collodd y tren cyntaf yn ol wedi yny^ oreu Llun. Ni fu y fath helynt erioed. Hawdd ydyw maddeu hefyd, pan y mae dyn dros ei ben mewn cariad anghofia luaws o bethau. IM. „ NED LLWYD. Pioneer Office, Colwyn Bay.

News
Copy
-—— Llosgwyd Llyfrgell Rydd Castellnedd boreu Sadwrn i'r llawr. Aeth gwerth 2,ooop o lyfrau yn goelcerth. Bu y Barnwr Gwilym Williams yn llongy- farch Cymry Morganwg ar gyfrif y ffaith mai tramoriaid ac nid Cymry yw troseddwyr y rhan hono o Gymru. Tra anffodus. Y mae y Parchedigion Dr. Herton, Dr. Maclaren, J. H. Jowett, Birming- ham, a Dr. Clifford,—pedwar o weinidoqion en. wocaf yr Ymneillduwyr Saesne.g-yn lles'o- a methed :g—effeithiau gorlafur. °

News
Copy
Barddoniaeth. "Y DRAENOG." Un dygyn llawn p;dogau-nos deithydd Yn 'stwytho'i gymalau; Mewn cell glyd o bicellau, Mae ei gorph wedi'i amgau. Llanfairfeohan. JOHN ROBERTS. -0-- [Danfonwyd yr englyn uchod i Eisteddfod Nadolig, Conwy, a rhoddwyd iddo ganmoliaeth bur uchel.—GOL.] FY MEIBL. Mae g,enyf falm y gwynfyd—yn fy Meibl I fy mhoen a'm clefyd; Yn wr claf, ei swcwr clyd, Ar achos sy'n rhoi iechyd. Mae genyf air myg y Nef, fyd-yn fy Meibl Wrth fy modd mae'n d'wedyd Siwr rin hwn sy'r un o hyd, A'i swyn a'i wifr, sy'n hyfryd. Ar bob loes, mel yw'r Beibl-air-a r.hinwedd I'r enaid rhag llesmair I dori gwaew da yw'r gair Yn rhoddi cyfareddair. Genyf y mae'n dogni fy myd-yn dda; Mae'n ddeddf i mi hefyd; Abl yw gair y Bedbl i gyd Yn rhoddi cyfarwyddyd. Anwyl yw Beibl i bobl byd;—a'i falm hoff Hyfawl, a maeth yspryd Ei fer all, sy'n werthfawr o hyd, Gaed heb au i gadw bywyd. Bara a dwr lachawdwriaeth-i bawb Yw'r Beibl yn yr arfaeth; A lleufer ddysg y llyfr, ddaeth A goleuni Rhagluniaeth. Chwilio i'w oleu a chalon-yn lan Ddylai enaid ffyddlon Nes bo ar bryd asbri bron Am wir Iesu'n gwneud ymryson Am gariad lor ma;e geiriau da-y llyfr, A'r Ilais argyhoedda; A phob pennod draddoda, Am otudi i ddyn, am wlad dda. Ac am barhau'r Gymraeg mae bryd—fy Meibl; 0 Yn gryf mewn tueddfryd Ymblyga ym.a oblegyd Bias y wiw barabl o hyd. GWYLLT WALXA. -0- NADOLIG, 1902. Y gwynt, dydd Nadolig oedd-yn foddion, I feddwi fel gwinoedd; Gwylltion gas g.wna'n gwalltiau'n goedd, A'i esgyll ddwynai'n gwisgoedd. Llanrwst. R. E. -0- YR OLWYNFARCH (BICYCLE). (Buddugol yn Bettwsycoed, 1902). Yr olwynfarch ry lonfyd,—i fenyw Pan fynoch a'n hyfryd; I'r nwyfus a'n chwyrn hefyd, Dyma farch i'r dim i fyd.' Llanrwst. R. E. -0- Y BARDD. Un a'i enaid yn enynu-yw bardd Aiff drwy'r byd tan ganu Gwych wobrwyon, loewon lu, Enillir gan ei allu. Llanrwst. T. HERBERT HUGHES.

News
Copy
Gwaenysgor. PENTREF bychan dinod yw hwn. Rhifa ei drig- olion tua dau gant a haner. Y mae yma nifer dida o ddynion ieuanc yn y lie, ac y mae yn bleser genyf ddweyd fod y rhan fwyaf ohonynt wedi ymgiymeryd a dysgu gwahanol grefftau. Da genym, hefyd fod genethod ieuanc y plwyf yn dysgu gwahanol gelfyddydwaith, ond drwg genyf ddweyd eu bod wedi syrthio i arferia-d 0 garu mor ieuanc. Gwahoddodd person y plwyf gantorion y lie i'w eglwys i ganu carolau y Nad- olig (y rhai sydd Ymnei 1 lduwyr), a llwyddodd yn ei amcan. Mi fu ein hen dadau yn aberthu eu cysuron o blaid Ymneillduaeth. Ai tybed fod yr ysbryd hwnw yn colli yn yr oes sydd yl1 codi? Da genyf fod gwelliant yn nglyn a thafarndai ein gwlad. Mi fydd y ddau "detective" ieuanc, fel y gelwir hwynt gan rai, yn fyw i symudiadaU y pentref. Hir oes iddynt. clywais y bydd gan yr heddgeidwaid bellach o dan y gyfraith ne^rdd "gamera" i gymeryd darlun o bob dy» fydd dan ddylanwad diodydd meddwol. Os gwir hyn, da ydyw. Y mae yn y lie yma ych- ydig 0 ddemocratiaid sydd yn amcanu gwella cymdeithas, ond tybia llawer mai gelynion i bob daioni ydynt. Mewn ysgrifau dyfodol ceisliaf egluro i'ch darllenwyr pa b&th ydyw credoau 7 dosbarth a elwtir democratiaid, er mantais oleuo eraill.

News
Copy
Cyrhaeddodd Mr William Jones, yn Llan* gefni. Disgwylia seibiant ac adnewyddiad ya awyr lan Mon. Y mae argoelion y bydd gwladfa Patagonia yn fuan yn mhlith y pethau a fu. Myn yr afoll ei boddi. A y igwladfawyr i ymgartrefu ar ynys fawr yn nghanol yr Afon Negro. Yno I.efyd rhaid dyfnhau y tir. Rhydd y Llywodraeth 44oop at agor camlas drwy y wlad. Rlhoddlt 240 erw o dir i bob sefydlwr. Cymro trwyadl yw y Parch Campbell Mar- gan, olynydd y diweddar Mr Moody, o'r Amef tea. Bu yn aelod yn nghapel y diweddar Barc'b Thomas Jones, Abertawe, am flynyddau. Ta-a Y gwr hyawdl hwnw sydd yn ail gyneu ynddo e, ebai y "Drych." Nis gall siarad Cymrae-g. SITUATIONS, WANTED AND VACANT.—Read D't advertisements, and' if there are ncune that S'Ullt, please send us am advertisement yourself. pre-. pai'd ratle, 12 words, 3 insertions, is 2d; 13 to M wtord, 2S.

Advertising
Copy
:c- MONUMENTS. "I LARGE STOCK. RICHARD WILLIAMS. Monumental Works, LLANFAIRFECHAN AND 4521 LLANGEFNI. 11