Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

0 FRYN I FRYN.-.1

News
Cite
Share

0 FRYN I FRYN. -.1 Y MAE'R Dysgedydd am y mis hWll, sef Medi, Y 'Dysgedydd' a'r Eisteddfod. yn rhifyn Eisteddfodol. Hi ydyw ei weledigaeth newyddaf a phen- naf, oblegid mae'r cwbr o'r mater- ion golygyddol yn Eisteddfodol, ag eithrio gair yn ei bryd am D.A.G. Y ddau allu sydd wedi rhoi en hys- gwydd amlycaf o dan yr Eisteddfod eleni ydyw Mr. Lloyd George a'r Dysgedydd. Chware teg i Mr. Lloyd George. Gwr bach parod yw e' i ddal y gwan i fyny ac ar y pryd hwn, ni cheir ei well yng Nghymru. A lie bo fe, mae e' ynddo ei hun yn Eisteddfod ac yn Orsedd. Wrth gwrs, mae gan Mrs. George a Megan eu rhan yn hyn, ond nid hawdd amlinellu eu cyfaredd hwy ill dwy. Eto mae yn bod, mor wir a'i fod e'. Dwy ryfedd iawn i ddyn cyhoeddus ydyw mam a merch. Aeth Mr. Lloyd George i'r Eisteddfod, a Mrs. Lloyd George a Megan. Aeth y golygydd gwerthfawr, D.M.E., i'r Eisteddfod hefyd. Siar- adodd Mr. Lloyd George air bach neis am dani yn ei hwyneb, a sieryd D.M.E. air am dani yn ei chefn. Gair ar lwyfall sydd gan y naill, a gair ar bapur sydd gan y llall. Pan gwyna D.M.E. ar Benyd Golygydd,' ocheneidiem fel hogyn o dan ofal mam, a meddyliem am yr adnod honno Lie nid oes ychain, glan yw y preseb ond llawer o gnwd sydd yn dyfod trwy nerth yr ych.' Bellach, mae'r Dysgedydd a'r Annibynnwr a'r Diwygiwr yn Eisteddfodol ac yn Eisteddfodgar. 'A rhaff deircainc ni thorrir ar frys.' Hoffwn wyneb y Dysgedydd a'r Diwygiwr. Yr ydym wedi bod yn gyfeillgar a'n gilydd er dydd cyntaf ein gweinidogaeth. Ond gwr dieithr i ni yw A nnibynnwr. Yr oil a wyddom am dano yw ei fod yn wr canol. Un o sylwadau awgrymiadol y Dysgedydd am yr Eisteddfod yw, Y peth mwyaf newydd ynglyn a'r Eisteddfod eleni oedd Y GYMANFA GANU.' Ac ychwanega Hyd yma, peth lleol ac enwaziol fu'r Gymanfa Ganu, fel rheol. Ein barn ni, a barn pobl bwysicach na ni yw, i'r arbrawf brofi yn llwyddiant hollol.' Ymhellach, ceir nodiacl amserol ac o bwys am Lyfr Emynau Cenedl- aethol ac Anenwadol, a dywedir Oni wrendy penaethiaid yr enwadau ar reswm yn y luater hWll, o ba le y daw ymwared ? Tybed y daw o'r Eisteddfod Genedlaethol ? Cafwyd declireuad cleni 'ef dechreuad ar emyn-lyfr cenedlaethol. Sieryd y Dysgedydd yn ei flaen mai un o sefydl- iadau mawr nodweddiadol Cymru yw'r Gymanfa Ganu, ac nid newyddian mohono yn ein gwlad.' A thrachefn, Dyma'r tro cyntaf i beth o'r fath gael ei gynnal dan nawdd yr Eisteddfod Genedl- aethol ar raddfa genedlaethol.' --A ydym i olygu mai un o feddyliau'r gosodiad hwn yw, ddarfod i'r Eisteddfod Genedlaethol yn Aberystwyth genedlaetholi'r- Gvl-liatifa leol ac enwadol? Ai yn yr Eisteddfod y ceir y drem gyntaf ar un emyn-lyfr ? Oni cheir aelodau yn yr Eglwys, a hynny ers llawer dydd cyn 1916, yn gofyn am un emyn-lyfr ? A pha hawl oedd gan yr Eis- teddfod ar y Gymanfa ? Onid yw'r Eisteddfod yn lied eofn ac anfoesgar tuagat bethau union- gyrchol yr eglwysi a'r enwadau ? Pa hawl sydd gan yr Eisteddfod, a'i bod yn genedlaethol, ar emynau a thonau yr eglwysi i ostegu iniri a dadwrdd a cliyffro yn y dorf ? A phwy a geis- iodd ganddi gymryd at y Gymanfa Ganu leol ac enwadol fel y gwnaeth eleni yn Aberystwyth ? Bid sicr, nid oedd ei chenedlaetholdeb yn rhoddi iddi hawl na gweddusrwydd i'r fath ymgymer- iad oblegid, er fod yr Eisteddfod yn cael ei galw yn Genedlaethol, eto y mae hynny, heddyw diweddaf yn y byd, yn amheus. Meddai un o'i fiyddloniaid hi ei hun Y mae'r Eisteddfod yn fwy o Great Eastern fasnachol nag ydyw o genedl- aethol, ac wrth ei Seisnigieiddio fel y gwneir, cyll ei theithi cenedlaethol.' A dywed un arall o'i charedigion Nid oedd y cynhulliad a'r gwaith yno yn debyg i Eisteddfod Gymreig. Eisteddfod neu Gynhadledd Frytanaidd a Thra- mor fuasai'r enw goreu arni.' Geill y dyn cyff- redin ddarllen yn ei hwyneb a'i gwisg a'i gwaith ei bod yn fwy Pendefigol a Dosbarthol nag ydyw o Genedlaethol a Gwerinol. Ac eleni wele hi'n rhoi'r cam cyntaf tuagat Eglwysyddiaeth o'i heiddo ei hun. Ai yr Eisteddfod yw'r Eglwys Newydd y sonnir cymaint yn ei chylch ar hyn o bryd ? Os taw e', synnem ni ddim na welid eglwys ac enwad newydd ohoni yn y man, oher- wydd y mae ganddi eisys ei harchoffeiriadaeth, a'i hesgobaeth, a'i chiwradiaeth, a'i defodaeth, &c. Yn wir, a darllen yr Eisteddfod yn ol y gair Eglwys, hi ydyw'r Eglwys fwyaf ei cheid- wadiaeth a'i defodaeth a'i hesgobyddiaeth yng Nghymru. Ac yn yr honiadaeth uwch-eglwysig ac enwadol hon, wele hi yn cymryd i'w chylch- drefn ei hun un o sefydliadau mwyaf poblog- aidd yr eglwysi a'r enwadau, ac yn ei ddefn- yddio i'w phoblogrwydd ei hun, a hynny ar flwyddyn wan a bygythiol yn ei hanes. Dis- gwylid y buasai Cymanfa Ganu Genedlaethol yn beth i aratu yn ei gylch ac i ymholi llawer, petasai hyd yn oed yr enwadau yn eu harwein- wyr yn unfarn o'i phlaid ond pan yr ymhel yr Eisteddfod a hi fel y gwnaeth eleni, nis gallwn lai na meddwl am y Kaiser ar dir gwa- harddedig Belgium, a gwelwn angylion coll yn adfeilion crefydd y wlad. Nid ydym yn benboethyn gyda chysegredig- rwydd lie a swyddogaeth, ac ni thybiwn mai hawlfraint eglwys ac enwad, am eu bod felly, ydyw efengylu ac addoli. Credwn gyda John Caird fod crefydd mewn cyflawni gweithredoedd tymhorol yn ysbrydol, cystled ag mewn cyf- lawni gweithredoedd ysbrydol liollol. Buasem ar fai pe amheuem ysbryd rhagorol yr Eistedd- fod. Yn wir, mae'n dda gennym am yr Eistedd- fod, sef ei beirdd a'i cherddorion a'i chefnogwyr. Edmygwn eu hathrylith, hoffwn eu cymdeithas, a gwerthfawrogwn eu llafurwaith. A bod un emyn-lyfr yn dod allan—a deued allan yn fuan -fe fuasai'n rhaid wrth eisteddfodwyr i'r ymgy- meriad. Ond ni chawsent eu dewis am eu bod yn eisteddfodwyr, nac ychwaith am fod yr Eis- teddfod yn honni un hawl i reolaeth Crefydd Gymdeithasol ac Eglwysig. Tra yn cydnabod y cwbl o'r ystyriaethau hyn, nid yw'r gydnabydd- iaeth yn un cyfiawnhad i Gymanfa Ganu yr Eisteddfod eleni. Aeth Cymanfa Ganu crefydd- wyr Cymru, am dro, yn ddelw aur fawr, yr hon oedd a'i disgleirdeb yu rhagorol, o aur, arian, pres, haearn a phridd ac yn yr Eisteddfod hon fe gedwid y gwin goreu yn ddiweddaf, ac fe'i hyfid o lestri aur o deml ty Dduw. Fel rheol, gorffenna'r enwadau eu gwyliau blynyddol drwy ddiwrnod o bregetliu ond casglwn fod yni mryd yr Eisteddfod i orffen ei gwylwaith flyijyddol drwy ganu. Os gweddus ydyw hyn i'r Eistedd- fod, onid yr un mor weddus fuasai ei bod yn diweddu ei gwaith drwy bregethu, neu drwy gytranogi o Swper yr Arglwydd, neu drwy gyf- arfod gweddi ? Diau, gyda 11avv, iia weddai yr olaf i'r Eisteddfod, gau mai pechacluriaid edifeir- iol sydd yn gweddio, a heddsaint sydd yn canu a cheir ambell eithriad o rai yn canu pan wedi eu siomi yn rhagluniaeth tawr y net. Os am ddiogelu crefydd y genedl, cadwer llygad ar yr hyn a elwir yn Eisteddfod y genedl. Dioddefa Cymru, yn eglwysig ac yn enwadol, ar hyd y blynyddoedd diweddaf hyn oddiwrth dda cyhoeddus ar gyieiliorn. Haws yw i ymladd a Satan ei hun nag a chyfeiliornad o'r fath, am ei fod yntau felly yn satanaidd. Bai yr eglwysi a'r emvadau ydyw hyn, a mwy beius yw'r arweinwyr na'r bold yn hyn. Y mae'r eglwysi a'r enwadau wedi bod yn or-eisteddfodol, a hynny yn eu cyflawniadau a u cenadaethau car- trefol; ac eleni caed sampl o'r Eisteddfod yn iny-nd-yii eglwysig. Pa beth mae'r eglwysi wedi ei wneud i'r Eisteddfod ? Llawer ymhob rhyw fodd. Pa beth mae'r Eisteddfod wedi ei wneud i'r eglwysi, sef i'w phulpud, i'w llenyddiaeth, i'w gweddi, i'w chan ? Ceir yr atebiad yn yr ymhol- iad. Meddylier am yr olaf, ac yn yr olaf y ceir y sampl oreu o werth yr Eisteddfod i'r eglwysi. Beth am ein canu cynulleidfaol a'r Eisteddfod ? Ymhob man, ac ar bob pryd, mae canu Eistedd- fodol wedi bod o niwed a drwg i'r canu cynull- eidfaol. Lie bynnag y mae'r naill yn well, 3- mae'r Hall yn waeth. Os gedy'r enwadau i'r Eisteddfod dolach a'u tonau a'u liQinynau a'u canu cynulleiofaol, fe derfydd y Gymanfa a bod yn lleol ac eglwysig. Y mae Cymanfa Eistedd- fodol Aberystwyth eleni yn gynnyg anunion- gyrchol at hyn. Os na edrycha'r eglwysi ati, a hynny mewn pryd, ceir ei chanu cynulleidfaol yn dyfiant gwyllt ar gorff yr Eisteddfod. Llwydd a to i'r Dysgedydd, a llwydd a fo i'r golygydd ieuanc rhagorol, D.M.E., a llwydd a fo i'r Eis- teddfod—tra'r erys gyda'i gwaith ei hUH. 0 Lan y Mor.'

Advertising