Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

MERTHYR TYDFIL.

News
Cite
Share

MERTHYR TYDFIL. CEXIIADAETH DDIRWESTOL. Medi I I eg-- I sfeel, dan nawdd. Cymdeithas Ddirwestol Merthyr a chydweithrediad unol eglwysi'r dref, cahvyd yng lighapel Pontmorials (M.C.) gyfres o gyfarfodydd rhagorol, oblegid ni arbedwyd na tliraul na thrafferth i'w gwneuthur yn llwyddiant. Ond er pob vmdrech, canfyddid yn amlwg fod liin-fynegydd yr eglwysi ar y cwestiwn pwysig hwn yn isel iawn a chredwn fod pob un o'r ymwelwyr fu yn ein haunercli wedi gwneucl svlw cyhoeddus, pendant ar hyn. Y personau wahoddwyd i'n mysg i ffrwydro ar noddfeydd a dichellion y gelyn oedd y Parchn. H. Barrow Williams, Llandudno Hugh Jones, Llanelli T. M. Jeffreys, Aberdar; Lionel B. Fletcher a Phillip Rogers, Caerdydd. Cychwynnwyd y gyfres nos Lun, Medi lleg, drwil gynnal cyfarfod i'r plant. Ymddiriedwyd trefn a gwaith y cyfarfod hwn i ddwylaw sicr a diogel, sef i weinidog ac un o ddiaconiaid pybyr ddirwestol y Tabernacl (B.), y Parch. Arthur Davies a Mr. E. R. Williams. Profodd Mr. Davies yu ben-campwr ar arwain y gan- iadaeth, a llwyddodd Mr. Williams i ddiddori ac argraffu gwirioneddau pwysig ar en medd- yliau ieuainc. Cafwyd adroddiadau gan Miss Doris Bettington a Miss Sarah A. Lloyd, ac unawd rhagorol gan Master Eddie Rowlands. Nos Fawrth llywyddwyd gan Mr. Evan Lougher, Llywydd Pwyllgor y Genhadaeth, ac uu o ddirwestwyr amlycaf y wlad. Y siaradwyr oedd y Parchn. T. M. Jeffreys a H. Barrow Williams. Mr. Jeffreys siaradodd ynghyntaf, a phrofodd ei fod yn feistr ar ei fater gadawodd argraff ffafriol ar y cyfarfod. Dilynwyd ef gan y patriarch o Landudno gyda medr a liwyl am gryn awr o amser, a chododd frwdfrydedd y cyfarfod i bwynt uchel iawn. Disgwylid ymlaen yn awyddus am ei wasanaetli ar hyd yr wyth- nos ond trist mynegi, siomwyd ein disgwyl- iadau uchel. Bore Mercher, tra yr oedd Mr. Williams yn nhy ei westywr caredig, Dr. W. Llewelyn Jones, ac yn mwynhau ei foreubryd yng nghwmni Mr. a Mrs. Jones, syrthiodd gyda sydynrwydd mewn llewyg, a. gorfu iddo ildio (dros amser, beth bynnag, a gobeithio amser byr) wedi dechreu tan-belenuu i wersylloedd y gelyn yn ein mysg ac ar gais y meddyg, i ddychwelyd gartref i gael seibiant. Bu hyn yn siomedigaeth chwerw i ffyddloniaid y cyfarfodydd, a pharodd ychydig drafferth i'r Pwyllgor. Eiddunwn y rhydd Duw iddo adferiad buan i ymaflyd yn ei hoff waith. Nos Fercher, dau lywyddiaeth y Parch. G. S. Rees, B.A. (Soar), cafwydgwasanaeth y Parch. Lionel B. Fletcher, gwr a dawJl o Gaerdydd. Brodor o Awstralia yw ef, ac yn llawn CV11- ddaredd yn erbyn y fasnach.' Ymosodai yn ddidrugaredd ar ddirwestwyr a chrefyddw}-r glasdwraidd ein gwlad, ac yn arbennig ar ein Llywodraeth ddi-asgwrn-cefn, oedd yn rhy wan i ganlyn esiampl ddoeth a gwrol gwledydd eraill i atal y gwastraff anferth ar ddynion, arian a defnyddiau lawer a achosir yn ddianghenraid gan barhad y fasnach feddwol yn ein mysg. Diau y ceir clywed eto y dieithr hwn gyda'i sêl danllyd dros yr aehos da. Da oedd gennym i Mr. Rees, y llywydd, lanw yn wir deilwng y rhan o'r ewrdd oedd yn goddef yn herwydd absenoldeb Mr. Barrow Williams. Gwnaeth osodiadau ac apeliadau taer, a chadwodd ddi- ddordeb y cyfarfod i bwynt liapus hyd y diwedd. Pasiwyd hefyd bleidlais o gydymdeimlad a Mr. Barrow Williams yn y cyfarfod hwn, a chyf- lwynwyd y cyfryw iddo'n bersonol gan Mr. Rees a Mr. David Bowen. Nos Iau 11}-wycldwyd gan y cyfreithiwr dir- westol, Mr. R. Edwards jaines-g-,vr ar dan gyda phob mudiad dinesig yn y dref. Yr oedd areitliiwr v noson yma yn arwr mil a niwv o frwydrau dirwestol, ym mherson hapus y Parch. Hugh Jones, Llanelli. Cymerodd Mr. Jones ddau o brif eiriau y dydd i ymdrin a hwynt— un am 110s Iau, a'r llall am nos Wener. Y ddau air oedd, Economy ac Efficiency. Ni wyddai am un cyfieithiad gwell na Darbodaeth ac Effeith- iolrwydd, a sicr vw nad anghofia neb oedd yn bresennol am ymdriniaeth meistrolgar ac etfeith- iol Mr. Jones ar y materion uchod. Llywyddwyd Nos Wener gan un o arwyr dir- westol y dref, y Parch. D. G. Evans, a phrofodd ei fod yn deall i berffeithrwydd anhepgorion cadeirydd doeth. At araith alluog y Parch. H. Jones yn y cyfarfod hwn, cafwyd gwasanaeth y Parch. Phillip Rogers, Charles-street, Caerdydd --gwr ieuanc y gellir cyfrif arno, ac iddo ddyfodol disglair, yn ddiau. Amlvgodd Mr. Rogers rai pethau ynglvn a diolledion mawrion y inor oedd yn ddigon i synnu a phensy-frdanu dyn yn her- wydd effeithiau'r diodydd difrodol. I* jTeimlir yn ddiolchgar i eglwys a blaenoriaid Pontmorlais am eu parodrwydd i roddi en capel eang at wasaiiaeth y Pwyllgor ynglyn a'r Gen- hadaeth hon, ac yn arbeuiiig am wasanaeth effeithiol Mr. J. 0. Thomas ar yr organ trwy'r holl gyfariodydd. Cariwyd allan drefniadau'r Pwyllgor yn effeithiol gan y ddau ysgrifennydd. Mr. Ben Jones (Mertliyrfab)—Ysgrifennydd galluog Cynideithas Ddirwestol Merthyr a'r Parch. T. Sinclair Davies, Adulam. Ni fwriada cyfeillion sobrwydd yn y dref lioli orffwys hyd iies dihuno holl eglwysi'r cylch at en dyled- swydd i wrthwynebu gelyn peunaf dyn a Duw ym Mhrydain a'r byd.

Ymneilltuaeth yn Kinme! Park.

IMAN CH ESTER.

Advertising