Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

BYRDDAU CYFLAFAREDDOL.

[No title]

LLITH MERR JOS.

News
Cite
Share

LLITH MERR JOS. Mistar Gol., fuom i ddim yn Bythesda ers llawer blwuddun dan yr wthnos ddweutha, er bod gin i gryn lawar o ffrindia yno, a'r rhai hyny yn bobol ffeind iawn, ac yn rhoi gwadd i mi fund yno amriw weithia. Ond mi ddoth rhwbath drosta i pan welis hanas y cwarfod mawr ddydd Sadwrn, fel y penderfynais fund yno i glwad yr auloda Seneddol, ac i gaul sgwrs a chypanaid o'r hen ddeilan gyda hen gydnabod. Wel, mi gychwynodd Robin a minau yn ddigon bora i fod yno yn brydlon. Ma yna grun wahaniath wrth fynd i Bythesda rwan ragor oudd amsar yn ol. Bu Bythesda yn hir iawn ynlbyw dan yr hen oruchwiliaeth o deithio, ac ni fydda yna ddim ond ceir yn mund i fynu o Fangor. Digon annifir fyddai hi gyda nhw yn ami, a byddai raid i'i thyrd class pasingers (y dynion) fund allan i gerddad weithia os bydda y llwuth yn drwm. A byddai yr hen Gruffydd Jos, Tregarth, yn arfar deud fod yno lawer ij,wn gormo i o sie ;ioBS ar y Nbrdd. Onclma petha wedi newid erbyn hyn. Mae Byth- esda dest gystal allan a'r Felin yma rwan— ma'r tren yn myn'd yno yn syth ac yn ddi- drafferth iawn, ac mi gaiff pav/b i gario yno bob earn, er i'r llwyth fod yn drwm. Wel, mi gyrhauddodd Robin a minau yno yn saff yn ddigon buan i mi gaul mund i'r Ledis Conffyrans; ond yr andros ulw yr oudd hono wedi caul i chadw y noson gunt. Rhag cwilydd iddyn nhw am neud y fath dro. Ond hidiweh befo, y nhw gafodd golled, achos nii faswn i yn rhoi arauth na chlywsau nhw moi gwell hi daswn i yno. Hei lwc y bydd y ledis yn selog. Wel mi dreulis y pnawn yn nhy un o'm hen ffrindia' oedd yn yr"ys-ol ar unwaith a mi, tra yr ath Robin i gwarfod y dynion. Wel mi gawsom sgwrs bur ddifyr am yr hen amsar gynt, a thipyn o siarad hefyd am betha yn Bythesda ar hyn o bryd. Rhyw .gwyno oudd gwraig y ty na.d oudd petha gystal a dyla nhw fod o lawar. Ma hi dipyn bach gwell na fuo hi, ond digon isel ydi petha o hyd. Mi fuom i yn gofyn i Robin sgrifenu hanas cyfarfod y pnawn drosta i, ond nai o ddim. Wuddoch chi dydi Robin ddim cystal sglaig a mi, a fedar o ddim spelio yn iawn. Mau o'n hen foi reit gall er hyny, a mi fedar o ddarllan yn iawn, diolch i'r Ysgol Sul am hyny. Mi ddeudodd fod cyf- arfod y pnawn yn un o'r rhai gora y buo fo yno to riod, a bod yno lawar iawn o sens wedi caul i siarad. Un garw iawn oudd y chwarelwrhwnw o Gaerhun, a mi ddeudodd y drefn yn bur blaun am yr aelodau Son- eddol. Yn siwr ma isio gneyd rhwbath heblaw gaddo o hyd. Job reit dda gafodd Lloyd George, sef tynu mesur allan i sef- ydlu byrddau cyflafareddol rwng y gweith- iwrs a'r meistri. Yr ydw i yn gwbod fod Lloyd George anwyl yn un o'r aelodau sydd yn caru mwya ar y gweitlmvrs, ac mi neiff i ora iddyn nhw hefyd. Ma'r gweithiwrs o ddifrif, a fedar neb wel'd bai arnyn nhw am ignau eu reits; ma nhw wedi caul i gorth- rymu llawn ddigon yn enw pob rheswm. Mi ges ina fund i gyfarfod y nos, ac un iawn odd o hefyd. Welis i fath dro riod na fasa gynyn nhw le mwy i gadw fo. Dydw i ddim yn meddwl basa Pafiliwn Caernarfon fymryn rhy fawr, da bosib dwad a fo yno. Rhai garw ydi chwarelwrs Bythesda, ma nhw yn rhai sydd yn arfar darllan, ac felly yn gwybod be ma nhw o gwmpas. Mi gawsom dret iawn gin Tom Ellis. Hen bry ydi Tom, a mi roth gocos i'r Diwc Argeil hwnw. Mi ddaw yna rwbath i'r ffarmwrs drwy Tom Ellis. Ma arna i ofn na ddaw dim ond cyfrath a'r landlords yna at i coed, fel ma mwya piti. Dyn yr Horn Riwl i Gymru ydi'r aelod hwnw o'r South, Mr Alfred Thomas. Ni chymith hwn i droi yn ol ar chwara bach. Go hed, mi boi, yr ydach chi ar y reit trac. Yr oudd Lloyd George hefud -yn siarad. yn dda iawn fel arfar, a mi roth air bach pur dwt i mewn am destimonial Mr William John Parry. Mi nath Mr Parry lawar iawn dros y chwarel- wrs, ac mi'r ydw i yn siwr nad ydi'r chwarel- wrs yn rhai anniolchgar. Mi ydw i am roi gimint fedra i fforddio ati.

YN EISIEU.

Advertising

Advertising

HIE I) I) rGmAETli " KAD."…

[No title]