Skip to main content
Hide Articles List

41 articles on this Page

----------------ARWSDDION…

News
Cite
Share

ARWSDDION YR AMSEROEDD [GAN ANDRONICUS]. Y PABYDDIOX YN MYNED I ORESGYN CYMR.TT. Yn y Gynhadledd Babyddol a gynhal- iwyd yn Lerpwl yr wythnos ddiweddaf y mae y Pabyddion wedi penderfynu gwneyd ymosoiliad dewr ar Brotestaniaeth Cymru. Eu hariau rhyfel ydynt iaith y Cymry a cherddoriaeth y Cymry. Yn mysg y siaradwyr yr ydym yn cael amryw o offeir- iaid yn gwisgo enwau Cymreig, ac yn eu plith y Parch J. H. Jones, o Gaernarfon, yr hwn sydd ers blynyddau bellach yn offeiriad yn nghapel Pabyddol y Twthill. Adwaenwn y Ta,d Jones pan yn fachgen byclian buom yn cydcliwareu ag ef, ac yn eistedd ar yr un fainc yn yr ysgol ddyddiol —a Sabbothol hefyd. Yr oedd y pryd hyny yn un o'r bechgyn tirionaf a hynawsaf, o l' ac fel yr wyf yn deall y mae wedi tyxu i fyny yn un o'r dynion mwyaf caredig, ae yn gwneyd llawer o les yn y cylch y mae yn troi ynddo. Arferai ddweyd pan yn hogyn ei fod am fyned i goleg Dr Edwards, ac yn bregethwr Methodus fel ei hen daid Dafydd Cadwaladr; a synwn i ddim pe buasai wedi cael cefnogaeth i hyny mai pregethwr Methodus a fuasai heddyw. Efallai na fuasai yn bregethwr Sassiwn, ond nid oes eisicu pawb i fod yn bregethwr. Sassiwn. Y mae yn siwr i chwi os ydyw y Pabyddion yn mynd i oresgyn Cymru, y maent wedi dewis yr offerynau goreu at gyrhaedd eu ham can, sef ein hiaith a'n cerdd—dau anwylbeth yr hen genodl. CYXIIADLEDD Y YMNEILLDUWYR. Llwydcliant mawr eedd y gynhadledd yn N ghaernarfon, ddydd lau, ac y mae yn sicr o adael ei hargraph ar ei hoi. Dyddiau y cynhadieddau ydyw y rhai hyn. Y frwydr fawr. yn Nghymru yn awr ydyw y frwydr rhwng yr Eglwys Wladol ag Ymneilldu- aeth. Y mae yr hen Fam eisiau i'w phlant ddyfod yn ol o dan ei chronglwyd, ac y mae aT ar y plant eisiau troi yr hen Fam dros y drws. Pthyfol cartrefol ydyw. Ond tybed y beiddiai y gelyn o Rufain gael ei droed i lawr yn ystod y ffnvgwd. Rhaid peidio a chau y llygad ar y ffaith fod Pabyddiaeth ar gynydd yn Nghymru. Eu Pabydd yn aelod am fiynyddoedd o Fwrdd Ysgol Bangor. Y mae y Tad Jones yn aelod o 0 Fwrdd Ysgol Caernarfon Ymneillduol a Phrotestanaidd— ac am wn i nad ydyw cystal aelod a dim un ohonynt. Ond, atolwg, beth fuasai yr hen dadau yn ei ddweyd am hyn ? Beth fuasai Evan Richardson, o Gaernarfon, a John Elias o Fon, yn ei ddweyd ? Yn araf iawn y mae Pabyddiaeth yn enilltir yn Nghymru yn araf hefyd y mae y lefain yn lefeinio y blawd. Y LTATH COCH. Rhifyn dydddorol ydyw rhifyn Hydref o úymrn. Y inae yn cadw i fyny ei gymeriaa, ac yn wir yn cynycidu yn ei ddycldordeb- y darluniau vn dda, a'r ysgrifau yn ysgafn a chwaethus: Y mae yn dda genyf weled Mrs Catherine Davies, o Borthaethwy, yn dyfod allan i amddiffyn cymeriad yr hen fardd ei thaid,— "WILLIAM EDWARD. Yr oedd Cyrnn wedi bod yn lied drwm ar yr hen fardd yn rhifyn Medi, ac yr oedd yr oedd yr wyres yn methu dal. Yr wyf yn hollol gyduno a Mrs Davies mai nid un "pigog cas oedd yr hen fardd—yn enwecTig y blynyddoedd olaf o'i fywyd, panyr oeddwn i yn ei adnabod. Os darfu iddo yfed rhyw dipyn yn ormod o gwrw cartre yn nhafarn yr "Onen"-—dyna oedd arfeiiad crefyddwyr yr oes hono—oni fyddai pregethwyr yn caerpeint o gwrw cyn myned i'r pwlpud a pheint wedi darfod pregethu ? Ac fel y dy- wedodd yr hen Owen Williams, o'r Waen- fawx, byddai y cesig yn sigo o danynt." Yr wyf yn cofio1 yr hen fardd yn dda yn eistedd yn yr "allor," fel y gelwid y set fawr yn y Bala, a chap du am ei ben. Byddai cael eistedd ar lin William Edward yn ei dy yn y Plase yn anrhydedd a chwen- ychai plant y Bala. Ac yn e:ste Id a? lin yr hen bererin y cafodd yr yigrifenydd ddyspi y penill o'i eiddo, Mae munyd o edrych ar Aberth y Groes Yn tawel ddistewi mor tonog fy oes, A llewyrch ei wyneb yn dwyn y fath hedd, Nes diffodd euogrwydd a dychryn y bedd. Y WYDDELAEG. Mae ystadegau yn dangos bod hen iaith y Gwyddel yn marw yn gyflym. Ddeng mlynedd yn ol yr oedd dros driugain mil o'r Gwyddelod na fedrent siarad ond iaith eu tadau. Y flwyddyn ddiweddaf nid oedd deugain mil. Deng mlynedd yn ol yr oedd yn agos i filiwn yn gallu siarad y Wyddel- aig, ond y flwyddyn ddiweddaf nid oedd fawr dros haner miliwn—a'r rhai hyny yn Red amherffaith. Y mae yn amlwg, felly fod hen iaith ein brodyr o'r Ynys Werdd yn prysuro i drangcedigaeth. Byddant wedi colli eu tir a'u hiaith. BETH AM Y GYMEAEG ? Mae'n debyg, er gwaethaf pob ymgais i ladd yr hen iaith, ei bod "mor fyw ag erioed." Nid y Saeson ydyw gelynion y Gymraeg, ond y Cymry eu hunain; ac os J bydd hi byth farw y nhw fydd wedi ei lladd. Gallesid disgwyl i'r Eisteddfod—y sefyd- liad cenedlaethol—fod yn brif ainddiffynydd i iaith Taliesin Ben Beirdd, ond yn ol yr hanes am Eisteddfod y Rhyl Die Shon Dafydd oedd yn teyrnasu. Disgwylir pethau gwell yn Mhont y Pridd. Yno y mae Iwan Jenkyn, ac y mae ef yn Gymro at y earn. Fe welaf fod ymgais ar gael ei wneyd i gael Eisteddfod 1896 (cyhoeddiad pell, onite ?) yn Llandudno. Byddai Eis- teddfod wir Gymreig—dim gair o Saesoneg ynddiyn sicr o dalu. Y mae y Saeson yn clywei digon o gauu Saesoneg yn y trefydd mawr, a byddai yn dda gan yr ym- welwyr a Llandudno glywed ein per alawon prydferth yn iaith gwlad y bryniau, a chan gerddorion Cymreig. Y mai digon o honynt, a byddai mwy pe cai ein cerddorion ieuaingc fwy 0 fagwraeth a chwareu teg. "Oes y byd i'r Iaith Gymraeg." Cafodd swyddog milwrol yn Chatham ei wenwyno i farwolaeth drwy fwyta sardines oedd mewn tyniau. Cynygir 250p am ddillad a gwahanol gelfi a adawa yllofrudd Neill ar ei ol. Bernir fod Cadben Lam! or, yr hwn a hwyliodd o Boston Mehefin 16eg, mewn cwch bychan, 12 troedfedd o hyd. gyda'r bwriad o gcroesi y Werydd, wedi boddi. Bu chwareuwr yn St. Petersburg farw ar y llwyfan pan yn myned drwy ei ran o r perfformiad. Cafwyd hyd i'r Trafnoddydd. Yspaenig yn Jamaica yn gorwedd yn ei wely wedi ei saethu yn farwol. Ni wyddis pwy gyflavn- odd yr erchyllwaith.

[No title]

BENTBYCA ARIAN A'R CANLYNIADAU.

EISIEU BWYD-LLADRATA.I

IANFON CLERIGWR I GARCHAR.

---------LLONG-RYFEL AR LAWR.

YR ARGLWYDD FAER NEWYDD.

,EI LADD WRTH GICIO'R BEL.

TWNEL HIR.:

EBLID Y WESLEYAID.

[No title]

ETHOLIAD CIRENCESTER. .-

CELU MïGLYS YN HULL.

LLOSGI PLEIDLEISIAU.-

LLOFRUDDIAETH OLDHAM.

CYFRIFON Y CADFRIDOG BO()TH

CAWS CANADA.

AFFGHANISTAN.

CEISIO DISEDDU MR BALFOUR

ANFON CANON I GARCHAR.

IAWN AM GOLLI BYS.

GORWEITHIO GENETHOD.

PWY WYR ADEG PRIODI?

CLADDU YN JAPAN.

YSGARIAD AC AILBRIODAS.

HUNAN - LADDIADAU.

DAM WAIN YN NGORSAF CAERNARFON.

COLLI CYFLE.

FFORDD RYFEDD 0 "GARU."

Advertising

EIRA YN YSGOTLAND.

jCOSBI CYFREITHIWR.

RHODD DEILWNG

.TAN MAWR YN MHENARTH.

GWLEDDA AR OL COLLI. j-

FFAIR Y BYD.

DAMWAIN ARSWYDES.

Y GEM MAR WOL.

Y CYNGHAWS YN EUBY CYMDEITHAS…

CYNRYCHIOLAETH LLAFUR.

Advertising