Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

-__---NOSON YN CWM DU.

News
Cite
Share

NOSON YN CWM DU. Yn ddisymwth, clywid y drws yn agor, a ibywun yn dyfod i mewn gan ddywedyd, Oes yma bobol ?" Oes, dowch yn mlaen Citi Llwyd," ebai Rhys Prys, Adwaenai ei llais. Ar hyn, wele hen wraig dra defosiynol yr olwg ami yn gwneyd ei hymddangosiad. Edrychai yn sobr-ddifrifol a phe buasai corph marw yn y ty. Ar ol dodi piser oedd ganddi yn ei Haw ar y bwrdd, a thaflu cipdrem ar bawb oedd yn y ty, eisteddodd i lawr. Deallwn oddiwrth y golwg cas a wnaeth ar Ismael Marc, nad oedd yn ryw hoff iawn o hono. "Wei, Citi Llwyd," ebai Rhys Prys, "pa newydd sydd genych ?" Newydd i ch'i yn wir," ebai Citi; dasa chi wedi gweld yn dda ddwad i'r cyfarfod 'gethu oedd gynon ni yn Nghapel y Bwlch acw ddoe, cawsach glywad traethu mor rag' orol am y Newyddion braf a ddaeth i'n bro,' na fasa arno chi ddim iso clywad am yr un newydd arall rhawg, 'rwyn siwr. Ond, ran hyny, petha digon sych y'ch c'lona' ydach chi'r Sentars 'ma. A thai neb end y nhw. Dasa rhyw gethwr Sentars yn y cwarfod yn brygawthan rhyw hen ph'losiphi di-sylwedd, fe fasach acw i gyd. Mi fydda i yn diolch llawar fod yr hen Fethodistiaid anwyl wedi cael rhoi eu troed i lawr yn y cwmwd yma. Chwertha di faint fynot ti Isma'l. Mi wn i yn burion beth ydwy'n ddeyd. Dasat ti yn dwad i wrando ar ein 'gethwrs ni, fe fasa rhyw siawns i ti gael tro, 'Does neb yn debyg i'n 'gethwrs ni." Gv/ir a ddywedasoch, Citi ywyd," ebai Ismael Marc, nad oes neb tebyg iddynt. z;1 Mi eis i wrando rhyw Fethodsyn unwaith, ac ni welais neb tebyg iddo erioed, a gobeithio nas gwelaf chwaith. Daeth i mewn i'r capel mor bendrwm a gwargam a phe buasai yn dwyn holl bechodau yr oesoedd ar ei ysgwydd- eu ei hun Mesurai ei gamrau tua'r pwlpud gan edrych mor drymaidd a phe buasai yvs cael ei orfodi trwy drais'i gyfkiwni gorchwy! nas dymunai. Ond yn y pwlpud y cafodd gymhorth i wneyd rhyw wawd mawr o hono eihun. Ymaflodd yn y Beibl megis gydag anewyiiysgarwch ac wedi troi at y testyn, gwefliodd ar y gynulleidfa gan droi gwyn ei lygaid i fyny fel J1¡) dm gyllell y cigydd. Darllenodd ei debfvn gyd a liais isel a dyeith- riol, gap. fwyta ei t-ir it M pe buasent \-n ddiwerth i'r bob! eu wrando, nen yn illy gysegredig i ymadad a'i enau ef. Ar ol dech- reu twymnogyda'i bregetb, 3eth o ddifrif at y y, t u ni a i, gwaiih o wneyd yslumian. Agorai ei enau o'r n'aill glust i'r liall, Dangosai ei ddannedd fel be buasai am rwygo y gwrandawyr. Yna gwenai mewn rhith sancteiddrwydd, gan alw ei weflau adref. Weithiau, bloeddiai nerth asgwin ei ben, gan ddodi un Haw ar ei gefn. Yna, rhwbiai ei ddwylaw yn eu gilydd fel dyn yn dofi yr ymgrafu. Plygai, ymunionai, curai y Beibl a'r pwlpud, a chiciai yn ol gan wichian fel un ar drancedigaeth, nes aeth mor gryg a'r gwcw ar derfyn ei thymhor. Ac y mae'r werin anghall, Cits Llwyd. yn meddwl eu bod yn cael eu hadeiiadu yn rhyfedd yn y ffydd gyda gvvallgofrwydd o'r fath." "Taw, Isma'l bach," ebe Citi, "dyn anianol wyt ti 'does gen ti na gras na barn. 'Dasa ti wedi dy 'jeuo, fe fasa petha' yn edrach yn wabanol iawn. Ond yn y t'w'ilwch 'rwyt ti, ac y mae bawar. yn emvedig rhai a phena' go weiniaid, wedi gwnend bwgan yn y nos o'r petha' mwya' dymunol yr olwg arnyn' nhw." "Fu 'roed y Lth betb!" meddai Sion Luc, rhoddasach i Ismael ryw bwyth ofnadwy, Citi Llwyd." Ar ol cael Uaeth yn ei phiser, ac iddi ddy- intiiio yn dda i bawb, ac Ismael yn eu mysg, trodd Citi tuag adref, a rhywbeth tebyg i wen ar ei gwyneb. Aeth Lowri Prys i'w hebrwng gam neu ddau "Hen wraig anghryffredin yw Citi Llwyd." ebe Rhys Prys, byddaf yn rhyfeddu at ei dawn. Mae ei hymadroddion yn anv. ond nid oes purach cymeriad yn y fro na Citi." "Rhys Prys," ebai Edwin Puw, ni welais yn ystod yr holl amser y bu'm yn LJoegr le mor ddymnnol a'r Cwm Du yma." "WeI," ebe Rhys Prys, mae yn debyg fod y ty yn rhyw adeilad arddarchog ar y cyntaf. Mae o yn hen iawn erbyn hyn. Dywedai fy nhaid ei fod ef a'r ywen sydd o flaen y drws yr un oed a'u gilydd. Cymerodd llawer am- gylchiad o bwysigrwydd mawr le yn y cyffiniau hyn, medd hen hanes. Ymladdwyd brwydr waedlyd rhwng y Cymry a'r Saeson yn y dyffryn ryw dro. Cafodd y Saeson y llaw uchaf arnynt, a gyrwyd y Cymry ar ffo i fyny'r cwm. Ond pan gyrhaeddasant i'r coed yna, penderfynasant ail wynebu y Saeson, a gorch fygasant hwy gyda lladdfa fawr. A galwyd y bryn lie y cwympodd y gelynion wrth yr enw Bryn y Saeson "Eich taid oedd y cyntaf o'ch teulu chwi a ddaeth i fyw i'r Cwm Du yma, onide ? ebai Edwin. "Ie, siwr," ebai Rhys Prys; "yr oedd mwy o dir yn perthyn i'r lie cyn i fy nhaid ddod yma nag y sydd yn awr. Ond yr oedd fy nhaid a fy nhad ar ei ol yn gallu byw yn eithaf cysurus. Ac nid oes genyf finau ryw lawer o achos i gwyno, Yr oedd fy nhad yn llawn o natur dda. Hoffai lettya fforddolion. Cafodd llawer un letty noson o dro i dro yn ei amser ef. Caent hanes y lIe yn y Llan, wrth ddyfod ar hyd y brif-ffordd. Yr wyf yn cofio y mynyd hwn am un noson hynod o ddifyr a dreuliwyd yma yn amser fy nhad. Rhyw bymtheg oed oeddwn i y pryd hwnw. Wel, i chwi, yr oedd nifer da o ferched y fro, rhai yn hen a rhai yn ieuainc, wedi dyfod yma gyda eu pelleni a'u gweill i ymryson gwau. Yn ddi- symwth, pan oedd gweill a thafodau y merch- ed yn myn'd am y cyntaf, clywid rhywun yn euro yn y drws. Aeth fy nhad i edrych pwy oedd yno clywn ef yn dyweyd, Dewch i mewn i mi gael golwg arnoch.' Ar hyn, wele wr ieuanc glandeg a thrwsiadus yn dyfod yn mlaen gyda thelyn ar ei gefn. Dymunai gael letty noswaith. Dywedai ei fod ar ei daith i Glerynarfon, i Eisteddfod oedd i gael ei chyna! yno yn mhen deuddydd neu dri. Hoffodd fy nhad ef yn y fan, a rhoddodd gymaint o groesaw iddo a phe buasai yn angel o'r nefoedd. Distawodd swm gweill a thaf- odau y merched, a syllai pawb gyda theim- ladau haner-addolgar ar y telynor ieuanc, Yn mhen tipyn, dywedodd fy nhad wrtho yr ewyilysiai yn fawr ei glywed yn chwareu ych- ydig ar y de,yti.O'r goreu,' ebe yntau, Yr oedd tair neu bedair o'r hen wragedd yn hoff o ddawrosio, ac yn gwneyd hyny yn gampus hefyd. Dechreuodd y telynor a chwareu. Swynwyd yr hen wragedd ar unwaith. Try- danodd sain y delyn eu holl natur, bwriasant eu hosanau a'u gweill o'u dwylaw, a'u clocs oddiam eu traed, a dechreuasant ddawsio. A dawnsio y buont, a cnwareu y bu y telynor am yspaid hir. Yr oeddwn wrth fy modd. Ar ol i'r dyn ieuainc fwynhau tamaid o swper, aeth at ei delyn eilwaith: a cbwareuodd a chanodd yr hen 'Roslin Castle' ar y geirian: 1 Fenyw fwyn, gwrando gwyn Un sy'n curio er dy fwyn.' &c., nes y bu yn agos iawn i mi golli arnaf fy hun. Wylwn a chwarddwn bob yn ail. Nid oedd gan fy nhad ychwa:th un mymryn mwy o lyw- odraeth arno ei hun. Ac yr oedd y merched fel pe buasent wedi syrthio i fath o ber-lewyg." Yr oedd Rhys Prys yn myned i ddyweyd rhywbeth yn mhellach pan y daeth Lowri Prys i mewn ar ol bod yn danfon ychydig ar Cati Llwyd, ac y dywedodd: "Mae hi yn dechreu bwrw eira yn drwm, yr wyf yn ofni ein bod yn myned i gael tyw- ydd garw," "Y cam cyntaf yw y cam goreu i ni, ynte, i droi tuag adref," ebe Sion Luc, "mae genyf lwybyr lied beryglus i fyned i fyny i'r fan acw; nos da i chwi oil." Pan oedd y drws y ncau ar ei ol "Hen gymeriad gonest, dyddan, agwreidd- iol yw Sion Luc," ebe Rhys Prys, "bydd yn hoff genyf weled ei wyneb bob amser." Yn mhen tipyn aeth Morus Gethio tuag -— prysIU RhVS adref. A gair da oedd gao >— yntau. d adref, aethum inau gydag ef, ob 8 cy{eHj* gartref a'm cartref inau y» y prys do'1 xo\ gwyddwn na byddai gan R y jjj da i'w ddyweyd am danom n1 i ni droi ein cefnau. vn Dyna fras-ddarluniad o nos V pan oeddwn oddeutu deu 0 & jj llawer blwyddyn wedi myne %t y cymeriadau a adwaenwo y Q uje colli i gyd a theulu heb j gynt-sy ddim o nodweddion yr be awr yn byw yn Cwm Du.

Advertising