Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

66TROAD Y RHOP."

News
Cite
Share

66TROAD Y RHOP." [GAN GWYNETH VAUGHAN). PENNOD X.-LLE NEWYDD. Bu Mr. Morris y Plas cystal a'i air i Lan Elen. Dechreuodd o ddifrif lanhau y dref a'i chwm- pasoedd; a chan ei fod yn moddu digonedd o arian, yr oedd ei allu a'i ddylanwad yn cyrraedd cyn belled a liyd ei bwrs. Min- gamai y bobl yn ei gefn, gwawdient ef yn eu mysg eu hunain,canys gwyddai yr oil yn eithaf da sut un oedd yr un fuasai weithiwr cyffredin wedi codi i fod yn Aelod Seneddol, a thrwy hynny yn rhyw lun o wr bonheddig. Rhaid oedd ymgrymu i'r oil o'i ddymuniadau ef. Ni feiddiai neb fod yr un syniad gwahanol yn ei ben, na rhoddi llais iddo chwaith, cytuno a Mr. Morris a'i gynlluniau oedd yr unig ffordd i gadw'r heddwch, a chael yr arian o'i logell. Tybiai of ei hun ei fod yn anff aeledig, a mynnai i bob creadur arall fod o'r un feddwl ag ef hefyd. Gwenai hen deuluoedd o uchel ach drigent oddeutu'r eyffiniau, ond gwenu distaw oedd. Deallent hwy-fod y wlad yn cychwyn i lawr y goriwaered, ac mai un o arwyddion sier yr amserau oedd fod arian yn cymeryd lie gwaed. Teyrnasiad y tywysogion yn mynd, a theyrnasiad y taeog yn dyfod. Mamon ar ei orsedd, a goreu gwlad megis diddim o'i flaen. Y dyn ariannog yn fawr, ond y syn- wyr yn y pen yn werth dim os heb y gallu i'w drosglwyddo i'w boced. Tra yr oedd Mr. Morris yn prysuro i wneud Llan Elen yn batrwm o dref," er ei fwyn ei hun,gan mai Plas Llan Elen oedd ei gartref, daeth tymor Edward Jenkins i ben yn yr ysgol. Un- waith yn rhagor, dechreuodd William Jones berswadio ei nai nad oedd dim gwell ar ei gyfer na bod yn ddry'gist. Ond aeth Edward allan ben boreu drannoeth, a cherddodd i Bias Llan Elen. Bu yn ddigon ffodus i gyfarfod a'r Aelod Seneddol ar y ffordd yn ymyl y troad i lidiardau y Plas. Tynnodd Edward ei gap, a safodd. Edrychodd Mr. Morris arno, a gofynnodd yn sarug, Beth wyt ti'n geisio '? 'Rwyt ti'n ddigon mawr i weithio. Fydda'i ddim yn swcro pobol ddiog i gardota. Dos i chwilio am waith." Cododd y gwrid i wyneb y bachgen, ond atebodd yn foesgar Os gwelwch yn dda, syr, i chwilio am waith y dos i atoch chi Mi ddaru chi addo gwaith i mi o flaen y loesiwn, pan fyddwn i wedi gadael yr ysgol, a mi ddeydsoch y basech vn siwr o 'nghofio i, ond mi rydach chi wedi ngollwng i'n ango' Trodd Mr. Morris, ac edrychodd yn wyneb y bachgen Na, mi wn i pwy wyt ti rwan. Fedri di gownsio, a sgrifennu llaw go deidi ? Well i ti ddwad hefo mi." I fyny a'r ddau at y Plas, ond yn lie troi at y fynedfa i'r ffrynt, aethant trwy ddrws yn ocbi- y ty i ystafell yn llawn o bapurau a llyfrau cvfrifon. Woli di y rheina ? Fedri di gadw'r cwbl mewn trefn i mi, a gwybod sut i roi dy law heb ymdroi ar bob papur fydd arna'i eisio, heb i mi fod yn sefyll i ddisgwyl am hanner awr ? Neith rhyw siort o waith mo nhro i, rhaid i mi gael gwaith iawn ne ddim." Medraf, syr," ebe Edward, mi fedra i roi gwaith iawn i chi." O'r gore, mi gei dreio, ond cofia di, dim lol i mi. Os bydd rhyw beth i'w ennill yma wrth roi arian allan, mi fydda' i'nbarod, ond os na fydd yna log i ddisgwyl mewn rhyw ffordd neu gilydd ar bob sofren yma, rhaid iddi hi aros. Mae llawer math o log. 'Rydw i'n ystyried cadw fy lie yn y Senedd yn llog, ac mae gyrru arian i bobol dduon yn rhoi llog pur dda weithia.. Fedri di nabod y llogau yma ydw i'n 'u disgwyl am fy arian ? Medraf, syr," ebe Edward, gofalu bod ni'n hunain yn siwr o'r cwbwI, waeth pwy arall fydd ar ol. Cofio nad oes dim yn talu yn y byd yma ond edrych am fod y tu cleta i'r clawdd y'n hunain, waeth pwy fydd ar ol." Well done, bachgen smart wyt ti. Mi fvddi'n siwr o lwyddo. 'Rwyt ti yn 'i deall hi i'r dim. Prynnu yn y farchand rataf, a gwerthu yn y ddrutaf. Talu eyflog bychan, a mynnu gwaith mawr. Mi ges i bedwar ugain punt am dipyn o goed wedi llifio: 'doeddwn i wedi rhoi dim ond pumpunt am daitvn nhw i ddechre, a chostiodd 'u llifio nhw ddim ond rhyw bumpunt arall chwaith. Dvna'r ffordd i lwyddo. Codi'r crogbris, wedi talu'r pris Ileia. Wyt ti fvnv a'r gwaith ? Os nag wyt ti, nid dyma'r lie i ti." Syr," ebe Edward, wyddwn i sut un oeddech chi cyn i mi ddod yma. A faswn i ddim wodi dwad onibai mod i'n meddwl v gwrieut-hwn i'r tro i chi. Ma,e arna inna eisio codi hefyd, Mr. Morris, a waeth gen i ar y ddaear sut, mwy na chitha. Y codi vdi'r peth. Fydd neb yn cofio sut, ond i ni fynd vn ddigon uchel. Beia pobol dlodion fydd y hyd yn weld; os byddwn i'n ddigon cyfoethog, fvnnybvd neud dim ond wincio, gwnawn i'r drwg y fynnon ni." Ha, Ha, Ha, gwir bob gair. 'Rwvt ti'n stwff iawn, a mi gei yr hon fyd yma yn ffwl digon gwasaidd i ti ond mvned o'i chwmpas hi v ffordd yna. Ond meddwl di am dano fo n cheisia 'i helpu o, chci di ddim ond cic am dy drafforth. Gneud gwas o'r byd pia hi, meistr drwg ydi o. Faint o gyflog raid i mi roi i ti tybed ? Os ydw i i gael rhaff rydd i droi ymysg ych pntlia chi, syr, mi fydda yn werth i chi dalu'n ddigon da i mi fel na fydd arnoch chi ddim ofn i mi droi'r dwr oddiwrth ych iriolin chi at fy violin i. Mae cyflog rhesymol yn help i un a bt yn 'i ofal o fod yn onest, Mr. Morris." "Fel 'dwy byw, 'rwyt ti yna i gyd. Wel bo sy'n gynog da.. Fedri di fod yn werth punt yn yr wythnos i mi ar dy fwyd dy hun ? Dychlamodd calon Edward yn ei fynwes; yr oodd punt yn yr wythnos yn ymddangos iddo of fel eyfoeth dilivsbvdd yr adeg lioimo, ond hu'n ddigon gofalus i beidio dangos ei fodd- Jonrwydd, yn unig atebodd y llane yn dawel Modraf, syr, mi fedra'i fod yn werth pob diniai dalwch chi imi, gewch chi weld. A mi 'drycha'i ar ol ych lecsiwn chi. 'Rydw i'n leicio lecsiwns,a chewch chi ddim colli'ch lIe ellweti chi fod yn siwr." Ymhen ychydig oriau, c-yrhaoddodd Edward yn ol i dy ei ewythr, a dechreuodd dywallt hanes ei gyflogiad gan Mr. Morris y Plas. Gwelodd William Jones fod ei nai wedi troi ei gefn ar y drychfeddwl o fyned yn ddrygist, ac ni soniodd ragor am y peth. Yr oedd cyflog mor fawr a phunt yn yr wythnos i ddechreu wedi synnu teulu syml ty'r gwehydd tlawd, a rhoddwyd sel eu bendith ar gyflogiad cyntaf Edward. Ac fel y daroganodd William Jones, yr oodd y gwaith a ddeuai yuo bron wedi darfod yn llwyr, a'r ychydig y bu i ddiwydrwydd y gwehydd eu casglu ynghyd ymron wedi dyfod i'r pen. Treuliai Siarlot y rhan fwyaf o'i hamscr yn y Ty Gwyn, ac heb na swn na helynt yn y byd, na nob yn ystyriod fawr yngliylch ei dyfodol hi o'i gymharu a'r oiddo ei brawd diwylliai yr enoth ei hun yng nghwmni Nora Dermot, a gwasgarai Nora ieuanc berarogledd ei chymeriad prydferth o gyleh ei holl lwybrau. Byddai ei bywyd yn peri i'r hen breswylwyr diddan—oedd yn gwybod hanes gwlad Judea yn llawer gwell na hanes ou gwlad eu hunain—son yn fynych am ei thebygrwydd i'r Person gogoneddus a gerddai o amgylch yn gwneuthur daioni." Ni wyddai Nora ddim am yr efengyl a bre- gethid gan Mr. Morris y Plas ac Edward Jenkins, a'r hunan yn ganolbwynt iddi, ei hefengvl hi oedd yr un a sylfaenwyd ar yr hunanaberth mawr a adawodd ogoniant y Nof i achub byd a'i godi i fyny, nid ei sathru dan draod. (I barh(,tit).

YSTAFELL Y BEIRDD

GLJTWAF LEISIAU YN Ylt AWEL.

BLEST EASTER. MORN.

ENGLYNION PRIODAS

NID DIGON DYSG.

YSTAFELL Y BEIRDD.

, I MENNA.

FICER LLAN-Y-BLODWEL.

Advertising