Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

CYNGOR.

News
Cite
Share

CYNGOR. I FLAENORIAID. WELE grynhodeb oGyngor adraddododdMr. Edward Smallwood yn Crosshall Street nos Fercher ddiweddaf, i cliwech o flaenoriaid newyddion a dderbynnid yn aelodau o'r Cyfarfod Misol Ar y blaen mewn ymroddiad.-Goddefwcli i imi'ch annog i ymdaflu i waith eich swydd gyda'ch holl egni, oblegid 'does dim ystyr i swydd heb woith. Mor fyw yr ydym i'n galwedigaethau bydol; byddwn yr un mor fyw i'n galwedigaethau nefol, Ehowch y blaen i bethau ysbrydol. Teml Dduw yn gyntaf, a'ch ty chwi eich hun wedyn. Yng Ngweddi'r Arglwvdd, pethau nofol sy gyntaf wedyn y daw ein bara beunyddiol. Ar y blaen fel Ysgrythyrwyr.—Byddwch ar y blaen i bawb yn eich gwybodaeth o'r Beibl, canys yn hwn y cewch chwi'r athrawiaethau sydd i'w credu, y grasusau sydd i'w medd- iannu, a'r dyledswyddau sydd i'w cyflawni. Ynddynt hwy y cewch ddefnydd cadw seiat. Arferai John Hughes, Pontrobert, ddannod i rai blaenoriaid eu bod yri debyg i'r crach- feddyg hwnnw oedd a dim ond un blwch o bils at bob anghyflwr a dolur ond byddwch chwi fel Apolos, yn gadarn yn yr Ysgrythyrau, ac a orchfygodd yr Iddewon yn gyhoedd, gan ddangos mai Iesu oedd y Crist. Raid i chwi ddim bod ar un blwch bils ond i chwi dreiddio i drysorau amryfal a diball y Beibl. Ar y blaen mewn Cyfrannit.-Byddwel) ar y blaen mewn haelioni. Braint a geir ar y ddaear yn unig ydyw hon. Cewch ganu Iddo Ef yn y nefoedd, ond yma am gyf- rannu. Teimlwch yn gynnes at yr holl gasgliadau. Mae y rhai hyn yn lliosogi yn fawr rhagor y byddent, a phlant y casgliadau yn cael ei geni y naill ar ol y llall, a 'does dim i'w wneud, am wn i bellach, ond ceisio'u magu goreu gallorn-hwyrach ymhen amser y deuant i allu cerdded a gofalu am danynt eu hunain. Cofiwch am danynt oll-ie, hyd yn oed am gasgliad yr Achosion Seising (Gwen yn ymdaenu tros yr holl gyfarfod) Ond cof- iwch yn arbennig am y prif gasgliad, sef at y weinidogaeth, fel y byddo'r gydnabyddiaeth yn un anrhydeddus Cof gennyf am Edward Morgan y Dyffryn yn dweyd am un hen frawd, ar ei wely angau, yn troi i wneud ei ewyllys, ac yn gadael y dodrefii i'w ferch, ond yn gorchymyn iddi anfon dwy sofren oedd yn y dror i'r Bala, "'canys oddiyno yr ydym yn cael y ceiliogod i ganu ebe'r hen rychor Ar y blaen mewn undeb a chyd-oddeflad.- Cydymgynghorwch gyda phopeth, canys lie y bo swyddogaeth yn weddol un, yno hefyd y ceir eglwys unol a llwyddiannus. Ar y blaen fel gwrandawyr.—Daliwch i wrando'n dda ar ol esgyn i'r Set Fawr, a rhowch ambell Amen go gynnes i galonogi r pregethwr. Ni chynheswch neb arall nes y b'och gynnes eich hunain. Soniai Roger Edwards y Wyddgrug am un gwr a wrandawai yn eithaf da tra'n aelod, ond pan y'i codwyd yn flaenor, & ddechreuodd wrando fel barnwr yn lie fel pechadur, gan bwyso a mesur a dweyd pethau heb fod nac urddasol na dymunol yn y festri. Ymgroeswch rhag dim anfri o'r fath. Ar y blaen mewn ffyddlondeb i'ch gwdn- idogion.-Clywais i Mr. Spurgeon gael ei friwo'n fawr un tro gan frathiad blaenor cibog, ac iddo ddweyd :—" Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe a ffy oddiwrthych, ond gwrth- wynebwch swvddog eglwvsig, ac efe a ffy atoch-ivill fly at you Os yn anghydweld weithiau A'ch gilydd, ymgedwch rhag dim crasineb y naill at y llall. Mawrhewch eich swydd, a- chofiwch nad oes dim modd cilio o'r swydd hon yn anrhydeddus ond trwy farw. o-

0 Dre Daniel Owen

Advertising

Advertising

Advertising

Advertising

DYDDIADUR.

PLIPIDAU'R SABOT" NESAf

SOBRWYDD AR Y RHEILFFYRDD

Ffetan y Gol.

O'R MOELWYN I'R 606ARTH

Family Notices