Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

LLANYMDDYFRI.

News
Cite
Share

LLANYMDDYFRI. Dyma fi yr wythnos yma yn bwriadu rhoddi, ynghyd a phethau ereill, ycbydig o hanes yr anerchiad a draddodwyd o flaen Cymdeithas y Cyd-ddiwyllwyr nos Wener diweddaf, gan y Parch Gruffydd Evans, ein hoffus gurad. Carwn ddweyd yn y fan yma fod cynulliad da o aelodau wedi dyfod at eu gilydd, ond nid cystal ag a ddymunem. Cafodd y gymdeithas uchod y pleser o weled yn bresenol ar yr achlysur hwn y Parch L. H. Walters, curad Llwynpia (yr hwn sydd frodor o'r ardal hon, ac ar ymweliad byr &'i deulu). Gofynwyd iddo gymeryd y gadair, a chydsyniodd yntau, gan wneyd ei waith yn rhagorol. Nid bob amser yr ydym yn gweled cadeirydd fel hwn. Gwyddai yn eithaf da fod gan y Parch G. Evans anerch- iad da i'w roddi, felly ni wnaeth efe ddim mwy nag agor y cyfarfod, a galw ar yr ar- eithydd at ei waith. Testyn yr anerchiad oedd, Hanes aglwysi y plwyf yma.' Yn wir, gallaf ddweyd fod pawb oedd yn bre- senol yn disgwyl cael gwledd o'r fath oreu, ond credaf eu bod wedi cael hyny, a mwy o lawei, canys yr oedd ef (y siaradwr) wedi trin ei bwnc mor feistrolgar, ac hefyd mor syml, fel nad oedd modd peidio ei fwynhau i'r graddau uchaf. Er iddo siarad am dros awr o amser, eto i gyd ni fu yn bosibl iddo ddiweddu y tro hwn, ac y mae efe wedi addaw rhoddi ei bresenoldeb eto nos Wener, Ebrill laf ac er mwyn y thai oedd yn ab- senol nos Wener diweddaf, crybwyllaf mai prif amcan y siaradwr pan ddaw o'n blaen nesaf fydd rhoddi hanes pa fodd y cafodd Eglwys Dingat ei gwaddoli, felly bydded i chwi sydd am wybod hanes eich hen Eglwys anwyl, ac fel y galloch wrthbrofi yr haer- iadau a ledaena y gelynion, ddyfod i'r cyf- arfodydd hyn yn gyson, ac yn enwedig o hyn hyd y Pasg. Talwyd y diolchgarwch gwresocaf i'r Parch G. Evans am ei barod- rwydd yn dyfod ymlaen bob amser i hy- rwyddo yr achos da hwn, ac hefyd i'r Cad- eirydd am lywyddu. Terfynwyd felly un o'r cyfarfodydd mwyaf adloniadol a gawsom oddiar gychwyniad y gymdeithas. Hyd yn hyn yn y blaen yr ydym yn myned, a go- beithiwn y bydd pob un o'r dynion ieuainc sydd yn pertbyn iddi yn dal yn IffyddIon wrth eu gilydd fel y byddont yn foddioia, drwy help Duw, i wella eu gilvd ] yn õy- mhorol ac jsbrydol. Y mae fy llitii yn myned yn faith, onide carwn ddweyd gair neu ddau yu rhagor am y gymdeithas hen, ond rhaid gadael yn awr rhag ofn mai y fasged fydd rhiny cwbl. --rfu,, B wh.

DOLGELLAU.

Amddiffyniati yr Eglwys.

[No title]

BARRY.

|BODEWRYD, MON.

LLANEDI.

FFESTINIOG. -

TREGARON.

Advertising