Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Camgymeriad Coegyn: NEU Gwers…

News
Cite
Share

Camgymeriad Coegyn: NEU Gwers Effeithiol. Yr oedd yn ddyn ieuanc—ie, dyna fel y mae, ymhob ystori-y mae yn rhaid fod dyn yn gysylltiedig 4 hi, ac oa na fydd menyw hefyd, rhaid ei bod yn stori hynod o wael, yn enwedig y dyddiau rhai'n— dyddiau y Fenyw Newydd Ond yr oedd, fel mae gwaetha'r modd, yn ychwanegol at fod yn ddyn ieuanc, yn goegyn—un o'r rhai hyny sy'n angenrheid- iol eu cael bob amser i lanw bwlch mewn cymdeithas—un balch, hunan-ymffrostgar, &c., &c., ond dyna, yn lie rhangymad- roddi, gwell d'od yn union at y stori. Er mwyn celu ei enw priodol, cawn alw y dyu ieuanc wrth yr enw cyfaddas, os nid swynol, o Sprigyn. Yn anffodus. cafodd y Sprigyn ei daro yn dost-wel, mewn gwir- ionedd yr oedd yn dioddef (fel y dywedodd rhywun) oddiwrth dueddiad cryf iawn i beidio gweithio.' Y mae yn ddolur mwy cyffredin nag y tybia y lluaws, ac yn ymledu yn fwy yn ystod misoedd yr haf; ond nid yw yn beryglus, oddigerth o ssfbwynt arianol. Ond gwelai y Sprigyn fedd cynar o'i flaen, a dymunai achub ei gyfeillion rhag profi galar naturiol; felly, fe aeth ymaith i syllu ar y mor mawr rhyfeddol. Gan ei fod yn Sprigyn da, cymerodd ei chwaer gydag ef; ond y chwaer, wedi cael profiad blaenorol o'r Sprigyn, a gadwodd lygad wyliadwrus ar ei brawd. Yr oedd yn ddyn ieuanc gofalus iawn. Meddai syniad uchel am ei allu i swyno dynoliaeth-y rhyw deg yn neillduol. Des- grifiodd rhyw berson augharedig hyny fel awyddfryd i ymyraeth a. busnes pobl ereill ond dichon mai eiddigedd oedd hyny. Gyrai ei sprigyneiddiwch ef i osod y byd yn iawn, yn unol a'i ddaliadau ef ei hun. Ond gan fod y gorchwyl hwnw mor annhraethol fawr i ddyn ieuanc o dueddiadau masnachol, treiodd ei law prentis ar unigolion—yn fynych er gwrthdystiad yr unigolyn. Mae y mor mawr rhyfeddol yn blino dyn ar brydiau, yn enwedig Sprigyn. Darfu i'w ddolur gryfhau, os rhywbeth, fel yr elai yr amser ymlaen, a dechreaodd syll- dremu ar ei gydgreaduriaid oddiamgylch iddo. Fel gwir farchog, prif wrthddrychau ei sylw oeddynt aelodau perthynol i'r rhyw deg. Yr oedd un feinwen a'i dyddorai yn fawr. Boneddiges oleu, ysgafn ydoedd, gydag ychydig o annibynrwydd yn gan- fyddadwyyn null ei cherddediad a'r modd y daliai ei phen i fyny, yn ogystal a ayll- dremiad ei llygad. Fel rheol, byddai ei dwylaw wedi eu gwthio i logellau y siaced drwsiadua a ymwisgai, ac ar ei phen yr oedd math o gap gwyn, yr hwn a elwir gan y Saeson ffasiynol yn Yachting Cap. Yn wir, yr oedd y fath bersonoliaeth ag y carai y Sprigyn ledu aden ei swyn a'i gydym- deimlad drosti, pe b'ai angen. Yn ffodus, cyfarfyddodd a. chyfaill ar lku y mor a ddywedodd wrtho y cwbl am dani. 'Yr wyf wedi anghofio ei henw, 'mach- gen anwyl i,' ebai y cyfaill, ond y mae yn ferch fach gampus. Yn briod 1 0, ydyw —nid wyf yn adwaen y gwalch o gwbl, serch hyny. Y mae hi'n ymddangos yn unig lawr yma—gallasech fwrw'n mlaen.' Darfu i'r Sprigyn—fel mae arfer sprigyn- od- wawdio y syniad, ac ymddangosai fel pe b'ai ensyniad ennheilwng wedi ei daflu ato. Gan fod y cyfaill yn adnabod y Sprig- yn, winciodd mewn dull dyeithr iawn. Daeth y foneddiges a wisgai y cap gwyn yn wrthddrych dyddordeb a serch dyfnach, dyfnach y Sprigyn. Darfu iddo yn wir hyd yn nod gael ei hun yn ocheneidio drosti. Yr oedd hi bob amser wrthi ei hun, ag eithrio ci bychan (ddim o un rhywogaeth arbenig), yr hwn a drotiai yn gyntaf ar un ochr, yna ar y Hall; a chi a ddesgrifid fel corgi bach truenus' gan y Sprigyn gwyl- iadwrus. Nid oedd ei wrthwynebiad tuag at y ci yn hollol ddiachos. Yr oedd gan yr anifail bach yr arferiad anmhleserus 0 wneyd sylw neillduol ohono ef, cyfarth yn enbyd wrth ei sodlau, a mynych yr oedd awydd ynddo i ymaflyd yn mherson-neu ryw ran ohono -y Sprigyn. Byddai i'r foneddiges alw y ci ymaith, gan fwmiam ymddiheuradau ond byddai iddo bob amser ruthro i wneyd ymosodiad bob tro y gwelai y Sprigyn yn agoshau. Yn y cyfamser, fodd bynag, cynyddu yn fwy-fwy o hyd wnai dyddordeb y Sprigyn. Menyw fechan brydferth anarferol,' ebai un tro, wedi ei hesgeuluso-wedi ei hes- geuluso yn ddigywilydd-gan wr creulawn, dichon rai blynyddau yn henach na hi; wedi cael ei danfon i lawr yma yn unig, yn nghanol yr amrywiol demtasiynau, tra y mae efe yn y ddinas. Ofnadwy ofnadw y Y mae fy nghalon yn myned allan at y fenyw fach druenus Aeth ei galon allan gymaint fel y cymer- odd at y gorchwyl o'i gwylio yn fwy manwl nag erioed. Yr oedd hi o hyd yn unig- ddydd ac ol dydd; mewn gwirionedd, yn ol syniadaeth y Sprigyn, ymddangosai unig- rwydd ychwanegol o'i deutu hi. Ar ddiwrnod neillduol, darfu i'r I corgi bach truenus snapio arno dair gwaith ar dri amgylchiad gwahanol; ar y diwrnod canlynol, rhodiodd hi allan wrthi ei hun heb hyd yn nod gwmni y ci. Yn awr. y mae hyn yn fwy na bod yn garedig,' meddai y Sprigyn wrtho ei hun. Y mae hi yn gweled fod yr anifail yn fy mhoeni; teimla yn herwydd ei wrthwyneb- iad tuag ataf; y mae wedi gadael y bwystfil bychan yn nhre'! C-im sylweddol ymlaen, fy nghyfaill.' A rhodiodd y Sprigyn mewn dull mwy rhodresgar nag erioed. Ond sylwai efe hefyd fod yna fath o bruddeidd-dra yn ei hedrychiad—ac an- obeithrwydd newydd yn ei llygaid y diwrnod hwnw gallasai efe dyngu ei fod yn gweled olion dagrau diweddar ar ei gruddiau. Yna wrtho ei hun, ac yn ei feddwl ei hun, melldithiodd ei phriod absenol. Fod yn bosibl i ddyn fod mor an- naturiol a gadael merch ieuanc mor bryd- ferth i'w chynlluniau ei hun, tra y chwareua efe ei ran anfoesol,' ebai y Sprigyn wrth ei chwaer, I sydd ofnadwy o erchyll!' Efallai y byddai yn well i chwi ofalau am eich busnes eich hun, atebai ei chwaei yn ddiymaros. Nid ydych yn gwybod dim am y mater nid ydych ond yn neidio at gasgliadau.' Y mae fy nghalon yn dweyd llawer rhagor wrthyf na geiriau,' meddai y Sprigyn, gan ocheneidio. Gwnaeth esgus-I awd wrth ei chwaer yn hwyr y noson hono, a dilynodd yr hon a wisgai y cap gwyn, neu y Yachting Cap. Yr oedd yn noson oleu leuad disglaer, ac yr oedd meddyliau y Sprigyn yn grwydredig iawn. Ar yr ysmotyn mwyaf unig ar y llan- erch, canfyddodd hi yn eistedd ar sedd. Ymddangosai fel pe yn sychu ymaith ddagrau oddiar ei llygaid. Cerddodd y Sprigyn heibio yn araf iawn. Nid oedd teimlad yn ei feddwl o sancteidd- rwydd y sefyllfa; teimlai yn unig ei bod yn ffodus ei fod ef gerllaw. Heb y petrusder lleiaf, cerddodd yn ol ati, a chyfododd ei het, gan ymgrymu yn hynod foesgar, canys yr oedd y Sprigyn wedi cael ei godi yn yr iawn ffordd. Maddeuwch i mi,' ebai efe, ond yr wyf yn teimlo y gallaf fod o wasanaeth i chwi yn eich gofid. Yr wyf wedi sylwi hedd- yw I ,0 1 pe b'ai i chwi ond fy nghynorth- wyo llefai hi allan yn erfyniol, gan droi ei golygon yn ymbilgar tuag ato. Pe b'ai i chwi ond ei ddwyn yn ol ataf Yr wyf mor annedwydd Nid oedd y Sprigyn wedi disgwyl un- rhyw beth mor sydyn a hyn. Dyma baser iddo yn wir. Ond, ta beth, eisteddodd i lawr wrth ochr y ferch, a cheisiai ddyfalu sut y rhoddid y fath allu i ddynion i lyw- odraethu a dylanwadu cymaint ar y rhyw deg a gwan nid oedd hyny yn eithaf iawn, meddyliai'r Sprigyn. 4 Wrtn gwrs, mi a'ch cynorthwyaf chwi,' ebai efe. Y mae'r cwbl mor flin rhaid i chwi ddal i fyny.' 0 y mae wedi cael ei ddwyn oddiar- naf,' llefai y ferch yn nghanol ei dagrau. Ni fuasai iddo fyned o'i ddewisiad ei hun y mae wedi cael ei hudo ymaith Wrth gwrs-ie, wrth gwrs,' ocheneidiai y Sprigyn, drwgdybiaethau yr hwn yn awr oeddynt wedi eu llwyr gadarnhau. Ond,' ebai drachefn, t rhaid i ni obeithio am y goreu fe ddaw efe yn ol atoch.' 4 O'r anwyl! a ydych yn credu hyny V hi dorai allan yn ddiolchgar. 'Rwy'n ceisio dyfalu pa le y mae efe yn awr.' Ah atebai efe, efallai ei bod yn well nad ydym ni yn gwybod hyny ni ddyloch geisio gwybod.' Yna, yr ydych yn tybio fod rhywbeth arswydus wedi digwydd iddo ? Ah! yr wyf yn gweled hyny yn eich gwyneb. Dywed- wch wrthyf'—ac ymaflodd yn ei fraich- 'dvwedwch wrthyf y gwaethaf 'Ymdawelwch, foneddiges anwyl, a byddwch yn bwyllog,' ebai y Sprigyn. Nid ydym ond creaduriaid gweinion ar y goreu, a'r temtasiynau o'n blaen yn lluosog.' 'Ydynt, ac yr oedd efe bob amser mor hoff 0 bethau melus,' meddai hi yn brudd- aidd. (Y fath ffordd hynod o osod pethau meddyliai y Sprigyn wrtho ei hun. 4 Ond efaUai mai dim ond ei ddull mewnol syml a naturiol hi ydyw.' 1 mae un yn clywed y fatn ystoriau ,a ofnadwy,' olai hi yn y blaen, 'am y creadur- iaid truenus yn cael eu hudo i ffactrioedd y sausages, a'u gosod i farwolaeth-ac 0 y mae yn rhy ofnadwy Teimlai y Sprigyn ei 'fenydd yn troi! (Yr oedd hwn yn boser' arall iddo yn ddiamheu). I Fy anwyl foneddiges,' ebai efe, 'y mae hon yn wlad Gristionogol; nid yn yr oesoedd tywyllion yr ydym yn byw. Y mae eich priod yn hollol ddiogel mewn ystyr corfforol; nid yw ond yn unig— Fy mhriod llefai hi allan, gan syllu yn wyllt arno. Beth ar wyneb daear yr ydych yn siarad am eaiio ef ? Pa beth ydych yn ei feddwl V Yr oeddech-yr oeddech yn wylo yn herwydd absenoldeb eich priod yn herwydd ei esgenlusdod digywilydd o honoch-ac yr oeddwn Ar fy ngair, ac mewn gwirionedd, syr,' llefai hi allan, nid wyf yn medru eich deal!. Y mae fy mhriod y cariadusaf a'r ffyddlonaf o ddynion, ac erioed wedi bod yn drwyadl ymhob dull a modd yn ei ymddygiadau tuag ataf. Bydd eto yn ymuno a mi yma yfory. Nis gallaf ddweyd rhagor nag y dymunaswn pe b'ai efe yma yn awr.' Ond—dywedasoch—dywedasoch ei fod wedi cael ei hyd-ddenu ymaith oddiwrth- yeh- -) Fy iphriod ? Y mae'n rhaid eich bod yn wallgof! biarad am fy nghi bach yr oeddwn i, yr hwn sydd ar goll oddiar boreu ddoe Gadewch i ni fyned i fyny i'r ddinas y prydnawn yma,' ebai y Sprigyn wrth ei chwaer, tra y rhodient yn nghwmni eu gilydd foreu tranoeth. Yr wyf wedi blino ar ylle hwn.' I Yr hyn a olyga, mewn geiriau plaen,' meddai hi, eich bod wedi gwneyd ffwl o'ch hunain, mi goeiiat f Ond yr oedd y Sprigyn yn dawel. Poor fellow

DOLWYDDELEN.

DYFFRYN ARDUDWY.

DOLGELLAU.

[No title]

Advertising