Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
Hide Articles List
9 articles on this Page
CYIWT8IA®.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Newyddion 1 Taith i Wledydd Tramor, Hen Eglwysi Ad- feiliedig yn Sir Gaerfyrddin, Ymhlith yr Enwadau 2 Adolygiad y Wasg, Llwch Aur, Newyddion Cymreig 3 Newyddion 4 Cyffredinol, Marchnadoedd 5 Y Golofn Farddol, Amrywion 6 Amddiffyniad yr Eglwys, Newyddion Cym- reig 7 Nodion Senex" 8 Newyddion Cymreig 9 Y Gymdeithas Genhadol Eglwysig 10 Y Cartref a'i Reolaeth, Gohebiaethau 11 Y Cri am Ymreolaeth, Newyddion 12 Newyddion 13 Hysbysiadau J. 14,15,16
'i--.-----------_.-Y Llofruddiaeth…
News
Cite
Share
'i-- Y Llofruddiaeth Honedig yn Ffestiniog TRADDODI Y CARCHAROR I SEFYLL EJ BRAWF. Dydd Gwener, dygwyd y carcbaror Thomas Jones, yr hwn a gyhuddir o lofruddio Mary Breton, ar ochr mynydd y Manod, ar noswaith Mawrth 2il, i Blaenau Ffestiniog i'r amcan o ym- ddangos gerbron yr ynadon ar y cyhuddiad a nodwyd. Pan gyrhaeddwyd y Blaenau wytbnos yn ol hwytiwyd Thomas Jones gan y dyrfa, ond ar yr achlysur hwn ni chodwyd na llais na lief. Edrychai y cyhuddedig yn bur gynhyrfus, a chymerwyd ef mewn 'bus i'r Llyfrgell Rydd yn yr hwn le y cyn- haliwyd y ■ .Hyp. Ar y fainc yr oedd William Davies, Ysw. (dadeirydd), E P Jones, Ysw., J Lloyd Jones, Ysw., J P Jones, Ysw., K Roberts, Ysw., a D G Williams, Ysw. Ymddangosodd Mr R 0 Jones i erlyn ar ran yr erlynydd cy- hoeddus. Nid oedd neb yn bresenol i amddiffyn, ond, dealiir y gofelir gan rieni y cyhuddedig y bydd i l'ywm: ymddangos drosto yn y frawdiys.— Tystiodd Mrs Carroll a'i mab glywed y carcbaror yn dweyd wrth Breton Ar y ffordd cei di hi.Y Rhingyll Owen Williams, Ami web, a ddywedodd ei fod yn adnabod Thomas Jones, ac adnabydd- ai ddynes o'r enw Mary Breton. Deuai y ddau o Amlwch. Adnabyddai y carcharor er's tua denaw mlynedd, a Mary Breton er's oddeutu blwyddyn neu bymtheg mis. Buont yn byw gyda'u gil- ydd am oddeutu mis mewn lie o'r enw Rhos-place, Amlwch. Yr oeddynt vno vn mis Tachwedd, ac i fyny i'r 17eg o fis Rhagfyr diweddaf. Nid oeddynt yn briod. Yr oedd gan Thomas Jones wraig yn fyw, neu yr oedd yn ddi- weddar iawn. Adnabyddai hi yn flaen- orol, a thybiai ei bod yn bresenol yn byw yn Nghaernarfon.—Dr Richard Jones a gredai fod y briwiau ar y corff wedi eu gwneyd gan rhyw erfyn, beth bynag oedd hwnw. Fe allent fod wedi eu hachosi drwy i'r drancedig gael ei chicio gan yr esgidiau a ddangosid. Siaradai yn bresenol am y bri wiau ar y pen. Parthed y cleisiau oedd ar y corff yr oedd llawer o honynt yn curlio tuag at i fyny, ac o ganlyniad rhaid oedd iddyn t gael eu hachosi gan force oddi isod. Ei farn ef ydoedd iddynt gael eu gwneyd pan yr oedd y corff ar lawi. Yr oedd y clwyfau bron oil o'r un natur, ac yn fwy yn en Hed nag yn eu hyd. Dan yr amgylchiadau yr oedd y niweidiau y cyfeiriwyd atynt yn ddigon i gyfrif am farwolaeth, a chofio hefyd ansawdd y galon, yn yr hwn le yr oedd olion o hen ddrwg. Archwiliodd ddillad Thomas Jones, a chanfyddodd farciau o waed ar ben ysgwydd y Hawes chwith.—Wrth y Cadeirydd: Ei farn ef ydoedd fod y clwyfau y bu yn siarad am danynt wedi cael eu gwneyd trwy i'r drancedig gael ei chicio.—Yr oedd y rhelyw o'r tystiol- aethau i'r un cyfeiriad ag a gyhoeddwyd genym eisoes. Wedi cael ei gyhuddo yn fturfiol o achosi marwolaeth y ddynes, atebodd y carcharor: Nid oes genyf ddim i'w ddweyd ond fy mod gan laned a chwithau.—Yna traddodwyd ef i sefyll ei brawf ar y cyhuddiad o lofiuddiaeth wirfoddol. Yn ystod y prydnawn ymddangosai y carcharor fel yn teimlo ei sefyllfa, a phan yn croesholi rhai o'r tystion teimlid fod cryn ddwysder yn ei lais.
Rhanu China.
News
Cite
Share
Rhanu China. Rhoddir manylion am hawliau Ffrainc gan China. Yn y lie cyntaf, gofyna am i China beidio rhoddi i unrhyw AIlu yr un drefedigaeth i'r deheu o Ddyffryn Yangtsze, a'r bwriad o hyn ydyw rhwystro estyniad Prydain i Kowloon, a'r Burmese i Yunan; yn ail, fod Ffrainc i gael Kwangchau, ger Hainan, ar yr un telerau ag y cafodd Germani Kiao Chau yn drydydd. cael hawl i wneyd rheilffordd i Yunan City o Laokai ar yr un telerau a'r Trans- Monchuria Railway yn bedwerydd, fod i gyfarwyddwr yr Adran Lythyrol fod yn Ffrancwr, bwriad yr hyn ydyw gwahanu y lie oddiwrth reoleiddiad Syr Robert Hart, sefydlydd yr adran. Rhoddir wyth diwrnod i China ateb. Edrycha China ar y bygythion hyn fel yn arw/ddocau y meddienir Hainau os na chydymffurfir a'r telerau, yr hyn a wnant. Dywed yr un gohebydd fod y Chineaid yn cydnabod fod cenadaeth Hau Ching Chong i St Petersburg wedi profi yn aflwyddiannus, ac nad allent wneyd dim yn awr ond cytuno a'r hyn a hawlia Rwsia. Tybir fod Ffrainc a Rwsia yn gwneyd eu goreu er ceisio dinystrio rhagolygon y benthyciad i China. Mae Llywodraeth China wedi cynyg prydlesu Talien-wan i Rwsia gyda cbaniatad i wneyd rheil- ffordd, ond i Port Arthur gael parhau yn nveddiant China. '■
Tan Dinystriol yn Llundain.
News
Cite
Share
Tan Dinystriol yn Llundain. 50 0 BEIRIANAU AR WAITH, Tua phump o'r gloch boreu ddydd Mawrth torodd t&n allan mewn adeilad- au eang yn Farringdon Road, Llundain, a chyn pen haner awr cwympodd nifer o beirianau mawrion drwy y lloriau llosg- edig, gan achosi braw annisgrifiadwy i bawb am bellder, gan fod y fflamau yn tori allan ymhob cyfeiriad. Nid oes ond y muriau yu aros, gan fod pobpeth arall wedi ei ddinystrio, er fod ymdrechion dewr wedi eu gwneyd gan y tan-ddiff- oddwyr oeddynt wedi ymgasglu i'r fan gyda haner cant o'u peirianau, ugain o'r rhai a weithid ag ager.
Damwain Erchyll ar Reilffordd.
News
Cite
Share
Damwain Erchyll ar Reil- ffordd. Oddeutu naw o'r gloch boreu dydd Llun, rhedodd dwy dren i'w gilydd ychydig y tuallan i Orsaf St. John's gerllaw Llundain, ar Linell y Rheil- ffordd Dde-Ddwyreiniol. Maluriwyd un cerbyd, Uaddwyd tri o bersonau yn y fan, a niweidiwyd llawer yn ddifrifol.
Perygl Rhyfel rhwng Prydain…
News
Cite
Share
Perygl Rhyfel rhwng Prydain a Ffrainc. Dywed Cyn weinidog Llyngesol Fftainc fod rhyfel yn sicr o dori allan rhwng y ddwy wlad rhyw ddiwrnod, ac fod Ffrainc yn gwneyd yn iawn barotoi ei llynges ar gyfer hyny. Y mae yn ffaith fo i Ffrainc yn cydgrynhoi ei llynges, gan nad beth yw ei hamcan. C3
Rhyfel y Soudan.
News
Cite
Share
Rhyfel y Soudan. BRWYDR FAWR GERLLAW. Parha y Prydeiniaid a'r Aifftiaid i ymdaith ymhellach i'r Soudan, a dydd Sadwrn deallwyd fod byddin Osman Digna yn ymdaith i'w cyfarfod yn ddwy ran, ac y deuai y ddau allu wynebyn wyneb un ai ddydd Sul neu ddydd Llun. Tybir nad oedd Osman Digna yn gwybod fod y Prydeiniaid a'r Aifftiaid wedi ym- uno. Brwydr fawr bwysig fydd hon pan gymer le.
ABERHONDDU.
News
Cite
Share
ABERHONDDU. Y GARAWYS.—Y mae yn dda genyf allu dweyd fod yr Eglwys yn y dref hon yn fyw i'w dyledswydd. Yn ychwabagol at y gwas- anaethau arferol, cynhelir yma wasanaeth- au ar nos Wener, pryd y dygir o flaen y plwyfolion yr angenrheidrwydd o gynorth- wyo y gwahanol gymdeithasau perthynol i'r Eglwys er lleihau dioddefiadau ein brodyr sydd mewn amgylchiadau llai cysyrus na nyni ein hunain. Y mae He i ofni fod y byd wedi gafaelyd mor gryf ar ein hamser, ein talentau, a'n holl fryd mewn gwirionedd, fel yr ydym bron a myned i gredu yr anghofir genym ein dyledswydyau fel aelodau yr Eglwys. Yn wir, fel y crybwyllodd y Parch H Gros- venor Munro yn ei bregeth ar Yr Eglwys a'r plant,' nos Wener diweddaf, y mae fel pe b'ai Cristionogion yr oes hon wedi anghofio yn llwyr y cwestiwn ofynwyd i Cain o barthed i'w frawd Abel, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn, ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi.' Yr oedd y gwr parchedig mewn difrif pan y dywedodd fod pob aelod bedyddiedig o'r Eglwys yn geidwad ei frawd, yn hollol yn ei le. Gormod o'r byd sydd yn yr Eglwys bvd vn nod yn y dyddiau hyn. Yn ystod y tymor rhoddir anerchiadau bob boreu Mercher ar Y Gwynfydau,' gan y Fleer, ac am saith yn yr hwyr rhoddir anerchiad- au ar Yr Yrfa Gristionogol,' gan y Parch J H Watkin Jones, ficer Eglwys Crist, Abertawe. Pfydnawn dydd Gwener im dri o'r gloch cynhelir cynhadledd yn y Church House,' pryd yr ymdrinir a gwahanol agweddau o weithgarweh yr Eg- lwys, megia 'Gwaith Achubol,' 'Gwaith Eg- lwysig yn y Fyddin,' Yr Eglwys a chwestiynau cymdeithasol,' Yr Eglwys a'r Plant,' Yr Eglwys a'r Morwyr,' 'Cym- deithas Fawr Eglwysig (sef yr S.P.C.K.) Agorir y cynhadleddau hyn gydag anerch- iadau gan y Parchn. R G Pearse, ysgrifen- ydd y Church Army;' G H Andrews, caplan i'r Fyddin A L Lilley, curad Eg- lwys y Drindod, Sloane Square, Llundain H Grosvenor Munro, ysgrifenydd y Waifs and Strays G F Wilson, ysgrifenydd y Genhadaeth i'r Morwyr W B Taylor, un o ysgrifeuyddion yr S.P.C.K. Yn yr hwyr pregetbir yn Eglwys St Mair gan y gwyr parchedig uchod ar yr un testynau. Felly gwelir fod yr Eglwys yma yn fyw i'w gwaitb. GWASANAETHMT CYMREIG.—Fel y gwel y darllenydd oddiwrth yr uchod, y mae yr ar- lwyaeth yn un helaeth ar gyfer y Saeson, eto rhyfedd mor wael a diflas ydyw y ddar- pariaeth ar gyfer y Cymry tlodion sydd yn y dref. Dim ond un gwasanaeth ar eu cyfer, a hwnw ar y Sul am 6 15. Yn sicr ddigon, nid felly y dylai fod a mwy na hyny, pe byddai Cymry Eglwysig Aber- honddu ond ymysgwyd ychydig, ni chan- iateid iddynt fod ychwaith. Yr wyf yn llwyr argyhoeddedig, Syr, os ydyw y gwen- yn i dd'od yn ol i'r hen gweh, mai drwy dwymo calonau Cymreig y Cymry a'r hen iaith Gymraeg y deuant, ac nid drwy geisio gwneuthur Dic-Shon-Dafyddion ohonynt a'r iaith Saesneg. Bydded i'r awdurdodau gy- meryd yr ychydig linellau byn yn garedig, canys ni yegrifenir hwynt oddiar deimlad o gasineb tuag at y brodyr Seisnig yn y dref, ond oddiar deimlad dwfn fod y Cymry yn nhref Aberhonddu yn cael eu hesgeuluso yn resynus. 'Y LLAN.'—Llawer ydyw yr ysgrifenu sydd wedi bod, ac yn bod, parthed y LLAN, yr unig newyddiadur Eglwysig sydd genym yn Ngbymru. Wel, Syr, y mae, a dweyd y lleiaf, yn gywilydd i ni fel Eglwyswyr Cymreig fod yn rhaid achwyn byth a befyd ynghylch newyddiadur mor bur ei iaith ac mor Eglwysig ei egwyddorion ag ydyw y LLAN. Pe b'ai ychydig yn llai egwyddorol, acyn rhoddi ychydig mwy o raff i'r syniad- au ceimion ac anwadal a gredir gan yr Ym- neillduwyr politicaidd yn Nghymru, efallai y byddai ei gylcbrediad yn ddwbl yr hyn ydyw. Y mae lie i ofni nad ydyw ein cad- fridogion yn y gorphenol wedi bod mor benderfynol yn eu gweithrediadau, nac ychwaith wedi cymeryd digon o ofal o barth i'r hyn a ymddangosai yn ei dudalenau ar hyn o bryd. Ond erbyn heddyw y mae petbau wedi cyfnewid, a thai hi ddim 'rhoddi bwyd y plant i'r Cenhedloedd.' Ar- lwyaeth wir Eglwysig i Eglwyswyr a geir yn ei dudalenau yn awr, ac nid llaeth, a hwnw wedi ei gymysgu yn helaeth a dwfr. Mae yn sicr y bydd i'r mudiacl newydd yma o bhid y LLAN fod er lies i'r newyddiadur, canys gosodir ei llwyddiant ar sediau cad- aroach, os goddefwch i mi ddweyd, Syr, nag y maent wedi bod er's llawer blwyddyn. Dymunaf o galon i chwi lwyddiant mawr, ac y gwelir cyn hir ein hunig newyddiadur ymhob ty ymhob plwyf yn Nghymru. Rhagor maes o law. — Tarallydd. [Bydd yn dda genym glywed yn fynych oddiwrthych er I mwyti yr hen amser gynt.'—GOL]
BRYNAMAN.
News
Cite
Share
BRYNAMAN. Dydd Mawrth, y 15fed cyfisol, claddwyd Miss Annie Jones, anwyl ferch Mr a Mrs Jones, High Cottage, Brynaman, yn myn- went Eglwys St Catherine. Yr oedd Miss Annie Jones yn un o'r aelodau ttyddlonat oedd gan y Parch J. Morlais Jones yn ei Eglwys, ac yn barchus dros ben gan bawb trwy yr holl le. Daeth canoedd ynghyd i dalu y gymwynas olaf iddi. Am 2.30, cy. nhaliwyd gwasanaeth byr yn y ty gan ein parchus ficer, y Parch J. Morlais Jones. Yn yr Eglwys, yrhon oedd yn orlawn, dar- llenwyd y Salm gan y Parch J. Price, Dyfnant, a'r llith gan y Parch L. Rees, Ffynon Daf, Caerdydd ac ar lan y bedd gan y Parch J. Morlais Jones. Bu Annie Jones farw yn nghlafdy Abertawe, o'r spinal disease, ymhen rbyw chwech wythnos wedi myned yno. Er uad oedd ond ieuanc, eto dioddefodd ei chystudd byr yn dra amyn- eddgar, gan osod ei holl hyder yn ei Har- glwydd a'i Gwaredwr. Dangosodd pawb gydymdeimlad dwfn a'r teulu parchus oedd yn eu galar dwys, yr hyn oedd yn gysur mawr iddynt. Heddwch i'w llwch hyd foreu yr Adgyfodiad.