Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

---LLYTHYR TOM PUDLER.

News
Cite
Share

LLYTHYR TOM PUDLER. YMRESYMU. Syr,—Diolch i'r Gaffer mawr yn Llun- dain am dywydd tesog, ac am gynauaf toreithiog. Y r oedd y Radicaliaid yn credu ac yn dysgu mai Iarll Beaconsfield oedd yr achos o'r tywydd gwlawog, a'r cynauafau drwg. Rhaid i ninau gredu yn awr mae Mr Gladstone sydd yn rhoddi i ni y tymhor da presenol. Diolch i'r hwn y mae diolch yn ddyledus. Mae hynynrhesymuteg,onidyw? Nid wyf fi yn proffesu bod yn bolitician. Nid wyf fi yn gwybod beth yw ystyr y geiriau Whig a Thori, ac nid oes neb o'r cyfeillion yn y gwaith yma yn medru rhoddi gwybod i mi. Mae y geiriau Rad- ical, Rhyddfrydwr, a Cheidwadwr, yn ami ar ein tafodau, ond yr wyf yn methu cael ond ychydig o oleuni ar yr hyn a feddylir wrthynt. Dywed rhai o'r cyfeillion, pe caem ni Radical i deyrnasu arnom, ni a gaem waith bach a hur mawr, a digon o de a siwgr, a thybaco a chwrw, am haner y prisiau presenol. Ohd yr wyf yn ffaelu a chael rheswm cryf ganddynt dros y dywed- iad. Yr oeddwn yn arfer meddwl mai Radical yw'r Gaffer mawr yn Llundain. Marwaidd yw'r fasnach, a bach iawn yw'r hur, dan ei lywodraeth ef. Yr wyf yn cofio fod gyda ni unwaith Gaffer arnom yn galw ei hun yn Radical. Un poeth oedd efe dros yr enw, mor boeth ymron a ffwrnes bydlo os dyna beth yw Radical, dyn bach mileinig ar gefn y gweithiwr ydoedd. Ni chai neb ddywedyd gair ond ef ei hun. Yr oedd yn dda gan bob un glywed ei fod wedi myned i'w ffordd. Ni wn i ddim beth yw ein gaffer presenol, Gan nad beth yw yn ei bolitics, Annibynwr yw yn ei grefydd, ac y mae yn eithaf teg rhwng y meistr a'r gweithiwr. Ni wn i nemawr am Dy yr Arglwyddi, yn mhellach na gwybod enwau rhai o honynt, megys Arglwydd Aberdar, ac Arglwydd Penrhyn, ac Arglwydd Shaftesbury, ac wrth gwrs, Arglwydd Salisbury. Yr oeddwn wedi arfer meddwl eu bod yn ddynion tebyg i ddynion eraill. Yn awr, yr wyf yn clywed mai dynion ffol, dynion drwg, dynion gor- mesol ydynt, a'i bod yn hen bryd eu troi o'r neilldu. Rhaid i mi gael dweyd nad wyf eto wedi clywed rhesymau boddhaol dros hyny. Yr wyf yn hoff o glywed dynion gwybodus yn ymresymu yn dawel, yn bwyllog, yn araf deg. Mae rhywbeth i'w ddysgu ganddynt. Pan yr wyf yn gofyn ambell i gwestiwn yn ddigon tawel, os na fydd ateb wi t'i law, mac rhai o'r cyfeillion yn gwrychu, yn tanio, yn myned allan o'u cof, ac yn myned i nwydau gwyllt. Yr wyf finau yn deall ei bod yn bryd i mi dewi. Ar ol bygwth, a rhuthro, a difrio, nid wyf fi un mymryn callach nag oeddwn o'r blaen. Mor bell ag yr wyf fi yn deall, mae mwy- afrif yr Arglwyddi am gael weled dwy ran Mesur Mawr y Diwygiad, cyn pasio un rhan. Maent am wybod beth yw Ad-drefn- iad y Seddau i fod, cyn pasio Helaethiad yr Etholfraint. Tebyg fod y ddwy ran yn dal cysylltiad agos iawn a'u gilydd. Dywedodd John Bright, flynyddau yn ol, y dylai y ddwy ran bob amser fyned gyda'u gilydd. Mae ef, erbyn heddyw, wedi newid ei farn. Nid wyf wedi gweled arheswm da dros ei waith yn newid ei farn paham y dylid cys- ylltu y ddwy ran y pryd hwnw, ond y dylid eu hysgaru y pryd hwn os nad hyn yw'r rheswm, mai un blsuid oedd yn blaen-1 ori yr amser hwnw, a'r blaid arall sydd yn blaenori yn awr. Yr wyf wedi gofyn i lawer un paham na ddangosid y ddwy ran ar unwaith, yr wyf eto heb gael ateb. Mae'r bobl, wrth chwareu cardiau, yn cadw y llaw o'r golwg, dan. ymyl y bwrdd. A oes triciau o'r fath hyn mewn politics ? Os oes, efallai y byddai yn well eu dileu, a chael y cwbl yn amlwg ar y bwrdd. Yr wyf wedi darllen areithiau y Meistri Dillwyn, James, Warmington, a Maggridge, ac eraill, ac nid wyf wedi gweled y rheswm paham yn un o honynt. Mae pregethwr yn Rhymni am losgi delw Arglwydd Salisbury. Mae un arall am grogi yr Arglwyddi, hang 'em. Mae un arall am dori eu dwylaw ymaith, cut off their hands. Mae un arall am roddi terfyn arnynt rywfodd, put an end to them, ac am alw y Western Mail yn Western Mule. Mae galw enwau yn dysgu eraill i alw enwau yn ol, megys y clywais i ryw Gymro yn y dyrfa yn gwneuthur y waith hon, gan gyfieithu y gair mule, a'i gymhwyso at y llefarwr. Nid oes dim ym- resymu yn yr oil o hyn. Yr hyn a garwn yn fawr yw, clywed blaenoriaid y bobl yn ymresymu yn bwyllog a theg, er mwyn i ni, y dosbarth gweithgar, gael ein goleuo, a chael reswm i roddi dros wneuthur fel hyn neu fel arall. Paham na ellir siarad a dadleu heb golli y tymherau ? Khodded ein dysgawyr esiampl dda o'n blaen yn hyn o beth.

" GWASANAETH Y CYMUN."

Y GYMDEITHAS ER TAENU GWYBOD-AETH…

ANTHEM NEWYDD EOS LLECHYD.

LLITH GWLADWR.

GARTBRENGY.

LLANFIHANGEL, ST. CLEARS.