Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

MAENTWROG.

News
Cite
Share

MAENTWROG. YMNEILLDUWB.—Mi a ddymunwn ofyn i ti gwes. tiwn: Y mae yr Ymneillduwyr yn byw arnynt eu hunain, a phaham—— EGLWYSWR.-Aros funud. A ydyw yr Ymneill- duwyr mewngwirionedd yn byw arnynt eu hunain, gyda bod y p'fegethwyr yn dyweyd hyny yn Nghapel Gellilydan ? Y.—Nid oes dim amhouaeth yngh yIch hyny. E.—Nag oes ? A ydych chwi ddim bythyn gofyn am gynorthwy gan Eglwyswyr tuag at glirio dyled y capel, cael Harmonium, neu ryw welliantau yn y capeli ? Pwy roddodd y tir i adeiladu y capeli yn y pentref, ac a adnewyddodd y lease ar rai o honynt; onid Eglwyswr? Eilwaith, a ydyw eich tlodion chwi ddim yn derbyn elusenau bob wythnos trwy y Person, heb son!am y clwb dillad ao elusenau Nadolig a dderbynia rhai ugeiniau o Ymneillduwyr trwyddo ef. Mewn gair, nid oes dim un tlawd yn Maen- twrog a ddaeth erioed i ofyn cymorth at y Person heb iddo gael mwy neu lai oddiwrtho os oes, enwa ef, neu cais gan y gweinidog neu y blaenoriad i'w enwi. Y.—Mi addefaf fi y pethau yna, er na ddarfu i mi meddwl am danynt ar y dechreu. E.—Sut, ynte, yr oedd gwyneb y "Criw Ysgrif- enyddol" i ddweyd yn y Rhedegydd na wneir dim sylw o dlawd oni fydd yn alluog i arfer shiboleth yr Hen Fam ? Dyna eto yr Ysgolion Gwladwriaethol, onid Eglwyswyr, ar gais y Person, a'u hadeiladodd ac sydd yn eu dwyn ymlaen, a hyny yn ddigost mewn cydmariaeth i'r plwyfolion? Gymaint o drafferth a gymer y Person arno ei hun er diwallu anghenion plant yr Ymneillduwyr gan mwyaf. A lie y mae Bwrdd Ysgol ynghyd a'i dreth drom, onid er eu diwallu hwynt y ffurfir ef yn gyffredin ? Nid oes ar Eglwyswr nemawr byth mo'i angen, gan eu bod yn darparu ar gyfer eu plant eu hunain. Onid hefyd ar air Eglwyswyr y mae y rhan fwyaf o'r ffermwyr yn byw, ac onid Eglwyswyr sydd yn rhoddi gwaith i'r werin ? Beth wyt ti yn son am fyw arnoch eich hunain? Y.—Ond nid yw y gyfraith yn gorfodi neb'i dalu at y capel. E.-Y mae y gyfraith yn gorfodi talu pob peth sydd ddyledus i'r capel, megis rhent, &e. Pasiwyd cyfraith yn ddiweddar i orfodi meistri tir i werthu tiroedd i adeiladu capeli arnynt. A pheth am Gyfraith Claddu 1880 ? Eglwyswyr ddarfu ddar- paru yr oil o'r hen fynwentydd plwyfol, hwynt hwy sydd yn cyfranu y tiroedd tuag at eu helaethu, ac hwynt hwy sydd yn eu cynal—nid oes dim gorfod- aeth ar Ymneillduwyr i gyfranu un geiniog tuag atynt. Gorfodir Eglwyswyr hefyd i dalu tuag at lysoedd barn i benderfynu cwerylon Ymneillduwyr, fel yn achos y Bedyddwyr Seisnig yn diweddar yn Castellnedd. Ond beth oedd y cwestiwn yr oeddit ti yn myn'd i ofyn ? Y.—Paham na wna Eglwyswyr fyw arnynt eu hunain fel y gwna Ymneillduwyr ? E.-Y maent yn gwneuthur hyny. Y.-Beth am y degwm ? E.-Eiddo yr Eglwys ydyw y degwm. Trwy roddion gwirfoddol perchenogion y tiroedd y rhoddwyd ef i'r Eglwys ganrifoedd o flynyddoedd yn ol, ac y mae ganddi hi well hawl i'r degwm nag y sydd gan feistriaid tiroedd i'w ystadoedd. Y.—Ac nid y senedd a'i rhoddodd iddi. E.—Nage, nage. Yr oedd yr Eglwys mewn meddiant o'r degwm am oesoedd cyn bod yr un Senedd yn Mhrydain. Darfu i Harry yr wythfed a'i Senedd yspeilio yr Eglwys o lawer iawn o'i heiddo; ond ni ddarfu iddynt roddi dim iddi mwy nag a roddodd yr yspeiliwr-penffordd i'r boneddwr, wrth adael iddo ychydig sylltau heb eu dwyn. Er pan roddwyd y degwm i'r Eglwys, y mae y Saxoniaid, y Daniaid, a'r Normaniaid yn eu tro wedi yspeilio yr hen berchenogion o'u tiroedd, ac y mae lliaws o oes i oes wedi cymeryd trwy drais eiddo eu cymydogion ac felly ar dir eyflawnder ac hir fwynhad o hono, nid oes gan neb gystal hawl i'w ystad ag sydd gan yr Eglwys i'r degwm. Am feddianau eraill, megis tai a thiroedd, ac arian ar 16g er gwaddoli Eglwysi, mae yn debyg nad oes dim dadl yn dy feddwl nad yr Eglwys bia y rhai hyny.-Cymro.

JBIRMINGHAM.

PENNAL.

DOWLAIS.

CWMAMAN, ABERDAR.

LLANBERIS.

LLANDDEINIOLEN.

LLANRUG.

GOWER ROAD, ABERTAWE.

MERTHYR TYDFIL.

I/ LLANGYNOG.

ABERDAR.

,GELLIG AER.,