Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Hide Articles List
2 articles on this Page
LLYTHYR Y MEUDWY.
News
Cite
Share
LLYTHYR Y MEUDWY. (O'N MEUDWYDY RHWNG BRYSTIATT GARTH MADRYN.) Yr ydym yn gobeithio y bydd rhai o honoch chwi, awdvrdodau y TYST, wedi gofalu am fod cyfieithiad. o lythyr Syr Francis Crossley, Bar., at y Dr. Fer- guson, yn y rhifyn presenol. Nid yn ami yr ysgrif- enir y fath epistol; ac nid yw llythyrenau o aur, nac o feini gwerthfawr, yn ddigon i'w gyfleu ynddo. Mae Syr Francis newydd roddi ugain mil o bunau at Gymdeithas Genhadol Llundain, a deng mil at drysorfa hen weinidogion Annibynol methedig ac yn y llythyr a enwn uchod, amlyga ei barodrwydd i danysgrifio deng mil ychwanegol tuag at sylfaenu cymdeithas er darbodi ar gyfer angenrheidiau gweddwon gweinidogion Annibynol. Ychydig flyneddau yn ol, pan ar daith o bererin- dod i le genedigaeth John Foster, yn ymyl Todmor- den, dygwyddodd i ni daro yn y gwesty a gwr o Halifax, yr hwn a fawr edmygai Syr Francis, enw yr hwn a ddygwyd i mewn yn rhyw fodd i'r siarad, ac yn mysg pethau ereill a adroddai yn ei gylch, dy- wedai ei fod yn ei gofio yn gyru cart yn ei glocs, a gosodai bwyslais neillduol ar y geiriau hyn fel dat- guddiad o'i edmygedd o wr ac ydoedd wedi llwyddo i adael byd y clocs ac esgyn i gylch y potasau. Mae diareb o'r fath hon yn Lancashire—' Dwywaith yn glocs ac unwaith yn fotasau'—ystyr yr hon, wedi ei deongli, sydd fel y canlyn :—Y taid a'r wyr yn yr lilt sefyllfa, a'r canolwr mewn sefyllfa dda mewn ystyr fydol. Gofynasom unwaith i Mr Thomasson, o Bolton, un o executors y diweddar anfarwol Richard Cobden, a gwr o gyfoeth mawr, dros ba cyhyd o amser y gallasai ddiogelu parhad ei gyfoeth yn ei deulu. Wel, attebai yntau, mae yn ddigon. tebygol y bydd fy wyr i yn yr un sefyllfa a fy nhaid, yr hwn ydoedd weydd a chadwr jerry shop-ac mi roddaf i chwi reswm am hyny. Mi allaf fi adael fy nghyfoeth i'm plant, ond ni fedraf fi gadael yr arferion a'u henill- odd! Eithaf atteb-perffaith athrony ddol. Nid oes yn alluadwy i destamentu diwydrwydd, darbod- aeth, dyfalbarhad, a llawer o rinweddau eraill, tra y gellir ewyllysio aur, arian, a phres. Mae y Crossleys yn bobl sydd wedi cwni o ddim, trwy eu diwydrwydd a'u hymdrechion eu hunain, ac y maent yn glod a gogoniant i'r sir a'i macodd, ac yn enwedig i'r addysgwyr crefyddol ac a fuont offerynol, yn llaw Duw, i ffurfio eu cymeriad Crist- ionogol. Dywedodd un Athraw Coleg wrthym unwaith pan yn tywallt rhaiadrau o hyawdledd wrth edmygu cymeriad Sant Paul—Syr, ebe fe, byddai tri dyn o fath Paul yn ddigon i argyhoeddi yr holl fyd; ac yn ddiau yr ydym ninnau yn credu pe byddai ond ychydig ragor o'r Crossleys a'r Morleys, y y gwnaent argyhoeddi y byd o gybydd-dod, arian- garwch, a hunangarwch, gan wneud y ddaiar yma am unwaith yn drigle cariad, cymwynasgarwch, a phob peth dymunol. Mae gwahaniaeth dirfawr rhwng crefydd y Sais a'r Cymro. Mae'r olaf yn amheu crefydd y blaenaf, am nad yw yn dweud amen yn y cwrdd, ac yn tori allan i folianu, a neidio, a chanu ar hyd y ffvrdd wrth ddychwelyd o'r cyfarfodydd hwyrol; tra y syna y Sais duwiol fod duwiolion y Dywysogaeth ac sydd mewn amgylchiadau canoledig dda yn cyfranu can lleied tuag at achosion da a theilwng. Ni glyw- som ni cyn hyn hen Gymry yn amheu crefyddoldeb Saeson ac oeddynt wedi rhoddi llawer mwy tuag at dalu am eu tai cyrddau nac oeddynt hwy eu hunain wedi wneud. Haelfrydig yw'r Sais. Mae yn teimlo tuag ardal ei boced. Mae gyda ninau yn Nghymru ddynion a meddiant, yn anghyffredin o rwydd. a llithrig- Deled dy deyrnas,' ond ni chyfranant hwy ddim hanner yr arian a dalant am dybacco mewn tri mis am ei ehynorthioyo hi i ddyfod. Y mae yn aros etto yn mhlith Ymneillduwyr ddosparth o bobl ac sydd yn credu mewn tanysgrifio gini at bob achos da, neu haner gini, ond dim yn ychwaneg. Yn ol eu credo hwy—' Trwy ginis yr ydych yn gadwedig'—ac os nad ellir argyhoeddi y byd trwy danysgrifiadau gini, aed i'w grogi, ac yn boeth y bo, oblegid gwastraff ar arian fyddai cyfranu rhagor. Nis gwyddom yn y byd beth feddylia rhai pobl a allem ni enwi yn Nghymru ac sydd yn flaenoriaid selog iawn gyda rhai o'r enwadau Ymueillduol am ymddygiad mor anystyriol o werth arian ac eiddo Mr Morley a'r Crossleys-rhoi miloedd bob blwydd- yn i Grist a'r achos yn lie prynu gwyr i'w merched, gan obeithio derchafu y rheiny i blith tir-berchen- ogion y deyrnas. Dyma beth yw góastrajf arian. Catto pawb Nid oes un rheswm mewn fath ym- ddygiad. Mae dynion o'r fath yn gosod esiampl ddrwg iawn o flaen y wlad-ac y maent yn dinystrio .lespectability gwyr y guinea subscriptions. Mr Mor- ley yn cyfranu ryw ddeng mil ar hugain y flwyddyn at achosion Fe ddylai fod cywilydd ar y dyn, ac ni wyddom ni am un eglwys annibynollle y byddai, pe yn aelod, mewn perygl o gael ei ddisgyblu am fod mor warthus a chywilyddus anystyriol o werth arian. Rhoddi yr holl filoedd uchod at achosion da, yn lie prynu tiroedd A oes rhyw reswm neu rigwm yn y fath afradlonedd. Wei, ni ddychwelwn at y pwnc ryw dro etto. Ni gollwn ypost os ysgrifenwn ychwaneg.
SEFYLLFA Y GWEITHWYB YN EWROP…
News
Cite
Share
Ond y mae o bwys mawr iddo wybod pa le y mae galwad am dano, ac yn mha le y caiff fwyaf o dal a chysur. Gwnaeth yr Ysgrifenydd Tramor, Arglwydd Clar- endon, trwy ei weision, wasanaeth werthfawr yn ddiweddar i weithwyr ein gwlad. Efe a gyfar- "Wyddodd ysgrifenyddion ein llys-genhadon mewn gwledydd tramor i wneud ymchwiliad i sefyllfa meibion llafur yn y lleoedd hyny. Mae yr adrodd- iad wedi ei gyhoeddi, ac y mae yn csynwys ystor o "wybodaeth anarferol o fuddiol. Ymdrechwn gyfleu brasolwg o'r adroddiad gerbron ein darllenwyr. Mae sefyllfa y gweithiwr yn Holland yn engraifft 110dedig o hapusrwydd a boddlonrwydd heb ond ychydig o ddanteithion a moethau. Un swllt ar tymtheg yn yr wythnos ydyw cyflog crefftwr yn 11n o drefi mwyaf Holland. Rhaid iddo wethio am deuddeg awr yn yr haf, a syml a chanolig ydyw ei ymborth; eto, dywedir ei fod yn hapus a llwydd- ianus. Y mae yn liynod o ofalus am ei enillion. Nid ydyw yn gofalu nemawr am newyddion y dydd; y mae yn well ganddo y Beibl na'r newydd- iadur, a'r aelwyd gartref na'r ddarllenfa gyhoeddus neu gyfarfod gwladyddol. Rhaid i'r Sais gael bara, cig moch, neu gig fi-esli, a chwrw, i'w giniaw; ond ymfoddlona y Dutch ar giniaw o lysieufwyd, a dwfr oer; ac eto, dywed yr adroddiad fod y gweith- iwr yn Holland yn fwy boddlon a hapus nag mewn Ilri wlad arall. Y mae trigolion Holland yn rhagori ar bob cenedl mewn glanweithdra. Y mae y merched yno yn glanhau, ac yn glanhau, beunydd a byth, ac nid oes diwedd ar eu glanhau. Yn Denmark, y mae saer o'r gradd goreu yn enill chwe' swllt ar hugain yn yr wythnos; a bricklayer da ddeg swllt ar hugain. Mae oyflogau y crefftwyr yn Llundain yn uwch o tin ran o dair nag yn Copenhagen. Yn anffodus, anfynych y mae y Dane ei hun yn enill y cyflog uwchaf yn Denmark, am nad ydyw wedi dysgu gweithio yn egniol a thrwyadl. Mae crefftwyr o Sweden yn myned i Denmark ac yn cymeryd y bara o enau y Dane druan. Mae pethau yn well yn Sweden. Enilla y rhai sydd yn llafurio y ddaear ugain ceiniog yn y dydd yn yr haf, a deg ceiniog yn y gauaf; a chrefftwyr cywrain o ddau swllt i haner coron yn y dydd. Nid oes un chance i estroniaid yn Sweden, oherwydd oerni yr hinsawdd a nodwedd y trigolion. Nid ydyw yn werth i'r gweithiwr Prydeinig i adael ei wlad a'i waith am unrhyw beth a all gael yn Hol- land, neu Sweden, neu Denmark. Cymerwn olwg yn nesaf ar ymerodraeth fawr Germany, o'r Baltic i'r Danube, ac o Rwssia i Swit- zerland ac Italy. Mae cyfleusderau i fyned yn lied fad o Lundain i Hamburg, a lleoedd ereill ar y cyf- andir. Ond beth well fyddai ? Yn Prwssia mae y gweithiwr dyddiol yn addysgedig,jac yn gwneud yn gysurus; a thrwy deithio o wlad i wlad, y mae yn casglu gwybodaeth helaeth o'r alwedigaeth a ddi- tyna. Nid ydyw trigolion y gweithfaoedd mor egniol i ymgodi i annibyniaeth a gweithwyr ereill Prwssia. Maent yn rhy awyddus am fwynhad, a thrwy hyny yn gwario eu cyflogau ac yn gwanhau eu cyfansoddiadau. Cyflogau isel sydd yn Saxony-o naw swllt i ddeuddeg swllt yn yr wythnos. Ond y mae y gweithiwr yn Saxony wedi dysgu cadw ei hun a'i deulu ar y swm hwn, ac yn fynych yn arbed digon i brynu ty ac ychydig dir. Mae pethau yn well byth yn Wurtemburg, ac y mae y cyfleus- derau sydd yno i fwynhau hefyd yn well mewn Uawer modd nag yn Lloegr. Mae y gweithwyr yno yn bwyta cig fresh bob dydd. Anfynych y maent yn bwyta bara can, ond y mae y bara a fwytant yn lied rad. Y mae yn arferiad ganddynt i gynilo eu henillion, fel y gallont godi business eu hanain. 31fae llawer o'r crefftwyr yn y trefl ac o lafurwyr y ddaear yn berchenogion tyddynod bychain, yr hyn sydd yn help mawr iddynt pan fydd gwaith yn brin a masnach yn farwaidd. Rhyw dair punt neu bedair yn y flwyddyn ydyw cyflog y rhai sydd yn afurio y ddaear yn Awstria, a bychan ydyw cyflog y crefftwr. Y mae y gweithiwr yn y wlad honoyn a dysgedig, a dywedir ei fod yn lied hapus oblegid ei fod wedi ffurfio yr arferiad o fwynhau llawer o ddifyrwch diniwed, ac oherwydd fod y cyfleusderau i hyny wedi eu darparu yn helaeth. Mae cyflog y gweithiwr yn llawer is yn Germany nag yn Lloegr, ond y mae ei adnoddau ar y cyfan yn well a'i addysg yn llawer uwch. Nyni a awn rhagom yn awr at nifer o wledydd tra gwahanol-Belgium, Ffraingc, Switzerland, a Groeg. Yn Brussells, gall Esaer enill o bedwar i chwe' swllt yn y dydd, os bydd ganddo ychydig bunoedd i brynu coed, ond isel ydyw ei sefyllfa os na bydd yn feistr arno ei hun; gwael ydyw ei fwyd —ychydig neu ddim cig; ei ddiod ydyw coffi a chicory a llaeth gwael. Mae ei sefyllfa yn is na rhai o'r un dosbarth yn Lloegr. Mae difaterwch, a syniad ffol am annibyniaeth ynandwyo y gweith- iwr yn Belgium. Yn y flwyddyn 1853, pedwar swllt yn y dydd oedd cyflog saer yn Paris, ond yn 1869 yr oedd yn bedwar swllt a naw ceiniog. Y mae y model lodgings yn gaffaeliad gwerthfawr i weithwyr Paris, ond y mae yn fwy costus i fyw yno yn awr nag ydoedd gynt. Nid ydyw yr ad- roddiad yn dangos sefyllfa y gweithwyr yn y wlad yn gyffredinol, gan ei fod yn gyfyngedig i Paris. Isel ydyw y cyflog yn Switzerland,—naw swllt yn yr wythnos ydyw cyflog nyddwr. Ond dywedir fod y gweithwyr ar y cyfan yn well allan yn Swit- zerland nag yn ngwledydd ereill y cyfandir. Y mae y gweithwyr yno, fel rheol, yn byw yn eu tai eu hunain, ac yn trin tyddynod bychain y rhai a berchenogir ganddynt. Yn Groeg, enilla saer coed o ddau swllt i dri a chwech yn y dydd; saer maen o swllt a naw a dimai, i ddau swllt a naw a dimai; gof, o swllt a phum' ceiniog i swllt a naw ceiniog. Cedwir llawer o wyliau eglwysig yn Groeg, ac oherwydd hyny, nid oes ond 265 o ddyddiau gwaith yn y flwyddyn. Y fantais fwyaf yn Groeg ydyw, fod yr ymborth yn rhad, ac ychydig o honi sydd yn angenrheidiol i gynal bywyd; ac y mae y bobl yn hynod o syml a chynil yn eu harferion. Nid oes dim yn Spain i demtio y gweithiwr Pry- deinig i fyned yno, ac isel iawn ydyw y cyflogau yn Rwssia ac felly, os cymerir pob peth at eu gilydd, nid oes un lie yn Ewrop cystal a chartref i weith- wyr Prydain Fawr. Unol Dalaethau America, heblaw ein trefedigaethau, ydyw yr unig wlad ag y mae yn werth i weithwyr Prydain i ymfudo iddi mae yno ddigon o le, digon o fwyd, digon o waith, a chyflog da i'r gweithiwr sobr a diwyd. Ond dylai y gweithiwr cyn cychwyn, wybod yn mha ran o'r Talaethau y mae y farchnad oreu i'w lafur. Diolchwn i Arglwydd Clarendon a'i weision am yr ymchwiliad manol a wnaethant, ac am adrodd- iad taor llawn o faterion sydd mor ddyddorol i holl feibion llafur.