Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
HELYNT WOOD GREEN.
HELYNT WOOD GREEN. Fel. y mae'n hysbys i lawer, mae anghyd- welediad poenus wedi bod ymhlith aelodau eglwys Wood Green ers misoedd lawer. Pan gymerodd Cyfarfod Misol Llundain yr achos mewn llaw beth amser yn ol, yr oeddem wedi gobeithio fod y mater wedi ei lwyr benderfynu; ond deallwn yn awr fod Mr. Nathaniel J. Evans-un o hen flaenor- iaid Wood Green-wedi codi'r uchos i Gymdeithasfa'r Deheudir, yr hon a gynhal- iwyd yn yr Hendre, Mehefin 9—lleg. Mae adroddiad swyddogol o ddyfarniad y Gymdeithasfa yn darllen fel a ganlyn :— Cyfarfu y Pwyllgor yn Siloh, Llanelli, Mehefin 8, am 3 a 6 o'r gloch, pryd yr oedd yn bresennol y Parchn. Aaron Davies, D.D. (Cadeirydd), J. Morgan (Ysgrifennydd); John Bowen; Mri. Morgan Morgan, Merthyr W. E. Jones, Ynys W. Thomas, U.H., Aberystwyth; J. T. Davies. Cadoxton; Apelydd; Mr. N. J. Evans, ac ar ran C.M. Llundain, y Parch. J. E. Davies, M.A.; a Mr. John Burrell. Arwein- iwyd mewn gweddi gan y Parch. John Bowen, ar y dechreu, a therfynwyd trwy weddi gan y Cadeirydd. Yna aed ymlaen yn unol a'r Rheolau Apel, ac arwyddodd yr Apelydd, Mr. N. J. Evans, mewm ysgrifen, ei fod yn cydsynio i dderbyn dyfarniad y Pwyllgor. Wedi gwrando ar Mr. N. J. Evans, yr Apelydd, ac eglurhad cynrychiolwyr C.M. Llundain, daeth y Pwyllgor, wedi ystyriaeth faith a dwys, i'r pender- fyniadau canlynol:— (1) Ein bod o'r farn fod y C.M. a gynhaliwyd Rhag. 11, 1907, a'r pwyllgorau cysylltiedig ag ef' wedi eu galw yn rheolaidd. (2) Nad ydym yn ystyried fod y Tocyn Aelod- aeth a roddwyd i Mr. N. J. Evans wedi ei roddi yn rheolaidd. Er hyn yr ydym o'r farn mai dymunol i Mr. N. J. Evans, er ei gysur crefyddot a llwyddiant eglwys Wood Green, fydd iddo weithredu yn unol a phenderfyniad C.M. Llun- dain. (3) Ein bod yn cadarnhau yr hyn a wnaetfc C.M. Llundain, sef, Nad ydyw Mr. N. J. Evans i barhau i fod yn aelod o'r C.M. Arwyddwyd gan-Aaron Davies, Cad- eirydd; J. Morgan, Ysgrifennydd; John Bowen, Morgan Morgan William Evan Jones, John T. Davies,. a William Thomas. Cadarnhawyd yr adroddiad, ar gynygiad yr Ysgrifennydd a chefnogiad y Parch. W. D. Rowlands. Gofynodd y Parch. J. E. Davies am air pellach e eglurhad. Os oedd wedi iawn ddeall yr adroddiad, barnai'r Pwyllgor fod C.M. Llundain wedi gweith- redu'n afreolaidd wrth roddi llythyr i'r apelydd ac eto cymeradwyir i'r apelydd weithredu yn ol cyfar- wyddyd y C.M. A oeddid i olygu fod Mr. Evans y tuallan i'r eglwys ? Dr. Aaron Davies Nac ydyw y mae i fewn. Cododd amryw ar fater o drefn, gan alw sylw at y ftaith fod yr adroddiad eisoes wedi ei gadarnhau. Parch. J. E. Davies a ddywedodd mai ei amcan ef" oedd cael eglurhad, gan y disgwylid iddo allu rhoi adroddiad, o'r hyn wnaed, i G.M. Llundain.. Eglurodd yr Ysgrifennydd mai safle'r PwyHgor oedd, mai'r eglwys yn Wood Green yn unig feddai- hawl i roi llythyr i Mr. Evans fel aelod. Yr oedd gan y C.M. hawl i ymwneud ag ef fel aelod o'r C.M. Mr. W. Thomas, U.H., Aberystwyth, a ddywedodd fod eglurhad Mr. Morgan yn gywir mor bell ag yr oedd yn mynd; ond yr oedd pwynt arall; sef y cwestiwn o hawl eglwys i roddi tocyn heb i aelod- ofyn am dano. Dywedodd y Parch. J. E. Davies y dymunar wneud yn glir mai nid y C.M. a roddodd y tocyn yr hyn wnaeth oedd, cyfarwyddo yr eglwys neu'r swyddogion yn Wood Green i'w roddi. Ni ofynwydi am dano ond rhoddwyd ef ar gyfarwyddyd y C.M.. -(O'r Goleuad.")
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. YR ORIENT."—Mae'r arddangosfa Gen- hadol yn yr Agricultural Hall yn boblogaidd iawn y dyddiau hyn, a haedda gefnogaeth gan yr holl eglwysi Cymreig. RHYS LEWIS.—Deallwn fod rhagolygon disglair y rhoddir croesaw rhagorol i gwmni "Rhys Lewis ar eu hymweliad a'r ddinas yr wythnos nesaf. Gan fod yr ymweliad yn un eithriadol, hyderwny gwna pob darllenydd ei oreu i fod yn bresennol yn Sloane Square ddydd Sadwrn nesaf. GWAEDD Y MERCHED.—'Roedd catrawd o Gymryesau yn yr orymdaith i Hyde Park ddydd Sul diweddaf, ac nid oedd yr un baner yn fwy amlwg na'r hon oedd a llun y ddraig goch ami. EGLWYS WILTON SQUARE. Boreu Sul, Mehefin 21, cynhaliwyd gwasanaeth arbennig i'r plant. Gwahoddwyd hwy i ddyfod a blodau i'r gwasanaeth, y rhai a rannwyd ymhlith cleition ysbytai y gymdogaeth yn ystod y dydd. Canodd y plant droion yn y gwasanaeth, o dan arweiniad Mr. D. Jones Evans, a rhoddodd Miss Gertrude Hughes, R.A.M., ddatganiad effeithiol iawn o'r "Children's Home" a'r Golomen Wen." Pregethodd y gweinidog i'r plant oddiar Matt. xviii. 10, ac aeth y plant o gwmpas yn y cyfarfod i gasglu at yr ysbyttai, a casg- lasant dros 15. Yn niwedd y cyfarfod, cyflwynwyd gan Mrs. Davies, 8, Highbury Terrace, dystysgrifau a gwobrwyon i'r plant fu yn llwyddianus yn yr arholiadau arferol y flwyddyn hon. Credwn i'r cyfarfod wneud lies gwirioneddol. Cafodd y plant gyfle i ddyddori eu hunain yn foreu yng ngwaith ardderchog yr ysbyttai, a cawsant glywed yr Efengyl yn cael ei hegluro iddynt mewn dull ag y gall plant ei hanwylo a'i chofleidio yn wir. Taled Duw i'r rhai feddyliodd am drefnu y fath gyfarfod. DR. OWEN EVANS.-Bu'r hybarch Owen Evans, D.D., ar ymweliad a'r ddinas ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, a llanwodd ei hen bulpud yn y Tabernacl, King's Cross, yn oedfa nos Sul, a daeth cynulleidfa fawr i'w wrando. Er ei fod wedi ymneillduo o ofalon eglwysig er's amryw flynyddau, y mae yn dal mor gadarn ag erioed i draethu yr hen efengyl. Yn Liscard, gerllaw Lerpwl, y preswylia Dr. Evans yn awr. CYDNABOD CYDYMDEIMLAD.—Dymuna teulu y diweddar Mrs. Jones, Claremont, gyd- nabod yn ddiolchgar trwy gyfrwng y CELT am bob cydymdeimlad ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth chwerw. Gan fod nifer y cyfeillion, sydd wedi ysgrifennu atynt, mor liosog, anhawdd fyddai eu cyd- nabod ond trwy gyfrwng y wasg. PRIODAS MR. J. JAY WILLIAMS.—Un o ddigwyddiadau mwyaf dyddorol y cylch Cymreig yn ystod yr wythnos hon oedd priodas y Cymro adnabyddus Mr. J. Jay Williams, yr hyn gymerodd le ddydd Mercher diweddaf yn eglwys St. Pedr, Lordship Lane, yngwydd nifer arbennig o gyfeillion y ddeuddyn hapus. Y briodferch oedd Miss Evelyn Richards, unig ferch i Mr. a Mrs. T. B. Richards, Sydenham Hill-boneddiges ieuanc dalentog yn hanu o wehelyth Cym- reig, ond fod ei rhieni yn trigo yn y brif- ddinas er's blwyddi lawer. Y Parch. D. Bryant, B.A.,B.C.L., fu'n rhoddi y cwlwm priodas. Yn yr hwyr yr un noson rhoddodd tad a mam y briodferch groesaw i nifer o gyfeillion yng ngwesty'r Trocadero, a daeth rhai ugeiniau yno i ddymuno hapusrwydd i'r par ieuanc. Yn ystod y wledd caed llwncdestyn o iechyd da a hir oes i Mr. a Mrs. Jay Williams, yr hyn a roed gan Mr. H. Povey, ac atebwyd yn ddiolchgar mewn araith hapus gan y gwr ieuanc. Ar ran y cwmpeini datganodd Mr. D. Harris—cyn- faer Abertawe-ddiolch gwresog y dorf i Mr. a Mrs. Richards, rhieni y briodferch, am y croesaw a'r wledd, a dywedodd fod pobl Abertawe yn edrych ymlaen am oes o lwyddiant i Mr. Williams a'i briod ieuanc. Cydnabyddodd Mr. Richards y ddiolch mewn ychydig eiriau addas i'r amgylchiad. Ym mysg y rhai oedd yn bresennol oedd Mr. a Mrs. John Hinds, Mr. a Mrs. D. Richards, Parch. Herbert Morgan, Mr. Vincent Evans, Mr. Arthur Griffiths, Mr. P. W. Williams, Parch. D. Bryant, Mr. a Mrs. D. Harris, Abertawy, a thorf fawr o gyfeillion a chyd- nabod teulu'r briodferch. Enwir Mr. Williams gan bobl Abertawy fel un o'r rhai mwyaf addas i ddilyn camrau Syr George Newnes yn y Senedd.
Advertising
BECHSTEIN HALL, WIGMORE STREET, W. 88888888888888888888888 Mr. Edward lies WILL INTRODUCE HIS PUPIL, Miss Laura Evans AT A Song Recital, ON THURSDAY, JULY 9thr at 8 p.m. AT THE PIANO: NiP. S. bIDDbE TlCKETS-5/ 3/ 2/ 1/-rnay be obtained at the Box Office, Bechstein Hall, and from Miss LAURA EVANS, 31, South End Road, flampstead.
DIFFYGION Y DDI-; WINYDDIAETH…
(2) Nid peth dieithr ydyw i'r grefydd Gristionogol fyned i'r ystorm. Trwy ystor- mydd mae wedi byw; ac yn ol fy main i, mae yr ystormydd wedi bod yn fantais i'w bywyd. Wrth orchfygu gwrthwynebiad mae wedi ymgryfhau. Fel y credai yr hen oesoedd, fod nerth pob gelyn leddid ganddynt yn myned i'r gorchfygwyr felly hefyd gyda chrefydd-mae concro gwrthwynebiad, a byw trwy yr ystorm, yn myned yn yni newydd i gryfhau ein crefydd. Mae ein crefydd heddyw mewn ystorm a chredaf y bydd nid yn unig yn gor-fyw yr ystorm yma eto, ond y bydd crefydd Crist yn gryfach nag erioed yn ei grym a'i hawdurdod ar fywyd y byd. Ond cofier ein bod mewn ystorm heddyw bur wahanol o ran ei nodwedd a'i natur i'r rhai blaenorol. Er's llawer blwyddyn yr ydym wedi cynefino gwrandaw ar leisiau yn pregethu o'n colegau a'r pulpud syniad newydd am ysprydoliaeth y Beibl, ac esbon- iad newydd ar lawer rhan ohono, ac wedi gwrandaw yn barhaus, ac er ein mantais, ar lais ein hathrawon ond heddyw mae yr ymosodiad yn cael ei wneud, nid ar amgylch- oedd ein crefydd eithr ar y canol-fan nid rhannau dibwys sydd yn sefyll eu prawf heddyw, ond sylfaen hanfodol. ein crefydd. Oherwydd hyn, rhaid ceisio gwrthbrofi Diwin- yddiaeth Mr. Campbell a'i ddilynwyr o'i sylfaen. Credwn mai yn y cyfeiriad yma y dylid dechreu ei feirniadu. Nid taflu i lawr ryw dwr yma ac acw yn ei gastell diwin- yddol, ond ystyried y sylfaen, pa un ai craig ai ynte tywod ydyw o ran ei natur.—(F Parch. J. Lewis Williams, M.A.,B.Scyn y "Geninen" am Orffennaf.)