Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

----A BYD Y GAN.

News
Cite
Share

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. MRS. MARY DAVIES.-O berthynas i'r dar- lun o honi ymddangosodd yr wythnos ddiweddaf, bydd gennyf yn fuan, yn y golofn hon, grynodeb o'i lianes. CERDDORIAETH A CHREFYDD.- Ymddengys i mi fod tebygolrwydd cydrhwng y ddau both hyn, fel ag sydd yn rhannol, cydrhwng cerddoriaeth a'r eelfau ereill. Goddefer imi roddi y mater, yn fyr, ger bron y darllenydd. Beth ydyw swm a sylwedd y celfau, amgen na mynegiant o natur ? Natur ydyw y fam dyma'r plant; ac y maent yn dwyn ei delw. Ar wahan i gerddoriaeth, anhawdd, i mi, ydyw olrhain yn y celfau, yr hyn sydd y tu allan i natur. Nis cofiaf ddarfod i syllu ar gerflun, neu hyd yn oed ar brif ddarluniau Dore, ddwyn imi les ysbrydol. Nid wyf yn ameu nas gall Arluniaeth a Gherfluniaetb ym- gnawdoli meddwl; ond wedi gwneud hynny, ni chodir fi, yn y myfyrdod o'r meddwl hwnnw, at yr Ysbrydol. Y mae yr Ysbrydol ynwyf, ac eto nid ydyw y pethau hyn yn ei gyffwrdd, ac yntau mor agos! Ar y Haw arall, os nad wyf yn rhagfarnllyd, credaf mai merch ieuangaf Natur, sef Cerddoriaeth, ydyw y ffurf gelfyddydol drwy ba un y dewisodd Daw, yn y dyddiau diweddaf hyn," lefaru wrth y byd Y mae ei hanes ynglyn a'n cenedl ni yn brawf 0 hyn. Os naturiol ydyw, gall ein codi i'r ystad honno ym mha un yr apelia pethau ysbrydol atom. Gall cerddoriaeth fod yn ffrwyth profiad ysbrydol un dyn, sef ei chyfaneoddwr, a dod yn destyn myfyrdod ac yn gyfrwng bendith i wran- dawyr, yr hyn nas gall arluniaeth na cherf- luniaeth eu gwneud. 03 ydyw y gosodiad hwn yn un teg a rhesymol, gwelir fod tebygolrwydd rhwng Cerddoriaeth a Chrefydd. Braint y naill a'r Hall ydyw gwasanaethu dyn er ei ddyrch- afiad yn yr ystyr uwchaf. Ond y mae tebygolrwydd arall cydrhyng- ddynt. Gellir eu cario, o ran eu ffurfiau, i eithafion. Crefydd syml oedd yr eiddo ein hen dadau yng Nghymru. Dysgwyd y bobl yn unol a'r Ysgrythyr, yr hon a gredid yn ei zn symylrwydd, a bu yn fendithiol iawn! Tuedd yr oes hon ydyw tuagat Undodaeth- heb yr enw; a pha beth ddaw o'r gymys- gedd," nis gwn. Y mae felly gyda cherdd- oriaeth. Nis gellid dirnad am gerddoriaeth fwy dyrchafedig na'r eiddo Palestrina, Bach, a Handel; ond wedi i Palestrina geisio gosod pethau yn eu lie, aeth cerddoriaeth i'r wlad bell cyn hir, a rhaid oedd i Gluck ddod a hi yn ol. Erbyn hyn y mae, heb foddloni ar ddysgeidiaeth Richard Strauss, yn cael ei hesbonio yn ol Debrussy! Ond cymerwn gysur, fe fydd i Ragluniaeth ofalu am Ddiwygiwr, ac ni oddefir i gerddoriaeth fyned yn ddirym fel gallu moesol! # Y CYMUN.—Da gennyf ddarllen fod merch ieuanc yn ddiweddar wedi rhoddi datganiad effeithiol o unawd adeg gweinyddu yr Ordinhad mewn capel yn y ddinas hon. Yn sier gall cerddoriaeth fod yn bur effeithiol yn y gwasanaeth hwn, a hyderaf y rhoddir lie iddi yma fel yn y rhannau ereill o waith y Cysegr. HEN GERDDORION CYMRU. EDWARD JONES (Bardd y Brenin).-Anaml y clywir am gerddor nas gellir olrhain y ddawn gerddorol i ryw aelod neu aelodau o'i deulu. Fel rheol, y fam sydd yn cael y diolch am y gallu sydd wedi dod gymaint i'r amlwg yn y mab neu y ferch; fel y gwirir yr hen ddywediad mai y fam, sydd yn siglo y cryd, sydd yn llywodraethu y byd Os nad yw yn gwneud lawn cymaint a hynny, y mae yn dylanwadu yn fawr iawn ar feddwl pob oes, ac yn rhoddi cyfeiriad iddi. Yn hanes Edward Jones, ceir fod y teulu oil yn gerddorol. Dywedir y gallai y tad chwareu ar amryw o offerynau cerdd, a gallai wneud rhai, hefyd. Gallai dau o'r meibion, seE Edward a Thomas, chwareu ar y Delyn Gymreig. Un arall chwareuai y sPinet; un arall y crwth. Fel pan y chwareuai y tad yr Organ, ceid cerddorfa fechan yn y cartref hwn. Ganwyd Edward Jones mewn amaethdy o'r enw Henblas, plwyf Llandderfel, Sir Feirionydd, Sul y Pasc 1752. Daeth i sylw'r wlad fel Telynor, yn ieuanc ond pa ran gymerodd yn yr Eisteddfodau ni wn. Drwy ddylanwad rhai o fawrion y tir, daeth i Lundain pan yn 22ain mlwydd oed. Ychydig cyn hynny, yr oedd Cymdeithas y Gwynedd- igion wedi ei sefydlu yma, a diau i Delynor ieuanc addawol fel hwn, drwy ddylanwad rhai o'r aelodau, gael llawer o gefnogaeth. Yn 1783 dewiswyd ef yn "Fardd" i Dywysog Cymru. Wrth hyn y mae'n debyg y golygir mai Telynor dewisedig ydoedd i'w Uchelder, fel ag y mae Mr. John Thomas i Iorwerth y Seithfed. Bu Edward Jones hefyd yn llanw swydd yn.y Robes office ym Mhalas St. lago. Rhyfedd i gerddor fel efe gymeryd y fath swydd ond hwyrach fod yn rhaid iddo wrthi (neu arall) er byw. Yn 1784 ymddangosodd ei brif waith, a'r hwn geidw ei enw yn fyw tra y peri dydd- ordeb yn Alawon Gwlad y Canu, sef y Musical and Poetical Relicks of the Welsh Bards." Ymddangosodd ail-argraffiad o'r gwaith yn 1794, ae, fel y gellid disgwyl, yr oedd hwn yn fwy cyflawn na'i ragflaenydd. Yn 1802 cyhoeddodd gyfrol o'r enw Bardic Museum," ac yn 1820 daeth allan ran o gyfrol arall, yr hon, o herwydd afiechyd y cerddor, ni orffenwyd. Mewn Rhagdraeth hir i'r Musical and Poetical Relicks," rhydd hanes y Beirdd Cymreig o'r amseroedd boreuaf hyd ei adeg ef hanes eu cerddoriaeth, &c. Ceir hefyd ddarluniau o offerynau Cerdd y Cymry ac erthygl arnynt. Yn ei henaint syrthiodd i amgylchiadau isel, a gorfu iddo werthu rhai o'i lyfrau. Yn y diwedd daeth ei achos i sylw Cymdeithas Frenhinol y Cerddorion, yr hon a drefnodd flwydd-dal iddo ond ni bu fyw yn hir i fwynhau y cyfryw. Bu farw Ebrill y 18fed, 1824, yn 72 mlwydd oed. Wrth ddarllen hanes John Ellis, Lanrwst, ac Edward Jones, daeth i'm meddwl i aw- grymu i awdurdodau Cymdeithas. yr Eis- teddfod y buddioldeb o drefnu i bob Eis- teddfod Genedlaethol gyfranu i drysorfa, 0 ba un y geUid cynorthwyo Beirdd a Cherdd- orion yn eu henaint a'u tlodi. Meddylier gymaint ellid ei wneud yn y ffordd hon, pe arbedid y gwastraff mawr sydd ynglyn a gwobrwyon corawl! Hawdd ydyw cyfeirio at y Llywodraeth; ond nid oes gan honno lawer o gydymdeimlad a Beirdd a Cherdd- orion Cymreig nad ydynt o bosibl yn adna- byddus i'r byd Seisnig. Dyma le i'r Eisteddfod, sydd yn rhoddi galluoedd ei phlant ar waith, i wneud rhyw ddarpariaeth ar eu cyfer, os mewn angen, pan y daw henaint. TONAU TAL-YSARN.Y mae tonau y Parch. John Jones—tua deugain—newydd eu cyhoeddi mewn cyfrol. Deallaf fod y Gynghanedd o waith Mr. D. Emlyn Evans.

[No title]

DIFFYGION Y DDI-; WINYDDIAETH…