Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
EISTEDDFOD BATTERSEA.
EISTEDDFOD BATTERSEA. Noson dywell gafodd pobl Battersea i gynnal eu Heisteddfod. Daeth y niwl tew i ordoi'r ddinas, fel mai gydag anhawster y caed o hyd i neuadd drefol Battersea gan y rhai feiddiasant fyned allan ar y fath noson. Ond daeth cynulliad mawr ar waetha'r cyfan, a chaed Eisteddfod hwyliog iawn. Digon o Gymraeg, digon o ganu ac areithio, a digon o siarad, hefyd, o ran bynny. Llanwyd y gadair gan foneddwr lleol ym mherson Mr. Edwin Evans, gwr sydd wedi dod yn amlwg droion yn y cylch fel ym- geisydd am gynrychioli'r ardal ar wahanol gynghorau, &c., a dangosodd ei barch a'i hoffter tuag at y Cymry yn ei gymdogaeth trwy gyfranu yn bael i gyllid yr Eisteddfod. Gan y bu raid iddo ymadael cyn gorffen y eyfarfod llanwyd ei le mewn modd debeuig gan Mr. William Davies, L.C.C. Arweiniwyd gan y Parch. D. C. Jones, y Boro', a beirniadwyd y cantorion gan Mri. Tom Price a Pedr Alaw, a chlorianwyd y llenorion a'r beirdd ac ereill gan y gwyr enwog hyn: Elfed, Machreth, Parchn. J, Humphreys, E. T. Owen, Proff. Jones, Aberystwyth; Mrs. W. Davies, a Mrs. R. Williams, a gofalwyd am y cyfeiliant gan Mr. Merlin Morgan a Miss Sallie Jenkins. Canwyd can yr Eisteddfod gan Miss Agnes Parry, R.A.M., yr hon roddodd, "I will extol thee," mewn modd hynod o gelfgar a bu raid iddi ail ganu. Mae Miss Parry yn graddol esgyn i fri ym myd y gan, ac yn sicr o. ennill safle uchel ymhlith ein cantorion. Gan fod ein gohebydd cerddorol, Pedr Alaw, yn bwriadu manylu ar lawer o'r can- torion, ni wnawn yma ond rhoddi crynhodeb byr o'r rhai'fuont fuddugol. Rhaid cydnabod fod yr ysgrifenyddion, Tom Jenkins, Battersea Park Road, ac Evan Jenkins, wedi gwneud eu gwaith mewn modd hynod o lwyddianus. Ni fu ball ar eu diwydrwydd ac i'w gofal hwy y dylid priodoli y fath derfyniad hapus i wyl mor fawr. Y DYFAKNIADAU. Cystadleuaeth Gorawl: Cor Falmouth Road. Marwnad i'r diweddar David Evans, Henderson Road Goreu, Deiniolfryn, Caer- narfon. Englyn, Ystlum." Rhanwyd rhwng W. George, Pontygwaith, Rhondda, a Tom," yr hwn nid atebodd i'w enw. Par o Hosanau Miss Katie Jones, Salem, Aberystwyth. Adrodd i blant Miss Lizzie Davies, Jewin. Adrodd i rai mewn oed: "Araith Llewelyn," Mr. Stanley Davies, King's Cross. Champion solo 1, Mr. T. Bronant Jones 2, Miss Annie Thomas, Hackney, a'r Parch. Ishmael Thomas, yn gydfuddugol. Gwniadwaith, "Pair of D'Oyleys," Mrs. Prior, Clapton. Embroidered cushion," Blodwen, ond nid atebodd i'w henw. Unawd Bass, Mr. J. Hughes, City Boy.
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. GWYR Y BEL.—Heddyw, y Sadwrn, bydd y pel droedwyr yn cynnal un o'u cyrddau mawr yn West Ham. Disgwylir cynulliad brwdfrydig yno. CYNGERDD.—Nos Iau nesaf rhoddir per- fformiad arbennig o un o weithiau Mendels- sohn gan Gor y Tabernacl. Cynorthwyir y cor gan nifer o'n cantorion enwog. GWYR MORGANWG. Cynhelir y cinio blynyddol ynglyn a Chymdeitlias Gwyr Morganwg ar yr 20fed o'r mis hwn,, a lly- wyddir gan Syr D. Brynmor Jones, A.S. Daw amryw o enwogion gwlad Forgan i gydwledda gyda'r aelodau ar yr achlysur. WALHAM GREEN.-Y Gymdeithas Ddiwyll- iatiol.-Nos Fercher, Ionawr 22ain, cawsom ddadl ddyddorol ar y testyn A ydyw y pwlpud yn colli ei ddylanwad." Agorwyd o blaid yr ochr gadarnhaol gan Mr. W. P. Jones, ac o blaid yr ochr gyferbyniol gan Mr. T. E. Pughe. Yn ystod y cyfarfod caed sylwadau ar y mater gan Miss Mary Jones, ynghyd a'r Mri. R. Gomer Jones, Hugh Parry, Herbert Thomas, Ben Evans, a John Hughes, yr hwn hefyd a gymerodd y gadair yn absenoldeb y Llywydd. Er nad oedd y cynulliad mor lliosog ag arferol, eto teimlem ein bod wedi cael cyfarfod hynod o ddydd- orol ac adeiladol. Wedi cyfrif y pleidleisiau ar y diwedd caed fod y mwyafrif o blaid yr ochr nacaol. R. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL BRUNSWICK.— Nos Sadwrn, Ionawr 25ain, traddodwyd dar- lithar Gau-Brophwydi ym Mywyd Cenedl- aethol Cymru," gan Mr. T. J. Evans, King's Cross. Mr. Huws-Davies, B.Sc., oeddym yn ddisgwyl, ond ar ychydig rybudd llanwyd y bwlch gan Mr. Evans, a chafwyd arlwy o'r fath oreu i Gymro gwladgarol. Wrth gwrs, yr oedd ei ddywediadau miniog yn taro dipyn yn groes i deimlad rhai o'i wranda- wyr, a bu rhyddymddiddan brwdfrydig a beirniadol ar derfyn y ddarlith. Cafwyd noson ddifyrus ac adeiladol, a sicrwydd fod Mr. Evans wedi ennill edmygedd y Gym- deithas.-W. EGLWYS ST. BENET, QUEEN VICTORIA STREET. —Y Sul o'r blaen talwyd ymweliad a'r eglwys hon gan y Parch. Charles Ragbir, offeiriad brodorol o ardal Trinidad. Er gerwined y tywydd, llawen iawn oedd gennym weled Ilond yr eglwys, pryd y caf- wyd gwasanaeth hwyliog a da, a chawsom bregeth neu anerchiad gampus mewn Saes- neg da gan Mr. Ragbir, yn rhoddi disgrifiad byw o'i waith. Cafwyd casgliad sylweddol, yr hwn a roddwyd i'r Gymdeithas er lled- aeniad yr Efengyl. Cydnabod Cymro.— Cynhelir cynhadledd flynyddol ynglyn ag Esgobaeth Llundain, ac eleni da gennym hysbysu fod y Parch. J. Crowle Ellis, ficer St. Benet, wedi ei ethol yn un o'r chwech offeiriad i gynrychioli y "West City Rural Deanery." MARWOLAETH MR. EDWARD MARPOLE.—Ar yr 17eg o Ionawr, 1908, bu farw, yn 47 oed, Mr. Edward Marpole (gynt o King's College, Llundain), mab hynaf y diweddar Mr. Edward a Mrs. Rachel Marpole, Machynlleth, a brawd Mr. David Williams Marpole, 9, Quality Court, Chancery Lane, Llundain, a Mrs. Tom Powell, Machynlleth. Bu Mr. Edward Marpole yn wael ei iechyd ers- tros dair blynedd, a bu yn ceisio gwellhad yn Scarborough, Bournemouth, Torquay, a mannau ereill. Er hyn oil, ni ddisgwyliwyd fod ei ddiwedd mor agos. Claddwyd y trancedig yng, Nghladdfa Machynlleth ar brydnawn yr 21ain cyfisol. Gellir dweyd- "y tywyllwch a aeth heibio a'r gwir oleuni sydd yr awrhon yn tywynu arno. SIBLEY GROVE, EAST HAM.- Nos Iau di- weddaf, eawfccm y fiaint iel Cymdeithas i wrando ar un o'r darlithiau mwyaf amserol a phwysig, yn enwedig i Gymry ieuainc Llun- dain, gan y Parch. F. Kyjoyle, B.A., ar Gymru Fydd." Cawsom gipdrem o banes y genedl o'r amser boreuaf i lawr hyd y dyddiau presennol; ac yn wir, ar ol clywed ganddo am holl symudiadau y genedl, drwy bob cyfnod, a rhai o honynt yn gyfnodau tywyll iawn, ac ymdrechion diddiwedd o blaid y genedl i gadw yr iaith yn fwy, ac i gynyddu mewn addysg a chrefydd, yr oedd yn creu ynom fwy o awydd i wneud mwy dros ein gwlad a'n cenedl yn y dyfodol. Yr oedd Mr. Knoyle yn hyddysg a phob hanes a berthynai i'r genedl, nid yn unig hanes y y Celtiaid, ond hefyd cenhedloedd bychain ereill fel ein cenedl ni ag sydd yn teilyngu mwy o sylw. Nododd bedwar peth ag sydd yn apelio at bob Cymro, pie bynnag y byddo, sef pwne y tir, dirwest, dadgysylltiad, ac addysg, y rhai sydd raid cael y sylw dyladwy, fel ag i Gymru Fydd ddod yn Gymru Rydd.D. EALING.-Cafwyd noson lawen nos Fercher, yr 22ain cyfisol, yn Swift Assembly Rooms, Ealing Green, pryd y cynhaliodd y Gym- deithas Ddiwylliadol perthynol i Eglwys Ealing gyfarfod adloniadol dan lywyddiaeth medrus Thomas Lewis, Esq., Hanwell. Daeth nifer liosog o'r aelodau a chyleillion ynghyd, ac yr oedd yn eglur fod yr oil yn mwynhau eu hunain. Trwy garedigrwydd haelionus Mr. a Mrs. Bunford, South Ealing, cafwyd gwledd o de, coffi, a danteithion melus yn ystod y cyfarfod, ac nid angen dweyd i bawb gael eu digoni. Sicrhawyd cerddorion ac adroddwyr ardderchog y tro hwn eto, a chafwyd caneuon gan Mrs. Roberts, Acton. Mae.pwyllgor y gymdeithas yn ddyledus i'r gantores hon am ei pharod- rwydd i roddi ei gwasanaeth bob amser. Hefyd cafwyd dwy gan gan Miss M. Purvis, a Messrs. Murray a Sheppard yn dra effeith- iol. Yn ychwaneg, cafwyd pedwarawd "Y Bwthyn ar y Bryn," gan gyfeillion perthynol i'r Eglwys. Adroddwyd gan Miss Harpe a Miss Dillys Rees. Chwareuwyd ar y ber- doneg gan Misses Edie a Phillys Rees. Cyfeiliwyd gan Mr. Sheppard. Talwyd y diolchgarwch arferol i'r Cadeirydd am lywyddu mor ddeheuig, ac i ereill am eu gwasanaeth yn ystod y noson, ac yn swn "Hen Wlad fy Nhadau aeth pawb i'w cartrefleoedd. Edrychir ymlaen at y cyfarfod nesaf, a gynhelir Chwefror 26ain. E. MOORFIELDS. Caed cyfarfod diddan ynglyn a chymdeithas ddiwylliadol y lie nos Fawrth, wythnos i'r ddiweddaf, pryd y daeth llawer o gantorion ac adroddwyr ynghyd i ymgipris am y gwobrau sylweddol gynygid iddynt. Beirniadwyd y canu gan Mr. Sackville Evans, a bu'n llawdrwm ac addysgiadol ar y cantorion, yn ogystal ag ar y darnau a ddewiswyd i gystadlu arnynt. Cloriannodd Machreth yr adroddwyr, a chadwyd ef hyd awr hwyr wrth ei orchwyl. Llywyddwyd yn ddeheuig a hael gan Mr. Gwilym Hinds, a throdd y cyfan allan yn bur lwyddianus. Gwasanaethodd Miss Deborah Rees fel cyfeilydd, a gwnaeth Mr. Jones, Clift Street, ei waith yn fedrus fel trefnydd.
[No title]
MAE Saeson ardal Gunnersbury ym myned i gynnal Eisteddfod fawr eleni eto. Ceir y manylion am y rhaglen mewn colofn arall. DAETh amryw o'r Aelodau Seneddol Cym- reig i Lundain ddechreu'r wythnos, ond mae nifer liosog yn absennol o'r Ty hyd yn hyn.
[No title]
RHODDODD Mr. D. A. Thomas, A.S., wledd' i groesawu Cor Aberdare yn Frascati ddydd Iau diweddaf. Dyna ddull campus i'w colonogi erbyn gornest yr hwyr yn Queen's Hall.
Advertising
WELSH PRINTING WELSHMAN & KELT OFFICES, 211, GRAY'S INN RD,