Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYST WYTH. One of the Constituent Colleges of the University of Wales PRESIDENT—The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL— T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). rriHE next Term begins on January 14th, 1908. A X number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 15th, 1908, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, R,10, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. "Oes y Byd i'r laith Gymraeg." TH E L. C C. WELSH EVENING CLASSES are now being held at the HUGH MYDDBLTÐN SCHOOL, Corporation Row, Clerkenwell (3 minutes from Farringdon St. District Railway Station) Elementary: Monday Evenings, 7.0 to 9.30 Advanced: Friday „ Fee for Session, 2s. fii. Teacher: GORONWY OWEN, M.A. Correspondence to FF. ITHEL MORGAN, Whitehall House, Charing Cross, S.W. ALDRIDGE'S HORSE REPOSITORY. Should you require to purchase a HORSE for business on THE MILK ROUND or for pleasure attend Messrs. ALDRIDG-E'S Sales on Wednesdays and Saturdays at 10.30 a.m., UPPER ST. MARTIN'S LANE, LONDON W C. Horses of every class sold by Auction each Wednesday and Saturday. On view Mondays and Thursdays. Catalogues forwarded. MR. HENRY MORGAN, SURGEON DENTIST, 10, TAVISTOCK PLACE. W.C. Single Teeth from 5/- Complete Sets. Upper and Lower from 24. Repairs executed at Moderate Charges. Old Cases Remodelled. Teeth Extracted, Stopped and Scaled Siaredir Cymraeg os yn fwy dymnnol THE GREAT WELSH REMEDY. | nA\/| r Q? Q RELIEF FROM COUGH IN 5 I FOR COUGHS, FOR COLDS, I FOR ASTHMA, FOR BRONCHITIS, I FOR HOARSENESS, FOR INFLUENZA. i i a « F0R COUGHS, FOR SORE (\(\ | If-; I—I THROAT, MOST SOOTHING. KJ\J Xj VJ I WARMS THE CHEST, DISSOLVES THE PHLEGM. FOR SINGERS, FOR PUBLIC SPEAKERS. MIXTURE 1 1 1 ■— 2s. 9D. Postage, 3d. Proprietor. HUGH DAVIES. Chemist, Machynlleth. London Agents: Mr. Morgan, Chemist, Tavistock Place, W.C.; Air. Thomas, Chemist, Upper Baker Street, W. Wholesaler Barclays, 95, Farringdon Street. At 'Coll' WELSH PRINTIII off;co
AGOR Y SENEDD.
AGOR Y SENEDD. Erbyn hyn mae'r Senedd wedi ail-ddech- reu ar ei gwaith. Mae'r aelodau wedi cael seibiant hir, a bydd yn ddyddorol i wylied y gweithrediadau am yr wythnosau dyfodol er gweled pa fath raglen a fwriedir osod ger bron y Ty am y tymor. Er cymaint y bodd- had a gaed wrth osod Gweinyddiaeth Rydd- frydig mewn awdurdod, rhaid cydnabod fod y wlad wedi cael ei siomi yn fawr yn ei gweithredoedd hyd yn hyn. Hwyrach fod disgwyliad y werin yn rhy fawr, ond mae'n eglur nad yw'r Weinyddiaeth wedi ym- ddwyn mor ryddfrydig tuag at rai pynciau ag y gobeithiau eu cefnogwyr y gwnaent. Gwyddom fod yr anhawsterau yn fawr ar ffordd pob gwir ddiwygiad, ac fod ein cyn- llun henafol o lywodraethu yn llawn o rwystrau ar ffordd y sawl a geisia ffarfio cyfreithiau newydd. Feallai fod y Wein- yddiaeth wedi dangos gormod o barodrwydd ar rai adegau i gydymlfurfio alhen ragfarnau, wedi cymodi a hen ddaliadau, ac wedi cyd- nabod hen arferion yn hytrach na chreu chwyldroad ond mae'n araheus a yw yn talu'r ffordd yn y pen draw i fod yn rhy dirion at y drwg pan y cydnabyddir yn gyffredin fod yn rhaid ei symud. Addewir nifer mawr o welliantau yn ystod y tymor sydd yn awr yn dechreu, a hyderwn yr ymgymerir a'r gwahanol bynciau mewn ysbryd diwyro, heb ofni'r Arglwyddi na'r blaid wrthwynebol. Gwell gan y wlad roddi ei chefnogaeth i blaid sy'n barod i ymladd yn ddewr tros ei barn a'i daliadau, ac yn barod i aberthu trostynt os bydd galw am hynny. Os ceidw y Blaid Ryddfrydig hyn mewn cof a gweithredu yn ol y gwroldeb a ddangoswyd o'u tu, ar adeg yr etholiad cyffredinol diweddaf, ni fydd angen pryderu am ddyfodol llwyddianus i'w rhan fel yn y dyddiau gogoneddus gynt.
Anrhydedd Caerdydd.
Anrhydedd Caerdydd. Haedda pobl Caerdydd air o glod am eu gwaith yn anrhydeddu un o feibion dis- gleiriaf y genedl a rhydd-freintiau eu dinas. Dydd Gwener diweddaf bu Llywydd y Bwrdd Masnach ar ymweliad a phrif dref y Deheudir, a rhoddwyd iddo groesaw teilwng o un o arwyr gwlad y bryniau. Daeth pob gradd a phlaid yn un ar y dydd hwn, a'r oil am eu goreu i ddangos i Mr. Lloyd-George fod ei genedl ei hun yn ei garu a'i barchu ar waethaf pob gwrthwynebiad. Daeth cyn- ulliad tywysogaidd ynghyd, yn cynnwys prif farsiandwyr y ddinas a'r cylch, a theim- lai pawb ei fod yn cyflawn haedda y fath anrhydedd oddiar eu dwylaw. Yn yr hwyr, bu Cymdeithas y Cymmrodorion yn ei ganmol mewn geiriau teg, a phawb yn teimlo yn llawen fod Cymro mor ieuanc wedi esgyn i'r fath safle anrhydeddus a phwysig. Gan nad yw Mr. Lloyd-George megys ond ar ddechreu ei yrfa lwyddianus, yr ydym yn llawenhau wrth weled y wlad yn dod, o'r diwedd, yn unol tan ei faner. Wrth dderbyn yr anrhydedd dangosodd ei fod yn caru Cymru yn angerddol; a hyderwn na welir neb bellach yn ceisio amheu ei sel a'i anwyl- deb tuag at y wlad sydd wedi rhoddi cymaint o galondid ac ysbrydiaeth iddo yn nyddiau tywyllaf ei yrfa gyhoeddus. Boed i ysbryd gwyr Caerdydd etifeddu yr oil o'i gyd- genedl o hyn allan, oherwydd y mae'r arwro Arfon yn cyflawn haeddu hyn ar ein rhan. Y Diweddar G. T. Kenyon. Bydd yn chwith gan lawer glywed am farwolaeth yr Anrhyd. G. T. Kenyon, yr hwn fu am flynyddau yn cynrychioli Bwr- deisdrefi Dinbych yn y Senedd. Un a ysweiniaid parchus y gogleddbarth oedd Mr. Kenyon, ac er mai cefnogydd y blaid Dori- aidd oedd yn y Senedd gwnaeth lawer iawn o waith tros addysg uwchraddol Cymru yn ei ddydd. Nid oedd yn siaradwr hyawdl, ond yr oedd yn weithiwr ffyddlon, a chaf- odd Prifysgol Cymra gefnogydd aiddgar ynddo o'r cychwyn. Collodd ei sedd dros Ddinbych ar adeg yr etholiad ddiweddaf pan ddewiswyd Mr. Clement Edwards yn ei le. Yr oedd yn 67 mlwydd oed, wedi graddio yn M.A. yn Rhydychen, ac yn etifedd i Arglwydd Kenyon, o Gredington, Ymwythig.
[No title]
YM mhwyllgor llenyddol Eisteddfod Llun- dain dywedodd un brawd fod angen am- destynau newydd i'r beirdd ganu arnynt. Awgrymodd Yr Awyrlong fel testyn y gadair, a'r "Ysbienddrych" fel testyn y goron. Beth ddywed ein beirdd am hyn ? Onid oes cyfle iddynt ganu awdlau a phrv- ddestau o ddeng mil o linellau ar y fath ddrychfeddyliau barddonol! ERBYN hyn mae gan Alfa," y bardd, gasgliad o 26 o gadeiriau. Y dydd o'r blaen yr oedd Gwili yn darlithio yn ei gapel, a dyma fel yr englynodd i Alfa, yr hwn a lywyddai y cyfarfod :— Alfa sydd yn ei elfen-coed arwr Yw'r cadeirydd trylen Derw'r bardd a'i dyry'il ben Cadeirydd y coed derwen. MAE pwyllgor Eisteddfod Llangollen wedi sicrhau nifer o'r cantorion goreu i ganu yn yr wyl ym mis Awst. Ym mysg ereill mae Miss Eira Gwyn a Miss Edith Evans wedi eu dewis. Un o ferched Llangollen yw Miss Edith Evans, a da yw gweled fod iddi barch ac anrhydedd yn ei thref ei hun. CYN pen yehydig ddyddiau ceir llyfr newydd gan Mr. Ivor Bowen, y bargyf- reithiwr, ar Ddeddfau Cymru." Mae Mr. Bowen wedi casglu pob deddf sy'n ym- wneud yn arbennig a Chymru, a cheir cryn- hodeb o honynt yn ogystal a thraethawd dysgedig ar eu prif nodweddion. Y MAE pethau yn gwella yn Sir Abertei ii Cynhaliwyd gwasanaeth coffadwriaethol i'r diweddar Lewis Pugh Pugh, gyat A.S. dros y sir yn eglwys y plwyf yn Llanilar y Sal o'r blaen. Traddododd offeiriad y plwyf (un o fechgyn Llambed ac aelorl o'r Hen Gorff gynt) bregeth bwrpasol iawn ar yr amgylch- iad, ac yr oedd yr eglwys yn orlawn am y tro. Darfa i'r Methodistiaid orffen eu Hysgol Sal mewn pryd i fyn'd i'r Eglwys. Ar gais yr offeiriad darllenwyd rhan o'r gwasanaeth yn yr eglwys gan Mr. William Davies, cyfreithiwr, Llanilar, yr hwn sydd yn aelod o gyfarfod misol G,-)Ioledd Aber- teifi, ac yn Arolygwr yr Ysgol Sul eleni am y burned waith. Parhaed brawdgarwch.