Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. EISTEDDFOD BATTERSEA.—Cynhaliwyd hon yn y Battersea Town Hall, nos Ian, y 23ain cyfisol, ac er fod y tywydd yn bur anffafriol, daeth tyrfa fawr ynghyd. Diau y buasai yn llawer mwy oni bae am y ffog. Yr oedd nifer dda o gystadleuwyr ar yr unawdau, ond Cor Falmouth Road (M.C.) yn unig ddaeth ymlaen i-ganu Ein Hior, ben llywydd." Gan na chafwyd amser i fanylu ar y canu, addawyd rhoddi sylwadau yn y golofn hon. Y beirniaid oeddynt Tom Price a'r Ysgrif- ennydd." Defnyddir y Gymraeg lie nad oedd ond Cymry yn cynnyg. Y BRIF GYSTADLEUAETH GoRAWL.-Cor Falmouth Road 0 ran y lleisiau, yr oedd y cyfryw yn rhai da ymhob adran, ond yr oedd yr altos yn wan, a rhai o'r lleisiau hytrach yn arw. Gyda chyfnerthiad yma, bydd y cydbwysiad yn well. Yr oedd yma gyd- symudiad boddhaol, geiriad eglur, tonydd- iaeth gywir, a mynegiant da. Darn ydyw hwn sydd yn gofyn am gryn nerth i'w gyf- Iwyno yn briodol. Rhaid ymdrechu dangos yr urddas a'r mawredd a berthyn iddo. Rhaid hefyd i'r testynau," &c., gan yr amrywiol leisiau fod yn sefydlog a phendant, a dylid gofalu am weithio y gerddoriaeth, o ran y mynegiant, i bwynt (climax) priodol rhwng y ffigyrau 18 a 19 ar y copi. Ac yn sicr (er nad yw y copi wedi ei nodi yn wahanol) effeithiol fyddai dwyn y rhan ddil- ynol i mewn yn ff. ar Ein Hior," &c. O'm rhan fy hun, nid wyf yn hoffi y modd y mae y darn wedi ei nodi i'w ganu. Byddai yn fwy efteithiol fel hyn o'r dechreu hyd y ffigyrau 18 yn Allegretto Maestoso. 0 18 i 19—Allegro Maestoso. 0 19 hyd y diwedd, Allegretto Maestoso. Y pwynt mawr ydyw cael allan o'r darn gymaint ag a fyddo yn bosibl-yn gydweddol a'r testyn neu y genadwri. Nis gwn a wnai pob beirniad gytuno a'r sylwadau hyn, mewn cystadleu- -aeth Cafodd y cor uchod y wobr. Yr arwein- ydd ydoedd Mr. Jones, organydd Capel Falmouth Road. Y CHALLENGE SOLo.Dyma'r gystad- leuaeth oreu o lawer. Yr oedd rhai wedi dod o Gymru i'r ymdrechfa hon ac y mae yn ddiogel dweyd ei bod yn wir ragorol. Yr oedd yma gystal datganwyr ag a glywir yn yr Eisteddfod Genedlaethol, a gwelir oddiwrth y dyfarniad fod yma gryn deilyng- dod yn rhai o'r datganwyr mwyaf llwydd- ianus. In this competition twenty-one singers -competed, and the following "notes" are given for the information of each.: — Mr. Bond, solo, "Sound an Alarm." A .good tenor voice, but forcing too much. Time not steady. Maldwyn, song, Through the forest." A powerful tenor voice. Intonation slightly at fault early in the song. Top notes harsh. Good dramatic colour. Llinos Gwendraeth, song, Abide with me." A good contralto voice, but not under complete control. Careful phrasing and nice expression. Miss Hill, song, Love Divine." A voice that much could be made of. Her tones were of musical quality. Lacking in style. Miss Clegg, song, Beloved it is morn." A sweet voice. Time a little unsteady, and expression in the early portion lacking in colour. Much better towards the end. Nice style. Miss Ross, song, Angus Macdonald." A good voice, but some of the high tones not of .good quality. A still further study of the song will reveal to this lady more possibili- ties in the expression. A very fair rendering. Miss Dorothy Clare, song, Look up, 0 heart." A good voice, but words indistinct. Confining herself too much to the copy. Nice expression and style. Miss Clunes, song, The Holy City." A pure soprano voice. Musical feeling. Good style, but the performance too sentimental. Mrs. Taylor, song, A Summer Night." A good soprano voice. The rendering as a whole too boisterous. Speech not quite clear at times. A really good performance, but not sympathetic enough. Clwydian, song, Angels ever bright and fair." A beautiful soprano voice, nice feeling and neat rendering throughout. The song, however, was not such as to enable this singer to shine in this competition. A song with more scope in it for expression would probably have placed this sweet singer at the top on this occasion. David, song, Come unto me." Produc- tion of voice not good. Forcing unduly. Mr. Smith, song, Devout Lover." A fair voice requires more training: speech indistinct. Gwenda, The Pilgrim." Intonation faulty. Production not satisfactory. Miss Naylor, song, Melisande." Ex- cellent voice, well trained but rather a simple song for such a competition as this. The following appeared in the final:- Miss F. Price, song, The Enchantress." Fine contralto voice. Very correct per- formancee. Lacking in depth of feeling. Miss A. Thomas, solo, With verdure clad." A voice of much purity and flexibility." The interpretation, as a whole, was excellent. J S., song, "The Sentinel." A fine baritone voice, and an artistic rendering. Olwen, solo, "Hear ye Israel." One or two notes in the higher register slightly flat. Be not afraid," a good rendering. Excellent soprano voice .and good style. Effie, song, A promise of life." A beautiful voice and a sympathetic perfor- formance. Rev. I. Thomas, solo, "If with all your hearts." A beautiful voice, of real tenor quality. A rendering largely inspired. Bronant Jones, solo, Sound an alarm." An excellent bass voice. A fine performance in the real Handelian style-which one does not always get, but which is so essential to this Master's music., As will be seen, this was a most difficult competition to adjudicate upon, the music sung being so varied. The award was as follows the first and second prizes were added together, three pounds being given to Mr. Bronant Jones, of New Jewin; one pound each to Miss Annie Thomas, Hackney, and Rev. Ishmael Thomas, Stanford Rivers, Essex. The adjudications upon the other musical competitions will appear in these columns next week. KING'S CROSS.—Diolch am wahoddiad y cor i wrandaw y datganiad o'r Gantawd Lauda Sion," a darnau ereill. Os yn bosibl, byddaf yno nos Iau nesaf, a gobeithio y bydd yno gynulliad da i'w gwrandaw. Ni chenir cyfan-weithiau agos ddigon ami, ac y mae y llafur cariad hwn o eiddo Cor y Tabernacl yn haeddu cefnogaeth Cymry Cerddorol ein dinas. Mr. David Richards fydd yn arwain ac yn cyfeilio. Yr unawd- wyr fyddant Miss G-wladys Roberts, Miss Towena Thomas, Mr. John Roberts, a Madoc Davies. Miss CLARISSA DAVIES. — Bydd gennyf ychydig i'w ddweyd am y ferch alluog hon yr wythnos nesaf.
DICSIONDAFYDD AC ADDYSG EI…
DICSIONDAFYDD AC ADDYSG EI WLAD. Breuddwyd disgleiriaf Cymru, am lawer blwyddyn, fu cael gwell cyfundrefn addysg nag oedd ganddi. Dechreuodd y Cymry ddyheu am fwy o wybodaeth yn foreu iawn yn y ganrif o'r blaen ac yn y flwyddyn 1846 danfonodd y Llywodraeth dri Sais i Gymru i chwilio i mewn i sefyllfa y wlad mewn ystyr addysgol. Yn 1847 cyhoedd- wyd ffrwyth ymchwil y dirprwywyr mewn tair gyfrol drwchus ac adroddiad y dir- prwywyr a anfarwolwyd ar ol hynny dan yr enw Brad y Llyfrau Gleision." Dywed yr addroddiad fod cariad angerddol gan y Cymry at yr iaith Gymraeg a'r Ysgol Sal; ond, er hynny, tybiant hwy mai y rhai hynny oedd yn cyfrif am ddau bechod mawr y Cymry. Dywedant yn groew fod y Cymry yn fwy celwyddog na'r Saeson, ac mai yr iaith Gymraeg sydd yn cyfrif am hynny a thaerant yn ddigon gwyneb galed mai yr Ysgol Sul sydd yn gyfrifol am y ffaith fod aniweirdeb yn uwch ei ben yng Nghymru nag mewn un wlad arall. Amcan addysg, yn ol barn y dirprwywyr hynny, ydyw difodi yr iaith Gymraeg a gwneud i ffwrdd a'r Ysgol Sul fel ei phrif feithrinfa. Ond er hyn i gyd glynodd gwerin Cymru wrth ei dyhead am gael gwell manteision addysg; ac ni chollodd yr arweinwyr eu golwg ar y nod a osodasant o'u blaen, yn nos dywell yr an- hawsterau mwyaf. Y cyfrolau mwyaf dyddorol a ysgrifenwyd ar hanes Cymru erioed yw adroddiad Syr Hugh Owen o'r anhawsterau blin gafwyd i gasglu 65,000 o bunnau tuag at gychwyn addysg uwchraddol, In ZD ac hefyd cyfrol tystiolaethau dirprwyaeth Arglwydd Aberdar. Ar ol hir a dygyn frwydro, ac wedi i ami un o hen arwyr y mudiad syrthio i'r ceufedd cyn etifeddu yr addewidion, eithr o bell eu gweled daeth y breuddwyd yn ffaith weledig, mewn ysgolion elfenol, ysgolion canol, colegau, ac, yn ben ar y cwbl oil, mewn prif ysgol i Gymru. Mae Prifysgol Cymru, felly, yn rhywbeth byw dyfodd 0 fywyd y bobl, ac a eneiniwyd a gwaed drutaf goreugwyr y genedl. Ac wrth feddwl am ymdrechion y tadau geill y plant ddweyd yng ngeiriau y bardd :— Dirwasgiad y rhoi ysgol I'w lesg wedd a losga 'i ol: O'i oddef ca 'i blant addysg,— Ei waed ef sydd ar eu dysg." Nid oes dim a dyr yn ddyfnach i d"imlad rwydd byw y genedl Gymreig na gweled y gyfundrefn gostiodd mor ddrud yn syrthio i ddwylaw mursenaidd Dicsiondafydd, ac addysg ei meibion a'i merched dan ofal pobl heb feddu y gradd lleiaf o gydymdeimlad a'i dyhead pennaf, sef, dadblygu ac anwesu diwylliant hollol Gymreig—diwylliant na ellid ei gael yn unlle arall yn y byd. Prof- wyd, fwy nag unwaith, yn ddiweddar, fod y rhan fwyaf o'r bobl sydd wrth lyw Prifysgol Cymru yn hollol wrth-Gymreig, mewn ysbryd ac ymddygiad. Gwelir hynny mor ZD danbaid a'r dydd wrth i ni sylwi leied o'r ysbryd Cymreig sydd yn athrawon ein hys- golion elfenol, yr ysgolion canol, a'r colegau, ac hefyd leied o Gymry anrhydeddwyd gan y Brifysgol. Diangenrhaid yw dweyd fod addysg Cymru, gangen a gwreiddyn, wedi tyfu o'i chrefydd hi; a gresyn o'r mwyaf fuasai i'r hyn a grewyd gan grefydd droi yn y diwedd yn anfantais iddi ond yn sicr ddigon dyna fel y bydd, a hynny yn fuan iawn, os y ca Dicsiondafydd aros wrth y llyw. Nid oes gennyf fi ar hyn o bryd hamdden na hwyl i fyned i'r cyfeiriad yna ond yn hytrach carwn ofyn gyda phob difrif- wch—Beth a wnaeth y Brifysgol a'r colegau dros lenyddiaeth a bywyd uchaf y Cvmry yn ystod y chwarter canrif diweddaf ?-(O'r Geiiiiicit," eilt cylchgrawn cenedlaethol.)