Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
Advertising
FTJXjXJ CE/EAM, good iecieieip intra-, MILK, JL FREE FROM PRESERVATIVES. EbV DEbIVEIES — TWICE ÐlbVr TO JOClala FREETH & POCOCK, Ltd., Head Dep6t: ALBERT EMBANKMENT, S.E. Tel. No.: Hop 1249. West Central Dep6t: WAKEFIELD ST., JUDD ST., W.C. Tel. No.: Holborn 1676. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, Aberystwyth (ONE OF THE CONSTITUENT COLLEGES OF THE UNIVERSITY OF WALES). President-THF RIGHT HON. LORD RENDEL. Principal-T. F. ROBERTS, M.A. (OXON.), LL.D. (VICT.). STUDENTS are prepared ior Degrees in Arts, JO Science (including the applied Science of Agricul. ture), Law, and Music. Sessional Composition Fee, 210, with additional Laboratory Fees foi Science Students. Registration Fee, PI. Men students reside in registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel-Warden: Professor J. W. Marshall, M.A. Women students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women—Warden Miss E. A. Fewings. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A Registrar. MRDee DRVIES, H.R.G.M., Teacher, L.C.M. Voice Production and Solo Singing. Telephone 8914 Central, NOTE NEW ADDRESS:— 495, OXFORD STREET, W. (N Marble Arch).
YR AMDDIFFYNYDD DIWEDDARAF.…
YR AMDDIFFYNYDD DIWEDDARAF. Yn ystod y pymtheng mlynedd diweddaf hyn yr ydym wedi teimlo yn ddyledswydd arnom ar ami i adeg i feirniadu yr aelodau Cymreig am eu difrawder ynglyn a materion perthynol i'n cenedl, a hawlient eu sylw ar y pryd. Droion ereill yr ydym yr un mor barod wedi eu canmol pan yn ymddwyn yn unol a llesiant y bobl, yn ogystal a'u eyfar- wyddo sut i weithredu ar rai adegau cyfyng yn hanes ein gwlad ac ar y cyfan nid ydym wedi cael ein siomi ynddynt. Nid ydym yn credu yn y dosbarth hwnnw o grintachwyr sydd byth a hefyd yn pigo beiau ynddynt, ac ar eu heithaf yn cynllwyno i basio pender- fyniadau condemniol arnynt ar bob cyfle dichonadwy. Gwyddom eu anhawsterau yn ogystal a'u posibiliadau, fel nad oes neb all ein cyhuddo o gulni neu ragfarn pan yn gorfod defnyddio'r fflangell ar rai adegau tuag atynt. Ond y mae He i ofni fod eu hymddygiad fel plaid wedi peri cryn anfoddlonrwydd yn ystod y tymor Seneddol diweddaf. Ar wahan i weithgarwch dau neu dri o unig- olion, nid ydynt fel cyfangortI wedi dangos ond ychydig o barodrwydd i wrando ar lais cyffredinol yr etholwyr, nac wedi cymeryd ond ychydig iawn o drafferth i ymgydna- byddu a'r gwir deimlad gwlcidyddol sydd yn graddol ennill nerth o fewn ein tir. Unwaith y dychwelir hwynt i Westminster, y, maent yn hollol dan reolaeth chwip y blaid Ryddfrydig, neu yn derbyn eu cyfarwyddyd gwleidyddol oddiwrth glymblaid fechan o ymhonwyr nad ydynt ond yn anaml iawn yn presenoli eu hunain yn ein cynhadleddau gwleidyddol yng Nghymru. Cafwyd engraifft barlysol o hyn ynglyn a dewisiad olynydd i Syr S. T. Evans ym Morganwg ac er i'r blaid honni fod yn anibynol ar y pryd, rhaid cydnabod gyda phob parch, iddynt oil gydymffurfio a chycgor y Chwip Rhyddfrydig, gan auwy- byddu pob cais wnaed atynt ar ran y teimlad cenedlaethol sydd yn chwyddo ym mysg ein hetholwyr. Pan fuwyd yn dadlu hyn ger bron rhai o honynt, chwarddent am ben y teimlad cenedlaethol, a hawlient mai yr unig ffordd i sicrhau iechawdwriaeth gwleidyddol yng Nghymru oedd drwy eu hufudd-dod i geisiadau neu gynghorion yr arweinwyr Rhyddfrydol yn Llundain. Nid oedd eu hymddygiad tuag at y cyn- rychiolwyr Ymneilltuol yr wythnos o'r blaen chwaith yn un ag y gallant ymfdlchio ynddo. Yn wir, yr oedd eu croesaw mor oeraidd ac anghefnogol a phe baent yn blaid o Doriaid yn ymddwyn tuag at barti o Sosialaid penboeth! Nid ydym wrth hyn am amddiffyn y cynrychiolwyr. Rhaid i ni eu barnu hwy yn ol y goleu sydd ganddynt. Unig bwnc yr Ym- neilltuwyr ydyw Datgysylltiad, ac nid oes bosibl i wleidyddwyr gwledig fod yn ymwybodol o'r holl anhawsterau yn West- minster, a disgwyliem, felly, iddynt gael cydymdeimlad yn ogystal a chefnogaeth am eu pybyrwch a'u sel dros y pwnc. Ond rhaid addef, gyda gofid, nad felly y bu, a'r canlyniad naturiol ydyw, fod nifer o'r arweinwyr crefyddol fu yn gwrandaw arnynt yn dechreu ameu eu bwriadau, ac yn holi eu hunain a ydyw yn werth iddynt barhau i ddal i fyny, ar ol hyn, faner cydraddoldeb crefyddol" yn y wlad. Gwelwn mai un o amddiffynwyr diwedd- araf y Blaid Gymreig ydyw Mr. Edgar Jones, yr aelod ieuanc dros Ferthyr. Dywed ef, yn ei lythyrau i'r wasg, fod y Blaid yu ystod y tri mis y bu efe yn aelod o honi wedi gwneud yr oil a allasai dros Gymru a'i h iwliau Y mae'n dda gennym glywed hyn., ac yr ydym yn barod i ganmol Mr. Jones am ei eel a'i bybyrwch, a hyderwn y bydd iddo ofalu am fuddiannau ei genedi drwy gael cefnogaeth y Blaid ar ol y cyfer- fydd y Senedd eto. Ond gyda phob pardl/i Mr. Jones, rhaid addef mai gwaith unigol yn unig fu gwaith y tymor mor bell ag y mae Cymru wedi elwa, fel na raid i'r blaid, fel cyfangorff, hawlio dim clod am yr Lyn a wnaed. Yn wir, gallai gyda'r un priodoldeb hawlio mai i'w dylanwad hi y bu Mr. Venables Llewelyn yn dadlu dros sierba-a meirch o Gymru at wasanaeth ein milwyr! Er hyn oil, yr ydym yn edmygu Mr. Jones am iddo droi o fod yn feirniad i fod yn ddadleuydd mor rhagorol dros blaid nad ydyw hyd yn hyn ond wedi llwyddo i sicrhau. nifer fechan iawn o gydnabyddiaeth cenedi- aethol i ni fel gwlad a phobl.