Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

NODIADAU LLENYDDOL.

News
Cite
Share

NODIADAU LLENYDDOL. Y Corned. Myn y doethion a'r brudwyr gyfiawnhau eu hunain ymhob oes, ac un o'r syniadau diweddaraf gan rai o honynt ydyw fod a fynno'r corned presennol a. raarwolaeth ein teyrn. Yn ol rhai o'r daroganwyr seryddol, ni welir mo'r ser hynod hyn and ar adegau o ddigwyddiadau pwysig Bu corned fawr yn ymddangos cyn i Julius Caesar ddyfod i Brydain, a dywed Shakespeare i gomed, neu •oleuadau wybrennol, ragfynegu dyfodiad Owen Giyndwr ond gan fod digwyddiadau pwysig yn cymeryd lie ymhob oes, hawdd ydyw eu eysylltu ag unrhyw ddigwyddiad wybrennol all fod tua'r un adeg. Tra yn so a am gomedau, onid yw yn bryd i rai o'n beirdd ganu i'r ymwelwyr rhyfedd hyn ? Nid wyf yn cofio ond am un neu ddau o'n cyfansoddwyr sydd wedi cael y weledig- aeth farddol" a haeddant. Un o'r disgrif- iadau goreu o gomed y gwn am dano yw leiddo Watcyn Wyn, yr hwn a ganodd am un o honynt— Seren wib yn croesi'r ne-a llusgo Llosgwrn fythol ole Ni wyr y serydd gore Am hon na'i throion na'i thre. Y mae Islwyn, hefyd, yn un o'i bryddestau, wedi gweled llu mawr o honynt nes eu gwneud fel ser cyffredin. Dyma ddywed- Di rif gomeiau ar hynt, Heibio'r ser y brysurynt Cenhadon gloewon drwy heulog leoedd, Ar wibiadau n ymweled a'r bydoedd, Gan gyfarch s,-r fil miloedd -vm wibiant, Teithiant, a chwalant drwy r holl ucheloedd, A throant oil wrth y rheol-a roed Gan yr Awdwr Dwyfol Heb lygad d'rawiad ar ol—nac ymlaen Oil yn adwaiii eu llinell hynodol. A all y eyfausoddwr a swynodd yr Athro Morris Jones gydai ganig i'r Lloer ragori ar hyn ? Elphin a'r Gomed. Ac mae'r bardd Elphin, yn ei gyfrol ddiweddaf, yn apelio at Gomed am ryw eglurhad ar gwestiynau mawr dynoliaeth 41 Pa beth yw bywyd ? Pa beth yw angeu ? a chyfarch hi fel hyn— 0 aros, aros, ar dy ddyrus daith, Y gomed wyllt hirwalltog, mwy dy glod Wyt ti na'r ser sefydlog, mynd a dod Yn ol a blaen a wnei drwy'r gwagle maith Diystyr wyt o lywodraethol raith, Ond drwy'r gyfrwyllog emog nen dy nod A'th nwyd yw treiddio i bell-derfynau bod, A darllen cyfrin rol y dwyfol waith. Cyn myned. gomed gain, dadlena i'm Beth welaist ar dy chwyrn orffwyllog rawd Drwy'r nos bum innau'n beiddgar chwilio sawd Bydysawd a bodolaeth, ond y dim A deimlwn byth a'r anherfynol daw, A'm gwib-feddyliau gilient yn eu braw. Ac nid yw'n syndod i'r bardd fod heb ateb i'w holiadau dwys am Fywyd ac Augeu, pan ddeallir na rydd y gomed druanond ychydig o hanes ei throion ei hun i'r gwyddonwyr. mwyaf materol, heb son am geisio ateb holiadau ysbrydol ein beirdd cyfriniol! 0 For i Fynydd." Dyna ydyw enw cyfrol ddiweddaf y bardd Elphin, ac mae'n un o'r cynyrchion goreu sydd wedi dyfod allan o'r wasg Gymreig er's talm. Fel rheol, cyfrol o ganeuon neu awdlau geir gan ein beirdd, a dyna'r dosbarth, efallai, sydd a mwyaf o fynd arnynt, eithr am y gyfrol hon, cyfrol o farddoniaeth ydyw. Yr oeddwn yn adnabod Rlphin" o'r blaen fel critig o'r radd flaenaf, ac fel tuchanwr diail, eithr yn y gwaith newydd hwn y mae'n ymddangos yn y cywair dif- rifol, fel bardd a chanddo gennad, fel awdwr am gadw i fyny safon oreu barddoniaeth cin. Genedl. Fel bardd natur y gwelir Elphin yn ei holl gyfansoddiadau, ond y mae'r cyfriniol a'r breuddwydiwr yn rhedeg drwy bob llinell o'i eiddo. Beth yw Bywvd ? yw'r holiad mawr geir yn ei gerdd 0 for i fynydd," ac er holi y mae'n methu ateb- Beth sy'n cynnal pwn Yr hollfyd ac yn llywio'i gylchdro drwy Y ceugant du ? A'i ynm'r olwyn crwn Materol ? Ynte ysbryd cymaint mwy Na dynion ag yw'r byd uwchlaw eu pebyll hwy ? Pwy ond ein Ner Ddarparodd fodd i fwydo'r egin ir ? Pwy roddodd wlaw a haul i'w liwio'n der Fel gwallt y gomed glaear a'i gwyllt-dro rhwng y ser ? Ac er holi ymhob cyfeiriad, yr unig gysur yw, fod yna "law ddeil dy ben heb suddo nos na dydd," ac ond byw bywyd glan ac uniawn, na fydd raid i'r un plentyn ofni'r nos. Rhagor na chael cerddi cyfriniol am fywyd, ceir yma rai yn y cywair lleddf, sef galar gwynion ar ol Ap Ffarmwr, Elwyn, a Fy Mam. Nis gellid wrth ddim mwy tyner nag a gbir yn rhai o'r caniadau hyn. Ar ddiwedd y gyfrol ceir nifer o Sonedau y Nos," ac yn y rhain y ceir y bardd ar ei oreu. Mae'r gyfrol drwyddi yn llawn swyn, a dylai gael darlleniad helaeth gan y rhai a holant beth yw Barddoniaeth, a chan bawb sydd am weled y Gymraeg yn ei cheinder a'r awen yn llawn nwyfiant ymhob pennilL Cyhoeddir y gwaith gan Mri. Hugh Evans a'i Feibion, Lerpwl, mewn llian hardd am dri a chwech. Mr. Alfred Nutt. Gyda gotid a galar dwys y elywais ddech- ieu yr wythnos hon am ddiwedd adfydus y cyhoeddwr enwog a'r llenor coeth, Mr. Alfred Nutt. Yr oedd yn adnabyddus iawn yn y cylchoedd Oymreig; yn un o ffyddlon- iaid cyfarfodydd y Cymmrodorion, ac yn un o'r awdurdodau goreu ar Len-gwerin Cymru a'r rhamantau Arthuraidd. Ysgrifennodd lawer i'r Cymmrodor, a chyhoeddodd gyf- rolau gwerthfawr yn ymwneud a hen hanes ein cenedl, ac yr oedd bob amser yn barod i gefnogi pob mudiad oedd a'i a mean i lesoli ein llenyddiaeth a gwneud ein hines yn fwy adnabyddus i'r efrydwyr ieuainc. Ac mae'r modd y collodd ei fywyd yn drist i'r eithaf. Trwy ddamwain taflwyd ei fab, yr hwn sydd fud a byddar, o'i gerbyd i'r afon Seine, ym Mharis. Neidiodd y tad i'r afon er achub y truan, ond yn yr ymgais collodd ei fywyd, tra y llwyddodd y rhai oedd ar y lan i achub y plentyn. Bydd yn chwith gweled ei le yn wag yn ein prif gyfarfodydd, a sicr fod y cyhoeddwyr Llundeinig wedi colli'r dysgedicaf a'r mwyaf tyner-galon o'r cwmni i gyd.

[No title]

MYNEDIAD IORWERTH.