Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

URDDAU'R BRENIN.

News
Cite
Share

URDDAU'R BRENIN. CYMRY YN Y RHESTR. Rhyw fyd rhyfedd yw'r byd gwleidyddol; anae'n llawn anghysonderau o'i ddechreu i'w ddiwedd. Nid cynt y gorffenodd y blaid Ryddfrydig ei chondemniad trylwyr o Dy'r Arglwyddi nag y daeth y newydd fod y Brenin o'i raslonrwydd wedi ychwanegu at nifer aelodau y Ty hwnnw. Pan welodd y cyhoedd yn eu newyddiadur fore dydd Iau fod bodolaeth y Ty uchaf wedi ei beryglu, ac -fod mwyafrif aruthrol Ty'r Cyffredin wedi myned i'w erbyn, yr oeddynt un ag oil yn disgwyl y byddai galwad uniongyrchol am i'r holl sefydliad ymddiswyddo ar fyrder Ond hai, cyn adeg i swperu yr un noson wele'r Brenin yn cyhoeddi ei fod yn dathlu .ei ben-blwydd trannoeth, ac fod yn rhaid iddo ar amgylchiad mor bwysig ddangos hynny trwy greu pedwar o arglwyddi newydd, tri o aelodau newydd i'r Cyfrin- Gyngor; unarddeg o Farwniaid, a dim llai na thriarddeg ar hugain o Farchogion Yn y fath haid o wyr glew nid rhyfedd fod rhai Cymry i'w cael. Yn wir y syndod yw mai dim ond tri o wyr enwog sydd o fewn ein tir yn haeddu cael y briwsion brenhinol hyn." Hwyrach fod yna ragor i ddod pan wel Iorwerth yn dda i dalu ym- weliad a'n gwlad yn ystod yr wythnosau dyfodol, ao am hynny rhaid peidio cwyno llawer am brinder y bobl Gymreig yn y rhestr a gyhoeddwyd nos Iau diweddaf. DAU FARWNIG. Y ddau berson sydd wedi derbyn yr :anrhydedd ucbaf ymhlith y Cymry ydynt Mr. Frank Edwards, A.S., a'r Cyrnol Ivor Herbert, A.S., ac o hyn allan rhaid eu hadna- bod o dan y teitl newydd gyda Syr o flaen ..eu henwau a Barwnig yn y gynffon. Un o'r aelodau Seneddol mwyaf poblogaidd ymhlith y blaid Gymreig yw Syr Frank Edwards, yr aelod tros Faesyfed. Hanna o hen deulu parchus yn ardal Aberdyfi, a cbefnder iddo yw Esgob Llanelwy. Ar ol cael addysg ragorol aeth yn dwrne yn 1879, ond ni chymerodd o ddifrif at y grefft honno. Yn 1880 priododd a merch i'r diweddar David Davies, Maesyffynon, Aberdare, ac -etifeddodd gyfoeth lawer. Mae wedi cael brwydrau celyd fel Rhyddfrydwr ym Maes- yfed. Enillodd y Sedd gyntaf yn 1892. "Collodd hi ymhen tair blynedd wedyn, ond ail etifeddodd y sedd yn 1900 gan ychwanegu at ei fwyafrif wedyn yn 1906. Yr oedd yn gyfaill cywir i'r diweddar Tom Ellis yn wir, ar ei lwyfan ef y daeth Syr Frank allan gyntaf fel siaradwr cyhoeddus. Mae wedi bod yn un o'r rhai mwyaf gweithgar yn y Blaid Gymreig yn y Senedd, a chefnogai holl iudiadau chwyldroadol Mr. Lloyd-George pan oedd Mr. Asquith yn dwyn i mewn Fesur Dadgysylltiad am y tro cyntaf. Nid yw ond 55 mlwydd oed, ac mae ei genedl yn disgwyl y caiff ei wasanaeth a'i gyfarwyddyd am. flwyddi lawer eto. Un o ychwanegiadau diweddaf y blaid Gymreig yw'r Cyrnol Ivor Herbert, o Llan- arth, Sir Fynwy. Wyr i'r ddiweddar a'r anwyl Wenynen Gwent yw'r Cyrnol, ac wedi --etifeddu llawer o dan a phybyrwch gwlad- garol yr hen batriarches o Lanover. Yn yr letholiad diweddaf y daeth i fri a sylw, a llwyddodd i adenill y sedd Doriaidd oedd yn Mynwy. Oddiar y daeth i'r Senedd y inae wedi dangos ei barodrwydd i bawb a alwant arno. Mae wedi ennill cryn safle fel fliilwr, a chan nad yw ond ieuanc y mae gobaith y ceir llawer o'i wasanaeth ar ran ,,eill cenedl. Yr unig ddiffyg yn y Cyrnol, yn "Ql barn Ymneillduwyr Cymru yw, mai Pabydd yw; er hynny, gall Pabydd, feallai Wneud llawer er gwella cyflwr cymdeithasol ymru yn yr oes sectyddol hon. Ym mhlith y Marchogion nid oes neb, i'r Cymro, yn fwy haeddiannol o sylw na'r Prif- athraw John Rhys, o Rydychain. Efe yw pennaeth Coleg yr Iesu er's amryw flyn- yddoedd, ac nid oes gwr wedi ennill y fath safle ym mhlith ei genedl ag y mae Syr John Rhys wedi wneud. Mae yn wybyddus ar draws dau gyfandir fel ysgolor o'r radd flaenaf, ond yng Nghymru mae ei enw yn enw teuluaidd fel Eisteddfodwr a lienor o'r fath fwyaf cenedlgarol. Yn sicr os oes gwerth ar deitlau ac urddau brenhinol does neb yn haeddu y deyrnged yma o barch yn fwy na'r prifathraw Cymroaidd, a'r Cardi diymhongar o Goleg yr Iesu, Rhydychain. Mae Cymry ereill, llai enwog yn y cylch Cymreig, wedi cael dyrchafiad, sef Mr. Howell, o'r Bwrdd Masnach, a Mr. John Thomas, gwneuthurwr papur yn Swydd Bucks. Ynglyn a'r olaf roedd pawb wedi credu mai Pencerdd Gwalia" ydoedd, a chaed hanes a llun y Pencerdd gan rai o'r papurau Llundeinig. Ond dylid cofio mai nid pobl sy'n gwasanaethu cenedl sydd bob amser yn cael yr urddau hyn. Rhaid i wyr y blaid gael rhan hefyd, ac un o'r rheiny yw'r John Thomas hwn. Mae o waedolaeth Gymreig, yn selog tros ddirwest, ac yn arweinydd Rhyddfrydol cyfoethog yn ei ardal ei hun.

A BYD Y GAN.