Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Bwrdd y Gol.

News
Cite
Share

Bwrdd y Gol. Mae'n gwleidyddwyr wedi llwyddo i yrru Cymru yn ben-ben. 'Does ond rhyw ddeunaw mis oddiar y gwelwyd y wlad yn unol, yn fwy unol nag y bu oddiar ddyddiau Llewelyn fawr ei hun ond wele heddyw yr hen ymraniadau wedi dod yn ol, yr hen eiddigedd creulon wedi dadebru, yr hen ysbryd sect- yddol wedi codi ei ben, De a Gogledd yn ymgipris am y flaenoriaeth, a phawb ar ei eithaf yn ceisio dyrysu ein holl gynlluniau cenedlaethol! Nid yn y cylch gwleidyddol yn unig y mae hyn lief yd, eithr daw yr un nodwedd i mewn i'r cylch eglwysig. Mae'r Diwygiad wedi cilio, ffraeon eglwysig yn dilyn ei gamrau, a'r gwyr a achub- wyd" gyda'r fath rialtwch a churo tabyrddau wedi cilio yn ol i'w hen arferion llygredig. 0 mor fuan yr anghofiwyd y cyfan ac mor arwynebol yw ein holl broffesiadau, gwleidyddol a chrefyddol. Dyda ni ddim yn true to nature-ys dywedai Will Bryan, a does ryfedd i "Index ganu yn ei fesur rhydd Mae llawer o ffugio'n y byd proffesu er bod yn O. K.; fel gwisgo hardd ddillad go ddrud i rodio heolydd y dre'. Ond wedy'n nid dyn yw ei wisg a phroffes nid gras ydyw hi. Mae llawer o dwyll yn ein mysg, a llawer o frad yn cael bri. Ac felly mae'r gwir yn ddibarch sarhad yw ei ddilyn yn bur; mae'r dyn a ddilyno ei arch, yn sicr o gael gyrfa o gur; a chyngor y cyfrwys o hyd yw Ceua dy gwpwrdd, fy ngwas; mae triciau wrth fyn'd trwy y byd yn fwy o foddlonrwydd na gras." Yr un fath yw hi ym myd y bardd a'r cantor y clyddiau hyn. Maen't hwythau yn ben-ben ar amryw faterion a berthyn i'n cenedl; a does yr un ond Dyfed a all gadw'r hil hir-walltog o fewn trefn yn awr. Yn Llangollen pwy ddydd mynodd gael ffordd dawel ei hun, ac os gwir y chwedl fe welir cryn firi yn ngorsedd Abertawe o dan ei reolaeth yn ystod y mis nesaf. Daeth rhyw banner dwsin o'r beirdd i gyfarfod y CELT yr wythnos hon, ond 'doedd fawr o 61 gwaith yr Awen ar y cynyrchion. Galaru a chanu cerddi priodas oedd y mwyafrif o honynt, tra yr oedd eiddo Didymus yn fath o folawd i'r II Haf." Nis gwyddom pa le y cafodd y brawd y fath olwg brydferth ar Hat," sue a bortreadir ganddo a gwell er mwyn heddwch pobl y gwyliau yw gosod y farddoniaeth o'r neilldu hyd nes y ceir rhyw brawf fod y pwnc yn un lied ,amserol. Ar hyn o bryd gwell fyddai gennym ganig yn clodfori rhinwedd yr Ystorm, neu Oerwynt Gauaf. E. J. W.-Canig dlos, ond mae bron pob un o'r syniadau sydd gennych mor hen a Chader Idris. Pe cyhoeddem hi deuai "loan Aeron" neu rywrai i lawr arnom i'n cyhuddo o lenradrad a phethau o'r fath, ac er mwyn osgoi y fath ddedfryd rhaid i'r ganig fyned i'r fasged. Llinos Wyre.-Canig Dewi Sant, Paddington, sydd gan hwn, ac mae rhai o'r penillion yn darllen fel hyn:- EGLWYS DEWI SANT, LLUNDAIN. Hawdd yw moli Dewi Sant A thyner dant yr awen, Llenwir ynddi'n llwyr fy chwant Yng nghwmni plant Ceridwen. Eglwys hardd-eneidiol wledd A fedd o'i mewn yn gynnes, Hoff i mi yw byw mewn hedd Ar dyner sedd ei mynwes. Crefydd bur yw bywyd hon A lion ei gwen yn wastad, Drwy ei bri balmeiddia'm bron Mae i mi'n don o gariad. Caf wyrddlesni gylch ei sail Dan wenau haul yn ddedwydd, Tra mae'r awel ddr ddi-ail Yn siglo dail y coedydd. Tlos a thawel ydyw'r fan Lie saif y Llan ysblenydd, Ni fedd d\vr a ddyrch i'r lan I foddio gwan ymenydd. Uwchaf nod yr Eglwys yw Addoli Duw yn gyson, Pura yr eneidiau gwiw Sy'n byw o dan ei choron. Nefol swyn am dwyn i'r fan A rydd i'r gwan anrhydedd, Yma'n hael mi gaf y rhan A'm tyn i lan Tangnefedd. Harrow. LLINOS WYRE. 'Doedd yr un tune yn llyfr Bardd yr offis yn taro i'r geiriau hyn, felly nis gallodd roddi'r emyn allan yn llawn, a chofied y bardd awenol o Fryn-yr-oged mai'r Mesur Byr sy'n gweddu i lywydd y Bwrdd bob amser. Alltud.-Rhoddir lie i'ch ymholiadau, ond ar ol cael y dwsin Geiriaduron Bywgraftyddol-sy'n awr yn cael eu cyhoeddi-allan o'r wasg byddwn yn gwybod hanes pawb a phopeth a berthyn i ni fel cenedl. E. Ton 'es.-bwell fyddai i chwi ysgrifennu at y gwr yn bersonol. Nid yw'r mater yn ddigon o ddydd- ordeb i ymdrin arno yn ein colofnau. Un Hoff o'r De.—Yn rhy bersonol o lawer, ac nid doeth i un o'r tuallan geisio penderfynu cydrhwng y beirdd. Short Lengths from Welsh Counter.-The short lengths were too long in coming to hand this week. Postponed to next week's show. J. H.—Diolch am yr ysgrif, ond mae'r lie yn gyfyng ar yr awr ddiweddaf bob amser. Maelor.—Bu raid tynu pen byr ar y cwrdd y tro hwn, fel na chawsom le i'r adroddiad. Dewch eto pan fo hamdden.

Advertising

[No title]

Advertising